Pecyn ymgynghori ar 24 o geisiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid ac un cais am fwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol (PARNUT)
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig a nodir yn y ddogfen hon, a gyflwynwyd i’w hawdurdodi. Mae’r ceisiadau hyn wedi’u cyflwyno at ddefnydd newydd, defnydd newydd yn unig, addasiadau neu adnewyddu awdurdodiadau presennol ychwanegion bwyd anifeiliaid, gyda neu heb addasiadau ac un cais ar gyfer bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol (PARNUT).
Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf:
- Gwneuthurwyr, mewnforwyr/allforwyr a manwerthwyr bwyd anifeiliaid
- Pob prynwr bwyd anifeiliaid, gan gynnwys ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
- Cyrff masnach sy’n cynrychioli rhanddeiliaid mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, amaethyddiaeth a’r amgylchedd
- Undebau llafur sy’n cynrychioli rhanddeiliaid yn y diwydiant ffermio
- Sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn cadwyni bwyd a chadwyni bwyd anifeiliaid
- Awdurdodau gorfodi
Rhanddeiliaid allweddol
Byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r cymdeithasau masnach rhanddeiliaid allweddol canlynol, sydd â buddiant sylweddol mewn ychwanegion bwyd anifeiliaid a’u defnydd ym maes maeth bwyd anifeiliaid a’r sector amaeth ehangach, ac a gynrychiolir ar draws pedair gwlad y DU, er mwyn cael eu hadborth am yr ymgynghoriad hwn:
- Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC)
- Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Ychwanegion ac Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid Prydain (BAFSAM)
- Cymdeithas Masnach Marchogaeth Prydain (BETA)
- Y Gymdeithas Masnach Grawn a Bwyd Anifeiliaid (GAFTA)
- Swyddfa Genedlaethol Iechyd Anifeiliaid (NOAH)
- Cymdeithas Masnach Grawn Gogledd Iwerddon (NIGTA)
- UK Pet Food (y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr Bwyd Anifeiliaid Anwes gynt)
Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.
Pwnc a diben yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio adborth rhanddeiliaid ar y ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon. Mae’r ceisiadau hyn wedi’u cyflwyno ar gyfer:
- Awdurdodiadau newydd (wyth ychwanegyn bwyd anifeiliaid)
- Defnydd newydd yn unig (chwe ychwanegyn bwyd anifeiliaid)
- Adnewyddu awdurdodiad (un ychwanegyn bwyd anifeiliaid)
- Addasiad (dau ychwanegyn bwyd anifeiliaid ac un PARNUT)
- Adnewyddu ac addasu (pum ychwanegyn bwyd anifeiliaid)
- Adnewyddu, defnydd newydd ac addasu (dau ychwanegyn bwyd anifeiliaid)
Bydd argymhellion rheoli risg yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS), yr asesiadau diogelwch a’r safbwyntiau a gasglwyd drwy’r ymgynghoriad hwn yn cael eu rhannu â gweinidogion Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gefnogi eu penderfyniadau.
Mae ymgynghoriad cyfochrog yn cael ei gyhoeddi gan FSS i gefnogi gweinidogion yn eu penderfyniadau yn yr Alban.
Manylion yr ymgynghoriad
Cyflwyniad
Er mwyn cael eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno ceisiadau i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig ym Mhrydain Fawr. Gwneir y penderfyniad ar awdurdodi gan y gweinidogion priodol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, a rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i weinidog Iechyd Gogledd Iwerddon.
Mae’r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn drefniant anstatudol rhwng llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i sefydlu dulliau cyffredin o ymdrin â meysydd polisi lle mae pwerau wedi dychwelyd o’r UE o fewn meysydd o gymhwysedd datganoledig. Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â’r ymrwymiadau i gydweithio ar draws y pedair gwlad a nodir yn y fframwaith hwn. Cytunir ar argymhellion terfynol gan y pedair gwlad cyn ei gyflwyno i weinidogion.
Mae’r ASB ac FSS wedi bod yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod safonau uchel y DU o ran diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a diogelu defnyddwyr yn parhau. Mae hyn yn unol â chyfrifoldeb yr ASB/FSS i ddarparu argymhellion i weinidogion ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid neu fuddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd (adrannau 6 a 9 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 ac adran 3 o Ddeddf Bwyd 2015 yn yr Alban).
Mae ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig ar gyfer marchnad Prydain Fawr, gan gynnwys ychwanegion bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol (PARNUTs), yn destun proses dadansoddi risg y DU.
Mabwysiadodd yr ASB/FSS ganllawiau technegol a phrosesau sicrhau ansawdd a ddefnyddir gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) i allu cynnal asesiadau risg Prydain Fawr ar gyfer ceisiadau cynnyrch rheoleiddiedig. Gweler y dolenni ym mhob atodiad i’r asesiadau diogelwch unigol.
Ein haseswyr risg sy’n cyflwyno’r wyddoniaeth sy’n sail i’n cyngor. Maent yn gyfrifol am nodi a phennu nodweddion peryglon a risgiau i iechyd, ac asesu lefelau cysylltiad (exposure). Mae’r ceisiadau am ychwanegion bwyd anifeiliaid wedi bod yn destun asesiad diogelwch gan yr ASB/FSS, gan gynnwys adolygiad o goflen a gwybodaeth atodol yr ymgeisydd. Yn dilyn yr asesiadau diogelwch, bydd yr ymgynghoriad hwn yn ceisio casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar yr awdurdodiadau arfaethedig ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid.
Mae’r ymgynghoriad hwn a dogfen argymhellion rheoli risg yr ASB/FSS yn cyflwyno argymhellion yr ASB/FSS a’r ffactorau y mae’r ASB/FSS wedi nodi eu bod yn berthnasol i’r ceisiadau hyn, gan gynnwys effaith bosib unrhyw benderfyniad a wneir gan weinidogion. Gwahoddir rhanddeiliaid i fanteisio ar y cyfle hwn i roi sylwadau ar y ffactorau hyn neu dynnu sylw at unrhyw ffactorau ychwanegol y dylid eu dwyn at sylw Gweinidogion cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd gweinidogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn gwneud penderfyniadau ar awdurdodi, gyda Gweinidog Iechyd Gogledd Iwerddon yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Byddant yn ystyried argymhelliad yr ASB/FSS, unrhyw ddarpariaethau perthnasol mewn cyfraith a gymathwyd, ac unrhyw ffactorau dilys eraill, gan gynnwys y rhai a godwyd yn ystod y broses ymgynghori.
Pwnc yr ymgynghoriad hwn
Yn unol â chyfraith a gymathwyd ar ychwanegion bwyd anifeiliaid i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, mae’r ceisiadau yn yr ymgynghoriad hwn wedi’u cyflwyno ar gyfer awdurdodiad newydd, defnydd newydd yn unig, addasiad, ac adnewyddu gyda neu heb addasiad o’r awdurdodiad presennol.
Mae ychwanegion bwyd yn sylweddau, yn ficro-organebau neu’n baratoadau (ar wahân i ddeunyddiau a rhag-gymysgeddau bwyd anifeiliaid) sy’n cael eu hychwanegu’n fwriadol at fwyd anifeiliaid neu ddŵr er mwyn cyflawni un neu ragor o’r swyddogaethau penodol, fel yr amlinellir yn yr adran ‘Gwybodaeth atodol am ychwanegion bwyd anifeiliaid’. Er mwyn rhoi ychwanegion bwyd anifeiliaid newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno cais yn unol â Rheoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003. Caiff ychwanegion bwyd anifeiliaid eu hawdurdodi am gyfnod o ddeng mlynedd. Gellir ystyried adnewyddu awdurdodiadau pan gaiff cais ei ailgyflwyno flwyddyn cyn dyddiad dod i ben yr awdurdodiad fan bellaf. Mae’r weithdrefn ar gyfer pob math o gais wedi’i nodi yn Rheoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 fel a ganlyn:
- Cais Erthygl 4 ac Erthygl 7 am awdurdodiad newydd neu ddefnydd newydd ar gyfer ychwanegyn bwyd anifeiliaid
Cais Erthygl 13 am addasu awdurdodiad
Cais Erthygl 14 am adnewyddu awdurdodiad
Yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad a gymathwyd (CE) 767/2009, ni chaniateir i fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol neilltuol gael ei farchnata ym Mhrydain Fawr oni bai bod ei ddefnydd arfaethedig wedi’i gynnwys yn y rhestr o ddefnyddiau arfaethedig a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 10 o’r un rheoliad, ac mae'n bodloni’r nodweddion maethol hanfodol at y diben maethol a gynhwysir yn y rhestr honno.
Mae Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/354 yn sefydlu rhestr o’r defnyddiau arfaethedig ar gyfer bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol neilltuol.
Yn unol ag Erthygl 10 o Reoliad a gymathwyd (CE) 767/2009, mae cais i addasu cofnod yn y rhestr wedi’i gynnwys yn yr ymgynghoriad hwn.
Trefniadau trosiannol
Efallai y bydd angen trefniadau trosiannol ar gyfer ceisiadau addasu o dan Erthygl 13 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 a cheisiadau adnewyddu o dan Erthygl 14 (2)(d) o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 pan fo cynnig i ddiwygio neu ategu amodau’r awdurdodiad gwreiddiol yn gymwys. Gallai'r newidiadau arfaethedig effeithio ar y gofynion labelu o dan Erthygl 16 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003, ac felly mae angen darparu trefniadau trosiannol i ddiogelu lles anifeiliaid drwy sicrhau bod cynhyrchion presennol yn cael eu defnyddio’n barhaus, am gyfnod cyfyngedig, i ganiatáu i’r stoc bresennol ddod i ben.
Cynigir gwasgaru (stagger) amseroedd cyfnodau trosiannol a nodir mewn perthynas â cheisiadau perthnasol ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, neu rag-gymysgeddau a bwyd anifeiliaid cyfansawdd, er mwyn caniatáu eu defnyddio i wacáu stociau o’r mathau unigol o fwyd anifeiliaid. Mae cyfnodau trosiannol i wacáu stociau o fwyd anifeiliaid gorffenedig ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd yn hirach nag ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd. Mae hyn oherwydd oes silff estynedig cynhyrchion a’r niferoedd uchel o ran cynhyrchu labelu, ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes er enghraifft.
Mae’r ymgynghoriad yn rhoi manylion cynigion ar gyfer trefniadau trosiannol a amlinellir isod:
RP185, 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchwyd o Komagataella phaffii (Komagataella pastoris gynt) (DSM 23036) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o adar a moch (OptiPhos®) (Huvepharma EOOD) (adnewyddu, defnydd newydd ac addasu)
O ran y newid mewn dulliau enwi ac ehangu rhywogaethau i gynnwys pob rhywogaeth o adar a moch, rydym o’r farn ei bod yn briodol darparu cyfnodau trosiannol i fodloni gofynion labelu newydd. Ym mhob achos, nid ystyrir bod y newidiadau yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar ddiogelwch anifeiliaid neu bobl, gan gyfiawnhau defnyddio darpariaeth drosiannol addas.
Mae cynnig ar gyfer trefniadau trosiannol wedi’i nodi isod ar gyfer awdurdodiad presennol yr ychwanegyn bwyd.
Y cynnig: Gall bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn hwn barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan amodau ei awdurdodiad blaenorol hyd nes y bydd y stociau presennol wedi dod i ben lle bo’r canlynol yn wir:
- Mae’r deunydd ychwanegion bwyd anifeiliaid, rhag-gymysgeddau a bwyd cyfansawdd sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn cael eu cynhyrchu a’u labelu cyn pen chwe mis i ddyddiad yr awdurdodiad hwn
RP222 – Burum selenedig wedi’i gynhyrchu o Saccharomyces cerevisiae (CNCM I-3060), heb ei actifadu fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Iwerddon) Limited) (addasu)
O ran yr addasiad i amodau awdurdodi a chyfansoddiad yr ychwanegyn, rydym o’r farn ei bod yn briodol darparu cyfnodau trosiannol i fodloni gofynion labelu newydd. Ym mhob achos, nid ystyrir bod y newidiadau yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar ddiogelwch anifeiliaid neu bobl, gan gyfiawnhau defnyddio darpariaeth drosiannol addas.
Y cynnig: Gall bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn hwn barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan amodau ei awdurdodiad blaenorol hyd nes y bydd y stociau presennol wedi dod i ben lle bo’r canlynol yn wir:
- mae’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid neu’r rhag-gymysgedd sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn cael ei gynhyrchu a’i labelu cyn pen chwe mis i ddyddiad yr awdurdodiad hwn
- mae’r deunyddiau bwyd anifeiliaid cyfansawdd a bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn cael eu cynhyrchu a’u labelu cyn pen deuddeg mis i ddyddiad yr awdurdodiad hwn pan fyddant wedi’u bwriadu ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd
- mae bwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn cael eu cynhyrchu a’u labelu cyn pen pedwar mis ar hugain i ddyddiad yr awdurdodiad hwn pan fyddant wedi’u bwriadu ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
RP641 Bacillus velezensis (Bacillus subtilis C-3102 gynt) (DSM 15544) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer porchellod wedi’u diddyfnu a phob rhywogaeth adar (Calsporin®) (Asahi Biocycle Co., Ltd) (adnewyddu, defnydd newydd ac addasu)
O ran y newid mewn dulliau enwi ac ehangu rhywogaethau i gynnwys pob rhywogaeth adar, rydym o’r farn ei bod yn briodol darparu cyfnodau trosiannol i fodloni gofynion labelu newydd. Ym mhob achos, nid ystyrir bod y newidiadau yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar ddiogelwch anifeiliaid neu bobl, gan gyfiawnhau defnyddio darpariaeth drosiannol addas.
Y cynnig: Gall bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn hwn barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan amodau ei awdurdodiad blaenorol hyd nes y bydd y stociau presennol wedi dod i ben lle bo’r canlynol yn wir:
- mae’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid neu’r rhag-gymysgedd sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn cael ei gynhyrchu a’i labelu cyn pen chwe mis i ddyddiad yr awdurdodiad hwn
- mae’r deunyddiau bwyd anifeiliaid cyfansawdd a bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn cael eu cynhyrchu a’u labelu cyn pen deuddeg mis i ddyddiad yr awdurdodiad hwn pan fyddant wedi’u bwriadu ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd
- mae bwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn cael eu cynhyrchu a’u labelu cyn pen pedwar mis ar hugain i ddyddiad yr awdurdodiad hwn pan fyddant wedi’u bwriadu ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
RP1198 – Hydrocsyanisol wedi’i fwtyleiddio (BHA) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer cathod (FEDIAF) (newydd)
Mae’r awdurdodiad newydd hwn yn fwy disgrifiadol na’r awdurdodiad blaenorol a dyrennir rhif adnabod newydd iddo. Rydym o’r farn ei bod yn briodol darparu cyfnodau trosiannol i fodloni gofynion labelu newydd. Ym mhob achos, nid ystyrir bod y newidiadau yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar ddiogelwch anifeiliaid neu bobl, gan gyfiawnhau defnyddio darpariaeth drosiannol addas.
Y cynnig: Gall bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn hwn barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan amodau ei awdurdodiad blaenorol hyd nes y bydd y stociau presennol wedi dod i ben lle bo’r canlynol yn wir:
- mae’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid neu’r rhag-gymysgedd sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn cael ei gynhyrchu a’i labelu cyn pen chwe mis i ddyddiad yr awdurdodiad hwn
- mae bwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn cael eu cynhyrchu a’u labelu cyn pen pedwar mis ar hugain i ddyddiad yr awdurdodiad hwn
RP1386 – Celad copr o analog hydrocsi o fethionin a gynhyrchir gan Novus Europe NV
O ran yr addasiad i amodau awdurdodi a chyfansoddiad yr ychwanegyn, ac addasu’r rhif adnabod, rydym o’r farn ei bod yn briodol darparu cyfnodau trosiannol i fodloni gofynion labelu newydd. Ym mhob achos, nid ystyrir bod y newidiadau yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar ddiogelwch anifeiliaid neu bobl, gan gyfiawnhau defnyddio darpariaeth drosiannol addas.
Y cynnig: Gall bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn hwn barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan amodau ei awdurdodiad blaenorol hyd nes y bydd y stociau presennol wedi dod i ben lle bo’r canlynol yn wir:
- mae’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid neu’r rhag-gymysgedd sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn cael ei gynhyrchu a’i labelu cyn pen chwe mis i ddyddiad yr awdurdodiad hwn
- mae’r deunyddiau bwyd anifeiliaid cyfansawdd a bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn cael eu cynhyrchu a’u labelu cyn pen deuddeg mis i ddyddiad yr awdurdodiad hwn pan fyddant wedi’u bwriadu ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd
- mae bwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn cael eu cynhyrchu a’u labelu cyn pen pedwar mis ar hugain i ddyddiad yr awdurdodiad hwn pan fyddant wedi’u bwriadu ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
RP1387 – Celad manganîs o analog hydrocsi o fethionin a gynhyrchir gan Novus Europe NV
O ran yr addasiad i amodau awdurdodi a chyfansoddiad yr ychwanegyn, ac addasu’r rhif adnabod, rydym o’r farn ei bod yn briodol darparu cyfnodau trosiannol i fodloni gofynion labelu newydd. Ym mhob achos, nid ystyrir bod y newidiadau yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar ddiogelwch anifeiliaid neu bobl, gan gyfiawnhau defnyddio darpariaeth drosiannol addas.
Y cynnig: Gall bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn hwn barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan amodau ei awdurdodiad blaenorol hyd nes y bydd y stociau presennol wedi dod i ben lle bo’r canlynol yn wir:
- mae’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid neu’r rhag-gymysgedd sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn cael eu cynhyrchu a’u labelu cyn pen chwe mis i ddyddiad yr awdurdodiad hwn
mae’r deunyddiau bwyd anifeiliaid cyfansawdd a bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn cael eu cynhyrchu a’u labelu cyn pen deuddeg mis i ddyddiad yr awdurdodiad hwn pan fyddant wedi’u bwriadu ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd
mae bwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn cael eu cynhyrchu a’u labelu cyn pen pedwar mis ar hugain i ddyddiad yr awdurdodiad hwn pan fyddant wedi’u bwriadu ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
RP1388 – Celad sinc o analog hydrocsi o fethionin a gynhyrchir gan Novus Europe NV
O ran yr addasiad i amodau awdurdodi a chyfansoddiad yr ychwanegyn, ac addasu’r cod adnabod, rydym o’r farn ei bod yn briodol darparu cyfnodau trosiannol i fodloni gofynion labelu newydd. Ym mhob achos, nid ystyrir bod y newidiadau yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar ddiogelwch anifeiliaid neu bobl, gan gyfiawnhau defnyddio darpariaeth drosiannol addas.
Y cynnig: Gall bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn hwn barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan amodau ei awdurdodiad blaenorol hyd nes y bydd y stociau presennol wedi dod i ben lle bo’r canlynol yn wir:
- mae’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid neu’r rhag-gymysgedd sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn cael ei gynhyrchu a’i labelu cyn pen chwe mis i ddyddiad yr awdurdodiad hwn
mae bwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn cael eu cynhyrchu a’u labelu cyn pen deuddeg mis i ddyddiad yr awdurdodiad hwn pan fyddant wedi’u bwriadu ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd
mae bwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn cael eu cynhyrchu a’u labelu cyn pen pedwar mis ar hugain i ddyddiad yr awdurdodiad hwn pan fyddant wedi’u bwriadu ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
Gwybodaeth atodol am fwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol
Bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol (PARNUTs), a elwir hefyd yn anghenion maethol neilltuol anifeiliaid y mae, neu y gallai fod, nam dros dro neu ddiwrthdro ar eu proses gymhathu, amsugno neu fetaboledd, ac a all felly elwa ar fwyta bwyd anifeiliaid sy’n briodol i’w cyflwr. Gall PARNUTs fodloni pwrpas maethol neilltuol trwy gyfansoddiad neu ddull cynhyrchu penodol.
Mae’r atodiad i Reoliad y Comisiwn a gymathwyd (UE) 2020/354 yn sefydlu rhestr o’r defnyddiau arfaethedig ar gyfer bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol neilltuol.
Rhestr o atodiadau
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â 24 o geisiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid ac un PARNUT. Rhoddir manylion pob cais yn yr atodiadau ac yn nogfen argymhellion rheoli risg yr ASB/FSS.
