Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Pecyn ymgynghori ar y canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio adborth mewn perthynas â chanllawiau newydd ar MSM. Nod y canllawiau yw rhoi cymorth i weithredwyr busnesau bwyd, yn dilyn dyfarniadau’r Llys sy’n egluro sut y dylid dehongli a chymhwyso’r diffiniad o gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM), gyda goblygiadau ar gyfer cynhyrchu MSM a’i ddefnyddio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 February 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 February 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Dyddiad lansio: 28 Chwefror 2024

Ymateb erbyn: 22 Mai 2024

I bwy bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

  • Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig yn ystod eu prosesau cynhyrchu; a’r rhai sy’n defnyddio MSM fel cynhwysyn
  • Swyddogion Gorfodi Cyfraith Bwyd
  • Cyrff masnach y diwydiant cig
  • Defnyddwyr

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio adborth mewn perthynas â chanllawiau newydd ar MSM. Nod y canllawiau yw rhoi cymorth i weithredwyr busnesau bwyd, yn dilyn dyfarniadau’r Llys sy’n egluro sut y dylid dehongli a chymhwyso’r diffiniad o gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM), gyda goblygiadau ar gyfer cynhyrchu MSM a’i ddefnyddio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ceisir safbwyntiau ar y canlynol yn benodol:

  • pa mor effeithiol yw’r ddogfen ganllaw ar MSM o ran darparu cefnogaeth yn sgil dyfarniadau’r Llys
  • yr effeithiau wrth i weithredwyr busnesau bwyd addasu eu gweithgareddau a’u gweithrediadau yn unol â dyfarniadau’r Llys
  • a oes materion ehangach yn gysylltiedig ag MSM y dylai’r ASB, neu’r llywodraeth ehangach, fod yn ceisio mynd i’r afael â nhw, a pham

Sut i ymateb

Dylech ymateb i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r arolwg ar-lein. Gellir hefyd anfon adborth dros e-bost i meathygiene@food.gov.uk.

Manylion yr ymgynghoriad

Cyflwyniad

Mae Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 yng Ngogledd Iwerddon (gyda’i gilydd ‘y Rheoliadau’) yn gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd mewn perthynas â bwyd sy’n dod o anifeiliaid. Mae’r gofynion hylendid penodol y mae’n rhaid eu cymhwyso wrth baratoi a thrin cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn dibynnu ar sut y caiff pob cynnyrch ei ddiffinio neu ei gategoreiddio o dan y Rheoliadau. Mae’n bwysig nodi cynnyrch yn gywir er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni gofynion cyfraith bwyd. 

Yn 2012, gwnaeth y Comisiwn Ewropeaidd (CE) anghytuno â safbwynt yr ASB o ran caniatáu i gategori o gig gael ei farchnata yn y DU fel cig heb y gewynnau (desinewed meat) (DSM). Nid yw DSM yn gategori a gydnabyddir gan y gyfraith. Safbwynt y CE oedd nad oedd cynhyrchu DSM yn cydymffurfio â deddfwriaeth marchnad sengl yr UE ac y dylai, yn hytrach, gael ei gategoreiddio fel cig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM). Gofynnodd y CE am foratoriwm – sy’n atal gweithgaredd – i gael ei gymhwyso ar gynhyrchu DSM. Cyhoeddodd yr ASB foratoriwm gan adlewyrchu safbwynt y CE. Roedd hyn yn golygu nad oedd cynhyrchion a oedd wedi’u marchnata’n flaenorol fel DSM yn gallu cael eu cynhyrchu mwyach o esgyrn gwartheg, defaid neu eifr (neu ddarnau o gig gyda’r esgyrn ynddynt). Roedd hefyd yn golygu mai dim ond o ddofednod a phorc y gallai cynhyrchion gael eu cynhyrchu, a hynny os oeddent yn cael eu dosbarthu a’u labelu fel MSM. Rhaid i MSM gael ei baratoi a’i drin yn unol â’r rheolau hylendid a nodir yn y Rheoliadau a, phan gaiff ei ddefnyddio fel cynhwysyn mewn cynnyrch ar gyfer defnyddwyr, rhaid iddo gael ei labelu ar wahân i ganran cynnwys cig y cynnyrch hwnnw.

Arweiniodd y penderfyniad i weithredu’r moratoriwm at her gyfreithiol. Gwnaeth yr achos cyfreithiol hwnnw, ac achosion cysylltiedig dilynol a arweiniodd at Ddyfarniad yr Uchel Lys yn 2022, ystyried yn fanwl sut y mae’n rhaid darllen a chymhwyso’r diffiniad o MSM.

Mae’r Llysoedd wedi cyflwyno dyfarniadau sy’n egluro ar y cyd sut y mae’n rhaid dehongli a chymhwyso’r diffiniad o MSM yn y Rheoliadau. Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chyfraith bwyd.

