Gwyddoniaeth a thystiolaeth
Mae’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf yn sylfaen i’n gwaith.
Mae’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf yn sylfaen i’n gwaith.
Wrth wraidd cenhadaeth yr ASB, sef bwyd y gallwch ymddiried ynddo, mae ein hegwyddor arweiniol sy’n nodi bod ein gwaith yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth. Mae hyn yn golygu bod y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf yn sail i’n holl gyngor a phenderfyniadau, gan gynnwys polisi bwyd ac awdurdodiadau cynhyrchion. Rydym yn cyhoeddi hyn oll yn agored.
Rydym yn defnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth i weithredu ar heriau heddiw, i nodi a mynd i’r afael â risgiau sy’n dod i’r amlwg, ac i sicrhau bod fframwaith rheoleiddio bwyd y DU yn fodern, yn ystwyth ac yn cynrychioli buddiannau defnyddwyr. Rydym yn gynhyrchwyr tystiolaeth ac yn gydweithwyr sy’n gweithio ar draws disgyblaethau gwyddonol gan gynnwys:
Rydym yn cael gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys ein hymchwil ein hunain, ymchwil rydym yn ei chomisiynu a’n Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion gwyddoniaeth, cyhoeddiadau a chyfleoedd partneriaeth ymchwil yr ASB, tanysgrifiwch i gylchlythyr chwarterol yr ASB ar wyddoniaeth.
Mae gan yr ASB ddiddordeb mewn ymchwil wyddonol a gynhelir gan eraill sy’n berthnasol i’n Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil. Os ydych yn arloeswr ym maes gwyddoniaeth sy’n cynllunio neu’n cynnal ymchwil sy’n berthnasol i’r ASB, rydym yn eich annog i gysylltu â’n tîm ymgysylltu â gwyddoniaeth i drafod cyfleoedd am bartneriaethau trwy ARI@food.gov.uk.
Mae ein seminarau Cnoi Cil yn annog dysgu a rhwydweithio cydweithredol ar bynciau ar draws y diwydiant bwyd sy’n cyd-fynd â’n hegwyddorion ymchwil. I gael gwahoddiadau a diweddariadau dros e-bost, cofrestrwch ar gyfer rhestr bostio’r seminarau Cnoi Cil.
Gwybodaeth am ein gwyddoniaeth
Rydym yn gweithredu’n annibynnol ac yn dryloyw, ac yn cael ein harwain gan wyddoniaeth a thystiolaeth.
Meysydd o ddiddordeb ymchwil
Mae ein Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil yn gwestiynau ymchwil yr ydym am fynd i’r afael â nhw ar y cyd â’r byd academaidd a’r gymuned ymchwil ehangach.
Cyfleoedd ariannu a phartneriaethau
Rydym yn comisiynu gwaith ymchwil ac arolygu ar sail contract i ddatblygu a chefnogi ein polisïau.