Adroddiad y Cyfarwyddwyr i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Ebrill 2024
Adroddiad gan Anjali Juneja, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r DU a Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
1. Crynodeb
1.1 Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r pynciau a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2024, yn ogystal â chrynodeb o waith ymgysylltu uwch-arweinwyr Cyfarwyddiaeth Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA), a throsolwg o faterion o ddiddordeb i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) sy’n berthnasol i Gymru.
1.2 Gwahoddir aelodau o’r Pwyllgor i wneud y canlynol:
- nodi’r diweddariad
- gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach
2. Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd
2.1 Dyma adroddiad diweddaraf y Prif Weithredwr, a gyflwynwyd i gyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr.
3. Trosolwg gan Gyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA)
3.1 Ers cyfarfod â thema diwethaf WFAC a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, rwyf wedi treulio llawer o amser ar effaith cyhoeddiad diweddar y Swyddfa Gartref ar gyflogau gweithwyr mudol. Mae timau ar draws y sefydliad wedi bod wrthi’n datblygu a darparu dull cynaliadwy o recriwtio a chadw ein gweithlu o Filfeddygon Swyddogol ac Arolygwyr Hylendid Cig medrus iawn. Mae ein Milfeddygon Swyddogol a’n Harolygwyr Hylendid Cig yn chwarae rhan hanfodol mewn lladd-dai wrth ddiogelu diogelwch bwyd ac iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer cymdeithas, yn ogystal â bod yn sail i fasnachu ar gyfer y diwydiant cig domestig, gwerth £9.1 biliwn, a marchnadoedd allforio bwyd-amaeth, gwerth £20 biliwn. Daw llawer o’r staff tra chymwys hyn o dramor drwy ein Partner Darparu Gwasanaethau yng Nghymru. Rydym bellach yn asesu’r manylion a ddaeth i law yn ddiweddar am newidiadau arfaethedig y Swyddfa Gartref i bolisïau ar drothwyon cyflogau ar gyfer fisâu gweithwyr medrus, sy’n debygol o effeithio’n sylweddol ar allu’r DU i recriwtio a chadw Milfeddygon Swyddogol ac Arolygwyr Hylendid Cig yn y rolau hanfodol hyn. Rydym yn gweithio gyda Phrif Swyddogion Milfeddygol, Swyddogion y Llywodraeth ledled y DU a’r Proffesiynau Milfeddygol i ystyried y camau nesaf.
3.2 Gyda chymorth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), mae Defra yn arwain ar waith i sicrhau bod Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, porthladdoedd a’r diwydiant yn barod pan fydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno ym mis Ebrill. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn disgwyl i waith adeiladu ar y cyfleusterau angenrheidiol gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2025. Mae’r gofynion i roi gwybod ymlaen llaw am lwythi ac i ddarparu ardystiadau iechyd allforio (ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) risg canolig ac uchel) eisoes ar waith, a byddant yn parhau i fod yn gymwys drwy gydol y cyfnod adeiladu ac wedi hynny. Mae’r ASB yn cefnogi Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol gyda’r gwaith i fod yn barod.
3.3 Mae cyfres o ddigwyddiadau profi gweithredol byw wrthi’n cael eu cynnal. Mae hyn wrth i lwythi byw fynd drwy’r broses fewnforio fel pe bai’r rheolaethau a fydd yn cael eu cyflwyno ddiwedd mis Ebrill eisoes ar waith. Bydd yr ymarferion hyn yn brawf ymarferol o’r systemau, y prosesau a’r seilwaith newydd a phresennol sydd ar waith i fod yn barod ar gyfer y mesurau rheoli newydd. Byddant hefyd yn cynnwys gwiriadau dogfennol, hunaniaeth a ffisegol, yn ogystal â samplu llwythi. Mae’r profion hyn yn cael eu cydlynu gan Swyddfa’r Cabinet, ar y cyd â Defra a’r ASB, sy’n ymwneud yn agos â mewnforwyr, manwerthwyr mawr ac Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd. Mae Defra a’r ASB hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd Prydain Fawr er mwyn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer trefniadau BTOM newydd, gan gynnwys sicrhau bod gwaith recriwtio staff ar y trywydd iawn. Er ei bod yn anochel y bydd cyfnod pan fydd angen hyfforddi staff newydd, a phan fydd busnesau a sefydliadau eraill yn addasu i’r rheolaethau newydd, rydym yn deall bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo’n dda i sicrhau gweithrediad llyfn.
4. Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
4.1 Cynhyrchion Rheoleiddiedig - Ar hyn o bryd, mae 450 o geisiadau yn mynd drwy’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig a rennir rhwng yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban (FSS). Mae cyfanswm o 63 o geisiadau wedi’u cwblhau hyd yma. Yn sgil hynny, mae’n cymryd tua 2.5 mlynedd ar gyfartaledd rhwng cyflwyno’r cais a chwblhau’r cais. Yn seiliedig ar fewnlifoedd, adnoddau a phrosesau cyfredol, rhagwelir y bydd y nifer y ceisiadau’n cynyddu o 450 ym mis Mawrth 2024 i fwy na 570 erbyn mis Mawrth 2026. Mae ymgynghoriad yn fyw ar hyn o bryd ar gyfer cymeradwyo pedwar bwyd newydd a thri ychwanegyn bwyd, cais i gael gwared ar awdurdodiadau dau ar hugain o gyflasynnau bwyd, â chynnig i osod terfyn ar gyfer ethylen ocsid ym mhob ychwanegyn bwyd.
Ar ôl chwarae rhan ym mhob Cyfran a phob Cyfundrefn, mae cydweithwyr yr ASB yng Nghymru wedi bod yn arwain ar waith i symleiddio’r dogfennau a’r prosesau sy’n rhan allweddol o’r broses awdurdodi. Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at yr ymgyrch gwella parhaus ehangach.
4.2 Bridio Manwl – Daeth ymgynghoriad cyhoeddus yr ASB ar gynigion i reoleiddio bwyd a bwyd anifeiliaid sydd wedi’u bridio’n fanwl i ben ym mis Ionawr 2024. Ar 20 Mawrth, bu’r Bwrdd yn trafod y crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, a chytunwyd ar y camau nesaf arfaethedig i’w gweithredu. Bydd swyddogion yr ASB nawr yn bwrw ymlaen â’r meysydd gwaith amrywiol sydd eu hangen er mwyn helpu’r ASB i baratoi ar gyfer darparu’r gwasanaeth rheoleiddio newydd. O ganlyniad, bydd yr ASB yn gwneud y canlynol:
- llunio canllawiau technegol i ddarpar-ymgeiswyr er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth â’r fframwaith rheoleiddio
- llunio canllawiau gorfodi ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr i’w helpu wrth weithredu pwerau gorfodi newydd, yn ogystal â chreu canllawiau ar gyfer awdurdodau gorfodi yng Nghymru a Gogledd Iwerddon er mwyn sicrhau bod y rhyngweithio â Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 a Fframwaith Windsor yn ddealladwy
- gwneud yr addasiadau angenrheidiol i wasanaeth yr ASB ar gyfer gwneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig, yn ogystal â’r gofrestr o geisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig, er mwyn reoli ceisiadau am fwyd a bwyd anifeiliaid sydd wedi’u bridio’n fanwl
- dadansoddi anghenion busnes newydd yr ASB i ddeall yn well yr adnoddau y bydd eu hangen i gyflawni cyfrifoldebau newydd yr ASB
- datblygu ymhellach brosesau mewnol, yn ogystal â’r meini prawf a’r broses ar gyfer archwilio cyfran o hysbysiadau ‘Haen 1’
- rheoli’r cyfnod pontio tuag at gynnal y gwasanaeth ceisiadau Bridio Manwl, gan gynnwys sut i adrodd yn rheolaidd i’r Bwrdd drwy’r Pwyllgor Busnes.
Byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â swyddogion yn Llywodraeth Cymru i ddiweddaru a mewnbynnu/deall trywydd y Llywodraeth newydd mewn perthynas â’r maes Bridio Manwl yng Nghymru.
4.3 Diwygio Cynhyrchion Rheoleiddiedig – Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ymgynghoriad 9 wythnos ledled Prydain Fawr ar ddiwygio cynhyrchion rheoleiddiedig. Roedd tîm Cymru’n ymwneud â chryn dipyn o’r gwaith i helpu i sicrhau cytundeb i ymgynghoriad byrrach. Aeth yr ymgynghoriad yn fyw ar 3 Ebrill 2024.
Mae’r ymgynghoriad, sy’n ceisio safbwyntiau’r diwydiant, awdurdodau cymwys a defnyddwyr a rhanddeiliaid ehangach, yn ymdrin â chynigion i wneud y canlynol:
- cael gwared ar y gofynion adnewyddu ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, ac ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid sy’n cynnwys, neu sydd wedi’u cynhyrchu ar sail organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) a chyflasynnau mwg
- caniatáu i awdurdodiadau cynhyrchion rheoleiddiedig ddod i rym pan gânt eu cyhoeddi, yn debygol ar gofrestr swyddogol, yn dilyn penderfyniad gweinidogol.
Yn ogystal â’r ymgynghoriad, bydd yr ASB yn ymgysylltu mewn modd rhagweithiol a manwl ag ymgynghorwyr ar y cynigion. Bydd pedair sesiwn a fydd yn para awr yr un, sef:
- 2 x sesiwn i’r diwydiant
- 1 x sesiwn i ddefnyddwyr
- 1 x sesiwn i awdurdodau lleol
Gofynnir i’r rheiny sy’n mynd i’r sesiynau ymateb yn ysgrifenedig i’r ymgynghoriad yn ogystal â chymryd rhan yn y sesiynau i sicrhau bod eu safbwyntiau’n cael eu casglu’n gywir yn ein data meintiol ac yn ein dadansoddiad o ymatebion.
Bydd yr ASB yn sicrhau bod cyrff cynrychioli defnyddwyr yn cymryd rhan lawn yn y gwaith hwn. Rydym wedi bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i grwpiau sy’n cynrychioli defnyddwyr am ein cynlluniau drwy gydol y broses o ddatblygu cynigion ar gyfer diwygio cynhyrchion rheoleiddiedig drwy’r Fforwm i Rhanddeiliaid a Defnyddwyr.
Yn ogystal, byddwn hefyd yn ymgysylltu â defnyddwyr yng Nghymru drwy ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol. Bydd ein gweithgarwch ymgysylltu dwyieithog yn canolbwyntio ar sicrhau bod defnyddwyr a busnesau yn ymwybodol o’r ymgynghoriad.
4.4 Archwiliadau awdurdodau lleol – Mae’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (y Cod) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu cynllun gwasanaeth dogfenedig sy’n ymdrin â phob maes cyfraith bwyd y mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i’w orfodi. Rhaid i’r cynllun nodi sut y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu cynnal rheolaethau bwyd swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yn ei ardal, a darparu adnoddau ar eu cyfer, yn ogystal â sut mae’r awdurdod lleol yn mynd i’r afael ag unrhyw amrywiad o ran cyflawni canlyniadau’r cynllun gwasanaeth blaenorol.
Roedd y rhaglen archwilio ar gyfer 2023/24 yn ystyried:
- prosesau a threfniadau cynllunio darpariaeth gwasanaethau – gan gynnwys asesiad o gynllun ymyrryd awdurdodau lleol, yr adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a dull blaenoriaethu gweithgareddau sy’n seiliedig ar risg, gan gynnwys asesu busnesau bwyd newydd
- camau archwilio agored – adolygu unrhyw gamau agored perthnasol o archwiliadau blaenorol a diweddaru cynllun gweithredu yn sgil archwiliad yr awdurdod lleol yn unol â hynny
Cynhaliwyd pum archwiliad wyneb yn wyneb, ac mae canfyddiadau’n dangos bod adferiad awdurdodau lleol yn amrywio ledled Cymru. Nodwyd adnoddau fel cyfyngiad mawr mewn awdurdodau lleol nad oes ganddynt gynllun i ail-alinio’n llawn â’r Cod ar waith. Cynigiwyd cymorth i rai awdurdodau lleol wrth iddynt lunio cynllun i fynd i’r afael â diffyg adnoddau a’r ôl-groniad o ymyriadau mewn sefydliadau sy’n hwyr yn cael sgôr a’r rheiny heb sgôr.
Bydd y rhaglen archwilio ar gyfer 2024/25 yn cynnwys:
- parhau â’r rhaglen archwilio ar gyfer 2023/24 i gael sicrwydd ehangach bod trefniadau effeithiol ar waith er mwyn i awdurdodau lleol gynnal rheolaethau swyddogol ledled Cymru ar ôl i’r Cynllun Adfer ddod i ben. Bydd unrhyw gamau archwilio agored perthnasol yn dilyn archwiliadau blaenorol hefyd yn cael eu hadolygu i asesu cynnydd awdurdodau lleol ers archwiliadau blaenorol. Hyd nes y ceir tystiolaeth bod safleoedd yn cydymffurfio â’r gofynion hyn, mae’n bwysig bod yr argymhellion agored hyn yn cael eu hadolygu er mwyn sicrhau eu bod wedi’u cwblhau. Darperir adroddiadau unigol i awdurdodau lleol, a bydd cynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr ASB. Ar ddiwedd y rhaglen bydd adroddiad cryno yn cael ei gyhoeddi yn cynnwys canfyddiadau o’r rhaglenni archwilio ar gyfer 2023/2024 a 2024/25.
- profi systemau y tu allan i oriau awdurdodau lleol i gael sicrwydd bod trefniadau effeithiol ar waith i ymdrin ag argyfyngau y tu allan i oriau gwaith arferol. Rhoddir adborth i awdurdodau lleol unigol a chynhyrchir briff cryno.
Mae’r adolygiad o’r llawlyfrau archwilio ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi’i gwblhau. Mae’r llawlyfr archwilio (Cymru) a’r siarter archwilio newydd wedi’u cyhoeddi ar wefan yr ASB.
4.5 Adroddiad CSHB ar gyfer Senedd Cymru – Gosodwyd yr adroddiad tair blynedd i adolygu gweithrediad y CSHB statudol a gweithrediad y system apelio yng Nghymru yn y Senedd ar 28 Chwefror 2024 yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r adroddiad yn dangos bod y cynllun yn parhau i gael effaith gadarnhaol, ac er bod yr ymateb i’r pandemig wedi lleihau nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd mewn safleoedd bwyd, mae’n dechrau dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig.
4.6 Bara a Blawd – Mae’r newidiadau arfaethedig, sy’n gymwys i’r pedair gwlad, i Reoliadau Bara a Blawd 1998, sy’n cynnwys ychwanegu asid ffolig, bellach wedi’u cyflwyno i Sefydliad Masnach y Byd ac yn achos Gogledd Iwerddon, yr UE, ac rydym yn aros am unrhyw adborth posib ar y mesurau arfaethedig. Gan weithredu o dan y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer Safonau Cyfansoddiad a Labelu Bwyd, mae’r pedair gwlad wedi cydweithio i lunio cynigion cyson a fyddai’n cael eu rhoi ar waith ledled y DU. Gwnaethom gwrdd â’r diwydiant yn ddiweddar i drafod y cymhlethdodau sy’n ymwneud ag alinio ychwanegu asid ffolig â newidiadau labelu. Roedd y cyfarfod yn llwyddiannus ac mae diwydiant wedi cytuno i gynnig cynigion ar sut i gyflawni’r aliniad hwn.
4.7 Gorsensitifrwydd i fwyd – Darparu gwybodaeth am alergenau y tu allan i’r cartref (bwytai, caffis ac ati). Yn dilyn penderfyniad Bwrdd yr ASB (13 Rhagfyr 2023) y dylid darparu gwybodaeth ysgrifenedig a gwybodaeth ar lafar am alergenau yn y lleoliadau hyn, ac y dylai’r rhain fod yn ofynion deddfwriaethol, mae swyddogion yr ASB bellach yn ymchwilio i hyn. Yn y lle cyntaf, byddwn yn ceisio datblygu canllawiau cryf, wrth i newidiadau deddfwriaethol gael eu harchwilio.