Mae’r ASB wrthi’n ymgynghori ar ganllawiau newydd ar MSM, gyda’r bwriad o roi cyngor ac eglurhad yn dilyn y dyfarniadau. Mae’r diffiniad o MSM y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad hwn. Ni cheisir safbwyntiau ar ddehongliad y Llysoedd o’r diffiniad o MSM. Bydd yr wybodaeth a geir o’r ymgynghoriad a’r arolwg hwn yn cael ei defnyddio er mwyn:

  • adolygu a chwblhau’r canllawiau
  • asesu’r effeithiau economaidd ac effeithiau uniongyrchol eraill ar randdeiliaid yn sgil dyfarniadau’r Llys
  • deall a oes unrhyw faterion ehangach ynghylch MSM

Canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)

Mae pwynt 1.14 o Atodiad I (Diffiniadau) i’r Rheoliadau yn diffinio MSM fel a ganlyn: “Mechanically separated meat’ or ‘MSM’ means the product obtained by removing meat from flesh-bearing bones after boning or from poultry carcases, using mechanical means resulting in the loss or modification of the muscle fibre structure.”

Rhaid cynhyrchu MSM yn unol â meini prawf penodol ar gyfer hylendid, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, ofynion ar gyfer deunyddiau crai, mesurau i reoli tymheredd, a gweithdrefnau profi sy’n briodol ar gyfer natur chwilfriw’r cynnyrch. Mae hyn yn sicrhau ei fod yn ddiogel i gael ei ddefnyddio fel cynhwysyn.

O dan Reoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011 ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (UE) Rhif 1169/2011 yng Ngogledd Iwerddon, ni all MSM gyfrannu at y ganran ar gyfer cynnwys cig a nodir ar labeli cynhyrchion sy’n cynnwys MSM fel cynhwysyn. O ganlyniad, mae MSM o werth masnachol llai na ‘chig ffres’, ‘briwgig’, a ‘pharatoadau cig’, sydd oll yn cyfrannu at y ganran ar gyfer cynnwys cig a nodir ar labeli cynhyrchion. Felly, mae ei ddosbarthiad yn arwyddocaol iawn i fusnesau bwyd a defnyddwyr.

Mae dogfen ganllaw ar MSM wedi’i chreu i gynorthwyo dealltwriaeth o’r diffiniad o MSM yn y Rheoliadau, fel yr eglurir yn nyfarniadau’r Llys. Prif nod y canllawiau yw sicrhau bod gweithredwyr busnesau bwyd yn ymwybodol o’r gofynion deddfwriaethol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu MSM a’i ddefnyddio fel cynhwysyn. Mae’n disodli canllawiau 2012 ar y moratoriwm ar gynhyrchu a defnyddio cig heb y gewynnau (DSM) yn y DU, a dynnwyd yn ôl yn swyddogol ar 14 Tachwedd 2022.

Mae’r canllawiau wedi’u hanelu’n bennaf at weithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer gwahanu mecanyddol yn ystod eu prosesau cynhyrchu, a gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio MSM fel cynhwysyn. Gall awdurdodau lleol, timau gweithredol yr ASB a staff yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon hefyd ddefnyddio’r canllawiau i gefnogi gwaith cynnal rheolaethau swyddogol a sicrhau cysondeb yn y dull rheoleiddio.

Mae’r canllawiau’n gymwys i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau’n ymwneud â sefydliadau yn yr Alban at Safonau Bwyd yr Alban (FSS).

Canllawiau drafft

Canllawiau drafft ar gyfer yr ymgynghoriad ar gig wedi'i wahanu'n fecanyddol (MSM) - (Saesneg yn unig)

Dyfarniadau’r Llys 

Mae’r Llysoedd wedi cyflwyno’r dyfarniadau canlynol sydd, gyda’i gilydd, yn egluro’r diffiniad o MSM a nodir ym Mhwynt 1.14 o Atodiad I i’r Rheoliadau:

Dyfarnodd y Llysoedd fod y diffiniad o MSM yn seiliedig ar y tri maen prawf cronnol canlynol, sydd i’w darllen ar y cyd wrth benderfynu a yw cynnyrch yn cael ei ddosbarthu fel MSM: 

  • y defnydd o esgyrn y mae’r cyhyrau cyfan eisoes wedi’u gwahanu oddi wrthynt, neu garcasau dofednod y mae cig yn parhau i fod ynghlwm wrthynt 
  • y defnydd o ddulliau gwahanu mecanyddol i adfer y cig hwnnw 
  • colli neu addasu strwythur ffeibr cyhyrau’r cig sydd wedi’i adfer trwy ddefnyddio’r prosesau hynny 

Caiff cynnyrch sy’n bodloni’r tri maen prawf ei ddosbarthu fel MSM. Rhaid bodloni gofynion penodol i MSM yn y Rheoliadau ynghylch cynhyrchu, hylendid a storio. Rhaid bodloni hefyd ofynion penodol i MSM yn Rheoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011, ‘Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr’ ym Mhrydain Fawr / Rheoliad (UE) Rhif 1169/2011 yng Ngogledd Iwerddon ynghylch labelu, a hynny er mwyn i gynhyrchion terfynol sy’n cynnwys MSM gael eu rhoi ar y farchnad yn gyfreithlon.

