Adroddiad y Cyfarwyddwyr i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Gorffennaf 2024
Adroddiad gan Anjali Juneja, Cyfarwyddwr y DU a Materion Rhyngwladol a Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru.
1. Crynodeb
1.1 Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r pynciau a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2024, yn ogystal â chrynodeb o waith ymgysylltu uwch-arweinwyr Cyfarwyddiaeth Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA), a throsolwg o faterion o ddiddordeb i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) sy’n berthnasol i Gymru.
1.2 Gwahoddir aelodau o’r Pwyllgor i wneud y canlynol:
nodi'r diweddariad
gwahodd y Cyfarwyddwyr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach.
2. Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd
2.1 Dyma Adroddiad diweddaraf y Prif Weithredwr, a gyflwynwyd i gyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin.
3. Trosolwg gan Gyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA)
3.1 Ers fy niweddariad diwethaf, mae Llywodraeth newydd yn San Steffan. Ymhlith y materion mawr sydd o ddiddordeb i’r weinyddiaeth newydd, fel yr amlinellwyd ym maniffesto Llafur, mae cytundeb milfeddygol i atal gwiriadau diangen ar y ffiniau a helpu i fynd i’r afael â chost bwyd. Mae hwn yn faes sydd o ddiddordeb sylweddol i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), a byddwn yn gweithio’n agos gydag Adrannau Eraill y Llywodraeth wrth i ni ddechrau asesu agenda’r Llywodraeth newydd.
3.2 Ar 26 Mehefin, fe wnes i gwrdd â’r Cadeirydd a’r Gweinidog Bryant, sef y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar yn Llywodraeth Cymru. Roedd y gweinidog yn gwrando arnom ni’n bennaf, gan fod y rhan hon o’r portffolio’n newydd iddi. Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r gweinidog ar amrywiaeth o ffrydiau gwaith, gan gynnwys Bridio Manwl, Cynhyrchion Rheoleiddiedig, Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau a gwaith awdurdodau lleol. Roedd y gweinidog yn frwdfrydig am waith yr ASB a chytunodd y byddai cyfarfodydd chwarterol rheolaidd gyda’r Cadeirydd yn ddefnyddiol. Mae’r ddwy hefyd yn trefnu ymweliad yn etholaeth y gweinidog yn yr wythnosau nesaf.
3.3 Cynhaliwyd ein cyfarfod Bwrdd ddydd Mawrth 18 Mehefin, a oedd yn cynnwys ymweliad â dau safle ym Mhrifysgol Bangor. Roedd yn wych gweld y prosiectau ymchwil sy’n cael eu cynnal ar Fferm Henfaes, gan gynnwys astudiaethau sy’n monitro microblastigau a’r effaith ar iechyd pridd a dynameg maetholion, a phrosiectau sy’n monitro allyriadau nwyon tŷ gwydr i ddatblygu dulliau amaethu mwy cynaliadwy. Yn y Ganolfan Ymchwil Dŵr Gwastraff ar y prif gampws, fe wnaethom ddysgu am y rhaglen gwyliadwriaeth dŵr gwastraff sy’n anelu at fonitro, rhagweld a chyfyngu ar ledaeniad norofeirws, genynnau AMR, Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) a feirysau eraill o ddŵr gwastraff ysbytai a domestig. Mae Prifysgol Bangor yn un o bartneriaid y Rhaglen Cadw Gwyliadwriaeth ar Bathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Amgylchedd (PATH-SAFE) ac roedd yn hynod ddiddorol gweld y labordai ar waith a dysgu mwy am sut mae modelu risg yn helpu i fonitro ffynonellau halogiad mewn dyfroedd cynaeafu pysgod cregyn. Fe wnaeth y Bwrdd hefyd ymweld â Chanolfan Technoleg Bwyd, Llangefni a Fferm Laeth Llwyn Banc.
