Salmonela
Rhagor o wybodaeth am salmonela a sut i leihau'r perygl o gael gwenwyn bwyd.
Mae haint salmonela (salmonelosis) yn afiechyd bacteriol cyffredin sy'n effeithio ar y llwybr perfeddol. Mae'r bacteria fel arfer yn byw ym mherfeddion anifeiliaid a phobl, a chânt eu lledaenu drwy ysgarthion. Mae pobl fel arfer yn cael eu heintio gan ddŵr neu fwyd sydd wedi'i halogi.
Mae salmonela yn grŵp o facteria cyffredin sy'n achosi gwenwyn bwyd. Fel arfer, cânt eu lledaenu drwy goginio annigonol a thrwy groeshalogi. Mae bacteria salmonela i'w canfod fwyaf aml mewn:
- cig amrwd
- dofednod (poultry) heb ei goginio'n ddigonol fel cyw iâr neu dwrci
- wyau
- llaeth heb ei basteureiddio
Mae plant ifanc, yr henoed a phobl sydd â system imiwnedd nad yw'n gweithio'n iawn mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael â gwenwyn bwyd a achosir gan salmonela. Mae gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ragor o wybodaeth am symptomau gwenwyn salmonela.
Fideo: Yr ASB yn esbonio Salmonela
Sut mae bacteria salmonela yn cael eu lledaenu?
Mae salmonela a gludir gan fwyd yn byw ym mherfeddion llawer o anifeiliaid fferm. Wrth fagu, lladd a phrosesu, gall y bacteria drosglwyddo i gynhyrchion bwyd.
Gall bwydydd eraill fel llysiau gwyrdd, ffrwythau a physgod cregyn gael eu halogi drwy ddod i gysylltiad ag ysgarthion anifeiliaid a phobl. Er enghraifft, o'r tail a ddefnyddir i wella ffrwythlondeb pridd neu garthffosiaeth mewn dŵr.
Gall bacteria ledaenu o anifeiliaid anwes, fel cathod a chŵn, i bobl. Gallant hefyd ledaenu o berson i berson trwy arferion hylendid gwael.
Lleihau'r risg o wenwyn salmonela yn y cartref
Gallwch osgoi'r rhan fwyaf o wenwyn bwyd trwy ddilyn yr Hanfodion Hylendid Bwyd:
Mae hefyd yn bwysig cofio i beidio byth ag yfed dŵr heb ei drin o lynnoedd, afonydd neu nentydd.
Cofiwch olchi eich dwylo'n drylwyr
Cofiwch olchi eich dwylo yn drylwyr gyda sebon a dŵr cynnes bob amser:
- cyn paratoi neu fwyta bwyd
- ar ôl trin bwyd amrwd
- ar ôl bod i'r toiled
- ar ôl newid cewyn babi
- ar ôl cyffwrdd â biniau
- ar ôl cyfwrdd ag anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill
Hanes diwygio
Published: 28 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Mai 2024