Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rheoli gwrteithiau fferm o ran diogelwch bwyd

Canllawiau ar gyfer pobl sy'n tyfu cnydau parod i'w bwyta. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut i reoli gwrteithiau fferm trwy ddatblygu cynlluniau diogelwch a fydd yn lleihau'r perygl bod cnydau parod i'w bwyta yn cael eu halogi'n ficrobiolegol

Gall gwrteithiau fferm, a roddir ar dir amaethyddol i fodloni gofynion maeth cnydau ac i wella ffrwythlondeb, gynnwys micro-organebau pathogenaidd sy'n gyfrifol am achosi salwch a gludir gan fwyd.

Mae'r micro-organebau hyn yn cynnwys

Felly, wrth storio a defnyddio gwrteithiau fferm, mae'n rhaid eu rheoli er mwyn lleihau'r perygl o halogi cnydau. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer llysiau a ffrwythau parod i'w bwyta a fydd yn cael eu bwyta'n amrwd.

Nod y canllawiau hyn yw rhoi cyngor ymarferol i dyfwyr y Deyrnas Unedig ar sut i leihau peryglon halogi cnydau parod i'w bwyta wrth ddefnyddio gwrteithiau fferm i wella ffrwythlondeb pridd.

Yn gryno, dyma brif agweddau'r canllawiau

  • y dewis o dir lle caiff cnydau parod i'w bwyta eu tyfu
  • rheoli gwrteithiau a biswail (slurries) cyn eu rhoi ar y tir
  • amseru wrth roi'r gwrtaith ar y tir (gan gynnwys gwrtaith ffres o anifeiliaid yn pori) a biswail, wrth gynhyrchu cnydau parod i'w bwyta
  • atal cnydau sy'n tyfu rhag cael eu halogi, a lleihau'r peryglon wrth eu cynaeafu

Cynhyrchwyd y canllawiau gan grŵp llywio, a gadeiriwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Roedd yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran:

Mae'r canllawiau hyn yn darparu cyngor ar arfer da i helpu tyfwyr yn y Deyrnas Unedig i ddatblygu cynlluniau diogelwch. Mae'n ystyried ymchwil a ariannwyd gan yr ASB ar bresenoldeb pathogenau mewn gwrteithiau fferm yn y Deyrnas Unedig, a'u dirywiad wrth eu storio, wrth roi'r gwrtaith ar y tir ac wrth i anifeiliaid ysgarthu ar y tir. Mae'n cyd-fynd â chanllawiau sefydledig gan adrannau amaethyddol ar Arferion Amaethyddol Da.

Nid yw'r canllawiau hyn yn pennu gofynion gorfodol penodol, ond gallwch eu dilyn ar sail wirfoddol. Mae'r Asiantaeth yn ymwybodol bod nifer o dyfwyr yn y Deyrnas Unedig eisoes yn rheoli gwrteithiau fferm mewn modd sy'n gyson â'r canllawiau hyn, ac mae rhai yn gweithredu manylebau masnachol sy'n rhagori ar y cyngor a ddarperir.

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).