Ystyrir pob awdurdodiad mewn atodiad ar wahân, mae pob awdurdodiad yn rhoi rhif adnabod y cynnyrch rheoleiddiedig a theitl y cais:
Atodiad A: RP24 – Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer porchellod wedi’u diddyfnu (Biosprint®) (Prosol SpA) (adnewyddu)
Atodiad B: RP25 – Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o fochyn a mân rywogaethau o foch ac eithrio hychod a moch bach (sugno a diddyfnu) (Biosprint®) (Prosol SpA) (defnydd newydd)
Atodiad C: RP26 – Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer cathod a chŵn (Biosprint®) (Prosol SpA) (defnydd newydd)
Atodiad D: RP29 – Pediococcus acidilactici (CNCM I-4622) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Danstar Ferment AG (y Swistir) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (newydd)
Atodiad E: RP140 – Sodiwm monensin a gynhyrchir o Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi, ieir sy’n cael eu magu i ddodwy, a thwrcïod i’w pesgi (Coxidin®) (Huvepharma NV) (adnewyddu ac addasu)
Atodiad F: RP141 – Sodiwm monensin wedi’i gynhyrchu o Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi a thwrcïod (Coxidin®) (Huvepharma NV) (adnewyddu ac addasu)
Atodiad G: RP142 – Sodiwm monensin wedi’i gynhyrchu o Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir sy’n cael eu magu i’w dodwy a thwrcïod sy’n cael eu magu ar gyfer bridio (Coxidin®) (Huvepharma NV) (defnydd newydd)
Atodiad H: RP185 – 6–ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir o Komagataella phaffii (Komagataella pastoris gynt) (DSM 23036) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth adar a phob mochyn (OptiPhos®) (Huvepharma EOOD) (adnewyddu, defnydd newydd)
Atodiad I: RP222 – Burum selenedig a gynhyrchir o Saccharomyces cerevisiae (CNCM I-3060), wedi’i ddadactifadu fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Iwerddon) Limited) (addasu)
Atodiad J: RP284 – Sodiwm monensin a gynhyrchir o Streptomyces cinneamonensis 28682 (NBIMCC 3419) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer twrcïod sy’n cael eu magu i’w bridio (Coxidin®) (Huvepharma NV) (defnydd newydd)
Atodiad K: RP641 – Bacillus velezensis (Bacillus subtilis C-3102 gynt) (DSM 15544) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer porchellod wedi’u diddyfnu a phob rhywogaeth o adar (Calsporin®) (Asahi Biocycle Co., Ltd) (adnewyddu, defnydd newydd ac addasu)
Atodiad L: RP1105 – L-histidin monohydroclorid monohydrad a gynhyrchir o Escherichia coli (KCCM 80212) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Daesang Europe BV) (newydd)
Atodiad M: RP1125 – L-tryptoffan a gynhyrchir o Escherichia coli (KCCM 80210) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Daesang Europe BV) (newydd)
Atodiad N: RP1126 – L-lysin sylffad a gynhyrchir o Corynebacterium glutamicum (KCCM 80227) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Daesang Europe B.V.) (newydd)
Atodiad O: RP1198 – Hydrocsyanisol wedi’i fwtyleiddio (BHA) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer cathod (FEDIAF) (newydd)
Atodiad P: RP1199 Rhan A – Sylfaen L-lysin (hylif) wedi’i gynhyrchu o Corynebacteriwm glutamicwm (KCCM 80183) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (CJ Europe GmbH) (newydd)
Atodiad Q: RP1199 Rhan B – L-lysin monohydroclorid (yn dechnegol pur) a gynhyrchir o Corynebacteriwm glutamicwm (KCCM 80183) fel bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (CJ Europe GmbH) (newydd)
Atodiad R: RP1200 – Disodiwm 5'-guanylad a gynhyrchir o Corynebacteriwm stationis (KCCM 10530) ac Escherichia coli (KFCC 11067) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (CJ Europe GmbH) (newydd)
Atodiad S: RP1259 – Muramidas (EC 3.2.1.17) a gynhyrchir o Trichoderma reesei (DSM 32338) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer porchellod wedi’u diddyfnu (Balancius®) (DSM Nutritional Products Ltd) (defnydd newydd)
Atodiad T: RP1349 – Ffytomenadion (fitamin K1) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ceffylau (JARAZ Enterprises GmbH & Co. KG) (newydd)
Atodiad U: RP1386 – Celad copr o analog hydrocsi o fethionin fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Novus Europe NV) (adnewyddu ac addasu)
Atodiad V: RP1387 – Celad manganîs o analog hydrosci o fethionin fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Novus Europe NV) (adnewyddu ac addasu)
Atodiad W: RP1388 – Celad sinc o analog hydrocsi o fethionin fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Novus Europe NV) (adnewyddu ac addasu)
Atodiad X: RP1591 – Fumonisin esteras (EC 3.1.1.87) a gynhyrchir o Komagataella phaffii (DSM 32159) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth (DSM Nutritional Products Ltd, y Swistir) (defnydd newydd)
Atodiad Y: RP1654 – Newid gweinyddol i ddeiliad awdurdodiad (Evonik Operations GmbH) (addasu)
Atodiad Z: RP658 – Addasu cofnod rhif 60 o reoliad PARNUT, ‘Lleihau’r risg o dwymyn llaeth a hypocalcaemia isglinigol’ fel bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol ar gyfer buchod godro (Prince Agri Products, Inc) (addasu)
Effeithiau
Fel rhan o’r broses dadansoddi risg, mae’r ASB/FSS wedi asesu’r effeithiau posib pe bai gweinidogion yn penderfynu awdurdodi’r ceisiadau bwyd anifeiliaid hyn. Ni wnaeth ein hasesiad ar y cyd o’r cynigion nodi unrhyw effeithiau sylweddol. Roedd yr effeithiau a ystyriwyd yn cynnwys y rheiny a gafodd eu nodi amlaf fel effeithiau posib wrth gyflwyno neu ddiwygio cyfraith bwyd anifeiliaid (er enghraifft, gwaith gweithredu awdurdodau lleol, iechyd, yr amgylchedd, twf, arloesi, masnach, cystadleuaeth, buddiannau defnyddwyr, neu fusnesau bach a micro).Yn gyffredinol, dylai awdurdodi’r cynhyrchion hyn arwain at fwy o gystadleuaeth yn y farchnad, gan gefnogi twf ac arloesi yn y sector.
Yn unol â’r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, mae Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan yn llawn yn y prosesau dadansoddi risg sy’n ymwneud â diogelwch bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn adlewyrchu rôl annatod Gogledd Iwerddon yn y DU ac yn sicrhau bod unrhyw benderfyniad a wneir yn ystyried yn llawn yr effeithiau posib ar y DU yn ei chyfanrwydd.
Yr effaith o ran Gogledd Iwerddon
Mae Fframwaith Windsor wedi sefydlu cynllun symud nwyddau manwerthu newydd yng Ngogledd Iwerddon er mwyn hwyluso symud nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr terfynol o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon. Mae’r cynllun yn cynnwys rhai bwydydd anifeiliaid anwes. Ni fyddai PARNUTs nac ychwanegion bwyd anifeiliaid, p’un a ydynt yn cael eu defnyddio i gynhyrchu bwyd anifeiliaid cyfansawdd neu eu bwydo’n uniongyrchol i dda byw, yn bodloni’r diffiniad o nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr terfynol, ac felly ni fyddent yn gallu elwa ar y cynllun. Mae’r nwyddau hyn yn parhau i gydymffurfio â rheolau’r UE pan gânt eu rhoi ar farchnad Gogledd Iwerddon ac yn symud ar hyd y “lôn goch”. Lle mae awdurdodiad gwahanol yn bodoli yn yr UE, gellir dod o hyd i gynhyrchion ar farchnad Gogledd Iwerddon sy’n bodloni safonau gwahanol. Fodd bynnag, rydym yn hyderus bod y cynnyrch hwn yn ddiogel i ddefnyddwyr ledled y DU.
Yng Ngogledd Iwerddon, bydd ychwanegion bwyd anifeiliaid a ddefnyddir mewn nwyddau cymwys yn gallu cael eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, yn unol ag ymrwymiada llym y Llywodraeth i sicrhau mynediad dilyfethair Gogled Iwerddon at farchnad Prydain Fawr.
Ffactorau dilys eraill
Rydym wedi ystyried amrywiaeth o ffactorau dilys eraill yr hoffai gweinidogion eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am y ceisiadau hyn, gan gynnwys dichonoldeb gwleidyddol, economaidd, amgylcheddol, technegol a chymdeithasol, buddiannau defnyddwyr, ac ymddygiadau defnyddwyr. Ni nododd ein hasesiad ar y cyd o’r ffactorau dilys eraill unrhyw beth o bwys. Ar gyfer y ceisiadau yn yr ymgynghoriad hwn, gwnaethom gynnal asesiad ar y cyd o’r rhain, a nodwyd y canlynol:
Effeithiau masnach
Cais RP26 – Nid yw Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885), wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn cathod yn yr UE. Cafodd y dystiolaeth sydd ar gael ei hasesu gan yr ASB/FSS. Mae’n cefnogi argymell awdurdodi RP26 i’w ddefnyddio mewn cathod. Bydd gwahaniaeth rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon/UE a fydd yn golygu y bydd angen labelu gwahanol ar gyfer cynhyrchion a werthir ym Mhrydain Fawr a’r rhai a werthir yng Ngogledd Iwerddon/UE.
Cais RP140 ac RP284 – Mae’r ASB/FSS wedi asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ac yn cefnogi argymell adnewyddu ac addasu RP140 ac awdurdodi defnydd newydd (estyn rhywogaethau) ar gyfer sodiwm monensin RP284 a gynhyrchwyd o Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) (Coxidin®). Cyflwynwyd cais tebyg i’r UE, ac mae’n mynd rhagddo.
Cais RP141 ac RP142 – Mae’r ASB/FSS wedi asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ac yn cefnogi argymell adnewyddu ac addasu’r defnydd o RP141 ac awdurdodi sodiwm monensin RP142 a gynhyrchwyd o Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) (Coxidin®). Cyflwynwyd cais tebyg i’r UE, ac mae’n mynd rhagddo.
Cais RP222 – Burum selenedig Saccharomyces cerevisiae (CNCM I-3060), heb ei actifadu (rhif adnabod 3b810) a argymhellir ar gyfer awdurdodi cynnwys seleniwm (Se) o 2000 mg Se/kg i 3500 mg Se/kg. Addasiad o’r awdurdodiad ychwanegyn bwyd anifeiliaid presennol yw hwn.
Os caiff ei awdurdodi, byddai hyn yn wahanol i Reoliad Gweithredu (UE) 2022/1459, sy’n cynnwys dau gofnod ar gyfer yr awdurdodiad presennol sydd â chynnwys seleniwm o 2000 – 2400 mg Se/kg ac un ar gyfer awdurdodiad newydd sydd â chynnwys seleniwm o 3000 – 3500 mg Se/kg.
Cais RP25 – Mae’r ASB/FSS wedi asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ac yn cefnogi’r argymhelliad i awdurdodi RP25 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob moch heblaw hychod, porchellod sugno a phorchellod diddyfnu a phob rhywogaeth o foch llai. Cyflwynwyd cais tebyg i’r UE ac mae wedi'i gwblhau. Nid oedd y cais a ystyriwyd gan yr ASB/FSS yn gofyn i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn ar gyfer moch sugno.
Bwyd anifeiliaid / Gwaith gweithredu awdurdodau lleol
Mae ugain o’r pedwar ar hugain o geisiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid eisoes wedi’u hawdurdodi yn yr UE ac, os cânt eu hawdurdodi ym Mhrydain Fawr, byddant yn lleihau’r beichiau ar gyfer arolygiadau awdurdodau lleol a gwaith gorfodi mewn perthynas â’r ychwanegion bwyd anifeiliaid hyn. I’r gwrthwyneb, os yw Prydain Fawr yn awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid nad ydynt wedi’u hawdurdodi yn yr UE eto, gallai gwahaniaethau ychwanegu beichiau ar gyfer gwaith arolygu a gorfodi awdurdodau lleol hyd nes caiff yr ychwanegion bwyd anifeiliaid eu hawdurdodi yn yr UE. Mae hyn oherwydd yr ystod newydd o fformwleiddiadau stoc a fydd ar gael ym Mhrydain yn unig tan iddynt gael eu hawdurdodi yn yr UE. Mae’n bosib y bydd gwahaniaethau rhwng Prydain Fawr a’r UE yn golygu y bydd angen labelu gwahanol ar gyfer cynhyrchion a werthir ym Mhrydain Fawr i’r rhai a werthir yn yr UE.
Gwybodaeth atodol am ychwanegion bwyd anifeiliaid
Lle cyflwynwyd ceisiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd eisoes wedi’u hawdurdodi i’r UE erbyn y terfynau amser a nodir yn Rheoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ac na chafodd y penderfyniad ar adnewyddu’r awdurdodiad cyn y dyddiad dod i ben a nodwyd, bydd yr ychwanegion bwyd anifeiliaid yn aros ar y farchnad tan fod yr awdurdod priodol yn gwneud penderfyniad ynghylch adnewyddu. Mae “awdurdod priodol” yn golygu Gweinidogion Cymru yng Nghymru, yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr a Gweinidogion yr Alban yn yr Alban. Cyfeiriwch at Erthygl 14(4) o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 mewn perthynas ag adnewyddu awdurdodi am fwy o wybodaeth.
Caiff ychwanegion bwyd anifeiliaid eu dosbarthu o dan bum categori bras, fel yr amlinellir yn Erthygl 6 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003, a’i ddiffinio ymhellach ar gyfer swyddogaethau penodol yn Atodiad I o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003.
Dyma’r categorïau:
- Ychwanegion technolegol (er enghraifft, ychwanegion neu gyffeithyddion (preservatives) silwair)
- Ychwanegion synhwyraidd (lliwiau neu gyflasynnau)
- Ychwanegion maethol (er enghraifft, asidau amino ac elfennau hybrin)
- Ychwanegion Sootechnegol, i gyflawni swyddogaethau arbenigol (er enghraifft, gwella treuliadwyedd bwyd anifeiliaid)
- Cocsidiostatau a histomonostatau i reoli parasitiaid perfedd
Nodir micro-organebau (er enghraifft, bacteria, burum neu ffyngau) gan god adnabod unigryw sy’n ymwneud â’u dyddodiad i gasgliad o feithriniadau a gydnabyddir yn rhyngwladol; er enghraifft, y Casgliad Cenedlaethol o Facteria Diwydiannol, Bwyd a Morol yn y DU (NCIMB) neu Gasgliad America o Fathau o Feithriniadau (ATCC).
Gall ychwanegion bwyd anifeiliaid gael eu cynhyrchu o fathau o ficro-organebau a addaswyd yn enetig; fodd bynnag, ni chanfuwyd y straenau cynhyrchu a’u DNA yn yr ychwanegion bwyd anifeiliaid gorffenedig. O ganlyniad, nid oes angen yr amodau olrhain a bennir gan ddeddfwriaeth GMO ar yr ychwanegion bwyd anifeiliaid. Mae’r ceisiadau sydd wedi defnyddio straeniau GM wrth brosesu fel a ganlyn:
-
RP185, 6-ffytas (EC 3.1.3.26) wedi’i gynhyrchu o Komagataella phaffii (Komagataella pastoris gynt) (DSM 23036) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o adar a moch (OptiPhos®) (Huvepharma EOOD) (adnewyddu, defnydd newydd).
RP1105 – L-histidin monohydroclorid monohydrad a gynhyrchwyd o Escherichia coli (KCCM 80212) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Daesang Europe BV) (newydd)
RP1125 – L-tryptoffan wedi’i gynhyrchu o Escherichia coli (KCCM 80210) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Daesang Europe BV) (newydd)
RP1199 Rhan A – Sylfaen L-lysin (hylif) wedi’i gynhyrchu o Corynebacteriwm glutamicwm (KCCM 80183) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (CJ Europe GmbH) (newydd)RP1199 Rhan B – L-lysin monohydroclorid (yn dechnegol pur) wedi’i gynhyrchu o Corynebacteriwm glutamicwm (KCCM 80183) fel bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (CJ Europe GmbH) (newydd)
RP1259 – Muramidas (EC 3.2.1.17) wedi’i gynhyrchu o Trichoderma reesei (DSM 32338) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer porchellod wedi’u diddyfnu (Balancius®) (DSM Nutritional Products Ltd) (defnydd newydd)
RP1591 – Fumonisin esteras (EC 3.1.1.87) wedi’i gynhyrchu o Komagataella phaffii (DSM 32159) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth (DSM Nutritional Products Ltd, y Swistir) (defnydd newydd)
Caiff ychwanegion bwyd anifeiliaid eu bwriadu ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid, neu ar gyfer rhywogaethau mawr neu is-grwpiau diffiniedig (er enghraifft, dofednod neu ieir dodwy), fel y diffinnir yn Atodiad IV i Reoliad a gymathwyd (CE) 429/2008. Yn ogystal, gellir allosod grwpiau rhywogaethau i fân rywogaethau (er enghraifft, mân ddofednod fel hwyaid neu wyddau) neu grwpiau anifeiliaid eraill y gofynnir amdanynt yn y cais (er enghraifft, adar hela), fel y nodir yn Erthygl 7(5) o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003. Mae ‘mân rywogaeth’ yn cyfeirio at anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac eithrio gwartheg (anifeiliaid llaeth a chig, gan gynnwys lloi), defaid (anifeiliaid cig), moch, ieir (gan gynnwys ieir dodwy), tyrcwn a physgod sy’n perthyn i Salmonidae, fel y diffinnir yn Erthygl 1(2) o Reoliad a gymathwyd (CE) 429/2008.
Caiff anifeiliaid eu bwriadu ar gyfer eu bwyta’n uniongyrchol gan bobl (er enghraifft, moch i’w pesgi neu dyrcwn i’w pesgi), tra bod yna is-grwpiau anifeiliaid ychwanegol at ddibenion bridio yn unig nad ydynt wedi’u bwriadu i fynd yn uniongyrchol i’r gadwyn fwyd (er enghraifft, hychod ar gyfer atgenhedlu neu dyrcwn a fegir i’w bridio).
Wrth gyfeirio at fwyd anifeiliaid cyflawn yn y ddogfen hon, cyfeirir at yr hyn sy’n cyfateb i fwyd anifeiliaid cyfansawdd sydd, oherwydd ei gyfansoddiad, yn ddigonol ar gyfer dogn dyddiol yr anifeiliaid. Mae’r term hwn a ddefnyddir drwyddi draw wedi’i safoni i fwyd anifeiliaid cyflawn gyda chynnwys lleithder o 12%, a lle cyfeirir at isafswm ac uchafswm cynnwys ar y sail hon, oni nodir yn wahanol. Gall cynigion ar gyfer adnewyddu awdurdodiadau isod gynnwys gwybodaeth ychwanegol o gymharu â’r awdurdodiad cyfredol, nad yw, ynddo’i hun, yn gyfystyr ag addasu awdurdodiad. Er enghraifft, gellir disgrifio nodweddion yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn fwy penodol gan gyfeirio at baratoad solet neu gelloedd hyfyw, ond roeddent yn gymwys yn yr awdurdodiad cyfredol. Mae gwelliannau pellach i’r testun hefyd wedi’u safoni; er enghraifft labelu ar gyfer storio a sefydlogrwydd gwres (o dan yr adran ‘Darpariaethau eraill’).
Y Broses Ymgysylltu ac Ymgynghori
Cyhoeddir manylion yr holl geisiadau dilys am gynhyrchion rheoleiddiedig ar y Gofrestr Ceisiadau ar gyfer Cynhyrchion Rheoleiddiedig bob mis ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Gwahoddir rhanddeiliaid i ystyried y cwestiynau a ofynnir isod mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol a ffactorau dilys eraill.
Yn dilyn y broses ymgynghori, bydd ymatebion yn cael eu cyhoeddi, a byddant ar gael i randdeiliaid a gweinidogion.
Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn:
- A oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch yr ychwanegion bwyd anifeiliaid hyn sydd heb gael eu hystyried isod mewn perthynas â’r rhywogaethau anifeiliaid, y defnyddwyr (o ran defnyddio cynhyrchion anifeiliaid), y gweithwyr neu’r effeithiau amgylcheddol bwriadedig?
- O ran RP1105 L-histidin monohydroclorid monohydrad a gynhyrchwyd o Escherichia coli (KCCM 80212) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid a RP1125 L-tryptoffan a gynhyrchwyd o Escherichia coli (KCCM 80210) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid: A oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch a ddylid cynnwys unrhyw labelu yn y telerau awdurdodi mewn perthynas â photensial llwch y cynhyrchion a’r crynodiad endotocsin posib yn y llwch, a’r risg cysylltiedig i weithwyr sy’n trin y cynnyrch wrth anadlu’r llwch i mewn, neu a yw hyn wedi’i gynnwys yn ddigonol yn y ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch bresennol?
- A oes gennych unrhyw sylwadau neu bryderon am yr effeithiau wrth ystyried awdurdodi, neu beidio ag awdurdodi, yr ychwanegion bwyd anifeiliaid unigol, ac os ydych o blaid awdurdodi, delerau arfaethedig awdurdodi’r ychwanegion bwyd anifeiliaid (fel y’u hamlinellir yn yr ymgynghoriad hwn)?
- A oes gennych unrhyw sylwadau ar y trefniadau trosiannol arfaethedig ar gyfer:
- RP185 – 6-ffytas (EC 3.1.3.26)
RP222 – Burum wedi’i seleneiddio Saccharomyces Cerevisiae (CNCM I-3060), heb ei actifadu
RP641 – Bacillus velezensis (DSM 15544)
RP1198 – Hydrocsyanisol wedi’i fwtyleiddio (BHA)
RP1386 – Celad copr o analog hydrocsi o fethionin
RP1387 – Celad manganîs o hydrocsi analog o fethionin
RP1388 – Celad sinc o analog hydrocsi o fethionin a gynhyrchir gan Novus Europe NV. - Neu a oes angen darpariaethau trosiannol ar unrhyw geisiadau eraill yn yr ymgynghoriad hwn.
5. A oes unrhyw ffactorau eraill y dylai Gweinidogion eu hystyried nad ydynt wedi’u hamlygu eto?
6. A oes gennych chi unrhyw adborth arall? Ystyriwch unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol a ffactorau dilys eraill a allai gefnogi proses dadansoddi risg glir, resymegol a chyfiawnadwy.
Ymatebion
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para am 8 wythnos. Mae angen cyflwyno ymatebion erbyn canol nos, 17 Mehefin 2024.
Sut i ymateb
Dylech ymateb i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r arolwg ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i: RPconsultations@food.gov.uk.
Nodwch pa gais/ceisiadau neu gynnyrch/cynhyrchion rydych chi’n ymateb yn eu cylch trwy ddefnyddio’r llinell bwnc ganlynol ar gyfer eich ymateb: Ymateb i ymgynghoriad ychwanegion bwyd anifeiliaid [nodwch rif(au) y cynnyrch rheoleiddiedig].
Os ydych yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.
Dylid anfon ymatebion o Gymru gan ddefnyddio’r camau uchod. Caiff yr holl sylwadau sy’n dod i law eu rhannu â’r ASB yng Nghymru.
Bydd yr ASB yn cyhoeddi’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad hwn ar ei gwefan o fewn 12 wythnos ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.
I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau.