3.4 Lansiwyd ail gam y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM) ddiwedd mis Ebrill. Roedd hyn yn cynnwys cychwyn gwiriadau ffisegol ar y ffin ar fewnforion o’r UE a Chymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA). Mae mewnforion o weddill y byd hefyd bellach yn destun y dull rheoli newydd sy’n seiliedig ar risg. Mae’r dull hwn yn defnyddio model sy’n asesu’r risgiau a achosir gan y nwyddau, yn ogystal â’r wlad tarddiad, gan ganiatáu i’n rheolaethau ffiniau gael eu cymhwyso’n gymesur â’r risg a berir. Mae gwiriadau ar y ffin ar gyfer nwyddau’r UE yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio dull graddol, lle mae’r nwyddau hynny sy’n peri’r risg uchaf i iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid, fel dofednod a chynhyrchion porc, yn destun rheolaethau yn gyntaf, gan ychwanegu nwyddau pellach yn raddol. Nod hyn yw caniatáu amser i fusnesau ac awdurdodau cymwys addasu, ac osgoi rhoi gormod o bwysau ar unwaith ar systemau TG newydd. Mae’r ASB yn monitro’r gwaith cyflenwi’n ofalus er mwyn sicrhau bod y broses weithredu yn bodloni ein hamcanion diogelwch bwyd. Mae’r gwaith yn y cyfnod cynnar, ac felly nid oes gennym ddigon o wybodaeth eto i ddod i unrhyw gasgliadau. Mae hon yn garreg filltir fawr o ran rheoli mewnforion o’r UE, ac mae’n golygu ein bod bellach mewn gwell sefyllfa i allu rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr bod bwyd a fewnforir yn bodloni safonau uchel y DU.
3.5 O ran newyddion rhyngwladol, aeth y Cadeirydd i Rufain ar 16-17 Mai. Roedd ganddi ymrwymiadau gyda’r Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth (FAO) lle roedd cyfle i hyrwyddo cymwysterau gwyddoniaeth a thystiolaeth yr ASB a’n hymrwymiad i system Codex yn seiliedig ar reolau, gan gynnwys gyda Chyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol yr FAO, Dirprwy Gyfarwyddwr Maeth a Phennaeth Systemau Bwyd-Amaeth a Diogelwch Bwyd. Roedd y drafodaeth yn cynnwys proteinau wedi’u meithrin mewn celloedd a bwyd wedi’i brosesu’n helaeth, ac roedd diddordeb yng ngwaith maeth Gogledd Iwerddon. Fe wnaeth hi gyfarfod â Gweinyddiaeth Iechyd yr Eidal, gan gyflawni ein hamcan i sefydlu perthynas ag awdurdodau diogelwch bwyd partner masnachu pwysig yn yr UE a sicrhau ymrwymiad i drafodaethau parhaus. Roedd yn gyfarfod cadarnhaol a chyfeillgar gyda thrafodaethau’n cynnwys cynhyrchion rheoleiddiedig, bwydydd newydd, technoleg enetig, BTOM a mewnforion, deunyddiau â ddaw i gysylltiad â bwyd a digwyddiadau. Rydym yn trefnu trafodaeth bellach ar ddeunyddiau â ddaw i gysylltiad â bwyd a digwyddiadau. Yn olaf, fe wnaeth y Cadeirydd gyfarfod ag awdurdodau twyll bwyd yr Eidal o fewn y Weinyddiaeth Amaeth, gan adeiladu ar berthynas gadarnhaol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd â’r Eidal, gyda chyfarfodydd pellach wedi’u cynllunio.
