Ychwanegion ac E-rifau cymeradwy
Ychwanegion ac E-rifau ar gyfer lliwiau, cyffeithyddion (preservatives), gwrthocsidyddion, melysyddion, emylsyddion, sefydlogwyr, tewychwyr a mathau eraill o ychwanegion.
Dim ond mewn rhai bwydydd y caniateir defnyddio’r rhan fwyaf o ychwanegion ac maent yn ddarostyngedig i derfynau meintiol penodol, felly mae’n bwysig nodi y dylid defnyddio’r rhestr hon ar y cyd â’r ddeddfwriaeth briodol:
- Rheoliad a gymathwyd (UE) 1333/2008 ar ychwanegion bwyd yng Nghymru a Lloegr
- Rheoliad (UE) 1333/2008 ar ychwanegion bwyd a Rheoliad y Comisiwn (UE) 2022/63 sy’n diwygio Atodiadau II a III i Reoliad 1333/2008 yng Ngogledd Iwerddon
Glyserol (E 422)
Mae glyserol (E 422) wedi’i awdurdodi fel ychwanegyn bwyd, yn unol ag Atodiad II o ddeddfwriaeth yr UE a gymathwyd ar ychwanegion bwyd, Rheoliad Rhif 1333/2008 (Rheoliad y Comisiwn 1333/2008 yng Ngogledd Iwerddon).
Caniateir ei ddefnyddio ar lefelau quantum satis mewn diodydd â blas. Mae quantum satis yn golygu nad oes lefel rifiadol uchaf wedi’i phennu a rhaid defnyddio sylweddau yn unol ag arferion gweithgynhyrchu da, ar lefel nad yw’n uwch na’r hyn sy’n angenrheidiol i gyflawni’r pwrpas a fwriedir, ac ar yr amod na chaiff y defnyddiwr ei gamarwain.
Mae glycerol (E 422) yn gynhwysyn allweddol a ddefnyddir wrth gynhyrchu diodydd iâ slwsh. Mae’n cynnal yr effaith slwsh, gan atal yr hylif rhag rhewi’n solet. Fodd bynnag, bu achosion o blant yn mynd yn sâl ar ôl yfed gormod.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r diwydiant ar ganllawiau gwirfoddol i ddiogelu defnyddwyr sy’n agored i niwed ac wedi cytuno ar y pedair egwyddor ganlynol. Nid yw’r rhain yn ofynion cyfreithiol ond fe’u hystyrir fel arferion gorau.
Canllawiau i’r diwydiant ar gyfer glyserol mewn diodydd iâ slwsh
- Bydd perchnogion brand yn sicrhau bod eu cwsmeriaid yn gwbl ymwybodol o asesiad risg yr ASB ar ddefnyddio glyserol mewn diodydd iâ slwsh.
- Bydd perchnogion brand yn creu cynhyrchion sy’n cynnwys glyserol ar y lefelau isaf posib sy’n angenrheidiol yn dechnegol er mwyn creu’r effaith diod slwsh ofynnol.
- Bydd perchnogion brand yn cynghori eu cwsmeriaid y dylid rhoi rhybudd ysgrifenedig sy’n weladwy ar unrhyw fannau sy’n gwerthu diodydd iâ slwsh sy’n cynnwys glyserol, gan nodi – “Cynnyrch yn cynnwys glyserol. Nid argymhellir ar gyfer plant 4 oed ac iau”.
- Nid yw’r model busnes o ail-lenwi diodydd am ddim yn cael ei argymell mewn lleoliadau lle bydd plant dan 10 oed yn eu hyfed.
Mae’r canllawiau hyn i’r diwydiant yn seiliedig ar y senario waethaf bosib, lle gall defnyddwyr ddod i gysylltiad â diod iâ slwsh sy’n cynnwys y lefel uchaf o glyserol, sef 50,000 mg/L. Os bydd y diwydiant yn y dyfodol, gyda’i gilydd, yn penderfynu lleihau’r lefelau glyserol, gellir ailasesu’r canllawiau hyn.
Testun esboniadol i ddefnyddwyr am glyserol
Rydym wedi ychwanegu’r cyngor canlynol at ein tudalen i ddefnyddwyr ar ychwanegion bwyd.