Bydd yr ymatebion yn cael eu rhannu â gweinidogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
Mwy o wybodaeth
Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, ffoniwch ein llinell gymorth: 0330 332 7148 rhwng 9.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu gyflwynwch ymholiad ar-lein ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi.
Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.
Yn gywir,
Y Tîm Cymeradwyo Cynhyrchion Rheoleiddiedig
Gwasanaethau Rheoleiddiedig
Atodiad A-H: RP24 RP25, RP26, RP29, RP140, RP141, RP142, RP185
Atodiad A: RP24 – Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer porchellod wedi’u diddyfnu (Biosprint®) (Prosol SpA) (adnewyddu)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 14 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP24 ar gyfer Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) (Biosprint®) i adnewyddu ei awdurdodiad fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid sootechnegol, o dan y grŵp swyddogaethol ‘sefydlogwyr fflora’r perfedd’. Swyddogaeth ychwanegion bwyd anifeiliaid o'r fath yw cael effaith gadarnhaol ar ficro-organebau'r perfedd i gynnal iechyd a pherfformiad anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i adnewyddu’r awdurdodiad ychwanegion bwyd anifeiliaid ar gyfer porchellod wedi’u diddyfnu.
Cynigir yr ychwanegyn Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) ar lefel o 1 x 10 9 o unedau ffurfio cytref (CFU)/g o leiaf. O dan yr awdurdodiad hwn, mae’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn cael ei farchnata mewn dwy ffurf, sef Biosprint® S ar ffurf sfferig a Biosprint® G ar ffurf ronynnog.
Mae Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) wedi’i awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- Porchellod wedi’u diddyfnu (Rheoliad a gymathwyd (UE) 170/2011)
Hychod (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/1094)
Gwartheg godro a cheffylau (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/1096)
Mân rywogaethau o anifeiliaid cnoi cil ar gyfer pesgi a chynhyrchu llaeth (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2016/104)
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885), fel y’i disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac iechyd pobl o dan yr amodau defnydd arfaethedig.
Mae argymhellion rheoli risg yr ASB/FSS, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnydd arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
- Argymhellion Rheoli Risg yr ASB/FSS
- Asesiad Diogelwch RP24-25-26 Saccharomyces Cerevisiae (MUCL39885)
Atodiad B: RP25 – Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer moch o bob math a phob mân rywogaeth o foch ac eithrio hychod a phochellod (sugno a diddyfnu) (Biosprint®) (Prosol S.p.A) (defnydd newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP25 ar gyfer Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) (Biosprint ®) i’w awdurdodi at ddefnydd newydd fel ychwanegyn sootechnegol o dan y grŵp swyddogaethol o ‘sefydlwyr fflora’r perfedd’. Swyddogaeth ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath yw cael effaith gadarnhaol ar ficro-organebau’r perfedd i gynnal iechyd a pherfformiad anifeiliaid.
Caniateir yr ychwanegyn hwn eisoes ar gyfer hychod a phorchellod wedi’u diddyfnu. Gofynnodd yr ymgeisydd am awdurdodiad ychwanegol ar gyfer moch o bob math (ac eithrio hychod, porchellod wedi’u diddyfnu a phorchellod sugno a mân rywogaethau o foch) ar y lleiafswm arfaethedig o 3 x 109 o unedau ffurfio cytrefi (CFU)/g. Gwnaeth yr asesiad diogelwch ystyried y dystiolaeth a oedd ar gael, gan gynnwys allosod o’r defnyddiau presennol mewn hychod a’r farn oedd bod y dystiolaeth yn cefnogi defnydd o’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn y categorïau fel a ganlyn:
- Ar gyfer moch o bob math (ac eithrio moch sugno, hychod a moch ar gyfer atgenhedlu) 3 x 109 CFU/kg
Ar gyfer moch o bob math at ddibenion atgenhedlu ac eithrio hychod: 6.4 x 109 CFU/kg
O dan yr awdurdodiad hwn, mae’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn cael ei farchnata mewn dwy ffurf, sef Biosprint® S ar ffurf sfferig a Biosprint® G ar ffurf ronynnog.
Mae Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) wedi’i awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- Porchellod wedi’u diddyfnu (Rheoliad 170/2011)
Hychod (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/1094)
Gwartheg a cheffylau godro (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/1096)
Mân rywogaethau cnoi cil ar gyfer pesgi a chynhyrchu llaeth (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2016/104)
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885), fel y’i disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac iechyd pobl o dan yr amodau defnydd arfaethedig.
Mae argymhellion rheoli risg yr ASB/FSS, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnydd arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd, i’w gweld ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
- Argymhelliad Rheoli Risg yr ASB/FSS
- Asesiad Diogelwch RP24-25-26 Saccharomyces Cerevisiae (MUCL39885)
Atodiad C: RP26 – Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer cathod a chŵn. (Biosprint®) (Prosol S.p.A) (defnydd newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP26 ar gyfer Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) (Biosprint®) i’w awdurdodi at ddefnydd newydd fel ychwanegyn sootechnegol o dan y grŵp swyddogaethol ‘sefydlogwyr fflora’r perfedd’. Swyddogaeth ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath yw cael effaith gadarnhaol ar ficro-organebau’r perfedd i gynnal iechyd a pherfformiad anifeiliaid.
Cynigir yr ychwanegyn Sacaromyces cerevisiae (MUCL 39885) ar lefel o 1 x 10 9 o unedau ffurfio cytref (CFU)/g o leiaf ar gyfer cathod a chŵn. O dan yr awdurdodiad hwn, mae’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn cael ei farchnata mewn dwy ffurf, sef Biosprint® S ar ffurf sfferig a Biosprint® G ar ffurf ronynnog.
Mae Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885) wedi’i awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- Porchellod wedi’u diddyfnu (Rheoliad a gymathwyd (UE) 170/2011)
- Hychod (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/1094)
- Gwartheg a cheffylau godro (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/1096)
- Mân rywogaethau cnoi cil ar gyfer pesgi a chynhyrchu llaeth (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2016/104)
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod Saccharomyces cerevisiae (MUCL 39885), fel y’i disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac iechyd pobl o dan yr amodau defnydd arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS a manylion y telerau defnydd arfaethedig o’r ychwanegion bwyd anifeiliaid i’w gweld ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
- Argymhelliad Rheoli Risg yr ASB/FSS
- Safety Assessment RP24-25-26 Saccharomyces Cerevisiae (MUCL39885)
Atodiad D: RP29 – Paratoad Pediococcus acidilactici (CNCM I-4622) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Danstar Ferment AG, y Swistir) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP29 ar gyfer paratoi Pediococcus acidilactici (CNCM I-4622) ar gyfer awdurdodiad newydd fel ychwanegyn technolegol o dan y grwpiau swyddogaethol ‘rheolyddion asidedd’ a ‘chyfoethogi cyflwr hylendid’. Swyddogaeth ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath yw addasu pH bwyd anifeiliaid a chynyddu crynodiad asid lactig mewn bwyd anifeiliaid yn y drefn honno.
Cynigir defnyddio’r ychwanegyn Pediococcus acidilactici (CNCM I-4622) ar lefel o 1 x 10 9 (unedau ffurfio cytrefi (CFU)/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn gyda chynnwys lleithder o 12%) o leiaf ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid.
Pediococcus acidilactici (CNCM I-4622) is currently authorised for use in feed for:
- Pob rhywogaeth o foch ar gyfer pesgi a bridio, ac eithrio hychod; pob rhywogaeth o adar fel sefydlogwr fflora’r perfedd (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/151)
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod Pediococcus acidilactici (CNCM I-4622), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac iechyd pobl o dan yr amodau defnydd arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS a manylion y telerau defnydd arfaethedig o’r ychwanegion bwyd anifeiliaid i’w gweld ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
Atodiad E: RP140 – Sodiwm monensin a gynhyrchir o Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi, ieir sy’n cael eu magu i ddodwy, a thwrcïod i’w pesgi (Coxidin®) (Huvepharma NV) (adnewyddu ac addasu)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 13 ac Erthygl 14 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP140 ar gyfer sodiwm monensin (cludwr: perlit, calsiwm carbonad) a gynhyrchir trwy eplesu â Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) (Coxidin®) er mwyn adnewyddu ei awdurdodiad fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid coccidiostat a histomonostat, ac er mwyn addasu’r cyfnod diddyfnu (withdrawal period) ar gyfer ieir a gedwir i’w pesgi ac i ddodwy. Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw cynnal iechyd anifeiliaid trwy reoli heintiau yn y perfedd (hynny yw, cocsidiosis a achosir gan brotosoa/parasitiaid, e.e. rhywogaethau Eimeria).
Cynigir defnyddio sodiwm monensin (Coxidin®), sy’n defnyddio perlit a chalsiwm carbonad fel cludwyr, ar lefel cynhwysiant o 100 – 125 mg/kg mewn ieir i’w pesgi ac ieir sy’n cael eu magu i ddodwy hyd at 16 wythnos oed, ac ar lefel cynhwysiant o 60 – 100 mg/kg mewn twrcïod i’w pesgi hyd at 16 wythnos oed.
Mae perlit yn bresennol yn y sylwedd gweithredol o’i ddefnydd fel cymhorthyn hidlo ac ychwanegir calsiwm carbonad ato fel cludwr i safoni’r deunydd. Yn yr awdurdodiad gwreiddiol, cyfeiriwyd at berlit yn flaenorol fel cyfansoddyn; felly rydym yn parhau â’r dull hwn yn yr ymgynghoriad hwn.
Ar hyn o bryd, mae sodiwm monensin (Coxidin®) wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- ieir sy’n cael eu magu i ddodwy (Rheoliad a gymathwyd (UE) 140/2012)
ieir i’w pesgi a thwrcïod (Rheoliad a gymathwyd (CE) 109/2007)
Yn arbennig o berthnasol, diwygiwyd awdurdodiad sodiwm monensin (Coxidin®) ar gyfer ieir i’w pesgi a thwrcïod gan Reoliad a gymathwyd (CE) 1095/2008, a chyflwynodd y Rheoliad hwn uchafswm terfynau gweddillion mewn cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid. Diwygiwyd yr awdurdodiad ymhellach gan Reoliad a gymathwyd (UE) 495/2011 mewn perthynas â chyfansoddiad yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid.
Mae cais ar wahân, RP284, wedi’i gyflwyno ar gyfer defnydd newydd ar gyfer twrcïod sy’n cael eu magu i’w bridio, sy’n cynnal yr un sylwedd gweithredol, nodweddion a swyddogaeth fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod sodiwm monensin a gynhyrchir o Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Gofynnodd yr ymgeisydd am leihad yn y cyfnod diddyfnu o 1 diwrnod i 0 diwrnod ar gyfer ieir i’w pesgi ac ar gyfer dodwy. Mae rheolwyr risg wedi ystyried yr asesiad diogelwch ac adran 5 o’r Canllawiau ar asesu diogelwch ychwanegion bwyd anifeiliaid ar gyfer defnyddwyr sy’n nodi bod diddyfniad arbrofol hyd at 12 awr yn cael ei ystyried yn ddiddyfniad ‘dim diwrnod’ ymarferol, ac maent yn argymell gostyngiad yn unol â chais yr ymgeisydd gan ymestyn yr argymhelliad hwn i dwrcïod i’w pesgi a’u bridio.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Atodiad F: RP141 – Sodiwm monensin wedi’i gynhyrchu o Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi a thwrcïod (Coxidin®) (Huvepharma NV) (adnewyddu ac addasu)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 13 ac Erthygl 14 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP141 ar gyfer sodiwm monensin (cludwr: perlit, bran gwenith) a gynhyrchir trwy eplesu â Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) (Coxidin®) er mwyn adnewyddu ei awdurdodiad fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid coccidiostat a histomonostat, ac er mwyn addasu’r cyfnod diddyfnu ar gyfer ieir sy’n cael eu cadw i’w pesgi. Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw cynnal iechyd anifeiliaid trwy reoli heintiau yn y perfedd, hynny yw, cocsidiosis a achosir gan brotosoa/parasitiaid (e.e. rhywogaethau Eimeria).
Cynigir defnyddio sodiwm monensin (Coxidin®), sy’n defnyddio perlit a bran gwenith fel cludwr, ar lefel cynhwysiant o 100 – 125 mg/kg mewn ieir i’w pesgi, ac ar lefel cynhwysiant o 100 – 16 mg/kg mewn twrcïod i’w pesgi hyd at 16 wythnos oed.
Mae perlit yn bresennol yn y sylwedd gweithredol o’i ddefnydd fel cymhorthyn hidlo ac ychwanegir bran gwenith ato fel cludwr i safoni’r deunydd. Yn yr awdurdodiad gwreiddiol, cyfeiriwyd at berlit yn flaenorol fel cyfansoddyn; felly rydym yn parhau â’r dull hwn yn yr ymgynghoriad hwn.
Ar hyn o bryd, mae sodiwm monensin (Coxidin®) wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- ieir i’w pesgi a thwrcïod (Rheoliad a gymathwyd (CE) 109/2007)
Yn arbennig o berthnasol, diwygiwyd awdurdodiad sodiwm monensin (Coxidin®) ar gyfer ieir i’w pesgi a thwrcïod gan Reoliad a gymathwyd (CE) 1095/2008, a chyflwynodd y Rheoliad hwn uchafswm terfynau gweddillion mewn cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid. Diwygiwyd yr awdurdodiad ymhellach gan Reoliad a gymathwyd (UE) 495/2011 mewn perthynas â chyfansoddiad yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod sodiwm monensin (Coxidin®), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Gofynnodd yr ymgeisydd am leihad yn y cyfnod diddyfnu o 1 diwrnod i 0 diwrnod. Mae rheolwyr risg wedi ystyried yr asesiad diogelwch ac adran 5 o’r Canllawiau ar asesu diogelwch ychwanegion bwyd anifeiliaid ar gyfer defnyddwyr sy’n nodi bod diddyfniad arbrofol hyd at 12 awr yn cael ei ystyried yn ddiddyfniad ‘dim diwrnod’ ymarferol, ac maent yn argymell gostyngiad yn unol â chais yr ymgeisydd gan ymestyn yr argymhelliad hwn i dwrcïod i’w pesgi a’u bridio.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Atodiad G: RP142 – Sodiwm monensin wedi’i gynhyrchu o Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir sy’n cael eu magu i’w dodwy a thwrcïod sy’n cael eu magu ar gyfer bridio (Coxidin®) (Huvepharma NV) (defnydd newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP142 ar gyfer sodiwm monensin (cludwr: perlit, bran gwenith) a gynhyrchir trwy eplesu â Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) (Coxidin®) er mwyn awdurdodi defnydd newydd (ymestyn rhywogaethau) ar ei gyfer fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid coccidiostat a histomonostat. Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw cynnal iechyd anifeiliaid trwy reoli heintiau yn y perfedd (hynny yw, cocsidiosis a achosir gan brotosoa/parasitiaid, e.e. rhywogaethau Eimeria).
Cynigir defnyddio sodiwm monensin (Coxidin®), sy’n defnyddio perlit a bran gwenith fel cludwr, ar lefel cynhwysiant o 100 – 125 mg/kg mewn ieir sy’n cael eu magu i ddodwy hyd at 16 wythnos oed, ac ar lefel cynhwysiant o 60 – 100 mg/kg mewn twrcïod sy’n cael eu magu i’w bridio hyd at 16 wythnos oed.
Mae perlit yn bresennol yn y sylwedd gweithredol o’i ddefnydd fel cymhorthyn hidlo ac ychwanegir bran gwenith ato fel cludwr i safoni’r deunydd. Yn yr awdurdodiad gwreiddiol, cyfeiriwyd at berlit yn flaenorol fel cyfansoddyn; felly rydym yn parhau â’r dull hwn yn yr ymgynghoriad hwn.
Ar hyn o bryd, mae sodiwm monensin (Coxidin®) wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- ieir i’w pesgi a thwrcïod (Rheoliad a gymathwyd (CE) 109/2007)
Mae’r ymgeisydd wedi gofyn am gael ymestyn y defnydd o ‘ieir i’w pesgi’ a ‘thwrcïod i’w pesgi’ i gynnwys ‘ieir sy’n cael eu magu i ddodwy’ a ‘thwrcïod sy’n cael eu magu i’w bridio’, gan fwriadu ehangu’r cais adnewyddu ar gyfer cais RP141. Er bod Rheoliad y Comisiwn a gymathwyd (CE) Rhif 109/2007 yn cyfeirio’n syml at dwrcïod, yn ymarferol mae hyn yn golygu ‘twrcïod i’w pesgi’.
Yn arbennig o berthnasol, diwygiwyd awdurdodiad sodiwm monensin (Coxidin®) ar gyfer ieir i’w pesgi a thwrcïod gan Reoliad a gymathwyd (CE) 1095/2008, a chyflwynodd y Rheoliad hwn uchafswm terfynau gweddillion mewn cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid. Diwygiwyd yr awdurdodiad ymhellach gan Reoliad a gymathwyd (UE) 495/2011 mewn perthynas â chyfansoddiad yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod sodiwm monensin (Coxidin®), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Atodiad H: RP185 – 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir o Komagataella phaffii (Komagataella pastoris gynt) (DSM 23036) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o adar a phob mochyn (OptiPhos®) (Huvepharma EOOD) (adnewyddu, defnydd newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4, Erthygl 7, Erthygl 13 ac Erthygl 14 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP185 ar gyfer paratoi ensym 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir trwy eplesu â Komagataella phaffii (Komagataella pastoris gynt) (DSM 23036) er mwyn adnewyddu’r awdurdodiad ac awdurdodi defnydd newydd (ymestyn rhywogaethau) ar ei gyfer, gydag addasiad, fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid söotechnegol o dan y grŵp swyddogaethol o ‘ychwanegion gwella treuliadwyedd’. Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw gwella treuliadwyedd deietau anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o adar a phob mochyn.
Ar hyn o bryd, mae’r paratoad o 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir o K. phaffii (DSM 23036) (OptiPhos®) wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- ieir i’w pesgi, ieir sy’n cael eu magu i ddodwy, ieir dodwy, rhywogaethau adar eraill ac eithrio twrcïod i’w pesgi a thwrcïod sy’n cael eu magu i’w bridio, hychod, twrcïod i’w pesgi, twrcïod sy’n cael eu magu i’w bridio, moch i’w pesgi, porchellod (wedi’u diddyfnu) (weaned piglets) (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/2121)
- pysgod (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/2274)
Cynigir y bydd y defnydd newydd (allosod rhywogaethau) yn ymestyn i bob rhywogaeth o adar a phob mochyn.
Cynigir defnyddio’r ychwanegyn gyda gweithgarwch lleiaf o 4,000 OTU/g* ar ffurf solet ac 8,000 OTU/g ar ffurf hylifol.
* 1 OTU yw swm yr ensym sy’n cataleiddio rhyddhad un micromol o ffosffad anorganig y munud o 5.1 mM o sodiwm ffytad mewn pH 5.5 gyda byffer sitrad ar 37ºC, a fesurir fel y lliw cymhleth ffosfforws-molybdat glas ar 820nm.
Cyflwynir y cais hefyd er mwyn addasu enw’r cynnyrch awdurdodedig o ‘Komagataella pastoris’ i’r straen penodol ‘Komagataella phaffi’.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod 6-ffytas (EC 3.1.3.26), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar rywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
- Argymhellion rheoli risg yr ASB/FSS
- Asesiad diogelwch RP185 6-Ffytas o Komagataella Phaffii (DSM 23036)
Atodiadau I-Q: RP222, RP284, RP641, RP1105, RP1125, RP1126, RP1198, RP1199 Rhan A a Rhan B
Atodiad I: RP222 – Burum wedi’i seleneiddio (selenised) a gynhyrchir o Saccharomyces cerevisiae (CNCM I-3060), wedi’i anactifadu fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Ireland) Limited) (addasu)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 13 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP222 ar gyfer burum wedi’i seleneiddio a gynhyrchir o Saccharomyces cerevisiae (CNCM I-3060), sy’n anactifedig, er mwyn addasu ei awdurdodiad fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid maethol o dan y grŵp swyddogaethol o gyfansoddion elfennau hybrin (trace elements). Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw darparu microfaethynnau hanfodol ar gyfer deietau anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i addasu (cynyddu cynnwys seleniwm) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid. Yn benodol, gwnaed cais i godi cynnwys seleniwm (Se) o 2000 mg Se/kg i 3500 mg Se/kg.
Ar hyn o bryd, mae burum wedi’i seleneiddio a gynhyrchir o Saccharomyces cerevisiae (CNCM I-3060), sy’n anactifedig, wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- pob rhywogaeth o anifeiliaid (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2019/804)
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod burum wedi’i seleneiddio a gynhyrchir o Saccharomyces cerevisiae (CNCM I-3060), sy’n anactifedig, fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar bob rhywogaeth o anifeiliaid, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
- Argymhellion rheoli risg yr ASB/FSS
- Asesiad diogelwch RP222 Burum wedi’i Seleneiddio a gynhyrchir o Saccharomyces Cerevisiae (CNCM I-3060), sy’n anactifedig
Atodiad J: RP284 – Sodiwm monensin a gynhyrchir o Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer twrcïod sy’n cael eu magu i’w bridio (Coxidin®) (Huvepharma NV) (defnydd newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP284 ar gyfer sodiwm monensin (cludwr: perlit, calsiwm carbonad) a gynhyrchir trwy eplesu â Streptomyces cinnamonensis 28682 (NBIMCC 3419) (Coxidin®) er mwyn awdurdodi defnydd newydd (ymestyn rhywogaethau) ar ei gyfer fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid coccidiostat a histomonostat. Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw cynnal iechyd anifeiliaid trwy reoli heintiau yn y perfedd (hynny yw, cocsidiosis a achosir gan brotosoa/parasitiaid, e.e. rhywogaethau Eimeria).
Cynigir defnyddio sodiwm monensin, sy’n defnyddio calsiwm carbonad a pherlit fel cludwr, ar lefel cynhwysiant o 60 – 100 mg/kg mewn twrcïod sy’n cael eu magu i’w bridio hyd at 16 wythnos oed.
