Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Adroddiad y Cyfarwyddwyr i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Ebrill 2025

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Anjali Juneja, Cyfarwyddwr y DU a Materion Rhyngwladol a Sian Bowsley, Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025

1. Crynodeb

1.1 Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys: 

  • crynodeb o bynciau a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2025

  • crynodeb o weithgarwch ymgysylltu’r uwch-dîm rheoli ar draws Cyfarwyddiaeth Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA) 

trosolwg o ddatblygiadau a materion o ddiddordeb i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) mewn perthynas â Chymru.  

1.2 Gwahoddir aelodau o’r Pwyllgor i wneud y canlynol: 

  • nodi’r diweddariad
  • gwahodd y Cyfarwyddwyr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

2. Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd 

2.1 Dyma adroddiad diweddaraf y Prif Weithredwr, a gyflwynwyd i gyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr.

3. Trosolwg gan Gyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA)

3.1 Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o rywfaint o’r gwaith allweddol a wnaed gan Gyfarwyddwr UKIA, Anjali Juneja, a fydd o ddiddordeb i WFAC, ers yr adroddiad diwethaf ym mis Chwefror.  

Cyllidebau a Chynllunio Busnes

3.2 Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o rywfaint o’r gwaith allweddol a wnaed gan Gyfarwyddwr UKIA, Anjali Juneja, a fydd o ddiddordeb i WFAC, ers yr adroddiad diwethaf ym mis Chwefror.  3.2    At ei gilydd, mae’r sefydliad wedi bod yn canolbwyntio ar flaenoriaethau corfforaethol cam cyntaf yr Adolygiad o Wariant, a osododd gyllidebau ar gyfer 2025/26, a gwaith cynllunio busnes dilynol.  Rydym wedi cael ein cyllidebau gan Gymru a San Steffan ar gyfer 2025/2026 ac wedi cytuno ar ein cynllun busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod. 

3.3 Rydym wrthi’n datblygu ein hymateb i ail gam yr Adolygiad o Wariant, a fydd yn gosod cyllidebau adnoddau hyd at 2028/29, a chyllidebau cyfalaf hyd at 2029/30. Bydd hyn yn effeithio ar dimau yn Lloegr yn bennaf, ond byddwn ni hefyd yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch sicrhau rhagolwg gwell o gyllidebau’r dyfodol.

3.4 Yng Nghymru, nawr bod cyllideb Llywodraeth Cymru wedi’i chytuno yn y Senedd, mae cyllideb yr ASB yng Nghymru ar gyfer 2025/26 wedi’i chadarnhau mewn egwyddor, ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda Siân a’r tîm arwain i gytuno ar flaenoriaethau a chynllun busnes Cymru ar gyfer y flwyddyn adrodd sydd i ddod. Bydd y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn llythyr ariannu swyddogol Llywodraeth Cymru a fydd yn cael ei adolygu gan ein Prif Weithredwr, fel Prif Swyddog Cyfrifyddu’r ASB, a bydd yn amodol ar gytundeb terfynol gan Lywodraeth Cymru. 

3.5 Gan droi at weithgarwch rhyngwladol, ym mis Chwefror, cynhaliodd ein Cadeirydd, Susan Jebb, gyfres o ymrwymiadau gyda phartneriaid yr UE ym Mharis, Genefa a Madrid. Roedd y rhain yn cynnwys cyfarfodydd ag awdurdodau bwyd cenedlaethol Ffrainc a Sbaen, yn ogystal ag adran Diogelwch Bwyd a Maeth Sefydliad Iechyd y Byd. Y nod oedd cryfhau’r berthynas â phartneriaid allweddol, a gwnaethom ailadrodd ein cefnogaeth barhaus i’w Rhwydwaith Awdurdodau Diogelwch Bwyd Rhyngwladol fel arf hanfodol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ar lefel fyd-eang. Ym mis Ebrill, bydd ein Prif Weithredwr yn cymryd rhan yng nghyfarfod Fforwm Penaethiaid Rhyngwladol Asiantaethau Bwyd, sef fforwm lefel uwch o asiantaethau bwyd sy’n rhannu’r un meddylfryd. Yr ASB fydd yn cynnal y Fforwm yn 2027.

Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru

3.6 Ddechrau mis Mawrth, gwnaeth Siân a fi gyfarfod â Gian-Marco Currado, y Cyfarwyddwr Materion Gwledig a Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru. Mae llawer o waith yr ASB mewn perthynas â bwyd yn dod o dan gylch gwaith y Dirprwy Brif Weinidog, Huw-Irranca Davies, felly mae’n hanfodol i ni ymgysylltu â’i swyddogion. Gwnaethom drafod y cynllun gostyngiadau taliadau cig  pysgod cregyn, a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar fwyd.

3.7 Yn dilyn cyfarfod ym mis Rhagfyr ag Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Andrew Goodall, gwnaeth Siân a fi hefyd gyfarfod â Chyfarwyddwr Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror. Gwnaethom drafod cynigion adennill costau’r ASB, cofrestru uwch, adnoddau awdurdodau lleol a defnyddio data’n well, gan gynnwys, er enghraifft, drwy Reoleiddio ar Lefel Genedlaethol. 

Gweithgarwch San Steffan

3.8 Gan droi at weithgarwch rhyngwladol, ym mis Chwefror, cynhaliodd ein Cadeirydd, Susan Jebb, gyfres o ymrwymiadau gyda phartneriaid yr UE ym Mharis, Genefa a Madrid. Roedd y rhain yn cynnwys cyfarfodydd ag awdurdodau bwyd cenedlaethol Ffrainc a Sbaen, yn ogystal ag adran Diogelwch Bwyd a Maeth Sefydliad Iechyd y Byd. Y nod oedd cryfhau’r berthynas â phartneriaid allweddol, a gwnaethom ailadrodd ein cefnogaeth barhaus i’w Rhwydwaith Awdurdodau Diogelwch Bwyd Rhyngwladol fel arf hanfodol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ar lefel fyd-eang. Ym mis Ebrill, bydd ein Prif Weithredwr yn cymryd rhan yng nghyfarfod Fforwm Penaethiaid Rhyngwladol Asiantaethau Bwyd, sef fforwm lefel uwch o asiantaethau bwyd sy’n rhannu’r un meddylfryd. Yr ASB fydd yn cynnal y Fforwm yn 2027.

4. Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

4.1 Ers cyfarfod diwethaf WFAC ym mis Chwefror, mae’r tîm wedi cytuno ar ein blaenoriaethau a’n cynllun busnes ar gyfer 2025-26, yn ogystal â datblygu meysydd gwaith â blaenoriaeth fel y nodir isod.  

4.2 Rydym yn ymgysylltu â’r tîm adolygu ym Met Caerdydd i gefnogi adolygiad Llywodraeth Cymru o’r ASB yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys rhannu adroddiadau allweddol a dogfennau eraill yn ôl y gofyn i gefnogi eu cyfnod ymchwil bwrdd gwaith a darparu rhestr o gysylltiadau allweddol a awgrymir ar gyfer y cyfnod cyfweld. Rwyf wedi bod i ddau gyfarfod gyda’r grŵp goruchwylio hyd yma, ochr yn ochr â chydweithwyr o Lywodraeth Cymru a DPPW. Disgwylir i’r adroddiad a’r argymhellion gael eu cwblhau ym mis Gorffennaf 2025.  

4.3 Ynghyd â Chadeirydd yr ASB a Rhian, es i i gyfarfod â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol fis diwethaf i drafod ei adroddiad cynnydd sydd wrthi’n cael ei baratoi ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd hwn yn cynnwys argymhellion penodol ar gyfer y sector bwyd ac rwy’n edrych ymlaen at lansio’r adroddiad ar 29 Ebrill. 

4.4 Dros y misoedd diwethaf, mae timau polisi’r ASB yng Nghymru wedi:

4.4.1 Hwyluso cyfarfod ar  fridio manwl  rhwng Llywodraeth Cymru, yr ASB yng Nghymru a Phrifysgol Aberystwyth. Gwnaethom drafod y gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr o ran rheoleiddio organebau wedi’u bridio’n fanwl, a byddwn yn parhau i ymgysylltu’n agos â thîm polisi Llywodraeth Cymru wrth i hyn fynd rhagddo.

4.4.2 Cefnogi cyhoeddi canllawiau arferion gorau ar alergenau newydd ar gyfer busnesau bwyd yn y sector y tu allan i’r cartref (fel bwytai a chaffis). Mae’r canllawiau’n pwysleisio pwysigrwydd darparu gwybodaeth am alergenau yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y lleoliadau hyn. Cyhoeddwyd y canllawiau yn Gymraeg ac yn Saesneg ac fe’u rhannwyd â’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, swyddogion polisi Llywodraeth Cymru, ynghyd â saith Aelod arall o’r Senedd a oedd wedi dangos diddordeb mewn alergenau yn nhrafodaethau’r Senedd yn flaenorol.

4.4.3 Trefnu a hwyluso digwyddiad ar gyfer rhanddeiliaid Cymreig ar ddyfodol y cynllun gostyngiadau o ran codi tâl am reolaethau gig yng Nghaerdydd. Roedd yn gyfarfod cadarnhaol gyda mewnwelediadau gwerthfawr gan randdeiliaid, a oedd yn falch o gael y cyfle i fynegi eu barn cyn trafodaeth y Bwrdd ym mis Mehefin.

4.4.4 Symud ymlaen â gwaith ar awdurdodiadau marchnad BAU a diwygio’r broses awdurdodi - Ar 19 Chwefror, daeth ymgynghoriad ar 10 o gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig i ben. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys: un ychwanegyn bwyd, un ychwanegyn bwyd anifeiliaid, un cyflasyn bwyd a thynnu 8 sylwedd cyflasu a ganiateir, un deunydd sy’n dod i gysylltiad â bwyd, 3 organeb a addaswyd yn enetig (at ddefnyddiau bwyd a bwyd anifeiliaid) a 2 fwyd newydd. Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried, a byddwn yn symud ymlaen i anfon argymhellion ar awdurdodi’r cynhyrchion hyn at Weinidogion Cymru yn ddiweddarach yn y gwanwyn. Bwriedir lansio ail ymgynghoriad ar swp ychwanegol o geisiadau bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig yn ddiweddarach y gwanwyn hwn. Gosodwyd Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) a Defnyddiau Bwyd Anifeiliaid a Fwriedir at Ddibenion Maethol Penodol (Diwygio Rheoliad y Comisiwn (UE) 2020/354) (Cymru) 2025 ar neu cyn 28 Mawrth 2025 i ddiwygio gwallau a nodwyd yn fersiwn Gymraeg yr OS a osodwyd yn wreiddiol ym mis Tachwedd 2024, yn dilyn y broses graffu. Ar 1 Ebrill 2025, bydd Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cynhyrchion Rheoleiddiedig) (Diwygio, Dirymu, Darpariaeth Canlyniadol a Throsiannol) yn dod i rym. Mae’r rheoliadau hyn yn gweithredu cam cyntaf y diwygio ar gyfer awdurdodiadau marchnad. 

4.5 Ers cyfarfod mis Chwefror, mae’r timau sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol wedi:

4.5.1 Cynllunio a chyflwyno sesiwn wybodaeth i awdurdodau lleol yng Nghymru ar 19 Mawrth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ganlyniadau’r cynlluniau peilot safonau bwyd, yr ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, adennill costau a’r cefndir i reoleiddio ar lefel genedlaethol a chanlyniadau’r treial blwch tywod yn Lloegr.

