Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB): canllawiau i fusnesau

Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a’r Mesurau Diogelu ar gyfer Busnesau

Sut rydym yn sicrhau bod y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yn deg i fusnesau, sut y gallwch chi wneud apêl, defnyddio eich ‘hawl i ymateb’, a gwneud cais am arolygiad ailsgorio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 March 2024

Mae tri mesur diogelu ar waith i sicrhau bod y cynllun yn deg i fusnesau. Fel busnes:

  • gallwch wneud apêl  
  • mae gennych ‘hawl i ymateb’    
  • gallwch ofyn am arolygiad ailsgorio gan eich awdurdod lleol pan fydd gwelliannau wedi’u gwneud

Apeliadau

Cyn apelio, dylech gysylltu â swyddog diogelwch bwyd yr awdurdod lleol i ddeall pam cafodd y sgôr ei dyfarnu. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall sut y cafodd eich sgôr ei chyfrifo ac i weld a ydych chi’n dal i ddymuno apelio yn ei herbyn. Byddwch yn cael manylion cyswllt y swyddog hwn pan fyddwch yn cael gwybod am eich sgôr.

Os ydych chi’n dal i feddwl bod y sgôr yn annheg neu’n anghywir, gallwch gyflwyno apêl ysgrifenedig i’ch awdurdod lleol. Mae’r manylion o ran sut i wneud hyn wedi’u nodi yn y llythyr hysbysu a anfonwyd atoch sy’n rhoi gwybod am y sgôr.

Cymru

Os yw’ch busnes yng Nghymru, rhaid i chi ddefnyddio ffurflen safonol i apelio yn erbyn eich sgôr.

Lloegr a Gogledd Iwerddon

Os ydych chi yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, gallwch apelio drwy lenwi ffurflen neu gallwch anfon llythyr neu e-bost.

Dylech anfon eich llythyr, e-bost neu’ch ffurflen wedi’i chwblhau at swyddog bwyd arweiniol eich awdurdod lleol. Byddwch yn cael manylion cyswllt y swyddog hwn pan fyddwch yn cael gwybod am eich sgôr.

England

Northern Ireland

Pa mor hir sydd gennych i apelio

Rhaid i chi wneud eich apêl yn ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod ar ôl cael gwybod am eich sgôr hylendid bwyd. Mae’r cyfnod hwn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus.

Os na fyddwch yn apelio o fewn y cyfnod hwn, bydd eich awdurdod lleol yn cyhoeddi eich sgôr hylendid bwyd ar-lein ar wefan food.gov.uk/sgoriau.

Os byddwch yn apelio, bydd y wefan yn dangos bod eich sgôr hylendid bwyd yn ‘i’w chyhoeddi’n fuan’.

Adolygu’ch apêl a chanlyniad eich apêl

Bydd eich achos yn cael ei adolygu gan y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y swyddog arweiniol ar gyfer bwyd neu ei ddirprwy dynodedig    
  • y swyddog arweiniol neu ei ddirprwy dynodedig mewn awdurdod arall sydd hefyd yn gweithredu’r CSHB

Ni fydd y swyddog a roddodd y sgôr yn ystyried eich apêl.

O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd angen ymweliad pellach â’ch safle.

Byddwch yn cael gwybod am ganlyniad yr apêl o fewn 21 diwrnod i’r dyddiad y daeth yr apêl i law eich awdurdod lleol.

Unwaith y byddwch wedi cael gwybod am ganlyniad eich apêl, bydd eich sgôr yn cael ei chyhoeddi ar food.gov.uk/sgoriau.

Os nad ydych chi’n cytuno â chanlyniad yr apêl

Os nad ydych chi’n meddwl bod eich awdurdod lleol wedi dilyn prosesau’n gywir, gallwch ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r cyngor. Mae hyn yn cynnwys cyfeirio’r mater at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol yng Nghymru a Lloegr ac at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon. Dylech allu dod o hyd i fanylion am sut i gwyno ar wefan eich awdurdod lleol.

Os nad ydych chi’n cytuno â chanlyniad yr apêl, gallwch herio penderfyniad yr awdurdod lleol drwy adolygiad barnwrol.

Hyd yn oed os penderfynwch wneud hyn, bydd eich sgôr yn dal i gael ei chyhoeddi yn food.gov.uk/sgoriau.

Hawl i ymateb

Mae’r hawl i ymateb yn eich galluogi i roi gwybod i’ch cwsmeriaid sut mae’ch busnes wedi gwella ei safonau hylendid neu i egluro am unrhyw amgylchiadau anarferol adeg yr arolygiad. Bydd yr ymateb hwn yn cael ei gyhoeddi ar-lein ar food.gov.uk/sgoriau, ochr yn ochr â’r sgôr, gan yr awdurdod lleol.

Dylech anfon eich sylwadau, yn ysgrifenedig, at y swyddog diogelwch bwyd a arolygodd eich safle. Byddwch yn cael manylion cyswllt y swyddog pan fyddwch yn cael gwybod am eich sgôr.

Gallwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen safonol, neu gallwch anfon llythyr neu e-bost.

England

Northern Ireland

Pa mor hir sydd gennych i gyflwyno eich sylwadau

Nid oes dyddiad cau ar gyfer hyn, felly gallwch gyflwyno eich ‘hawl i ymateb’ ar unrhyw adeg hyd at eich arolygiad nesaf, pan gewch sgôr hylendid bwyd newydd.

Cyhoeddi eich sylwadau

Mae’n bosibl y bydd angen i’ch awdurdod lleol olygu sylwadau, er enghraifft i ddileu unrhyw sylwadau cas, difenwol, sy’n amlwg yn anghywir neu’n amherthnasol. Ar wahân i hynny, bydd yr hyn a ddywedwch yn eich ‘hawl i ymateb’ wedyn yn cael ei gyhoeddi ar-lein ynghyd â’ch sgôr hylendid yn food.gov.uk/sgoriau. Bydd eich sylw’n aros ar y wefan nes i chi gael sgôr newydd.

Arolygiadau ailsgorio

Byddwch yn cael sgôr hylendid bwyd newydd yn awtomatig bob tro y caiff eich safle ei arolygu gan eich awdurdod lleol. Mae amlder yr arolygiadau hyn a raglennir yn dibynnu ar y risg i iechyd pobl. Po fwyaf yw’r risg, y mwyaf aml y byddwch yn cael eich arolygu.

Os na chafodd eich busnes sgôr o ‘5 – Da iawn’, gallwch ofyn am arolygiad ailsgorio i gael sgôr newydd cyn yr arolygiad nesaf sydd wedi’i raglennu.

Dim ond os ydych wedi derbyn y sgôr a gwneud yr holl welliannau hylendid angenrheidiol a argymhellwyd gan swyddog diogelwch bwyd yr awdurdod lleol yn eich arolygiad rhaglenedig diwethaf y gallwch ofyn am arolygiad ailsgorio.

Cost arolygiad ailsgorio

Cymru a Gogledd Iwerddon

Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae pob awdurdod lleol yn codi ffi am arolygiad ailsgorio o dan eu cynlluniau statudol.

Lloegr

Mae rhai awdurdodau lleol yn Lloegr yn codi ffi i adennill costau am arolygiad ailsgorio. Byddwch chi’n cael gwybod am hyn yn y llythyr sy’n rhoi gwybod i chi am eich sgôr neu pan fyddwch chi’n gwneud eich cais.

Dylech chi gysylltu â’ch awdurdod lleol i gael gwybodaeth am sut i dalu.

Cyn gwneud cais am arolygiad ailsgorio

Edrychwch yn ofalus ar y sylwadau a wnaeth y swyddog diogelwch bwyd am y safonau hylendid a welodd yn ystod eich arolygiad diwethaf yn yr adroddiad neu’r llythyr a roddwyd i chi. Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cymryd y camau priodol i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau a godwyd. Gallwch chi drafod unrhyw beth rydych chi’n ansicr amdano â’ch swyddog diogelwch bwyd, neu gallwch chi ofyn am fwy o gymorth ar sut i wneud gwelliannau.

Pwysig
Yn ystod yr arolygiad ailsgorio, bydd y swyddog yn edrych ar safonau yn gyffredinol – nid yn unig ar y meysydd penodol rydych chi wedi bod yn gweithio i’w gwella – felly gallai eich sgôr hylendid fynd i fyny, i lawr neu aros yr un fath.

Nifer y ceisiadau am arolygiad ailsgorio rhwng arolygiadau a raglennir

Cymru a Gogledd Iwerddon

Does dim cyfyngiad ar nifer y ceisiadau y gellir eu gwneud am arolygiadau ailsgorio, ond rhaid bodloni amodau penodol cyn y bydd yr awdurdod lleol yn cytuno i gynnal arolygiad ailsgorio:

  • os ydych chi wedi apelio yn erbyn eich sgôr, rhaid i’r apêl hon fod wedi’i datrys cyn y bydd eich awdurdod lleol yn cytuno i gynnal arolygiad ailsgorio    
  • rhaid i chi fod yn arddangos eich sticer sgôr hylendid bwyd cyfredol yn eich safle mewn man amlwg    
  • rhaid i chi gytuno y bydd yr arolygwr yn cael mynediad i gynnal arolygiad o’ch safle at ddiben ailsgorio

Lloegr

Os nad yw’ch awdurdod lleol yn codi tâl am y gwasanaeth arolygiadau ailsgorio, dim ond un arolygiad ailsgorio y gallwch chi ei gael rhwng yr arolygiadau o’ch safle sydd wedi’u rhaglennu gan yr awdurdod lleol. Os yw’ch awdurdod lleol yn codi tâl am y gwasanaeth arolygiadau ailsgorio, does dim cyfyngiad ar nifer yr arolygiadau ailsgorio y gallwch chi ofyn amdanynt. Fodd bynnag, er mwyn osgoi talu am sawl arolygiad ailsgorio, dylech chi fynd i’r afael â materion cyn i chi gyflwyno cais.

Sut i ofyn am arolygiad ailsgorio

Dylech chi gyflwyno’ch cais yn ysgrifenedig i’r swyddog diogelwch bwyd a arolygodd eich safle. Byddwch yn cael manylion cyswllt y swyddog hwn pan fyddwch yn cael gwybod am eich sgôr.

Gallwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen safonol, neu gallwch anfon llythyr neu e-bost.

England

Northern Ireland

Os codir tâl am arolygiadau ailsgorio, dylech chi anfon y taliad gyda’ch cais.

Mae’n rhaid i chi esbonio’r camau rydych chi wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r problemau a godwyd yn ystod eich arolygiad diwethaf, a dylech chi gynnwys tystiolaeth ategol, er enghraifft derbynebau neu ffotograffau i ddangos bod y gwaith wedi’i gwblhau. Mae hyn yn bwysig gan y gallai’r awdurdod lleol wrthod eich cais os na fyddwch chi’n rhoi digon o dystiolaeth eich bod chi wedi datrys y problemau a godwyd.

Cymru a Gogledd Iwerddon

Wrth benderfynu a ddylid cynnal arolygiad ailsgorio, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn ystyried sut mae’r busnes yn cydymffurfio â’r gyfraith Sgorio Hylendid Bwyd. Byddai hyn yn cynnwys a yw’r busnes yn arddangos sticer sgôr dilys.

Os caiff y cais ei wrthod, byddwch chi’n cael gwybod pam. Byddwch chi’n cael cyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud neu’r dystiolaeth y mae angen i chi ei darparu cyn y gellir cytuno ar eich cais. Os na fyddwch chi’n cytuno â phenderfyniad yr awdurdod lleol i wrthod eich cais, gallwch chi godi’r mater gyda’r swyddog perthnasol yn eich awdurdod lleol. Os byddwch chi’n anghytuno â’r penderfyniad i wrthod cais am arolygiad ailsgorio, gallwch chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r awdurdod lleol, neu yn y pen draw geisio adolygiad barnwrol.

