Gwydnwch yn erbyn twyll bwyd yn eich busnes
Mae Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi datblygu’r adnodd hunanasesu gwydnwch yn erbyn twyll bwyd hwn i roi cymorth, arweiniad a chyngor i fusnesau bwyd ar dwyll bwyd.
Rydym yn diffinio troseddau bwyd fel twyll difrifol a throseddu cysylltiedig o fewn cadwyni cyflenwi bwyd. Mae’r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys gweithgarwch sy’n effeithio ar ddiodydd a bwyd anifeiliaid.
Bydd yr adnodd hwn yn cynyddu eich ymwybyddiaeth o droseddau bwyd a’ch gwydnwch yn erbyn y fath droseddau. Bydd yn eich helpu i werthuso eich busnes a gallai dynnu sylw at feysydd i’w gwella, a hynny wrth roi cyngor i chi ar atal twyll bwyd.
Mae’r adnodd wedi’i gynllunio ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Yn wir, mae’r adnodd yn un o sawl ffordd y gallwn gynnig cefnogaeth a chymorth i chi wrth atal twyll bwyd.
Ni ddylai gymryd mwy nag 20 munud i’w gwblhau.
Ar ôl i’ch atebion ddod i law, byddem yn falch o roi adroddiad i chi o’ch atebion ynghyd â chanllawiau pellach ar dwyll bwyd.