Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Hepatitis A

Beth allwch chi ei wneud i leihau’r risg o fynd yn sâl oherwydd Hepatitis A

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ebrill 2025

Beth yw Hepatitis A

Hepatitis A yw’r enw ar lid yr afu a achosir gan haint â’r feirws hepatitis A (a elwir hefyd yn ‘HAV’). Mae HAV yn cael ei ddal trwy fwyta bwyd neu yfed dŵr sydd wedi’u halogi â’r feirws, a gall hefyd gael ei ledaenu trwy gysylltiad agos â pherson heintiedig.

Mae pobl fel arfer yn gwella ar ôl dal Hepatitis A o fewn ychydig fisoedd, ond gall fod yn ddifrifol weithiau, a hyd yn oed yn beryg bywyd.

Y bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef symptomau difrifol yw pobl â chyflwr iechyd isorweddol (fel canser, diabetes, clefyd yr afu a’r arennau) a phobl hŷn. Gall menywod beichiog fod mewn mwy o berygl o esgor cyn amser os byddant yn cael eu heintio yn ystod chwe mis olaf y beichiogrwydd.

Mae haint Hepatitis A yn digwydd yn y DU, ond mae’n fwy cyffredin mewn gwledydd lle gall glanweithdra a threfniadau gwaredu carthion fod yn wael (yn enwedig Affrica, gogledd a de Asia, Canolbarth America, a de a dwyrain Ewrop).

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am symptomau Hepatitis A a sut mae’n eich gwneud yn sâl ar dudalen Hepatitis y GIG neu ar dudalen we Hepatitis A UKHSA.

Sut gallwch chi ddal Hepatitis A

Gallwch ddal HAV drwy ddod i gyswllt agos ag unigolyn sydd wedi’i heintio neu drwy fwyta bwyd neu yfed dŵr sydd wedi’i halogi â’r feirws.

Gallwch gael eich heintio â HAV drwy: 

  • ddod i gyswllt agos â rhywun sydd â haint Hepatitis A 
  • bwyta bwyd wedi’i baratoi gan rywun â’r haint sydd heb olchi ei ddwylo’n iawn
  • bwyta bwyd neu ddŵr wedi’i halogi, fel ffrwythau a llysiau amrwd (gan gynnwys aeron a salad), pysgod cregyn neu giwbiau iâ wedi’u gwneud â dŵr halogedig

Mae brigiadau o achosion sydd wedi’u cludo gan fwyd yn y DU wedi bod yn gysylltiedig â’r canlynol:

  • aeron rhew wedi’u mewnforio
  • aeron ffres wedi’u mewnforio
  • datys wedi’u mewnforio
  • trinwyr bwyd sydd wedi’u heintio
  • pysgod cregyn

Sut i leihau’r risg o Hepatitis A gartref

Y camau pwysicaf i atal yr haint rhag lledaenu yw:

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol y gall HAV fod yn gyffredin mewn ardaloedd â glanweithdra gwael. Wrth deithio i rannau o’r byd sydd â glanweithdra gwael, gallwch leihau eich risg o haint HAV trwy gymryd rhagofalon gan gynnwys mesurau hylendid da o ran bwyd a dŵr.

Os ydych chi’n teithio dramor, cyfeiriwch at y canlynol: