page
Cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 8 Ebrill 2025
Penodol i Gymru
Agenda ar gyfer cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd. Mae hwn yn gyfarfod hybrid a gynhelir wyneb yn wyneb yn Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays ac ar-lein trwy MS Teams.
Cyfarfod Hybrid â Thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Agenda a phapurau
10am – 10.05am Croeso gan y Cadeirydd
I gynnwys cyflwyniad, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiannau.
10am – 10.10am Croeso gan Brif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB
- Yr Athro Robin May
10.10am – 10.35am Cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (CCP): Y cefndir gwyddonol
- Pennaeth Tîm Asesu Risg CCP
10.35am – 10.55am Rhaglen Blwch Tywod CCP: Gweledigaeth, Cwmpas, a Chyflawniadau
- Pennaeth Tîm Polisi CCP/Pennaeth Blwch Tywod CCP
10.55am – 11.15am Rhaglen Blwch Tywod CCP: Gweithdai, Rhwydweithiau, a Gweithio ar draws y Pedair Gwlad
- Rheolwr Polisi Blwch Tywod CCP
11.15am – 11.25am Ffactorau Cymru-benodol sy’n ymwneud â CCPs
- I’w gadarnhau
11.25am – 11.45am Crynodeb a thrafodaeth
11.45am – 12pm Diweddariadau gan y Cadeirydd a’r Cyfarwyddwyr
-
Diweddariad ysgrifenedig gan uwch- swyddogion Cymru ac UKIA ers y cyfarfod thema â diwethaf ym mis Chwefror 2025
12pm – 12.15pm Unrhyw faterion eraill a dod â’r cyfarfod i ben
Cyfarfod â thema nesaf: Mis Gorffennaf
Cadw eich lle a chyflwyno cwestiynau
I gadw lle i fynd i'r cyfarfod hwn ar-lein, i gyflwyno cwestiwn neu i gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk.