2,4-Dinitroffenol (DNP)
Peryglon DNP a rôl yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd wrth leihau’r risg i iechyd y cyhoedd.
Ychwanegwyd 2,4-Dinitrophenol (DNP) a’i gyfansoddion, gan gynnwys sodiwm dinitroffenolat, at y rhestr o wenwynau rheoleiddiedig o dan Reoliadau Rheoli Rhagflaenyddion Ffrwydrol a Gwenwynau 2023.
O 1 Hydref 2023 ymlaen, mae’n rhaid i aelod o’r cyhoedd sy’n dymuno mewnforio, defnyddio, caffael neu feddu ar DNP fod â thrwydded Rhagflaenyddion Ffrwydrol a Gwenwynau (EPP).
Mae bellach yn drosedd gwerthu’r sylwedd hwn i aelodau o’r cyhoedd heb drwydded ddilys.
Mae DNP yn gemegyn diwydiannol hynod wenwynig. Mae wedi cael ei werthu yn anghyfreithlon fel pilsen deiet ar gyfer colli pwysau. Mae DNP yn wenwynig i bobl a gall arwain at farwolaeth, yn ogystal â sgil-effeithiau corfforol difrifol eraill.
Peryglon iechyd DNP
Gall effeithiau DNP fod yn drychinebus ac achosi niwed difrifol i iechyd. Mae cymryd DNP wedi arwain at nifer sylweddol o farwolaethau yn y DU.
Mae sgil-effeithiau eraill DNP yn cynnwys:
- teimlo’n gyfoglyd
- chwydu
- aflonyddwch
- croen yn cochi
- chwysu
- teimlo’n benysgafn
- cur pen
- anadlu’n gyflym
- curiad calon afreolaidd
Gall cataractau a niwed i’r croen hefyd ddatblygu, yn ogystal â niwed i’r galon a’r system nerfol.
Os ydych chi wedi cymryd DNP, cysylltwch â meddyg neu weithiwr proffesiynol meddygol yn syth.
Gwerthu DNP yn anghyfreithlon fel pilsen deiet
Mae bellach yn drosedd gwerthu’r sylwedd hwn i aelodau o’r cyhoedd heb drwydded EPP ddilys a roddir gan y Swyddfa Gartref.
Powdwr melyn yw DNP, fel arfer wedi’i wneud ar ffurf tabled neu gapsiwl. Yn flaenorol, mae’r tabledi wedi’u gwerthu ar-lein, ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn siopau atchwanegiadau bwyd, neu gan bobl yn y gampfa.
Mae rhai pobl yn credu y bydd cymryd DNP yn gwella eu hymddangosiad corfforol neu’n arwain at golli pwysau, ond nid yw hyn yn wir. Gall gwerthwyr hysbysebu ei ddefnydd ar gam, er eu bod yn ymwybodol o’i effeithiau peryglus.
Rhoi gwybod am y rhai sy’n gwerthu DNP
Os ydych yn amau bod busnes yn torri’r gyfraith, rhowch wybod am y drosedd ar unwaith i’ch heddlu lleol neu Crimestoppers. Os oes gennych chi wybodaeth am fusnes nad yw o bosib yn cydymffurfio â’r rheolau ynghylch DNP, gallwch roi gwybod amdano drwy’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd neu’r Swyddfa Gartref.
Hanes diwygio
Cyhoeddwyd: 26 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Mawrth 2025