3.6 Ddydd Gwener 14 Mehefin, fe wnes i gadeirio ymweliad mewnol gan Weinyddiaeth Iechyd Fietnam yn Clive House. Roedd y ddirprwyaeth o bedwar yn ymweld â’r DU ar daith astudio deg diwrnod, a gofynnodd Defra i’r tîm Strategaeth Ryngwladol gynnal sesiynau gan fod rhai pynciau o ddiddordeb yn dod o dan gylch gwaith yr ASB. Fe wnes i gyflwyno gwaith yr ASB, a rhoddodd gydweithwyr gyflwyniad ar fewnforion bwyd i Brydain, asesiad risg a gwaith cyfathrebu’r ASB a’r modd y mae’r ASB yn ymdrin â digwyddiadau ac yn eu hatal, ac yn ymgysylltu ag INFOSAN. Mae ymweliadau mewnol yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni ymgysylltu â’n cymheiriaid diogelwch bwyd o bob rhan o’r byd, gyda’r nod o feithrin cysylltiadau a pherthnasoedd gwaith, hwyluso cyfnewid gwybodaeth am ddiogelwch bwyd, a rhoi’r ASB mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael ag unrhyw faterion neu ddigwyddiadau posib yn effeithiol.
4. Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
4.1 Etholiad Cyffredinol – fyn dilyn y cyhoeddiad ym mis Mai am yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf, mae’r ASB wedi bod yn cadw at y canllawiau ar gyfer adrannau a gweision sifil ar y cyfnod cyn-etholiadol ynghylch yr angen i gynnal didueddrwydd y Gwasanaeth Sifil. Mae hyn wedi effeithio ar waith y tîm, gyda rhywfaint o waith a digwyddiadau’n cael eu gohirio tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.
4.2 Cynhyrchion Rheoleiddiedig – daeth Rheoliadau Ychwanegion Bwyd a Bwydydd Newydd (Awdurdodau a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 (ar gyfer 8 cais am gynhyrchion rheoleiddiedig), i rym ym mis Mehefin gydag Offerynnau cyfochrog yn cael eu gosod yn yr Alban a Lloegr. Daeth ymgynghoriad ar swp o 25 o geisiadau am ychwanegion bwyd anifeiliaid i ben ar 17 Mehefin, ac mae’r holl ymatebion wrthi’n cael eu hystyried cyn anfon cyngor ar y rhain at weinidogion. Mae’r swp nesaf o awdurdodiadau posib wedi’i nodi ac mae gweithgarwch rheoli risg wedi dechrau ar y ceisiadau hynny.
4.3 Diwygio Cynhyrchion Rheoleiddiedig – ym mis Mawrth, cytunodd y Dirprwy Weinidog ar y pryd mewn egwyddor, gyda chefnogaeth y Cwnsler Cyffredinol, â’r diwygiadau i Gynhyrchion Rheoleiddiedig a gyflwynwyd yn Offeryn Statudol Prydain Fawr a oedd yn cynnwys y canlynol:
- Dileu’r angen i rai cynhyrchion sydd eisoes wedi’u hawdurdodi fel rhai diogel gael eu hadnewyddu bob 10 mlynedd, ni waeth a yw tystiolaeth ar ddiogelwch yn newid. Byddai hyn yn golygu bod y broses o reoleiddio’r cynhyrchion hyn yn dod yn gyson â’r ffordd yr ydym yn rheoleiddio cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid eraill.
- Dileu’r gofyniad i ddeddfu i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig, ac yn hytrach, caniatáu i awdurdodiadau, yn dilyn cymeradwyaeth gan weinidogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ddod i rym ar ôl eu cyhoeddi mewn e-gofrestr swyddogol.
4.4 I gefnogi’r ymgynghoriad ar y cynigion diwygio hyn, a sicrhau amrywiaeth eang o safbwyntiau gan randdeiliaid yng Nghymru, fe wnaethom gynyddu’r gwaith hyrwyddo, gan gynnwys:
- Y diwydiant – anfon e-byst uniongyrchol i 27 o gyrff rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru sydd â buddiant mewn cynhyrchion rheoleiddiedig. Roedd y rhain yn cynnwys cymdeithasau masnach y diwydiant a sefydliadau anllywodraethol (NGOs).
- Defnyddwyr – rhannu hysbysebion ar Facebook drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn targedu oedolion yng Nghymru, gan gyrraedd ychydig dros 19 mil o ddefnyddwyr.
- Awdurdodau lleol – ymgysylltu â phob awdurdod lleol yng Nghymru drwy ein Paneli Arbenigwyr Diogelwch Bwyd, Bwyd Diogel Cynaliadwy a Dilys Cymru ac e-byst uniongyrchol at holl Gyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd yng Nghymru (DPPWs).
4. 5 Cafwyd 17 o ymatebion i’r ymgynghoriad ffurfiol gan randdeiliaid yng Nghymru. Cafwyd 123 o ymatebion i’r ymgynghoriad yn gyffredinol.
4.6 Byddwn yn parhau i weithio gyda gweinidogion Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru i gwblhau’r diwygiadau cychwynnol hyn ac i ddatblygu diwygiadau tymor hirach i awdurdodiadau marchnad wedi’u moderneiddio.
4.7 Bridio Manwl – oherwydd yr Etholiad Cyffredinol ac ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae’r holl waith a thrafodion seneddol ar gyfer is-ddeddfwriaeth y Rheoliadau Bridio Manwl wedi’u gohirio. Mae Deddf Technoleg Enetig (Bridio Manwl) 2023 (“y Ddeddf PB”) bellach mewn statud ac mae’n cynnwys pwerau i wneud rheoliadau ar gyfer rheoleiddio organebau wedi’u bridio’n fanwl a ddefnyddir mewn bwyd a bwyd anifeiliaid, yn ogystal â rheoliadau ar bethau eraill. Yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol a ffurfio Llywodraeth newydd, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd yn penderfynu a ddylid defnyddio’r pwerau hyn a sut.
4.8 Archwiliadau Awdurdodau Lleol – mae’r gwaith cynllunio gwasanaethau, prosesau, trefniadau, a rhaglen weithredu archwilio agored berthnasol ar gyfer 2024/25 wedi dechrau. Mae tri awdurdod lleol wedi cael eu harchwilio hyd yma a bwriedir cynnal un yng nghanol mis Gorffennaf. Bydd y rhaglen yn rhedeg tan ddechrau’r flwyddyn nesaf. Mae paratoadau ar waith ar gyfer yr ail raglen archwilio, a fydd yn profi systemau y tu allan i oriau awdurdodau lleol i gael sicrwydd bod trefniadau effeithiol ar waith i ymdrin ag argyfyngau y tu allan i oriau gwaith arferol.
4.9 Bara a Blawd – mae’r Etholiad Cyffredinol wedi effeithio ar gynlluniau i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth bara a blawd ym mis Gorffennaf a gyda thoriad yr haf ar y gorwel, y cynllun newydd ym mhob gwlad yw creu’r ddeddfwriaeth cyn diwedd 2024.
4.10 Gorsensitifrwydd i Fwyd – cyn cyhoeddi’r Etholiad Cyffredinol, cynhaliodd yr ASB gyfres o weithdai gyda’r diwydiant ac awdurdodau lleol mewn perthynas â darparu gwybodaeth ym maes polisi’r sector y tu allan i’r cartref (bwytai a chaffis). Dyma’r polisi a fyddai o bosib yn ei gwneud yn ofynnol i’r safleoedd hynny ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau a chael sgyrsiau â chwsmeriaid am alergenau. Mae adborth o’r gweithdai hyn yn cael ei asesu cyn cynhyrchu’r canllawiau yn y lle cyntaf, ac yna bydd trafodaethau deddfwriaethol i ddilyn.
4. 11 Cynllun Gwarant Fferm Da Byw Cymru (FAWL) – mae'r tîm wedi cwblhau adolygiad eleni o gymeradwyaeth yr ASB i Gynllun FAWL Cynhyrchwyr Cig Oen a Chig Eidion Cymru Cyfyngedig (WLBP) at ddibenion cydnabyddiaeth ar sail perfformiad. Mae’n ofynnol cynnal adolygiad blynyddol, ac mae hyn yn gyson â dull gweithredu cyffredinol yr ASB. Mae’r adolygiad yn argymell bod statws cymeradwy yn parhau am flwyddyn arall.