Lloegr

Os caiff y cais ei wrthod, byddwch chi’n cael gwybod pam. Byddwch chi’n cael cyngor ar unrhyw gamau y mae angen i chi eu cymryd neu dystiolaeth y mae angen i chi ei darparu cyn y gellir cytuno ar eich cais. Os na fyddwch chi’n cytuno â phenderfyniad yr awdurdod lleol i wrthod eich cais, gallwch chi godi’r mater gyda’r swyddog arweiniol ar gyfer bwyd. Os na allwch chi ddatrys y materion gyda’r swyddog arweiniol ar gyfer bwyd, gallwch chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno eich awdurdod lleol.

Pa mor hir sydd gennych chi i wneud eich cais

Does dim dyddiad cau ar gyfer gwneud y cais. Gallwch chi ei wneud ar unrhyw adeg ar ôl i chi wneud y gwelliannau angenrheidiol a nodwyd yn eich arolygiad. Fodd bynnag, ni allwch chi bennu pryd y cynhelir yr arolygiad ailsgorio.

Pa mor fuan y bydd yr awdurdod lleol yn ymweld

Cymru a Gogledd Iwerddon

Cynhelir yr arolygiad ailsgorio o fewn tri mis i’r dyddiad y byddwch chi’n cyflwyno cais ysgrifenedig.

Ni fyddwch chi’n cael gwybod y dyddiad na’r amser penodol y bydd yr arolygiad ailsgorio’n cael ei gynnal.

Lloegr

Os nad yw’r awdurdod lleol yn codi tâl am yr arolygiad ailsgorio, ni fydd yn cael ei gynnal fel arfer yn ystod y tri mis cyntaf ar ôl yr arolygiad pan roddwyd eich sgôr hylendid bwyd i chi. Fodd bynnag, efallai y bydd eich awdurdod lleol yn dewis cynnal yr arolygiad ailsgorio y gofynnwyd amdano’n gynt na hyn os oedd ond gofyn i chi wneud y canlynol:

  • gwneud gwelliannau neu atgyweiriadau strwythurol    
  • uwchraddio offer

Os byddwch chi’n gwneud eich cais yn ystod y tri mis cyntaf hynny, gallwch chi ddisgwyl arolygiad ailsgorio o fewn chwe mis i’r arolygiad gwreiddiol, ond ni fyddwch chi’n cael gwybod dyddiad ac amser penodol.

Os byddwch chi’n gwneud eich cais yn hwyrach na thri mis ar ôl eich arolygiad, neu os yw’ch awdurdod lleol yn codi tâl am arolygiadau ailsgorio, gallwch chi ddisgwyl arolygiad ailsgorio o fewn tri mis ond eto ni fyddwch chi’n cael gwybod dyddiad ac amser penodol.

Os ydych chi’n dal i aros am arolygiad ailsgorio ar ôl yr cyfnodau hyn, gallwch chi ofyn i’r swyddog arweiniol ar gyfer bwyd ymchwilio i’r peth. Os na allwch chi ddatrys pethau fel hyn, gallwch chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno eich awdurdod lleol a fydd ar gael ar ei wefan.

Yr arolygiad ailsgorio a’i ganlyniad

Yn ystod yr arolygiad ailsgorio, bydd y swyddog diogelwch bwyd yn asesu’r safonau hylendid ar eich safle. Byddwch chi’n cael gwybod yn ysgrifenedig beth yw eich sgôr hylendid bwyd newydd. Bydd hyn naill ai ar adeg yr arolygiad neu cyn pen 14 diwrnod ar ei ôl (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus). Gallai eich sgôr aros yr un fath ag o’r blaen, gallai fynd i fyny, neu gallai ostwng.

Yn yr un modd â’r sgôr hylendid wreiddiol, gallwch chi apelio yn ei herbyn os byddwch chi’n meddwl ei bod yn anghywir neu’n annheg, neu gallwch chi gyflwyno datganiad ‘hawl i ymateb’ i’w gyhoeddi ar-lein yn food.gov.uk/sgoriau.