Mae perlit yn bresennol yn y sylwedd gweithredol o’i ddefnydd fel cymhorthyn hidlo ac yna ychwanegir calsiwm carbonad ato fel cludwr i safoni’r deunydd. Yn yr awdurdodiad gwreiddiol, cyfeiriwyd at berlit yn flaenorol fel cyfansoddyn; felly rydym yn parhau â’r dull hwn yn yr ymgynghoriad hwn.
Ar hyn o bryd, mae sodiwm monensin (Coxidin®) wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- ieir sy’n cael eu magu i ddodwy (Rheoliad a gymathwyd (UE) 140/2012)
- ieir i’w pesgi a thwrcïod (Rheoliad a gymathwyd (CE) 109/2007)
Mae’r ymgeisydd wedi gofyn am gael ymestyn y defnydd o ‘ieir i’w pesgi’ a ‘thwrcïod i’w pesgi’ i gynnwys ‘twrcïod sy’n cael eu magu i’w bridio’, gan fwriadu ehangu’r cais adnewyddu ar gyfer cais RP140. Er bod Rheoliad y Comisiwn a gymathwyd (CE) 109/2007 yn cyfeirio’n syml at dwrcïod, yn ymarferol mae hyn yn golygu ‘twrcïod i’w pesgi’.
Yn arbennig o berthnasol, diwygiwyd awdurdodiad Coxidin® ar gyfer ieir i’w pesgi a thwrcïod gan Reoliad a gymathwyd (CE) 1095/2008, a chyflwynodd y Rheoliad hwn uchafswm terfynau gweddillion mewn cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid. Diwygiwyd yr awdurdodiad ymhellach gan Reoliad a gymathwyd (UE) 495/2011 mewn perthynas â chyfansoddiad yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod sodiwm monensin (Coxidin®), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Atodiad K: RP641 – Paratoad o Bacillus velezensis (Bacillus subtilis C-3102 gynt) (DSM 15544) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer porchellod wedi’u diddyfnu a phob rhywogaeth o adar (Calsporin®) (Asahi Biocycle Co., Ltd) (adnewyddu, defnydd newydd ac addasu)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4, Erthygl 7, Erthygl 13 ac Erthygl 14 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP641 ar gyfer paratoad o Bacillus velezensis (Bacillus subtilis C-3102 gynt) (DSM 15544) (Calsporin®) er mwyn adnewyddu’r awdurdodiad, ei addasu, ac er mwyn awdurdodi defnydd newydd (allosod rhywogaethau) ar ei gyfer, a hynny fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid söotechnegol o dan y grŵp swyddogaethol o sefydlogwyr fflora’r perfedd. Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw cael effaith gadarnhaol ar ficro-organebau’r perfedd i gynnal iechyd a pherfformiad anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer porchellod wedi’u diddyfnu a phob rhywogaeth o adar.
Ar hyn o bryd, mae Bacillus velezensis (Bacillus subtilis C-3102 gynt) (DSM 15544) wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- ieir i’w pesgi (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2019/893)
- porchellod wedi’u diddyfnu (Rheoliad a gymathwyd (UE) 333/2010)
- ieir sy’n cael eu magu i ddodwy, twrcïod, mân rywogaethau adar, ac adar addurnol ac adar hela eraill (Rheoliad a gymathwyd (UE) 184/2011)
- ieir dodwy a physgod addurnol (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2016/897)
- hychod, porchellod sugno, cŵn (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/2312)
- moch i’w pesgi (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2018/1081)
Cynigir y bydd y defnydd newydd (allosod rhywogaethau) yn ymestyn i bob rhywogaeth o adar.
Yn ogystal, mae’r ymgeisydd yn gofyn am gael addasu’r awdurdodiad (yn unol ag Erthygl 13 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003) er mwyn gostwng y cynnwys lleiaf o 5 x 108 i 3 x 108 o unedau sy’n ffurfio cytref (CFU)/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn â chynnwys lleithder o 12% ar gyfer ieir sy’n cael eu magu i ddodwy ac er mwyn newid enw’r straen tacsonomig o Bacillus subtilis i Bacillus velezensis (DSM15544) (gyda’r olaf o’r ddau yn berthnasol i bob awdurdodiad presennol o’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn).
Mae’r ymgeisydd hefyd yn gofyn am gael diweddaru enw deiliad yr awdurdodiad o ‘Asahi Calpis Wellness Co. Ltd. (a gynrychiolir gan Pen & Tec Consulting S.L.U)’ i ‘Asahi Biocycle Co., Ltd, (a gynrychiolir gan Pen & Tec Consulting S.L.U., sydd bellach yn masnachu fel Argenta)’ ar gyfer pob awdurdodiad o’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod Bacillus velezensis (DSM 15544), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Atodiad L: RP1105 – L-histidin monohydroclorid monohydrad a gynhyrchir o Escherichia coli (KCCM 80212) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Daesang Europe B.V.) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1105 am awdurdodiad newydd ar gyfer L-histidin monohydroclorid monohydrad a gynhyrchir trwy eplesu ag Escherichia coli (KCCM 80212) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid maethol o dan y grŵp swyddogaethol o asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau. Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw darparu microfaethynnau hanfodol ar gyfer deietau anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid.
Cynigir defnyddio L-histidin monohydroclorid monohydrad a gynhyrchir trwy eplesu ag Escherichia coli (KCCM 80212) heb grynodiadau lleiaf nac uchaf o’r ychwanegyn.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod L-histidin monohydroclorid monohydrad, fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Atodiad M: RP1125 – L-tryptoffan a gynhyrchir o Escherichia coli (KCCM 80210) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Daesang Europe B.V.) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1125 am awdurdodiad newydd ar gyfer L-tryptoffan a gynhyrchir drwy eplesu ag Escherichia coli (KCCM 80210) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid maethol o dan y grŵp swyddogaethol o asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau. Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw darparu microfaethynnau hanfodol ar gyfer deietau anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid.
Cynigir defnyddio L-tryptoffan a gynhyrchir trwy eplesu ag Escherichia coli (KCCM 80210) heb grynodiadau lleiaf nac uchaf o’r ychwanegyn.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod L-tryptoffan, fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Atodiad N: RP1126 – L-lysin sylffad a gynhyrchir o Corynebacterium glutamicum (KCCM 80227) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Daesang Europe B.V.) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1126 am awdurdodiad newydd ar gyfer L-lysin sylffad a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80227) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid maethol o dan y grŵp swyddogaethol o asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau. Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw darparu microfaethynnau hanfodol ar gyfer deietau anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid.
Cynigir defnyddio L-lysin sylffad a gynhyrchir trwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80227) ar uchafswm o 10,000mg o ychwanegyn/kg o lysin mewn bwyd anifeiliaid cyflawn â chynnwys lleithder o 12%.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod L-lysin sylffad, fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl os defnyddir y crynodiadau arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
Atodiad O: RP1198 – Hydrocsyanisol wedi’i fwtyleiddio (BHA) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer cathod (FEDIAF) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1198 am awdurdodiad newydd ar gyfer Hydrocsyanisol wedi’i fwtyleiddio (BHA) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid technolegol o dan y grŵp swyddogaethol o wrthocsidyddion. Bwriedir i’r fath ychwanegion bwyd anifeiliaid ymestyn oes storio bwyd anifeiliaid trwy eu diogelu rhag dirywiad a achosir gan ocsideiddio.
Ar hyn o bryd, mae BHA wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- pob rhywogaeth o anifeiliaid ac eithrio cathod (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/1399)
Er bod yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn wedi’i awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio mewn cathod, caiff yr awdurdodiad hwn ei gynnal drwy Erthygl 10(1) a (3) o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 (yn unol â’r amodau a bennir yng Nghyfarwyddeb 70/524/EEC a’i mesurau gweithredu). Mae’r awdurdodiad ond yn cael ei gynnal wrth aros am y ddeddfwriaeth angenrheidiol o dan Erthygl 10(5) o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 sy’n mynnu bod yn rhaid ei dynnu oddi ar y farchnad. Mae’r cais hwn am awdurdodiad newydd wedi’i wneud yng ngoleuni’r ddeddfwriaeth sydd i ddod a grybwyllwyd uchod o dan Erthygl 10(5).
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod Hydrocsyanisol wedi’i fwtyleiddio (BHA), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
- Argymhellion rheoli risg yr ASB/FSS
- Asesiad diogelwch RP1198 Hydrocsyanisol wedi’i fwtyleiddio (BHA)
Atodiad P: RP1199 Rhan A – Sylfaen L-lysin (hylif) wedi’i gynhyrchu o Corynebacterium glutamicum (KCCM 80183) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (CJ Europe GmbH) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1199 Rhan A am awdurdodiad newydd ar gyfer sylfaen L-lysin (hylif) a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80183) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid maethol o dan y grŵp swyddogaethol o asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau. Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw darparu microfaethynnau hanfodol ar gyfer deietau anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid.
Cynigir defnyddio sylfaen L-lysin (hylif) a gynhyrchir trwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80183) heb grynodiadau lleiaf nac uchaf o’r ychwanegyn.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod sylfaen L-lysin (hylif), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Atodiad Q: RP1199 Rhan B – L-lysin monohydroclorid (technegol bur) a gynhyrchir o Corynebacterium glutamicum (KCCM 80183) fel bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (CJ Europe GmbH) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1199 Rhan B am awdurdodiad newydd ar gyfer L-lysin monohydroclorid (technegol bur) a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80183) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid maethol o dan y grŵp swyddogaethol o asidau amino, eu halwynau a’u hanalogau. Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw darparu microfaethynnau hanfodol ar gyfer deietau anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid.
Cynigir defnyddio L-lysin monohydroclorid (technegol bur) a gynhyrchir trwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80183) heb grynodiadau lleiaf nac uchaf o’r ychwanegyn.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod L-lysin monohydroclorid, fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Atodiadau R-Z: RP1200, RP1259, RP1349, RP1386, RP1387, RP1388, RP1591, RP1654, RP658
Atodiad R: RP1200 – Deusodiwm 5'-guanylad a gynhyrchir o Corynebacterium stationis (KCCM 10530) ac Escherichia coli (KFCC 11067) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (CJ Europe GmbH) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1200 am awdurdodiad newydd ar gyfer Deusodiwm 5'-guanylad a gynhyrchir drwy eplesu â Corynebacterium stationis (KCCM 10530) ac Escherichia coli (KFCC 11067) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid synhwyraidd o dan y grŵp swyddogaethol o gyfansoddion cyflasynnau. Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw cynyddu arogl neu flasusrwydd bwyd anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid.