Effeithiau

Gwnaeth Dyfarniad yr Uchel Lys yn 2022 gau pen y mwdwl ar gyfres o faterion cysylltiedig sydd wedi bod yn destun nifer o achosion llys. Ar draws yr achosion, ystyriodd y Llysoedd y diffiniad o MSM yn fanwl. Ni fu unrhyw newid i’r Rheoliadau. Yn hytrach, mae dyfarniadau’r Llys gyda’i gilydd yn egluro sut y mae’n rhaid darllen a chymhwyso’r diffiniad o MSM yn y Rheoliadau. Mae’r dyfarniadau’n rhoi mwy o sicrwydd ac eglurder, lle’r oedd amwysedd yn flaenorol. Mae hyn o fudd i’r holl randdeiliaid gan ei fod yn helpu i sicrhau chwarae teg, yn rhoi sicrwydd i fusnesau a rheoleiddwyr, ac mae defnyddwyr yn ymddiried yn fwy bod y bwyd y maent yn ei brynu a’i fwyta yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Yn unol â’r arferion gorau, mae’r ASB wedi ystyried y costau a’r manteision posib i randdeiliaid, gan gynnwys busnesau, awdurdodau lleol a defnyddwyr, o ganlyniad i unrhyw newidiadau mewn arferion sy’n angenrheidiol i fusnesau sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau. Mae’r ASB wedi rhoi gwerth ariannol ar rai effeithiau. Mae’r costau a aseswyd yn rhai dros dro gan fod yr ASB yn ceisio tystiolaeth gan y diwydiant i lywio asesiad o’r holl gostau a manteision. Bydd unrhyw gostau i staff gweithredol yr ASB a DAERA yn cael eu hystyried fel rhan o asesiad effaith ar ôl yr ymgynghoriad.

Busnesau yr effeithir arnynt

O ystyried bod dyfarniadau’r Llys wedi egluro sut y dylid darllen a chymhwyso’r diffiniad o MSM, efallai y bydd rhaid dosbarthu rhai cynhyrchion fel rhai MSM erbyn hyn, er nad oeddent wedi’u dosbarthu felly yn flaenorol (hynny yw, cyn tynnu’r moratoriwm yn ôl ym mis Tachwedd 2022). Gallai hyn effeithio ar y broses o gynhyrchu MSM a’i ddefnyddio fel cynhwysyn mewn cynhyrchion eraill. Rhaid i gynhyrchwyr cynhyrchion yr effeithir arnynt gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol o ran MSM, gan gynnwys gofynion labelu, os byddant yn dewis parhau i’w cynhyrchu ac yn bwriadu iddynt gael eu rhoi ar y farchnad. 

Er mwyn sicrhau safonau hylendid, o dan ddeddfwriaeth hylendid bwyd, rhaid i sefydliadau busnesau bwyd – gyda rhai eithriadau – sy’n trin bwyd sy’n dod o anifeiliaid sydd wedi’i gynnwys yn y categorïau y mae Atodiad III i’r Rheoliadau yn gosod gofynion ar eu cyfer (gan gynnwys ‘Adran V: briwgig, paratoadau cig a chig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)’) gael eu cymeradwyo i wneud hynny. 

Yn yr amcangyfrif o’r costau, rhagdybir bod nifer y gweithredwyr busnesau bwyd sy’n cynhyrchu MSM wedi’i gyfyngu i sefydliadau sydd wedi’u cymeradwyo i ymgymryd â gweithgareddau paratoi cig neu weithgareddau MSM. Er mwyn amcangyfrif nifer y gweithredwyr busnesau bwyd yr effeithir arnynt, mae sefydliadau a gymeradwywyd gan yr ASB neu awdurdodau lleol wedi’u cynnwys. Ar gyfer busnesau sy’n defnyddio MSM fel cynhwysyn mewn cynhyrchion eraill, rydym yn cymryd mai’r rhai yr effeithir arnynt fydd gweithgynhyrchwyr cynhyrchion dofednod a phorc sy’n defnyddio MSM nad oedd wedi’i ddosbarthu fel MSM yn flaenorol (hynny yw, cyn tynnu’r moratoriwm yn ôl ym mis Tachwedd 2022), ac o’r herwydd nad oedd wedi’i drin felly. Mae’r arolwg ymgynghori’n rhoi cyfle i randdeiliaid rannu gwybodaeth am sefydliadau neu arferion eraill y gallai dyfarniadau’r Llys effeithio arnynt.

Effeithiau ar weithredwyr busnesau bwyd

Costau ymgyfarwyddo â’r canllawiau

Disgwylir y bydd busnesau perthnasol yn wynebu costau sy’n gysylltiedig â darllen a deall y canllawiau newydd. Amcangyfrifir mai cyfanswm y costau ymgyfarwyddo untro i weithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig a gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio MSM fel cynhwysyn (yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) ar gyfer darllen a deall y canllawiau fydd £3,000 ym mhrisiau 2022/23. Cyfanswm yw’r gost untro amcangyfrifedig o gostau’r holl weithredwyr busnes bwyd perthnasol, nid cost fesul pob gweithredwr busnes bwyd unigol. Gweler Tabl 1 am amcangyfrif o’r costau ar gyfer darllen y canllawiau a’r ystod a ddefnyddir i roi cyfrif am ansicrwydd.

Mae’r amcangyfrif canolog yn rhagdybio cyflymder cyfartalog ar gyfer darllen rhyddiaith o 275 gair y funud yn ogystal â hyd y canllawiau newydd. O ganlyniad, rydym yn amcangyfrif y bydd angen 20 munud ar bob busnes i ddarllen a deall y canllawiau. 

Er mwyn rhoi cyfrif am ansicrwydd ynghylch yr amser darllen, mae’r ASB wedi defnyddio dadansoddiad sensitifrwydd a ddangosir gan yr amcangyfrif uchaf o £10,700 yn Nhabl 1. Yma, caiff cyfanswm yr amser a gymerir i ddarllen a deall y canllawiau ei gynyddu i un awr, a hynny ar sail cyflymder cyfartalog ar gyfer darllen rhyddiaith o 75 gair y funud. Mae hyn yn rhagdybio y bydd y canllawiau MSM newydd yn cael eu dehongli fel canllawiau technegol, ac y bydd angen mwy o amser, felly, i ddeall y cynnwys. (footnote 1)

Mae mwy o wybodaeth am y dadansoddiad o’r costau a’r busnesau yr effeithir arnynt ar gael yn Atodiad B.

Tabl 1: Cyfanswm cost yr amser a gymerir i ddarllen y canllawiau (footnote 2)
Nation Amcangyfrif canolog Amcangyfrif uchaf
Cymru £200 £700
Lloegr £2,600 £9,400
Gogledd Iwerddon £200 £600
Cyfanswm £3,000 £10,700

Mae’r ASB yn disgwyl y bydd goruchwylwyr mewn busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig yn treulio amser yn lledaenu’r canllawiau newydd ar MSM ac yn eu hesbonio i staff. Mae’r ASB hefyd yn disgwyl iddynt dreulio amser yn ystyried sut y gall y busnes wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i gydymffurfio â gofynion rheoleiddiol. Nid yw’r gost hon wedi’i nodi yn nhermau ariannol eto. Gofynnir am wybodaeth gan y diwydiant drwy’r arolwg ymgynghori, gyda’r bwriad o fesur y gost.

Mae’r ASB yn rhagdybio y bydd pob gweithredwr busnes bwyd perthnasol sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig eisoes yn cydymffurfio â’r Rheoliadau ac wedi’u cymeradwyo (oni bai bod eithriadau’n gymwys) gan yr ASB neu’r awdurdod lleol.

Yr effaith wrth i’r diwydiant addasu gweithgareddau a phrosesau

Ail-labelu

Bydd angen i weithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig ac sydd wedi dosbarthu cynhyrchion MSM yn anghywir ail-labelu pob cynnyrch anghywir, a hynny er mwyn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol. Mae’r ASB yn ceisio safbwyntiau’r partïon hynny yr effeithir arnynt yn yr arolwg ymgynghori ar yr effeithiau tebygol, gan gwmpasu swmp y deunydd pecynnu sydd wedi’i labelu ymlaen llaw, dichonoldeb ail-labelu’r rhain, ac i ba raddau y gallai fod angen cael gwared ar labeli anghywir presennol. Rydym yn rhagdybio cost ail-labelu untro i weithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig wrth iddynt gymryd camau i gydymffurfio, gan mai dim ond unwaith y bydd labeli a rhestrau cynhwysion yr effeithir arnynt yn cael eu hailysgrifennu. Byddai disgwyl i unrhyw newidiadau pellach i ddeunydd pecynnu gael eu cyfrif fel rhan o’r costau arferol ar gyfer cynnal y busnes o ddydd i ddydd. Mae’r ASB yn ceisio gwybodaeth am yr effaith ar weithgynhyrchwyr mewn perthynas â chynhyrchion sy’n cynnwys cynhwysion MSM, a hynny er mwyn deall costau ail-labelu cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu i ddefnyddwyr. 

Bydd y gost ariannol ar gyfer ail-labelu’n dibynnu ar hyd y cyfnod gweithredu ar gyfer y canllawiau terfynol. Yn yr arolwg ymgynghori, gofynnir am wybodaeth gan weithredwyr busnesau bwyd perthnasol er mwyn deall faint o amser fydd ei angen i alluogi gweithredwyr busnesau bwyd i newid prosesau, a hynny gyda chyn lleied o wastraff â phosib ar adnoddau presennol.

Newidiadau i’r broses gynhyrchu

Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol, efallai y bydd rhai gweithredwyr busnesau bwyd yn gwneud penderfyniadau masnachol i newid eu prosesau cynhyrchu. Er enghraifft, gall gweithgynhyrchwyr wneud penderfyniadau masnachol i ailfformiwleiddio cynhyrchion er mwyn cadw manylebau’r cynhyrchion yr un fath o ran canrannau cynnwys cig. Ni fydd costau i fusnesau ar gyfer penderfyniadau masnachol, yn hytrach na newidiadau gorfodol neu effeithiau uniongyrchol yn sgil dyfarniadau’r Llys, wedi’u cyfrifo yn y dadansoddiadau.

Efallai y bydd angen i rai gweithredwyr busnesau bwyd wneud newidiadau gweithredol i fodloni gofynion rheoleiddio hylendid ar gyfer cynhyrchu MSM. Mae’r ASB yn ceisio gwybodaeth gan y diwydiant i ddeall faint o effaith y gallai hyn ei chael ar weithredwyr busnesau bwyd a’r costau cysylltiedig. 

Gwastraff bwyd

Mae’r ASB yn rhagdybio na ddylai fod unrhyw gostau gwastraff bwyd i fusnesau o ganlyniad i ddyfarniadau’r Llys. Nid yw’r dyfarniadau’n golygu bod angen tynnu unrhyw fath o gynnyrch, a gynhyrchwyd yn unol â gofynion deddfwriaethol, o’r gadwyn fwyd. Gall cynhyrchion a gynhyrchwyd yn unol â chanllawiau’r moratoriwm a ddisodlwyd gael eu gwerthu cyn i’r fersiwn derfynol o’r canllawiau newydd gael ei chyhoeddi ar ôl yr ymgynghoriad.

Y gwahaniaeth mewn gwerth ariannol rhwng cynhyrchion MSM a chynhyrchion nad ydynt yn rhai MSM

Ceir gwahaniaeth mewn gwerth ariannol rhwng cynhyrchion MSM a mathau eraill o gig, gan gynnwys paratoadau cig. Mae mwy o gyfyngiadau o ran sut y gellir defnyddio MSM, ac ni all MSM gyfrif tuag at y cynnwys cig a nodir ar labeli cynhyrchion terfynol. O ganlyniad, mae’n werth llai’n fasnachol. Gall gweithredwyr busnesau bwyd sy’n cynhyrchu neu’n defnyddio unrhyw gynhyrchion y mae’n rhaid, yng ngoleuni dyfarniadau’r Llys, eu dosbarthu’n MSM brofi gostyngiad yn y galw am y cynhyrchion hynny. Fodd bynnag, gan fod MSM a gynhyrchir yn unol â gofynion rheoleiddiol yn ddiogel i’w fwyta a’i ddefnyddio fel cynhwysyn, efallai y gall gweithredwyr busnesau bwyd liniaru’r gostyngiad yn y galw trwy greu llwybrau amgen i’r farchnad.

Disgwylir mai cynhyrchion a ystyriwyd yn flaenorol yn baratoadau cig yw’r rhai fydd fwyaf tebygol o gael eu dosbarthu’n gynhyrchion MSM, a hynny yng ngoleuni’r eglurder a ddarparwyd gan y Llysoedd ynghylch y diffiniad o MSM. Felly, bydd llai o baratoadau cig ar gael oni bai bod ffynonellau eraill wedi’u trefnu. Ni fydd yr ASB fesur y gwahaniaethau tebygol yn y galw a/neu werth cynhyrchion MSM. Bydd y rhain yn dibynnu ar benderfyniadau masnachol a wneir gan randdeiliaid y diwydiant fesul achos, a bydd y farchnad yn ymateb yn unol â hynny.

Effaith ar awdurdodau cymwys

Costau ymgyfarwyddo

Mae’r ASB yn rhagdybio y bydd costau ymgyfarwyddo untro i awdurdodau lleol yn gysylltiedig â’r canllawiau newydd. Rhoddir gwerth ariannol ar y gost hon ar ôl yr ymgynghoriad fel rhan o asesiad effaith.

Effaith gorfodi

Ni ddylai fod unrhyw effeithiau ychwanegol ar awdurdodau lleol mewn perthynas â gwaith monitro a gorfodi, gan nad oes angen unrhyw weithgarwch newydd. Bydd awdurdodau lleol yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth gweithredwyr busnesau bwyd trwy ymyriadau a raglennir. Mae’r ASB yn rhagdybio y bydd sefydliadau cig yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, gan gynnwys y diffiniad o MSM yn y Rheoliadau, ac y byddant yn dilyn canllawiau’r ASB. Felly, nid oes disgwyl i swyddogion gorfodi ymdrin â lefelau sylweddol o ddiffyg cydymffurfio.

Bydd angen i weithredwyr busnesau bwyd sy’n gwneud penderfyniadau i newid i weithgarwch MSM gael eu cymeradwyo gan yr ASB neu eu hawdurdod lleol, oni bai bod eithriadau, o dan Erthygl 4 o’r Rheoliadau, yn gymwys. Yn yr arolwg ymgynghori, ceisir adborth gan y diwydiant i ddeall faint o weithredwyr busnesau bwyd sy’n debygol o wneud cais am gymeradwyaethau newydd. Rhoddir gwerth ariannol ar y gost hon ar ôl yr ymgynghoriad fel rhan o asesiad effaith.

Effaith ar ddefnyddwyr

Mae eglurder ynghylch MSM yn gofyn am labelu cywir ar ddeunydd pecynnu terfynol cynhyrchion o ran canrannau cynnwys cig a phresenoldeb MSM lle bo’n berthnasol. Mae hyn o fudd i ddefnyddwyr gan ei fod yn rhoi gwybodaeth gywir am y cynnyrch. Mae defnyddwyr yn teimlo bod MSM yn dderbyniol (Which?, 2011 (footnote 3)), ond maent am iddo gael ei labelu’n glir i’w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am yr hyn y maent yn ei brynu a’i fwyta (Which? a Swyddfa Gwyddoniaeth y Llywodraeth, 2015 (footnote 4)).

