Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mae digwyddiad bwyd (food incident) yn codi pan fo pryderon am fygythiadau (go iawn neu amheuon) i ddiogelwch bwyd neu fwyd anifeiliaid ac mae'n bosibl bod gofyn ymyrryd i ddiogelu buddiannau defnyddwyr.

Mae gofyniad cyfreithiol ar fusnesau i roi gwybod i'w hawdurdod lleol/awdurdod iechyd porthladd a'r Asiantaeth Safonau Bwyd os oes unrhyw reswm i gredu nad yw bwyd neu fwyd anifeiliaid yn cydymffurfio â'r gofynion diogelwch, a dylid eu tynnu neu eu galw'n ôl o'r farchnad ar unwaith.

Rhoi gwybod am ddigwyddiad(link is external) (Opens in a new window) yng Nghymru, Lloegr neu Gogledd Iwerddon.

Os ydych chi yn yr Alban, neu os yw’r digwyddiad yn ymwneud â busnes yn yr Alban, bydd angen i chi roi gwybod am y digwyddiad i Safonau Bwyd yr Alban(link is external) (Opens in a new window).