4.8 Prif Weinidog a’r Cabinet – Mae Vaughan Gething AS wedi’i benodi’n Brif Weinidog Cymru gan y Brenin. Mae Swyddfa Cabinet Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai’r Gweinidog dros Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar, Jane Bryant AS, fydd yn gyfrifol am bortffolio’r ASB yng Nghymru.
4.9 Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (CCC) – Cyflwynodd yr Uned Iaith Gymraeg gyflwyniad i CCC yn ddiweddar, gan dynnu sylw at y gwaith unigryw a wneir yn yr ASB wrth gyfuno tîm polisi’r Gymraeg a’r tîm chyfieithu, a rhannu arferion gorau a’r holl waith arall y mae’r tîm yn ei wneud yn ogystal â chyfieithu pur (fel gwaith y we, creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol, codi ymwybyddiaeth).
4.10 Ymgyrchoedd cyfathrebu – Ers cyfarfod diwethaf WFAC â thema, mae ein tîm cyfathrebu yng Nghymru wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws yr ASB ar yr ymgyrchoedd, y digwyddiadau a’r ceisiadau canlynol gan y cyfryngau:
- Ymgyrch gyfathrebu ar labelu figan – Ymgyrch gyfathrebu ar labelu figan – Lansiwyd yr ymgyrch hon ar 5 Mawrth, ac roedd wedi’i hanelu at bobl ag alergeddau (a rhieni pobl ifanc ag alergeddau neu’r rheiny sy’n gofalu amdanynt). Roedd yr ymgyrch yn amlygu efallai nad yw bwyd figan yn ddiogel i bobl ag alergeddau i laeth, wyau, pysgod a physgod cregyn gan y gallai’r bwyd ddod i gysylltiad â’r alergenau hyn yn ystod y broses weithgynhyrchu neu gynhyrchu. Roedd negeseuon yr ymgyrch yn esbonio’r gwahaniaeth rhwng label ‘rhydd rhag’ a label ‘figan’ a ‘seiliedig ar blanhigion’, gan annog defnyddwyr sydd ag alergeddau i edrych am Label Alergenau Rhagofalus (PAL) ar gynhyrchion, sef label sy’n aml yn nodi ‘gallai gynnwys’. Bydd y Label Alergenau Rhagofalus yn dangos a yw cynnyrch yn ddiogel i’w fwyta.
Defnyddiwyd amrywiaeth o sianeli i’n helpu i gyrraedd ein cynulleidfa, gan gynnwys hysbysebion cyfryngau cymdeithasol am dâl. Nodwyd hefyd amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys prifysgolion a chyrff y diwydiant i’n helpu i rannu negeseuon yr ymgyrch ar eu sianeli. Datblygwyd a rhannwyd pecynnau adnoddau ag awdurdodau lleol a phartneriaid er mwyn helpu i rannu negeseuon yr ymgyrch â chynulleidfaoedd allweddol. - Ymgyrch busnesau bwyd: cofrestru ac arolygiadau – Lansiwyd yr ymgyrch hon ar 19 Mawrth er mwyn rhannu mwy o wybodaeth â busnesau am y camau y gallant eu cymryd i gynnal busnes bwyd diogel. Roedd y negeseuon yn sôn am y gwaith cynllunio y gall busnesau ei wneud cyn cofrestru, a’r ffordd orau o baratoi ar gyfer arolygiad hylendid bwyd. I gefnogi’r ymgyrch, gwnaethom ddatblygu fideo byr yn egluro beth sy’n digwydd yn ystod arolygiad. Yn ogystal, gwnaethom hyrwyddo negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i dargedu busnesau bwyd bach a busnesau bwyd yn y cartref, a defnyddio hysbysebion Google i dargedu’r rhai sy’n chwilio am wybodaeth am ddechrau busnes bwyd. Gwnaethom hefyd greu a rhannu pecynnau adnoddau ag awdurdodau lleol a phartneriaid i’n helpu i rannu negeseuon yr ymgyrch â’u cynulleidfaoedd nhw.