Nid yw’n hysbys ar hyn o bryd a fydd newidiadau’n effeithio ar arferion prynu, ac i ba raddau, gan nad oes gennym dystiolaeth o ba gynhyrchion yr effeithir arnynt. Ychydig o dystiolaeth sydd gennym hefyd am agweddau ac ymddygiadau defnyddwyr tuag at brynu cynhyrchion sy’n cynnwys MSM neu tuag at gynnwys cig mewn cynhyrchion.

Bydd y tebygolrwydd o weld effaith ar arferion prynu yn dibynnu ar ffactorau sy’n dylanwadu ar arferion prynu yn gyffredinol. Er enghraifft, yr amrywiaeth o gynhyrchion sydd ar gael, y pris, a’r farn am ansawdd. Yn achos cig, pris yw un o’r dylanwadau prynu pwysicaf (AHDB, 2018 (footnote 5)). Mae pris cig a chynhyrchion cig y mae’r defnyddiwr yn fodlon ei dalu yn gysylltiedig â barn y defnyddiwr am ansawdd y cynnyrch. Mae’r barnau hyn am ansawdd yn oddrychol (Araújo et al, 2022 (footnote 6)), ac felly bydd yn amrywio rhwng defnyddwyr ac amgylchiadau (er enghraifft, math o bryd, math o gig/cynnyrch cig). Os nad yw’r pris yn adlewyrchu’r ansawdd yn unol â barn y defnyddiwr, yna mae’n bosib y bydd y defnyddiwr yn penderfynu peidio â phrynu’r cynnyrch.

Mae ffactorau fel ‘iachusrwydd’ ac ansawdd prosesu yn effeithio’n rhannol ar ganfyddiadau o ansawdd cig (Becker, 2000 (footnote 7)). Yn wir, ar ôl egluro i ddefnyddwyr beth yw MSM, maent yn gwneud cysylltiad negyddol rhwng MSM a’r ddau ffactor hyn. Pan gaiff MSM ei ddisgrifio i ddefnyddwyr, maen nhw’n ei gysylltu â chynhyrchion wedi’u prosesu, ac mae nifer o ddefnyddwyr yn ystyried bod cynhyrchion wedi’u prosesu yn ‘afiach’ ar y cyfan, ni waeth a yw cynnyrch unigol yn afiach ai peidio (Which? a Swyddfa Gwyddoniaeth y Llywodraeth, 2015 (footnote 8)). Gall darparu gwybodaeth MSM am gynhyrchion cig wedi’u prosesu fod yn llai tebygol felly o arwain at newidiadau ym marn defnyddwyr am ansawdd (gan fod y cynnyrch eisoes wedi’i brosesu), o gymharu â phe bai defnyddwyr yn tybio nad yw bwyd wedi’i brosesu, ac yn gweld bod MSM wedi’i gynnwys ynddo. Yn ogystal, mae profiad yn effeithio ar ansawdd – os yw defnyddwyr wedi mwynhau’r cynnyrch yn y gorffennol, gallai hyn ddylanwadu arnynt yn fwy nag unrhyw wybodaeth newydd. Chwalwyd yr ymatebion negyddol cychwynnol i gig dofednod wedi’i wahanu’n fecanyddol pan sylweddolodd defnyddwyr ei fod, yn ôl pob tebyg, eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn rhai bwydydd wedi’u prosesu yr oeddent wedi’u bwyta yn y gorffennol (Which? a Swyddfa Gwyddoniaeth y Llywodraeth, 2015 (footnote 9)).

Bydd ymwybyddiaeth defnyddwyr o’r wybodaeth (labelu MSM a chanran cynnwys cig) – a allai fod yn isel – hefyd yn effeithio ar y tebygolrwydd o newidiadau mewn arferion prynu. Mae dewis cynnyrch yn ymddygiad arferol ac mae defnyddwyr yn tueddu i osgoi cymharu sawl cynnyrch o fewn un categori. Dim ond ychydig iawn o amser y maent yn ei dreulio yn darllen labeli (Osman a Jenkins, 2021 (footnote 10)). Hyd yn oed os yw defnyddwyr yn darllen y labeli’n fanwl, maent yn aml yn anghyfarwydd â’r term ‘cig wedi’i wahanu’n fecanyddol’ (Which?, 2011 (footnote 11)). Mae’n bosib y bydd unigolion yn defnyddio canrannau cynnwys cig (os gwelir y rhain) wrth wneud penderfyniadau, gan fod yr wybodaeth hon yn cael ei hystyried yn wybodaeth allweddol sydd wedi’i chynnwys ar labeli cig (Which, 2011 (footnote 12)). Fodd bynnag, nid yw’n hysbys i ba raddau y mae defnyddwyr yn defnyddio’r wybodaeth hon i lywio eu penderfyniad wrth brynu.

