Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth ‘Gwneud Cais i Awdurdodi Cynnyrch Rheoleiddiedig’
Gwasanaeth Gwneud Cais i Awdurdodi Cynnyrch Rheoleiddiedig.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy’n rhedeg y gwasanaeth Cais i Awdurdodi Cynnyrch Rheoleiddiedig. Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo mewn hyd at 400% heb i’r testun gwympo oddi ar y sgrin
- llywio trwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio trwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r gwasanaeth hwn yn gwbl hygyrch. Gallwch chi weld rhestr lawn o unrhyw broblemau rydym yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd yn yr adran ‘Cynnwys nad yw’n hygyrch’ yn y datganiad hwn.
Adborth a manylion cyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain neu braille, gallwch:
anfon e-bost i: fsa.communications@food.gov.uk
ffonio ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Byddwn ni’n ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 10 diwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch chi:
anfon e-bost i: fsa.communications@food.gov.uk
ffonio ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Darllenwch gyngor ar gysylltu â sefydliadau am wefannau anhygyrch.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nid ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym ni wedi ymateb i’ch cwyn, gallwch chi gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y ‘rheoliadau hygyrchedd’) yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ymrwymo i wneud ei gwefan a’i gwasanaethau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r datblygwyr allanol i unioni’r materion hyn.
Dolenni
Mae’r ddolen ym mhennyn y dudalen we i ganllawiau busnes yr un peth â’r ddolen gyfagos. Mae hyn oherwydd strwythur gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae’r ddolen ar y dudalen gyflwyno ar gyfer ail gyflwyniad yn ymddangos fel dolen amheus.
Penawdau a strwythur tudalennau
Nid yw’r penawdau wedi’u gweithredu’n gywir (1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd). Mae pennyn a phennawd wedi’u hepgor o bosib ar dudalen y Ffurflen Gais. Ar dudalen cyfeiriadau Gwneuthurwyr a’r dudalen am ddiogelu data uwchlwythiadau, mae labeli ffurflenni nad ydynt wedi’u cysylltu’n gywir â rheolydd ffurflen. Mae testun wedi’i danlinellu yn bresennol ar y dudalen atodiadau sydd wedi’u heithrio.
Trin gwallau
Ni nodir gwallau, ac ni ddarperir awgrymiadau ar y ffeiliau a gaiff eu huwchlwytho ar gyfer tudalennau uwchlwytho dogfennau technegol a dogfennau atodol i helpu defnyddwyr i gywiro’r gwall (3.3.1 Adnabod Gwall, 3.3.3 Awgrymu Gwallau).
Elfennau dethol
Roedd elfennau dethol wedi’u marcio’n anhygyrch i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol (1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd, 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth, 4.1.3 Negeseuon Statws)
Mae’r templed Cais Cyfrinachedd a’r templed Cais Diogelu Data yn ddogfennau Word ar hyn o bryd.
Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd
Os byddwch yn dod o hyd i broblem nad ydym wedi’i nodi eto, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o’r llwybrau a ddisgrifir yn yr adran ‘Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon’ yn y datganiad hwn
Baich anghymesur
Ar yr adeg hon, nid ydym wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Ar yr adeg hon, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 05 Tachwedd 2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 05 Tachwedd 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 13 Mawrth 2024. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC). Byddwn yn diweddaru’r datganiad hwn cyn gynted ag y bydd y materion wedi’u hunioni.
Profwyd y gwasanaeth gan dîm o archwilwyr a dadansoddwyr profiadol, y mae llawer ohonynt yn unigolion anabl ac yn ddefnyddwyr technoleg ymaddasol.
Byddwn yn diweddaru’r datganiad hwn cyn gynted ag y bydd y materion wedi’u hunioni.