Gall diodydd iâ slwsh gynnwys y cynhwysyn glyserol yn lle siwgr, ar lefel sy’n ofynnol i greu’r effaith slwsh. Ar y lefel hon, rydym yn argymell na ddylai plant pedair oed ac iau yfed y diodydd hyn, oherwydd eu potensial i achosi sgil effeithiau fel cur pen a salwch, yn enwedig pan fyddant yn cael eu hyfed yn ormodol.
Lliwiau
E-rifau | Ychwanegion |
---|---|
E100 | Curcumin |
E101 | (i) Riboflavin |
(ii) Riboflavin-5'-ffosfad | |
E102 | Tartrazine |
E104 | Quinoline yellow |
E110 | Sunset Yellow FCF; Orange Yellow S |
E120 | Cochineal; Asid carminig; Carmines |
E122 | Azorubine; Carmoisine |
E123 | Amaranth |
E124 | Ponceau 4R; Cochineal Red A |
E127 | Erythrosine |
E129 | Allura Red AC |
E131 | Patent Blue V |
E132 | lndigotine; Indigo Carmine |
E133 | Brilliant Blue FCF |
E140 | Cloroffylls and cloroffyllins |
E141 | Cymhlygion copr cloroffyll a cloroffyllins |
E142 | Green S |
E150a | Plain caramel |
E150b | Caustic sulphite caramel |
E150c | Ammonia caramel |
E150d | Sulphite ammonia caramel |
E151 | Brilliant Black BN; Black PN |
E153 | Carbon llysiau |
E155 | Brown HT |
E160a | Carotenau |
E160b(i) | Annatto; Bicsin |
E160b(ii) | Annatto; Norbicsin |
E160c | Rhin paprika; Capsanthian; Capsorubin |
E160d | Lycopene |
E160e | Beta-apo-8'-carotenal (C30) |
E161b | Lutein |
E161g | Canthaxanthin |
E162 | Beetroot Red; Betanin |
E163 | Anthocyanins |
E170 | Carbonad calsiwm |
E171 | Titaniwm deuocsid; ni chaniateir defnyddio hwn yng Ngogledd Iwerddon |
E172 | Ocsidau haearn a hydrocsidau |
E173 | Alwminiwm |
E174 | Arian |
E175 | Aur |
E180 | Litholrubine BK |
Cyfeithyddion (Preservatives)
E-rifau | Ychwanegion |
---|---|
E200 | Asid sorbig |
E202 | Potasiwm sorbate |
E210 | Asid benzoic |
E211 | Sodiwm benzoate |
E212 | Potasiwm benzoate |
E213 | Calsiwm benzoate |
E214 | Ethyl p-hydroxybenzoate |
E215 | Sodiwm ethyl p-hydroxybenzoate |
E218 | Methyl p-hydroxybenzoate |
E219 | Sodiwm methyl p-hydroxybenzoate |
E220 | Suylffwr deuocsid |
E221 | Sodiwm sylffit |
E222 | Sodiwm hydrogen sylffit |
E223 | Sodiwm metabisylffit |
E224 | Potasiwm metabisylffit |
E226 | Calsiwm sylffit |
E227 | Calsiwm hydrogen sylffit |
E228 | Potasiwm hydrogen sylffit |
E234 | Nisin |
E235 | Natamycin |
E239 | Hexamethylene tetramine |
E242 | Dimethyl dicarbonad |
E243 | Ethyl lauroyl arginate |
E249 | Potasiwm nitrad |
E250 | Sodiwm nitrad |
E251 | Sodiwm nitrad |
E252 | Potasiwm nitrad |
E280 | Asid propionig |
E281 | Sodiwm propionate |
E282 | Calsiwm propionate |
E283 | Potasiwm propionate |
E284 | Asid boric |
E285 | Sodiwm tetraborate; borax |
E1105 | Lysozyme |
Gwrthocsidyddion (Antioxidants)
E-rifau | Ychwanegion |
---|---|
E300 | Asid ascorbig |
E301 | Sodiwm asgorbad |
E302 | Calsiwm asgorbad |
E304 | Esterau asid bratserog asid asgwrig |
E306 | Tocopherols |
E307 | Alpha-tocopherol |
E308 | Gamma-tocopherol |
E309 | Delta-tocopherol |
E310 | Propyl gallate |
E315 | Asid erythorbig |
E316 | Sodiwm erythorbate |
E319 | Tertiary-butyl hydroquinone (TBHQ) |
E320 | Butylated hydroxyanisole (BHA) |
E321 | Butylated hydroxytoluene (BHT) |
E392 | Echdyniadau rhosmari |
E586 | 4-Hexylresorcinol |
Melysyddion (Sweeteners)
E960d glycosidau stefiol wedi'u glwcosyleiddio
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd (CE) wedi awdurdodi glycosid stefiol arall, E 960d, sef glycosid stefiol wedi’i glwcosyleiddio, Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 2023/447 a gyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2023 a daeth i rym ar 20 Mawrth 2023. Mae'r rheoliad hwn yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon ond nid Prydain Fawr. Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 2023/447.