4.5.2 Cynnal cyfarfod gweithgor ar gofrestriad uwch ar 10 Mawrth i weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol i archwilio’r angen am gofrestriad uwch ar gyfer busnesau bwyd. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn casglu data i ddangos a oes problem yn y fframwaith deddfwriaethol presennol. Bydd y gweithgor yn cyfarfod yn fisol i symud y gwaith hwn yn ei flaen. Rhoddwyd diweddariad i awdurdodau lleol yn y digwyddiad ymgysylltu a gynhaliwyd ar 19 Mawrth (paragraff 3.5.1).

4.5.3 Lansio ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd ar 21 Chwefror a fydd yn rhedeg am 12 wythnos (ceir manylion pellach yn yr adran Ymgynghoriadau isod). 

4.5.4 Hysbysu awdurdodau lleol am y rhaglen archwilio ar gyfer 2025/26, sef archwiliad â ffocws a fydd yn asesu gweithrediad y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd, mewn perthynas ag alergenau. Bydd y cynllun archwilio yn cael ei rannu gyda chynrychiolwyr DPPW cyn i’r fersiwn derfynol gael ei chymeradwyo.

4.6 Mae’r tîm digwyddiadau a’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) hefyd wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf:

4.6.1 Mae’r tîm digwyddiadau wedi bod yn gweithio ar y digwyddiad anarferol yn ymwneud â Listeria. Ar adeg ysgrifennu, mae’r sefyllfa yng Nghymru yn parhau’n sefydlog, ac rydym yn gweithio’n agos gydag adran Gaffael y GIG, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i sicrhau nad yw’r cynhyrchion yr effeithir arnynt yn cael eu gweini i gleifion. Pump o achosion sydd wedi’u nodi (y mae un ohonynt yng Nghymru), ac nid oes unrhyw achosion wedi’u nodi yn 2025.

4.7 Mae ein tîm cyfathrebu dwyieithog yng Nghymru wedi parhau i sicrhau bod negeseuon allweddol yr ASB wedi’u cyfleu ledled Cymru, sydd wedi cynnwys y canlynol: 

4.7.1 Fel rhan o’r gweithgaredd i gyhoeddi’r canllawiau arferion gorau ar ddarparu gwybodaeth am alergeddau, lansiodd y tîm ymgyrch gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth ymhlith busnesau bwyd am y canllawiau newydd a rhoi’r adnoddau angenrheidiol iddynt weithredu’r canllawiau yn effeithiol, i gefnogi awdurdodau lleol i helpu gweithredwyr busnesau bwyd i fabwysiadu’r arferion newydd ac i hysbysu defnyddwyr am y newidiadau, gan eu grymuso i wneud dewisiadau bwyd mwy diogel. 

4.7.2 Ar 1 Ebrill 2025, bydd yr ASB yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed (FSA25). I nodi’r achlysur, byddwn yn cydgysylltu gweithgarwch mewnol i gymell a chysylltu cydweithwyr drwy edrych yn ôl ar gyflawniadau rhagorol, gan edrych ymlaen at baratoi’r ASB ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys fideos mewnol o staff yn dathlu cyflawniadau’r ASB, postiadau sy’n amlygu llwyddiannau mawr dros y blynyddoedd a digwyddiad gwobrau staff ym mis Mai. Byddwn hefyd yn rhannu negeseuon i randdeiliaid yn allanol i dynnu sylw at gerrig milltir mawr yr ASB, yn ogystal â defnyddio’r digwyddiad seneddol ym mis Gorffennaf i dynnu sylw at negeseuon allweddol FSA25.  