4.12 Digwyddiadau diweddar – mae’r tîm wedi chwarae rhan weithredol mewn nifer o achosion cenedlaethol sydd o bosib yn effeithio ar Gymru. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac UKHSA, sy’n arwain ymateb amlasiantaethol i achosion o E.coli (STEC). Hyd yma bu 275 o achosion, a 31 ohonynt yng Nghymru. Mae’r ASB wedi bod yn arwain ar ymchwiliadau i’r gadwyn fwyd, ac yn sgil hyn mae nifer o weithgynhyrchwyr brechdanau wedi galw cynhyrchion yn ôl fel cam rhagofalus oherwydd cysylltiad posib â chynnyrch letys. Mae ymchwiliadau cymhleth yn parhau gyda busnesau bwyd yn Lloegr.
4.13 Cyfarfod Bwrdd mis Mehefin yn Llandudno – gan ystyried cyfyngiadau’r Gwasanaeth Sifil ar weithgareddau cyfathrebu yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, penderfynodd y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr barhau â rhaglen ddigwyddiadau’r Bwrdd yn Llandudno, gyda rhai addasiadau. Recordiwyd y cyfarfod, ond ni chafodd ei ffrydio’n fyw. Ni chyhoeddwyd papurau, nid oedd unrhyw gwestiynau ymlaen llaw ac nid oedd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd. Mae’r recordiad o’r trafodaethau a’r holl bapurau bellach wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan a gellir cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig yn unol â’r trefniadau arferol. Diwygiwyd yr agenda wreiddiol i ohirio’r prif bapurau polisi tan fis Medi. Yn ogystal ag ymweliadau’r Bwrdd a amlinellir yn Adran 3.3 uchod, cynhaliodd y Bwrdd ginio gwaith a chafwyd cyflwyniadau gan Lewis Pies, Maggie’s African Twist a Menter a Busnes.
4.14 Oedi cyn cyhoeddi a lansio Adroddiad ‘Ein Bwyd’ 2023 – y bwriad oedd cyhoeddi Adroddiad Blynyddol diweddaraf yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban ar Safonau Bwyd ‘Ein Bwyd 2023’ ym mis Mehefin. Y dyddiad gwreiddiol ar gyfer lansio yng Nghymru oedd 26 Mehefin, gyda thrafodaeth bord gron gydag Aelodau’r Senedd. Fodd bynnag, oherwydd y cyfnod cyn-etholiadol, gohiriwyd y cyhoeddi a’r lansiad ac rydym wrthi’n aildrefnu gyda’r bwriad o gynnal y gweithgarwch hwn tua chyfnod yr hydref.
4.15 Bwyd a Chi 2 (Cylch 7) – cyhoeddwyd cylch diweddaraf prif arolwg defnyddwyr yr ASB, Bwyd a Chi 2, ar 10 Ebrill. Cynhaliwyd gwaith maes ar gyfer Cylch 7 rhwng 23 Ebrill 2023 a 10 Gorffennaf 2023, gyda 5,812 o oedolion (16 oed neu hŷn) o 4,006 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn llenwi’r arolwg. Mae’r pynciau sydd wedi’u cynnwys yn adroddiad Prif Ganfyddiadau Bwyd a Chi 2: Cylch 7 fel a ganlyn: bwyd y gallwch ymddiried ynddo, pryderon am fwyd, diogeledd bwyd, siopa am fwyd a labelu bwyd, llwyfannau ar-lein a bwydydd newydd.
4.16 Ymgyrchoedd cyfathrebu – ers cyfarfod diwethaf WFAC â thema, mae ein tîm cyfathrebu yng Nghymru wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws yr ASB ar yr ymgyrchoedd, y digwyddiadau a’r ceisiadau canlynol gan y cyfryngau:
- Cyfeliad Radio Bore Cothi – ymddangosodd tîm Cymru ar raglen Bore Cothi y BBC yn ddiweddar, i drafod gwastraff bwyd a diogelwch. Yn dilyn y cyfweliad, gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y bobl a oedd yn chwilio am gyngor ar ailgynhesu reis ac yn edrych ar dudalennau Gwiriwr Ffeithiau wrth Fwyta Gartref ar food.gov, gan ddangos effaith ein gwaith.