Yn ddiweddar, bu’r tîm yng Nghymru yn gweithio gyda chydweithwyr yn Safonau Masnach Cymru i gynhyrchu podlediad ‘Holi’r Rheoleiddiwr’ i’w ddarlledu ar ddiwrnod cyntaf wythnos Safonau Masnach Cymru (wythnos yn dechrau 15 Ebrill). Bydd y podlediad yn trafod materion bwyd a bwyd anifeiliaid. - Ymgyrch Ymatebol ar y cyfryngau cymdeithasol: Gwanwyn Glân – Rhwng 19 Mawrth a 21 Ebrill, rhannodd yr ymgyrch hon gyngor cyffredinol â defnyddwyr ar ddiogelwch a hylendid bwyd yn y cartref, gan eu hatgoffa i lanhau cypyrddau neu oergelloedd yn rheolaidd a gwirio dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ a dyddiadau ‘ar ei orau cyn’. Roedd hefyd yn rhoi cyngor ar y cwestiynau cyffredin am ddiogelwch bwyd yn y cartref fel ble y dylech storio wyau ac i ba dymheredd y dylech osod yr oergell/rhewgell. Prif nod yr ymgyrch hon yw cynyddu gwybodaeth defnyddwyr am yr hanfodion hylendid, sef oeri, coginio, glanhau a chroeshalogi yn y cartref.
- Ymholiad gan The Financial Times: mwynglawdd metel nad yw’n cael ei ddefnyddio bellach – Ymatebodd Tîm Cyfathrebu Cymru yn ddiweddar i ymholiad gan The Financial Times am bresenoldeb posib plwm yn y gadwyn fwyd oherwydd hen fwyngloddiau metel yn y DU, a’r goblygiadau iechyd i bobl ac anifeiliaid sy’n byw gerllaw. Roedd gan y newyddiadurwr ddiddordeb arbennig mewn mwyngloddiau metel yng Nghymru, a chyfeiriodd at astudiaeth a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023.
Bu tîm Cymru’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau ymateb cydgysylltiedig, ac roedd yr erthygl derfynol yn canolbwyntio’n helaeth ar halogiad bwyd a thir o’r mwyngloddiau metel hyn nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach. Daeth yr erthygl i ben gyda galwad am ymchwil pellach i ddeall yn well effeithiau iechyd mwyngloddiau metel nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach, ac am ragor o ganllawiau i awdurdodau lleol ar fynd i’r afael â halogiad bwyd.
Cyhoeddwyd darn dilynol y diwrnod wedyn, yn tynnu sylw at sylwadau gan y Gwir Anrhydeddus, Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, a oedd yn mynegi pryderon am ymchwiliadau The Financial Times i fwyngloddiau metel yng Nghymru nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach. Cadarnhaodd y Pwyllgor Materion Cymreig y byddant yn lansio ymchwiliad i’r risgiau iechyd sy’n deilio o fwyngloddiau metel yng Nghymru nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach, yn dilyn ymchwiliad The Financial Times. Yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ar 19 Mawrth, holwyd y Prif Weinidog am fwyngloddiau plwm yng Nghymru nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach. - Stori Kepak yn y cyfryngau a Chwestiynau i’r Senedd – Gweithiodd y tîm yn agos gyda chydweithwyr Gweithrediadau yng Nghymru i ddarparu llinellau ymatebol yn dilyn erthygl Wales Online am ffatri Kepak ym Merthyr Tudful. Yn ogystal, cyflwynodd y tîm friff i roi gwybod ymlaen llaw fel bod y Gweinidog yn ymwybodol o’r mater cyn y Cyfarfod Llawn yn y Senedd. Daeth cais dilynol gan Jenny Rathbone AS am ddatganiad ar safonau glendid Kepak yn ystod y sesiwn ‘Datganiad a Chyhoeddiad Busnes’ y Senedd yn y Cyfarfod Llawn. Cyflwynwyd cwestiwn ysgrifenedig pellach gan arweinydd yr wrthblaid, Andrew RT Davies, yn y Senedd yr wythnos diwethaf, ac mae’r tîm hefyd wedi ymateb.