E-rifau | Ychwanegion |
---|---|
E420 | (i) Sorbitol |
(ii) Syrop sorbitol | |
E421 | Mannitol |
E950 | Acesulfame K |
E951 | Aspartame |
E952 | Asid cyclamig a'i halwynau Sodiwm a Chalsiwm |
E953 | lsomalt |
E954 | Saccharin a'i halwynau Sodiwm, Potasiwm a Chalsiwm |
E955 | Sucralose |
E957 | Thaumatin |
E959 | Neohesperidine DC |
E960a | Steviol glycoside o stefia |
E960b | Glycosidau stefiol trwy eplesu |
E960c | Glycosid stefiol wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio ensymau |
E961 | Neotame |
E962 | Halen aspartame-acesulfame |
E964 | Syrop polyglycitol |
E965 | (i) Maltitol |
(ii) Syrop maltitol | |
E966 | Lactitol |
E967 | Xylitol |
E968 | Erythritol |
E969 | Advantame |
Emylsyddion, Sefydlogwyr, Tewychwyr ac Asiantau Gelu (Emulsifiers, Stabilisers, Thickeners and Gelling Agents)
E-rifau | Ychwanegion |
---|---|
E322 | Lecithinau |
E400 | Asid alginig |
E401 | Sodiwm alginate |
E402 | Potassiwm alginate |
E403 | Amoniwm alginate |
E404 | Calsiwm alginate |
E405 | Propane-1,2-diol alginate |
E406 | Agar |
E407 | Carrageenan |
E407a | Gwymon eucheuma wedi'i brosesu |
E410 | Gwm ffa locust; gwm carob |
E412 | Gwm guar |
E413 | Tragacanth |
E414 | Gwm acacia; gwm arabic |
E415 | Gwm xanthan |
E416 | Gwm karaya |
E417 | Gwm tara |
E418 | Gwm gellan |
E425 | Konjac |
E426 | Hemicellulose ffa soia |
E427 | Gwm cassia |
E432 | Polyoxyethylene sorbitan monolaurate; Polysorbate 20 |
E433 | Polyoxyethylene sorbitan mono-oleate; Polysorbate 80 |
E434 | Polyoxyethylene sorbitan monopalmitate; Polysorbate 40 |
E435 | Polyoxyethylene sorbitan monostearate; Polysorbate 60 |
E436 | Polyoxyethylene sorbitan tristearate; Polysorbate 65 |
E440 | Pectinau |
E442 | Phosphatidau amoniwm |
E444 | Sucrose acetate isobutyrate |
E445 |
Esterau glyserol o ystorau pren |
E460 | Cellwlos |
E461 | Methyl cellwlos |
E462 | Ethyl cellwlos |
E463 | Hydroxypropyl cellwlos |
E464 | Hydroxypropyl methyl cellwlos |
E465 | Ethyl methyl cellwlos |
E466 | Carboxy methyl cellwlos |
E468 | Sodium carboxy methyl cellwlos wedi'i groesgysylltu |
E469 | Carboxy methyl cellwlos hydrolysig wedi'i hydroleiddio drwy ddefnyddio ensymau |
E470a | Halwynau sodiwm, potassiwm a chalsiwm asidau brasterog |
E470b | Halwynau magnesiwm asidau brasterog |
E471 | Mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog |
E472a | Esterau asid asetig o mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog |
E472b | Esterau asid lactig o mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog |
E472c | Esterau asid citrig o mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog |
E472d |
Esterau asid o mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog |
E472e | Esterau asid mono-acetyltartig a diacetyltartarig o mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog |
E472f | Esterau asidig acetig a thartarig cymysg mono-glyseridau a diglyseridau asidau brasterog |
E473 | Esterau swcros asidau brasterog |
E474 | Sucroglyseridau |
E475 | Esterau polyglyserol asidau brasterog |
E476 | Polyglycerol polyricinoleate |
E477 | Esterau propane-1,2-diol asidau brasterog |
E479b | Olew ffa soia wedi'i ocsideiddio'n thermol wedi'i ryngweithio â mono-glyseridau a diglyseriadau asidau brasterog |
E481 | Sodiwm stearoyl-2-lactylate |
E482 | Calsiwm stearoyl-2-lactylate |
E483 | Stearyl tartrate |
E491 | Sorbitan monostearate |
E492 | Sorbitan tristearate |
E493 | Sorbitan monolaurate |
E494 | Sorbitan monooleate |
E495 | Sorbitan monopalmitate |
E1103 | Invertase |
Eraill
Asidau, rheoleiddwyr asidedd, sylweddau gwrth-gaglu, sylweddau gwrth-ewynnu, sylweddau crynhoi, cludwyr a thoddyddion cludwyr, halwynau emylsio, sylweddau caledu, sylweddau gwella blas, sylweddau trin blawd, asiantau ewynnu, sylweddau sgleinio, sylweddau cynnal lleithder, startsys wedi'u haddasu, nwyau pecynnu, propelyddion, sylweddau codi a secwestryddion.
E260 | Asid asetig |
---|---|
E261 | Asetad potassiwm |
E262 | Asetad sodiwm |
E263 | Asetad calsiwm |
E270 | Asid lactig |
E290 | Carbon deuocid |
E296 | Asid malic |
E297 | Asid fumaric |
E325 | Sodiwm lactad |
E326 | Potasiwm lactad |
E327 | Calwiwm lactad |
E330 | Asid citrig |
E331 | Sitradau sodiwm |
E332 | Sitradau potasiwm |
E333 | Sitradau calsiwm |
E334 | Asid tartarig (L-(+)) |
E335 | Tartradau sodiwm |
E336 | Tartradau potasiwm |
E337 | Tartrad sodiwm potawsiwm |
E338 | Asid ffosforig |
E339 | Ffosfadau sodiwm |
E340 | Ffosfadau potasiwm |
E341 | Ffosfadau calsiwm |
E343 | Ffosfadau magnesiwm |
E350 | Sodiwm malates |
E351 | Potasiwm malate |
E352 | Calsiwm malates |
E353 | Asid metatartarig |
E354 | Tartrad calsiwm |
E355 | Asid adipic |
E356 | Sodiwm adipad |
E357 | Potasiwm adipad |
E363 | Asid sycsinig |
E380 | Triamoniwm sitrad |
E385 | Calsiwm disodiwm ethylene diamine tetra-asetad; calsiwm disodiwm EDTA |
E422 | Glyserol |
E423 | Octenyl succinic acid modified gum Arabic |
E431 | Polyoxyethylene (40) stearate |
E450 | Diffosfadau |
E451 | Triffosfadau |
E452 | Polyffosfadau |
E459 | Beta-cyclodextrin |
E499 | Sterolau planhigion â stigmasterol helaeth |
E500 | Sodiwm carbonadau |
E501 | Potasiwm carbonadau |
E503 | Amoniwm carbonadau |
E504 | Magnesiwm carbonadau |
E507 | Asid hydroclorig |
E508 | Potasiwm clorid |
E509 | Calsiwm clorid |
E511 | Magnesiwm clorid |
E512 | Stannous clorid |
E513 | Asid sylffwrig |
E514 | Sodiwm sylffadau |
E515 | Potasiwm sylffadau |
E516 | Calsiwm sylffad |
E517 | Amoniwm sylffad |
E520 | Alwminiwm sylffad |
E521 | Sodiwm sylffad alwminiwm |
E522 | Potasiwm sylffad alwminiwm |
E523 | Amoniwm sylffad alwminiwm |
E524 | Sodiwm hydrocsid |
E525 | Potasiwm hydrocsid |