Y broses ymgysylltu ac ymgynghori

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio casglu safbwyntiau rhanddeiliaid, hynny yw, y diwydiant, awdurdodau gorfodi, cyrff masnach, defnyddwyr, a phartïon eraill â buddiant, gan wahodd safbwyntiau mewn perthynas â chyhoeddi canllawiau newydd ar y diffiniad o MSM yn dilyn dyfarniadau’r Llys ar y mater.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Y diwydiant

Mae cynrychiolwyr y diwydiant wedi bod yn ymwneud â’r mater hwn (hynny yw, sut y caiff MSM ei ddiffinio) ers cyn yr achos llys yn 2012 a restrir yn y ddogfen hon. Roedd moratoriwm 2012 ar gig heb y gewynnau, a gafodd ei herio wrth gael ei gyflwyno (Achos CJEU C-453/13; Rhoddwyd dyfarniad ym mis Hydref 2014), yn destun Adroddiad Tŷ’r Cyffredin ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014). Roedd yr adroddiad yn ystyried tystiolaeth ar lafar a thystiolaeth ysgrifenedig gan yr ASB a rhanddeiliaid yn y diwydiant, wrth bwyso a mesur rhinweddau ac effeithiau cyflwyno’r moratoriwm. Mae’r mater wedi bod yn destun nifer o achosion Llys cysylltiedig rhwng 2012 a 2022, ac mae’r ASB a rhanddeiliaid yn y diwydiant wedi ymgysylltu ar y mater drwy gydol yr amser, i raddau amrywiol.

Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd yr ASB lythyr i’r diwydiant er mwyn rhoi gwybod y byddai canllawiau newydd ar MSM yn cael eu drafftio ac y byddai ymgynghoriad arnynt. Bryd hynny, roedd rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant yn aelodau o Weithgor Technegol dan gyd-arweiniad yr ASB a chynrychiolwyr cymdeithasau masnach y diwydiant. Roedd y Gweithgor hwn wedi’i sefydlu yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys ym mis Gorffennaf 2022, a hynny fel fforwm i drafod effeithiau’r dyfarniadau perthnasol ar ôl i’r achos llys ddod i ben.

Ym mis Mehefin 2023, anfonwyd drafft o’r canllawiau ar MSM at aelodau yn y diwydiant o’r grŵp hwnnw, a gofynnwyd am eu hadborth. Y mis canlynol, cynhaliwyd cyfarfod gyda rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant i drafod yr adborth hwnnw. Rydym bellach yn ymgynghori’n gyhoeddus ar y ddogfen ganllaw.

Awdurdodau lleol

Rhoddwyd gwybod i awdurdodau lleol ym mis Tachwedd 2022 y byddai canllawiau newydd ar MSM yn cael eu drafftio ac y byddai ymgynghoriad arnynt. Drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r canllawiau a’r ymgynghoriad, mae’r ASB wedi bod yn cysylltu ag awdurdodau lleol yn ysgrifenedig ac yn uniongyrchol mewn cyfarfodydd, gan annog iddynt gyfrannu at yr ymgynghoriad ac awgrymu meysydd i ganolbwyntio arnynt wrth amlygu unrhyw ofynion cymorth. 

Y cyfnod ôl-ymgynghori

Pan ddaw’r ymgynghoriad 12 wythnos i ben, bydd yr ymatebion yn cael eu dadansoddi, a bydd crynodeb yr ASB o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi. Gofynnir am adborth ar y ddogfen ganllaw a gaiff ei hadolygu yn ôl yr angen. Ceisir gwybodaeth am yr effeithiau wrth i weithredwyr busnesau bwyd addasu eu gweithgareddau a’u phrosesau yn unol â dyfarniadau’r Llys. Bydd yr wybodaeth honno’n cael ei hystyried yng nghyd-destun gweithrediad yr ASB o’r canllawiau. Bydd gwaith ymgysylltu pellach â rhanddeiliaid cyn i’r canllawiau gael eu cwblhau a’u cyhoeddi.

Ymatebion

Mae angen i ymatebion ddod i law erbyn 17:00, 22 Mai 2024. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni, gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli.

Dylech ymateb i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r arolwg ar-lein. Gellir hefyd anfon adborth dros e-bost i meathygiene@food.gov.uk.

Ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd yr ymatebion sydd wedi dod i law yn cael eu casglu a’u dadansoddi, a’u cyhoeddi wedyn ar www.food.gov.uk

I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion i meathygiene@food.gov.uk a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.

Ar ran yr ASB, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

Polisi Hylendid Cig
Is-adran Polisi Bwyd

Atodiad A: Deddfwriaeth

Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid.

Rheoliad (CE) 853/2004 (yn gymwys i Ogledd Iwerddon) sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid (fel y’i diwygiwyd).

Atodiad B: Dadansoddiad o’r effaith o gostau ymgyfarwyddo â’r canllawiau

Mae’r atodiad hwn yn dangos dadansoddiad o’r costau ymgyfarwyddo i fusnesau mewn perthynas â darllen a deall y canllawiau. Dyma ddadansoddiad o’r costau amcangyfrifedig a ddangosir yn Nhabl 1.

Amcangyfrifir mai’r gost o ddarllen a deall y canllawiau i weithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig fydd £600 (gweler Tabl 2).