4.7.3 Y mis hwn, rydym hefyd yn lansio ymgyrch hylendid bwyd i ddefnyddwyr, gyda’r nod o dynnu sylw at ymddygiadau peryglus y gallai defnyddwyr fod yn eu cymryd yn y gegin a allai gynyddu’r risg o salwch a gludir gan fwyd. Nod yr ymgyrch fydd annog newid mewn ymddygiad, helpu defnyddwyr i feddwl am y risgiau y gallent fod yn eu cymryd, a chynghori ar arferion bwyd hylendid da. Byddwn yn defnyddio canfyddiadau gwaith ymchwil ‘Kitchen Life 2’ a Bwyd a Chi 2 i’n helpu i adeiladu ein hymgyrch ac rydym yn bwriadu cynnal yr ymgyrch hon am gyfnod hirach nag arfer (o gymharu â’n hymgyrchoedd arferol sy’n rhedeg dros 2-3 wythnos), gan gynnal sawl cam er mwyn cael mewnwelediad pellach.

4.8 Fel rhan o Gynllun Iaith Gymraeg statudol yr ASB, rydym yn cael ein monitro’n rheolaidd gan y corff rheoleiddio, Comisiynydd y Gymraeg, sy’n cynnwys gweithgarwch monitro ‘cwsmer dirgel’. Mae’r gweithgarwch diweddaraf wedi canfod arferion cadarnhaol a chydymffurfiaeth ardderchog yn gyffredinol yn yr ASB, ac mae’r Comisiynydd hefyd wedi cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol yr ASB, ac nid oes unrhyw faterion na chwestiynau wedi’u codi.

5. Ymgynghoriadau

5.1 Mae’r ymgynghoriadau canlynol yn fyw ar hyn o bryd: 

Dyddiad lansio: 24 Chwefror 2025
Dyddiad cau: 19 Mai 2025

Dyddiad lansio: 26 Chwefror 2025
Dyddiad cau: 9 Ebrill 2025

6. Edrych tua’r dyfodol 

6.1 Bydd llawer o’r gwaith rydym wedi rhoi diweddariad arno yn yr adroddiad hwn yn parhau dros y misoedd nesaf, gan gynnwys cefnogi adolygiad Llywodraeth Cymru o’r ASB yng Nghymru, a rhoi unrhyw argymhellion ar waith. Yn ogystal, byddwn hefyd yn gweithio i ddatblygu’r prosiectau a’r ffrydiau gwaith canlynol.

 6.2 O ran ein gwaith cyfathrebu a’n gweithgarwch gyda rhanddeiliaid dros yr ychydig fisoedd nesaf:

6.2.1 Bydd ein digwyddiad yng Nghymru i lansio’r Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd eleni, a fydd hefyd yn gyfle i ddathlu 25 mlynedd o’r ASB, yn cael ei gynnal ddydd Mercher 9 Gorffennaf yn adeilad y Pierhead. Bydd yn gyfle i glywed gan ein Cadeirydd, a fydd yn edrych yn ôl ar yr hyn y mae’r ASB wedi’i gyflawni yn y cyfnod hwn, ac yn edrych ymlaen at yr heriau sydd o’n blaenau. Byddwn hefyd yn clywed gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles, Sarah Murphy AS. 

6.2.2 Yn ogystal, byddwn yn mynd i Wobrau Bwyd a Diod Cymru ym mis Mai, lle bydd yr ASB yng Nghymru yn noddi’r Wobr Gymunedol Leol, ac yn datblygu cynllun ymgysylltu ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru eleni ym mis Gorffennaf ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym mis Awst. 

6.2.3 Byddwn hefyd yn gweithio gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i ddiweddaru ein Cynllun Iaith Gymraeg statudol dros y flwyddyn nesaf, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i’r diben mewn byd sy’n datblygu’n ddigidol. Ein nod yw sicrhau dewis iaith rhagweithiol parhaus i ddefnyddwyr yng Nghymru ar draws ein holl lwyfannau cyfathrebu, diogelu ein polisi Iaith Gymraeg at y dyfodol, a dangos ein hymrwymiad parhaus i strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a nodau iaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.