E526 | Calsiwm hydrocsid |
E527 | Amoniwm hydrocsid |
E528 | Magnesiwm hydrocsid |
E529 | Calsiwm ocsid |
E530 | Magnesiwm ocsid |
E535 | Sodiwm ferrocyanide |
E536 | Potasiwm ferrocyanide |
E538 | Calsiwm ferrocyanide |
E541 | Sodiwm alwminiwm ffosfad |
E551 | Silicon deuocsid |
E552 | Calsiwm silicad |
E553a | (i) Magnesiwm silicac |
(ii) Magnesiwm trisilicad | |
E553b | Talc |
E554 | Sodiwm alwminiuwm silicad |
E555 | Potasiwm alwminiwm silicad |
E570 | Asidau brasterog |
E574 | Asid glwconaidd |
E575 | Glucono delta-lactone |
E576 | Sodiwm gluconate |
E577 | Potasiwm gluconate |
E578 | Calsiwm gluconate |
E579 | Fferrus gluconate |
E585 | Fferrus lactad |
E620 | Asid glutamig |
E621 | Monosodiwm glutamate |
E622 | Monopotasiwm glutamate |
E623 | Calsiwm diglutamate |
E624 | Monoamoniwm glutamate |
E625 | Magnesiwm diglutamate |
E626 | Asid guanylic |
E627 | Disodiwm guanylate |
E628 | Dipotasiwm guanylate |
E629 | Calsiwm guanylate |
E630 | Asid inosinig |
E631 | Disodiwm inosinate |
E632 | Dipotasiwm inosinate |
E633 | Calsiwm inosinate |
E634 | Calsiwm 5'-ribonucleotides |
E635 | Disodiwm 5'-ribonucleotides |
E640 | Glycin a'i halen sodiwm |
E641 | L-leucine |
E650 | Asetad sinc |
E900 | Dimethylpolysiloxane |
E901 | Cwyr gwenyn, gwyn a melyn |
E902 | Cwyr candelilla |
E903 | Cwyr carnauba |
E904 | Shellac |
E905 | Cwyr microcrystalline |
E907 | Poly-1-Decene hydrogenedig |
E914 | Cwyr Polyethylen wedi'i ocsideiddio |
E920 | L-Cysteine |
E927b | Carbamid |
E938 | Argon |
E939 | Heliwm |
E941 | Nitrogen |
E942 | Ocsid nitraidd |
E943a | Bwtan |
E943b | Iso-bwtan |
E944 | Propylen |
E948 | Ocsigen |
E949 | Hydrogen |
E999 | Echdyniad quillaia |
E1200 | Polydextrose |
E1201 | Polyvinylpyrrolidone |
E1202 | Polyvinylpolypyrrolidone |
E1203 | Alcohol polyvinyl |
E1204 | Pullulan |
E1205 | Copolymer methacrylad basig |
E1206 | Copolymer methacrylad niwtral |
E1207 | Copolymer methacrylad anionic |
E1208 | Copylmer asedad olyvinylpyrrolidone-vinyl |
E1209 | Coplymer polyvinyl alcohol-polyethylene glycol-graft |
E1404 | Starts wedi'i ocsideiddio |
E1410 | Monostarch phosphate |
E1412 | Distarch phosphate |
E1413 | Phosphated distarch phosphate |
E1414 | Acetylated distarch phosphate |
E1420 | Acetylated starch |
E1422 | Acetylated distarch adipate |
E1440 | Hydroxyl propyl starch |
E1442 | Hydroxy propyl distarch phosphate |
E1450 | Starch sodium octenyl succinate |
E1451 | Acetylated oxidised starch |
E1452 | Starch aluminium Octenyl succinate |
E1505 | Triethyl citrate |
E1517 | Glyceryl diacetate (diacetin) |
E1518 | Glyceryl triacetate; triacetin |
E1519 | Alcohol benzyl |
E1520 | Propan-1,2-diol; propylene glycol |
E1521 | Polyethylene glycol |
Hanes diwygio
Published: 27 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Rhagfyr 2024