Ar hyn o bryd, mae Deusodiwm 5'-guanylad (GMP) wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- pob rhywogaeth o anifeiliaid, lle caiff ei gynhyrchu gan hydrolysis asid riboniwcleig (RNA) (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2018/238)
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod Deusodiwm 5'-guanylad, fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Atodiad S: RP1259 – Muramidas (3.2.1.17) a gynhyrchir o Trichoderma reesei (DSM 32338) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer porchellod wedi’u diddyfnu (Balancius®) (DSM Nutritional Products Ltd) (defnydd newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1259 am awdurdodiad newydd ar gyfer Muramidas (3.2.1.17) a gynhyrchir drwy eplesu â Trichoderma reesei (DSM 32338) (Balancius®) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid söotechnegol o dan y grŵp swyddogaethol o ychwanegion söotechnegol eraill. Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw gwella effeithlonrwydd bwyd anifeiliaid a pherfformiad anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi defnydd newydd (ymestyn rhywogaethau) ar gyfer porchellod wedi’u diddyfnu. Mae’r ychwanegyn yn cael ei farchnata ar ffurf solid (GT) a hylif (L), ac fe’i cynigir gydag isafswm gweithgarwch o 60,000 LSU(F)/g*. Bwriedir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid gael ei ddefnyddio ar isafswm lefel o 50,000 LSU(F)/kg ac uchafswm o 65,000 LSU(F)/kg mewn bwyd anifeiliaid cyflawn â chynnwys lleithder o 12%.
Ar hyn o bryd, mae Muramidas (3.2.1.17) a gynhyrchir gan T. reesei (DSM 32338) (Balancius®, neu Lysozyme® gynt) wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- ieir i’w pesgi, mân rywogaethau o ddofednod i’w pesgi (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2019/805)
- ieir sy’n cael eu magu i’w bridio, twrcïod i’w pesgi, twrcïod sy’n cael eu magu i’w bridio, a rhywogaethau eraill o ddofednod sy’n cael eu magu i’w bridio (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/163)
* Diffinnir 1 LSU(F) fel swm yr ensym sy’n cynyddu fflworoleuedd 12.5 µg/ml o beptidoglycan a labelir â fflworoleuedd y funud ar pH 6.0 a 30°C yn ôl gwerth sy’n cyfateb i fflworoleuedd oddeutu 0.06 nmol o ismoer fflworesin isothiocyanad.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod Muramidas (EC 3.2.1.17), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Atodiad T: RP1349 – Phytomenadion (fitamin K1) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ceffylau (JARAZ Enterprises GmbH & Co. KG) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1349 am awdurdodiad newydd ar gyfer Phytomenadion (fitamin K1) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid maethol o dan y grŵp swyddogaethol o fitaminau, pro-fitaminau, a sylweddau sydd wedi’u diffinio’n fanwl yn gemegol sy’n cael effaith debyg. Swyddogaeth y fath ychwanegion yw darparu microfaethynnau hanfodol ar gyfer deietau anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ceffylau.
Cynigir defnyddio Phytomenadion (fitamin K1) heb grynodiadau lleiaf neu uchaf o’r ychwanegyn.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod Phytomenadion, fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Atodiad U: RP1386 – Celad copr o analog hydrocsi o fethionin fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Novus Europe NV) (adnewyddu ac addasu)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 13 ac Erthygl 14 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1386 ar gyfer celad copr o analog hydrocsi o fethionin er mwyn adnewyddu ac addasu ei awdurdodiad fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid maethol o dan y grŵp swyddogaethol o gyfansoddion elfennau hybrin (trace elements). Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw darparu microfaethynnau hanfodol ar gyfer deietau anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid.
Ar hyn o bryd, mae celad copr o analog hydrocsi o fethionin wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- pob rhywogaeth o anifeiliaid (Rheoliad a gymathwyd (UE) 349/2010)
Roedd y cais yn cyfeirio at addasiadau yn y broses weithgynhyrchu fel nad yw’r ychwanegyn yn cynnwys olew mwynol mwyach. O ganlyniad, cynigiodd yr ymgeisydd addasu’r fanyleb i adlewyrchu amrywioldeb y deunydd yn well. Mae’r rhif adnabod hefyd wedi’i ddiweddaru. Ni chynigir unrhyw newidiadau ar gyfer y crynodiadau uchaf o’r ychwanegyn sy’n benodol i’r rhywogaeth darged.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod celad copr o analog hydrocsi o fethionin, fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
- Argymhellion rheoli risg yr ASB/FSS
- Asesiad diogelwch RP1386 Celad Copr o Analog Hydrocsi o Fethionin
Atodiad V: RP1387 – Celad manganîs o analog hydrosci o fethionin fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Novus Europe NV) (adnewyddu ac addasu)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 13 ac Erthygl 14 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1387 ar gyfer celad manganîs o analog hydrocsi o fethionin er mwyn adnewyddu ei awdurdodiad fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid maethol o dan y grŵp swyddogaethol o gyfansoddion elfennau hybrin (trace elements). Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw darparu microfaethynnau hanfodol ar gyfer deietau anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid.
Ar hyn o bryd, mae celad manganîs o analog hydrosci o fethionin wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- pob rhywogaeth o anifeiliaid (Rheoliad a gymathwyd (UE) 350/2010)
Roedd y cais yn cyfeirio at addasiadau yn y broses weithgynhyrchu fel nad yw’r ychwanegyn yn cynnwys olew mwynol mwyach. O ganlyniad, cynigiodd yr ymgeisydd fanylebau newydd i adlewyrchu amrywioldeb y deunydd yn well. Mae dull(iau) dadansoddol wedi’u diweddaru i adlewyrchu technegau mwy modern fel y bo’n briodol. Mae’r rhif adnabod hefyd wedi’i addasu.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod celad manganîs o analog hydrosci o fethionin, fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
- Argymhellion rheoli risg yr ASB/FSS
- Asesiad diogelwch RP1387 Celad Manganîs o Analog Hydrocsi o Fethionin
Atodiad W: RP1388 – Sinc celad o analog hydrocsi o fethionin fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Novus Europe NV) (adnewyddu ac addasu)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 13 ac Erthygl 14 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1388 ar gyfer celad sinc o analog hydrocsi o fethionin er mwyn adnewyddu ac addasu ei awdurdodiad fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid maethol o dan y grŵp swyddogaethol o gyfansoddion elfennau hybrin (trace elements). Swyddogaeth y fath ychwanegion bwyd anifeiliaid yw darparu microfaethynnau hanfodol ar gyfer deietau anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid.
Ar hyn o bryd, mae celad sinc o analog hydrocsi o fethionin wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- pob rhywogaeth o anifeiliaid (Rheoliad a gymathwyd (UE) 335/2010)
Roedd y cais yn cyfeirio at addasiadau yn y broses weithgynhyrchu fel nad yw’r ychwanegyn yn cynnwys olew mwynol mwyach. O ganlyniad, cynigiodd yr ymgeisydd fanylebau newydd i adlewyrchu amrywioldeb y deunydd yn well. Mae’r rhif adnabod wedi’i addasu i adlewyrchu’r rhif yn yr UE o ran fformat.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod celad sinc o analog hydrocsi o fethionin, fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
- Argymhellion rheoli risg yr ASB/FSS
- Asesiad diogelwch RP1388 Celad Sinc o Analog Hydrocsi o Fethionin
Atodiad X: RP1591 – Ffwmonisin esteras (EC 3.1.1.87) a gynhyrchir o Komagataella phaffii (DSM 32159) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (DSM Nutritional Products Ltd, y Swistir) (defnydd newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 ac Erthygl 7 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1591 ar gyfer ffwmonisin esteras (EC 3.1.1.87) a gynhyrchir trwy eplesu â Komagataella phaffii (DSM 32159) er mwyn awdurdodi defnydd newydd (ymestyn rhywogaethau) ar ei gyfer fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid technolegol o dan y grŵp swyddogaethol o sylweddau ar gyfer lleihau halogiad bwyd anifeiliaid gan mycotocsinau: ffwmonisinau. Bwriedir i’r fath ychwanegion bwyd anifeiliaid leihau halogiad mycotocsin mewn bwyd anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid.
Ar hyn o bryd, mae ffwmonisin esteras (EC 3.1.1.87) a gynhyrchir drwy eplesu â K. phaffii (DSM 32159) wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- pob mochyn a phob rhywogaeth o ddofednod (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2018/1568)
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod Ffwmonisin esteras (EC 3.1.1.87), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Atodiad Y: RP1654 – Ecobiol® (Bacillus amyloliquefaciens CECT 5940) a Fecinor® (Enterococcus faecium CECT 4515) (Evonik Operations GmbH) (addasu) – diwygiadau gweinyddol i newid deiliad yr awdurdodiad
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 13 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1654 er mwyn gwneud diwygiadau gweinyddol i newid deiliad yr awdurdodiad. Mae’r diwygiadau gweinyddol y gofynnir amdanynt yn ymwneud ag awdurdodiadau cyfredol sy’n parhau i fod yn gymwys i Brydain Fawr.
Ar hyn o bryd, mae Enterococcus faecium (CECT 4515) wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- porchellod wedi’u diddyfnu (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/961)
Ar hyn o bryd, mae Bacillus amyloliquefaciens (CECT 5940) wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- ieir i’w pesgi ac ieir sy’n cael eu magu i ddodwy (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/1395)
Mae’r ymgeisydd yn gofyn am gael addasu awdurdodiadau er mwyn diwygio enw deiliad yr awdurdodiad o ‘Evonik Nutrition & Care GmbH’ i ‘Evonik Operations GmbH’.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS yn fodlon nad yw’r newidiadau gweinyddol yn gofyn am asesiadau newydd o’r ychwanegion.
Atodiad Z: RP658 – Addasu cofnod rhif 60 o reoliad PARNUT, ‘Lleihau’r risg o dwymyn llaeth a hypocalcaemia isglinigol’ fel bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol ar gyfer buchod godro (Prince Agri Products, Inc) (addasu)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad a gymathwyd (CE) 767/2009 ar fwyd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol (PARNUT), cyflwynir cais RP658 i addasu rhif cofnod 60 ‘Lleihau’r risg o dwymyn llaeth a hypocalcaemia isglinigol’ yn rhan B o’r atodiad i Reoliad a gymathwyd 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o ddefnyddiau arfaethedig ar gyfer bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol penodol (PARNUT).
Mae adran un o’r cofnod 60 presennol o Ran B o’r Atodiad i Reoliad a gymathwyd 2020/354 yn cynnwys y nodweddion maethol hanfodol canlynol:
Cymhareb catïonau/anionau isel
Ar gyfer y dogn cyfan:
- Isafswm asideiddio trwy fwyd anifeiliaid at ddiben maethol penodol: 100 mEq/kg o sylwedd sych
- Amcan: 0 < DCADs (mEq/kg o sylwedd sych) < 100
DCAD (mEq/kg o sylwedd sych) = (Na + K) – (Cl + S) Y cynnig newydd yw addasu hyn i ddarparu gwahaniaeth deietegol catïon-anion (DCAD) ar lefel isaf o -200 mEq/kg ac uchaf o 100mE/kg o sylwedd sych ar gyfer y dogn cyfan.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Mae’r ASB/FSS o’r farn bod addasu rhif cofnod 60 o Ran B o’r Atodiad i Reoliad a gymathwyd 2020/354, ‘Lleihau’r risg o dwymyn llaeth a hypocalcaemia isglinigol’, fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl os defnyddir y crynodiadau arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Hanes diwygio
Published: 19 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mai 2024