Bwyd a Chi 2
Bwyd a Chi 2 yw ein harolwg blaenllaw sy’n mesur y wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiad a nodwyd gan bobl o ran diogelwch bwyd ac ymddygiadau eraill sy’n ymwneud â bwyd.
Beth yw Bwyd a Chi 2?
Ystadegyn swyddogol yw Bwyd a Chi 2 gydag oedolion (16 oed neu hŷn) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r arolwg yn mesur y wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiad a nodwyd gan bobl o ran diogelwch bwyd ac ymddygiadau eraill sy’n ymwneud â bwyd.
Cynhelir yr ymchwil bob 6 mis gan ddefnyddio dull ‘gwthio i’r we’ (push-to-web). Mae hyn yn golygu bod yr ymatebwyr, i ddechrau, yn cael llythyr drwy'r post yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein. Maent hefyd yn gallu llenwi fersiwn bapur o’r holiadur.
Dechreuodd y cylch gasglu data gyntaf ym mis Gorffennaf 2020.
Y pynciau sy’n cael eu cynnwys yn arolwg Bwyd a Chi 2
Mae Bwyd a Chi 2 yn ymdrin â phynciau fel diogelwch bwyd yn y cartref, siopa bwyd, bwyta allan, diogeledd bwyd (food security), pryderon am fwyd, ac ymddiriedaeth yn yr ASB a’r gadwyn cyflenwi bwyd.
Gofynnir rhai cwestiynau ym mhob cylch o’r arolwg, tra bydd cwestiynau eraill yn codi’n llai aml, er enghraifft bob blwyddyn neu bob dwy flynedd.
Mae’r tabl canlynol yn rhoi rhestr o’r pynciau a drafodwyd a phryd y cyhoeddwyd canfyddiadau ar bob pwnc ddiwethaf:
Modiwl | Pynciau dan sylw | Amlder | Y data diweddaraf sydd ar gael |
---|---|---|---|
Amdanoch chi a’ch cartref |
|
6 mis | Bwyd a Chi 2 – Cylch 8 |
Bwyd y gallwch ymddiried ynddo |
|
6 mis | Bwyd a Chi 2 – Cylch 8 |
Pryderon am fwyd |
|
6 mis | Bwyd a Chi 2 – Cylch 8 |
Diogeledd bwyd |
|
6 mis | Bwyd a Chi 2 – Cylch 8 |
Siopa am fwyd |
|
12 mis | Bwyd a Chi 2 – Cylch 7 |
Bwyta allan a’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) |
|
12 mis | Bwyd a Chi 2 – Cylch 8 |
Bwyta gartref (craidd) |
|
12 mis | Bwyd a Chi 2 – Cylch 8 |
Bwyta gartref (golwg fanwl) |
|
24 mis | Bwyd a Chi 2 – Cylch 6 |
Gorsensitifrwydd i fwyd (golwg fanwl) |
|
Ad-hoc | Bwyd a Chi 2 – Cylch 6 |
Bwyta’n iach (Gogledd Iwerddon) |
|
24 mis | Bwyd a Chi 2 – Cylch 7 |
Materion sy’n dod i’r amlwg (golwg fanwl) |
|
24 mis | Bwyd a Chi 2 – Cylch 8 |
Adroddiadau Ystadegau Swyddogol Bwyd a Chi 2
Mae’r prif adroddiad, yr adroddiad technegol a’r data ar gyfer pob cylch i’w gweld yn y dolenni canlynol:
- Bwyd a Chi 2: Cylch 8
- Bwyd a Chi 2: Cylch 7
- Bwyd a Chi 2: Cylch 6
- Bwyd a Chi 2: Cylch 5
- Bwyd a Chi 2: Cylch 4
- Bwyd a Chi 2: Cylch 3
- Bwyd a Chi 2: Cylch 2
- Bwyd a Chi 2: Cylch 1
Adroddiadau dadansoddi eilaidd
Tueddiadau Bwyd a Chi 2
Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
- Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) Bwyd a Chi 2: Cylch 8
- Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) Bwyd a Chi 2: Cylch 2
- Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) Bwyd a Chi 2: Cylch 4
- Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) Bwyd a Chi 2: Cylch 6
Dadansoddiad eilaidd gwlad-benodol: Cymru a Gogledd Iwerddon
- Diogeledd Bwyd yng Ngogledd Iwerddon Cylch 1 (PDF)
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylchoedd 1-2 yn benodol i Gymru a Gogledd Iwerddon
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylchoedd 3-4 Gogledd Iwerddon
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylchoedd 5-6 Gogledd Iwerddon
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylchoedd 7-8 Gogledd Iwerddon
Tablau data, setiau data a chanllaw defnyddio data
Data SPSS a deunyddiadau'r arolwg (i'w cael trwy Gwasanaeth Data y DU)
Bwyd a Chi 2: Cylchoedd 1 i 6, 2020 i 2023
Cyhoeddiadau yn y dyfodol
Adroddiad | Dyddiad |
---|---|
Bwyd a Chi 2, Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd: Cylch 8 | Hydref 2024 |
Bwyd a Chi 2: Tueddiadau 2020-2024 | Gaeaf 2024 |
Ymchwil gysylltiedig
Manylion cyswllt
Gallwch gysylltu â thîm Bwyd a Chi 2 gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol: foodandyou@food.gov.uk
Hanes diwygio
Published: 26 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2024