Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Cofrestru Gwinllan yn y DU
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth Cofrestru gwinllan yn y DU.
Mae’r cais hwn yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo mewn hyd at 400% heb i’r testun gwympo oddi ar y sgrin
- llywio trwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio trwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gallwch chi weld rhestr lawn o unrhyw broblemau rydym yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd yn yr adran ‘Cynnwys nad yw’n hygyrch’ yn y datganiad hwn.
Adborth a manylion cyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain neu braille:
- anfonwch e-bost i: fsa.communications@food.gov.uk
- ffoniwch ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Byddwn ni’n ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 10 diwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch chi:
- anfon e-bost i: fsa.communications@food.gov.uk
- ffonio ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Darllenwch gyngor ar gysylltu â sefydliadau am wefannau anhygyrch.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.2 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd
Penawdau a strwythur tudalennau
Nid oedd gan dudalennau deitlau a oedd yn disgrifio pwnc neu bwrpas y dudalen.
Cyfeirnod WCAG: 2.4.2 Teitlau tudalennau (Lefel A)
Mae’r un teitl tudalen wedi cael ei ddefnyddio ar draws tudalennau lluosog sy’n golygu nad oes modd ei ddefnyddio i wahaniaethu rhwng y tudalennau. Gall defnyddwyr darllenwyr sgrin ddibynnu ar deitl y dudalen ynghyd â phennawd y brif dudalen i adnabod y dudalen a deall cynnwys a phwrpas y dudalen.
Mae’r testun ‘Cais anghyflawn’ ar y ffurflen cofrestru gwinllan yn cael ei ddangos fel pennawd posib.
Trefn ffocws
Ni roddwyd ffocws i gydrannau y gellir rhoi ffocws iddynt mewn trefn a oedd yn cadw ystyr a gweithrediad.
Cyfeirnod WCAG: 2.4.3 Trefn Ffocws (Lefel A)
Pan fydd y dudalen yn llwytho, nid yw’r ffocws ar y lle iawn ar y dudalen. Byddai defnyddwyr yn disgwyl llywio’r dudalen mewn trefn ddarllen, o’r top i’r gwaelod ac o’r chwith i’r dde.
Gwybodaeth a pherthnasoedd
Nid oedd gwybodaeth, strwythur a pherthnasoedd a fynegwyd trwy ymddangosiad y dudalen wedi’u pennu’n rhaglennol nac ar gael ar ffurf testun.
Cyfeirnod WCAG: 1.3.1 Gwybodaeth a pherthnasoedd (Lefel A)
Nid yw’r negeseuon gwall yn ddigon disgrifiadol ar y tudalennau ar gyfer cofnodi’r math o fusnes sy’n cofrestru, enw’r gwindy, argaeledd y cyfeiriad post llawn neu leoliad, statws y deiliad a daliadaeth.
Labeli nad ydynt yn ddisgrifiadol
Nid oedd labeli’n disgrifio pwnc na diben y cynnwys yn ddigonol.
Cyfeirnod WCAG: 2.4.6 Penawdau a Labeli (Lefel AA)
Nid oedd y labeli’n ddisgrifiadol ar gyfer golygu parseli, amrywiaeth gwinwydd, arwynebedd a blwyddyn a blannwyd ar y dudalen manylion plannu gwinwydd ac ar gyfer golygu a thynnu parseli.
Byrfoddau (AAA)
Mae mecanwaith ar gael ar gyfer nodi ffurf neu ystyr estynedig talfyriadau.
Cyfeirnod WCAG: 3.1.4 Byrfoddau (Lefel AAA)
Nid oes mecanwaith ar gyfer nodi ffurf estynedig y talfyriad ‘PDO’.
Newid ar gais (AAA)
Roedd newidiadau cyd-destun yn cael eu cychwyn heb i’r defnyddiwr ofyn am y newidiadau a heb fecanwaith i ddiffodd newidiadau o’r fath.
Cyfeirnod WCAG: 3.2.5 Newid ar gais (Lefel AAA)
Mae’r ddolen i’r hysbysiad preifatrwydd ar y ffurflen cofrestru gwinllan yn cael ei hagor mewn tab neu ffenestr newydd pan gaiff ei actifadu, heb fod defnyddwyr yn cael gwybod bod hyn yn digwydd cyn actifadu.
Os byddwch yn dod o hyd i broblem nad ydym wedi’i nodi eto, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o’r llwybrau a ddisgrifir yn yr adran ‘Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon’ yn y datganiad hwn.
Baich anghymesur
Ar yr adeg hon, nid ydym wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Ar yr adeg hon, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 20 Ionawr 2025. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 20 Ionawr 2025.
Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ar 21 Ionawr 2025. Cynhaliwyd prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) ar 20 Mawrth 2023. Byddwn yn diweddaru’r datganiad hwn cyn gynted ag y bydd y materion yn cael eu hunioni.