5. Ymgynghoriadau
5.1 Ymgyngoriadau cyfredol:
- Ymgynghoriad ar y canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM) – Mae’r ymgynghoriad yn ceisio adborth mewn perthynas â chanllawiau newydd ar MSM. Nod y canllawiau yw rhoi cymorth i weithredwyr busnesau bwyd, yn dilyn dyfarniadau’r Llys sy’n egluro sut y dylid dehongli a chymhwyso’r diffiniad o gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM). Dyddiad lansio: 28 Chwefror 2024. Dyddiad cau: 22 Mai 2024.
- Diwygiadau i Reoliad a gymathwyd 2019/1793: Rheolaethau swyddogol a gynhelir ar fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel a fewnforir nad ydynt yn dod o anifeiliaid – Ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i’r rhestrau o fewn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn a gymathwyd 2019/1793 (“Rheoliad 2019/1793”), sy’n cymhwyso cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol ac amodau arbennig sy’n llywodraethu mynediad bwyd a bwyd anifeiliaid penododedig nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr o wledydd penodedig. Dyddiad lansio: 14 Mawrth 2024. Dyddiad cau: 25 Ebrill 2024.
- Ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i’r broses awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig – Nod yr ymgynghoriad hwn yw casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar newidiadau arfaethedig i’r broses awdurdodi ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig. Dyddiad lansio: 3 Ebrill 2024. Dyddiad cau: 5 Mehefin 2024.
- Ymgynghoriad Defra ar labelu bwyd tecach – Mae’r ymgynghoriad yn ceisio safbwyntiau ar gynigion i wella tryloywder a chysondeb drwy wella’r trefniadau ar gyfer labelu gwlad tarddiad a lles anifeiliaid yn y DU. Dyddiad lansio: 12 Mawrth 2024. Dyddiad cau: 07 Mai 2024
6. Edrych tua’r dyfodol
6.1 Cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin – Bydd Bwrdd yr ASB yn mynd i Landudno ym mis Mehefin fel rhan o’r trefniadau i gynnal cyfarfod y Bwrdd yng Nghymru bob yn ail flwyddyn. Ar 18 Mehefin, bydd aelodau’r Bwrdd yn ymweld â nifer o fusnesau a sefydliadau yn yr ardal leol, a chynhelir cyfarfod y Bwrdd yn Venue Cymru, Llandudno ar 19 Mehefin.
6.2 Ein Bwyd 2023: Lansio Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd – Bydd Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd yn cael ei osod ym mis Mehefin eleni, a bydd digwyddiadau seneddol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn cael eu cynnal i nodi’r cyhoeddiad. Yn hytrach na’r digwyddiad mawr i randdeiliaid a gynhaliwyd ym mis Tachwedd, mae’r tîm yn bwriadu cynnal trafodaeth ford gron lai gydag Aelodau allweddol o’r Senedd. Bydd hyn yn gyfle i Aelodau o’r Senedd drafod canfyddiadau’r adroddiad a gwaith yr ASB yn fwy cyffredinol gyda Chadeirydd a Phrif Weithredwr yr ASB.
6.3 Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol – Byddwn yn mynd i’r ddau ddigwyddiad cenedlaethol hyn eleni:
- Bydd y Sioe Frenhinol yn gyfres o gyfarfodydd ymgysylltu a chyfleoedd i Gadeirydd yr ASB, Cadeirydd WFAC, ac o bosib, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr UKIA. Cânt eu cefnogi gan gydweithwyr o’r ASB yng Nghymru, ac mae’r tîm wrthi’n paratoi am y digwyddiadau hyn.
- Bydd gan yr ASB yng Nghymru stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cael ei chynnal ym Mhontypridd eleni. Bydd y stondin yn cynnwys modiwlau gwybodaeth ar feysydd allweddol yr ASB, a bydd staff yr ASB yn gwirfoddoli.
6.4 Mae’r gweithgarwch cyfathrebu canlynol hefyd ar y gweill dros yr ychydig wythnosau nesaf:
- Ymgyrch Ymatebol ar y cyfryngau cymdeithasol ar thema rhybuddion a hysbysiadau galw cynhyrchion yn ôl yr ASB (Mai – Mehefin)