Hysbysiadau ar y Ffin
Gwybodaeth am yr Hysbysiadau ar y Ffin a'r Dangosfwrdd Hysbysiadau ar y Ffin, rhan o'r system IPAFFS, sy'n manylu ar wiriadau mewnforio a mesurau diogelu iechyd y cyhoedd ynghylch diogelwch bwyd ar ffin Prydain Fawr.
Mae’r data ar gyfer Hysbysiadau ar y Ffin yn ymwneud â mewnforion sydd wedi methu gwiriadau diogelwch bwyd ar ffin Prydain Fawr. Cofnodir methiannau o’r fath ar y Dangosfwrdd ar gyfer Hysbysiadau ar y Ffin, sef modiwl a adeiladwyd o fewn IPAFFS (System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid). Cyflwynir y data hwn gan yr Awdurdod Iechyd Porthladdoedd (PHA), ac mae’n hysbysu’r ASB am lwythi a fewnforir a allai beri risgiau i iechyd y cyhoedd ym Mhrydain Fawr.
Mae’r data a gyhoeddir yn grynodeb o’r wybodaeth a gaiff ei chasglu drwy’r system Hysbysiadau ar y Ffin. Mae hyn yn cynnwys pryd y codwyd yr Hysbysiad ar y Ffin gan yr Awdurdod Iechyd Porthladdoedd ar IPAFFS; y wlad y mae’r llwyth yn tarddu ohoni; manylion y cynnyrch a’r categori perygl fel y’u rhestrir gan yr Awdurdod Iechyd Porthladdoedd; a yw’r nwydd yn cael ei reoli gan ddeddfwriaeth; y math o lwyth; a’r math o fethiant. Mae’r ASB yn rhoi crynodeb o’r rheswm dros y methiant, ac os nad oes gwybodaeth ar gael fe’i dynodir gan ‘NA’.
Mae gwiriadau ar fwyd ar yr adeg y caiff ei fewnforio ar waith er mwyn rheoli’r risgiau i iechyd pobl ac anifeiliaid. Mae’r Awdurdod Iechyd Porthladdoedd yn cynnal gwiriadau ar lwythi bwyd a bwyd anifeiliaid ar sail risg, er mwyn:
- sicrhau mai dim ond cynhyrchion sy’n ddiogel i’w bwyta sy’n cael eu rhoi ar farchnad Prydain Fawr
- diogelu iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd
- gwirio cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Prydain Fawr
Mae Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd yn gyfrifol am fonitro bwyd a fewnforir, a diogelwch y bwyd hwnnw. Fodd bynnag, mae mewnforwyr yn gyfrifol am sicrhau bod cynhyrchion yn ddiogel a’u bod yn bodloni gofynion diogelwch bwyd Prydain Fawr.
Er y gellir cynnal gwiriadau ar unrhyw lwyth bwyd a fewnforir o drydydd gwledydd, penderfynir ar y gwiriadau gwirioneddol a gynhelir ar sail risg. Ar gyfer cynhyrchion y nodwyd eu bod yn peri risg uchel, mae rheolaethau iechyd arbennig ar waith, a rhaid rhoi gwybod ymlaen llaw am fewnforion ar IPAFFS i’r Safle Rheoli ar y Ffin perthnasol os yw’r llwyth am gyrraedd Prydain Fawr. Yn ogystal, rhaid i rai cynhyrchion risg uchel ddod gyda dogfennaeth benodol ac ardystiad iechyd allforio i ddangos bod amodau mewnforio wedi’u bodloni.
Mae tair lefel o wiriadau a gynhelir gan Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, sef:
- gwiriadau dogfennol – mae’r dystysgrif iechyd allforio ac unrhyw ganlyniadau profion labordy cysylltiedig yn cael eu gwirio i sicrhau dilysrwydd a chaiff y rhain eu croesgyfeirio â manylion y dogfennau masnachol i sicrhau eu bod yn ymwneud â’r llwyth
- gwiriadau hunaniaeth – mae hyn yn cynnwys archwilio’r llwyth i sicrhau bod y nwyddau’n cyd-fynd â’r wybodaeth ar yr ardystiad, y labelu a’r nodau iechyd
- gwiriadau ffisegol – mae hyn yn cynnwys archwilio’r cynnyrch i sicrhau ei fod yn ddiogel i’w fwyta ac i sicrhau mai’r un yw’r cynnyrch â’r hynny a ardystiwyd. Lle bo’n briodol, bydd hefyd yn cynnwys asesiad organoleptig a chymerir samplau i’w dadansoddi mewn labordy
Er bod yr ASB yn darparu canllawiau ar yr hyn i’w samplu drwy’r Cynllun Monitro Cenedlaethol, yr Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd sy’n cyfarwyddo’r gwaith hyn ac mae hyn yn gallu arwain at amrywiadau mewn patrymau samplu a sbarduno Hysbysiadau ar y Ffin.