5. Ymgynghoriadau
5.1 Ymgyngoriadau cyfredol: Galwad am Dystiolaeth: Ashwagandha - ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar atchwanegiadau bwyd ashwagandha er mwyn adeiladu pecyn tystiolaeth a fydd yn llywio unrhyw gyngor rheoli risg yn y dyfodol.
Dyddiad lansio: 8 Gorffennaf 2024
Dyddiad cau: 2 Medi 2024
6. Edrych tua’r dyfodol
6.1 Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol – – byddwn yn mynd i’r ddau ddigwyddiad cenedlaethol hyn eleni:
- Bydd Cadeirydd yr ASB, Cadeirydd WFAC a Chyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru yn mynychu cyfres o gyfarfodydd a chyfleoedd ymgysylltu yn Sioe Frenhinol Cymru eleni. Mae hyn yn cynnwys derbyniad y Prif Weinidog, brecwast Arloesi Bwyd Cymru, cyfarfod ag NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru a thaith o amgylch y Neuadd Fwyd gyda chyfle i gwrdd â rhai o fusnesau bwyd annibynnol Cymru.
- Bydd gan yr ASB yng Nghymru stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cael ei chynnal ym Mhontypridd eleni. Bydd y stondin yn cynnwys modiwlau gwybodaeth ar feysydd allweddol yr ASB, a bydd staff yr ASB yn gwirfoddoli.
6.2 Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd –fel y nodwyd yn gynharach yn yr adroddiad, bydd adroddiad ‘Ein Bwyd 2023’ yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.
6.3 Mae’r gweithgarwch cyfathrebu canlynol hefyd ar y gweill dros yr ychydig wythnosau nesaf:
- Ymgyrch Ymatebol ar y cyfryngau cymdeithasol: Rhybuddion a galw bwyd yn ôl – gohiriwyd yr ymgyrch hon oherwydd yr Etholiad Cyffredinol a bydd yn ailddechrau tua diwedd mis Gorffennaf. Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o wasanaeth rhybuddion yr ASB, addysgu defnyddwyr am rôl yr ASB o ran diogelwch bwyd ac annog pobl i danysgrifio ar gyfer y gwasanaeth. Byddwn yn hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol, yn rhannu negeseuon organig ar lwyfannau’r ASB ac annog partneriaid/awdurdod lleol i rannu cynnwys drwy ddatblygu pecynnau adnoddau’n fewnol
- Ymgyrch gyfathrebu Diogelwch Bwyd dros yr Haf – byddwn yn rhannu’r negeseuon arferol eleni ynghylch bwyta’n ddiogel yn yr haf, gan ganolbwyntio ar fwyta yn yr awyr agored, yn enwedig mewn barbeciw a phicnic. Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar gyngor i ddefnyddwyr ar yr hanfodion hylendid bwyd – coginio, glanhau, oeri ac osgoi croeshalogi, gyda’r nod o wella dealltwriaeth y cyhoedd o arferion bwyd diogel. Eleni, bydd yr ymgyrch hefyd yn debygol o ganolbwyntio ar negeseuon am olchi saladau neu saladau mewn bagiau cyn eu bwyta, yn dilyn digwyddiadau bwyd diweddar yn ymwneud â chynnyrch salad.
- Ymgyrch myfyrwyr (19 Awst – 20 Hydref – byddwn yn cynnal yr ymgyrch hon eto ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd i wella ymwybyddiaeth o arferion hylendid a diogelwch bwyd da ymhlith myfyrwyr y DU. Mae ymchwil i boblogaethau myfyrwyr y DU wedi amlygu heriau penodol i’r grŵp hwn mewn perthynas ag arferion diogelwch a hylendid bwyd, fel trafferth cadw ceginau a rennir yn lân, gyda llawer o fyfyrwyr yn peidio â dilyn yr ymddygiadau diogelwch a hylendid bwyd a argymhellir.