Tabl 2: Amcangyfrif o’r costau ymgyfarwyddo ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig fesul gwlad, gyda dadansoddiad sensitifrwydd wedi’i gymhwyso
Gwlad Amcangyfrif canolog Amcangyfrif uchaf
Cymru £40 £200
Lloegr £500 £1,800
Gogledd Iwerddon £30 £100
Cyfanswm £600 £2,100

Rhagdybir y bydd angen i bob gweithredwr busnes bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig ar gyfer gweithgareddau MSM, a 10% o’r rhai sy’n eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau paratoi cig, ddarllen y canllawiau. (footnote 13) Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm o 125 o sefydliadau cig sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a bydd gofyn iddynt ddarllen y canllawiau (gweler Tabl 3). (footnote 14)

Tabl 3: Nifer y gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig y disgwylir iddynt ddarllen y canllawiau
Gwlad Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig at ddibenion gweithgareddau MSM yn unig Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig at ddibenion paratoadau cig yn unig Gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig at ddibenion gweithgareddau MSM a pharatoadau cig Cyfanswm
Cymru 0 7 3 10
Lloegr 2 89 17 108
Gogledd Iwerddon 0 6 1 7
Cyfanswm 2 102 21 125

Yn achos gweithredwyr busnesau bwyd sydd wedi’u categoreiddio fel rhai sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig, rydym yn rhagdybio y bydd un goruchwyliwr fesul sefydliad yn darllen ac yn deall y canllawiau. Cyflog canolrifol fesul awr goruchwyliwr yw £17.08, gan gynnwys codiad o 22% i gyfrif am orbenion.  (footnote 15) (footnote 16) Gan gymryd mai’r cyflymder cyfartalog ar gyfer darllen rhyddiaith yw 275 gair y funud, ac o ystyried hyd y canllawiau newydd, rydym yn amcangyfrif y bydd yn cymryd tua 20 munud i oruchwyliwr ym mhob sefydliad ddarllen a deall y canllawiau.

Yn unol â’r arfer safonol, er mwyn rhoi cyfrif am ansicrwydd, mae’r ASB hefyd wedi cyfrifo amcangyfrif uchaf ar gyfer yr amser y bydd yn ei gymryd i oruchwylwyr ddarllen y canllawiau. Yn y dadansoddiad sensitifrwydd, mae’r cyflymder cyfartalog ar gyfer darllen rhyddiaith yn is, yn benodol 75 gair y funud. Mae hyn yn arwain at gyfanswm amser darllen o un awr, ac felly uchafswm cost amcangyfrifedig o £2,100 i’r holl weithredwyr busnesau bwyd perthnasol sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig ddarllen a deall y canllawiau (gweler Tabl 2). Mae hyn yn rhagdybio y bydd y canllawiau newydd ar MSM yn cael eu dehongli fel canllawiau technegol, ac felly bydd angen mwy o amser i ddeall y cynnwys.  (footnote 17)

Gan gymryd y bydd angen i bob busnes sy’n defnyddio MSM fel cynhwysyn ddarllen a deall y canllawiau, amcangyfrifir, gan ddefnyddio set ddata’r Gofrestr Busnesau Ryngadrannol (IDBR), y bydd 505 o fusnesau o’r fath yn darllen a deall y canllawiau (gweler Tabl 4). (footnote 18) (footnote 19) Mae’r ASB yn amcangyfrif mai cyfanswm y gost o ddarllen a deall y canllawiau newydd i’r holl fusnesau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n defnyddio MSM fel cynhwysyn fydd £2,300 (gweler Tabl 5). 

Tabl 4: Nifer y gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio MSM fel cynhwysyn y disgwylir iddynt ddarllen y canllawiau
Gwlad Gweithredwyr busnesau bwyd micro Gweithredwyr busnesau bwyd bach Gweithredwyr busnesau bwyd canolig Gweithredwyr busnesau bwyd mawr
Cymru 20 5 5 0
Lloegr 260 130 40 15
Gogledd Iwerddon 20 10 0 0
Cyfanswm 300 145 45 15

Yn unol â’r amcangyfrifon ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig, rydym yn rhagdybio y bydd un goruchwyliwr fesul gweithgynhyrchwr yn darllen ac yn deall y canllawiau. Cyflog canolrifol fesul awr goruchwyliwr yw £17.08, gan gynnwys codiad o 22% i gyfrif am orbenion. (footnote 20) (footnote 21)O ystyried cyflymder cyfartalog ar gyfer darllen rhyddiaith o 275 gair y funud, yn ogystal â hyd y dogfennau perthnasol, rydym yn amcangyfrif y bydd yn cymryd tua 20 munud i bob gweithgynhyrchwr ddarllen a deall y canllawiau. 

Yn unol â’r costau i weithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio offer mecanyddol i wahanu cig, mae dadansoddiad sensitifrwydd wedi’i gymhwyso gan nodi amcangyfrif uchaf o £8,600, lle cynyddir yr amser darllen i un awr (gweler Tabl 5). 

Tabl 5: Amcangyfrif o’r costau ymgyfarwyddo ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd sy’n defnyddio MSM fel cynhwysyn fesul gwlad, gyda dadansoddiad sensitifrwydd wedi’i gymhwyso
Gwlad Amcangyfrif canolog Amcangyfrif uchaf
Cymru £100 £500
Lloegr £2,100 £7,600
Gogledd Iwerddon £100 £500
Cyfanswm £2,300 £8,600