Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild game guidance

Profi am Drichinella mewn Baeddod Gwyllt a rhywogaethau eraill sy’n dueddol o gael Trichinosis

Parasit yw Trichinella sy’n gallu effeithio ar lawer o rywogaethau anifeiliaid, gan gynnwys pobl, gan achosi clefyd a elwir yn ‘trichinosis’.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Gall pobl gael eu heintio trwy fwyta cig amrwd, cig heb ei goginio’n iawn neu gig wedi’i brosesu o foch, baeddod gwyllt, ceffylau neu helgig sy’n cynnwys mwydod larfal microsgopig (a elwir yn ‘trichinae’) ym meinwe’r cyhyrau. Ymysg pobl, mae’r symptomau sy’n gysylltiedig â haint yn aml yn cynnwys dolur rhydd, crampiau yn yr abdomen ac anhwylder. Wrth i’r clefyd ddatblygu, gall y symptomau gynnwys twymyn, poen yn y cyhyrau a chur pen. Mewn achosion difrifol, gellir effeithio ar organau hanfodol gan arwain at lid yr ymennydd, niwmonia neu hyd yn oed farwolaeth.

Mae’n bosib y gallai’r bwyd y mae baeddod gwyllt, neu anifeiliaid eraill gan gynnwys rhywogaethau moch gwyllt, yn chwilio amdano fod wedi’i heintio â Trichinela. Mae’n debygol y bydd anifeiliaid sy’n bwyta’r bwyd hwn yn cael eu heintio hefyd.

Mae baeddod gwyllt a dderbynnir mewn AGHEs yn destun prawf trichinella gorfodol fel arfer. Os bydd sampl yn profi’n bositif am Trichinella, bydd y labordy profi yn hysbysu’r ASB a’r heliwr. Yna, bydd y carcas yn cael ei olrhain a’i wrthod am ei fod yn anaddas i’w fwyta gan bobl. Dolen i ganllawiau’r ASB ar gyfer profion trichinella.

Arferion gorau

Er nad yw’n orfodol, yr arfer orau yw profi baeddod gwyllt sydd i’w bwyta’n bersonol gennych chi eich hun neu sydd i’w cyflenwi’n uniongyrchol i ddefnyddwyr neu fanwerthwyr lleol, a hynny er mwyn rhoi hyder mewn diogelwch bwyd. Dylai helwyr sy’n samplu baeddod gwyllt anfon y sampl i labordy priodol i’w brofi. Cyn hela, gellir archebu cynwysyddion ar gyfer storio a chludo samplau ynghyd ag amlenni rhadbost gyda’r cyfeiriad arnynt ar gyfer postio samplau am ddim gan APHA.

Mae APHA wedi datblygu canllawiau i helwyr ar brofi trichinella mewn baeddod gwyllt ar wefan APHA sy’n esbonio sut y dylid cymryd samplau o faeddod gwyllt a manylion am sut i gael pecyn samplu/anfon cyn hela.