Canllawiau ar awdurdodi toddyddion echdynnu
Gofynion o ran awdurdodi toddyddion echdynnu (‘extraction solvents’) a’r hyn y mae angen i chi ei gyflwyno fel rhan o’ch cais.
Defnyddir toddyddion echdynnu (extraction solvents) wrth brosesu bwyd i helpu i ymdoddi a gwahanu rhannau o fwyd. Er enghraifft, gellir defnyddio toddyddion echdynnu penodol i gael gwared ar gaffein mewn coffi a the er mwyn cynhyrchu fersiynau heb gaffein. Mae’r toddydd echdynnu yn cael ei dynnu cyn i’r bwyd neu’r cynhwysyn terfynol gael ei ddefnyddio, ond gall gweddillion neu echdyniadau (derivatives) na ellir eu hosgoi yn dechnegol aros yn y bwyd. Dyma pam ei bod yn bwysig sicrhau bod toddyddion echdynnu’n ddiogel.
Mae angen awdurdodi toddyddion echdynnu cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Dim ond ‘toddyddion echdynnu a ganiateir’ y gellir eu defnyddio i gynhyrchu bwyd a’u rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr.
Diffinnir toddyddion echdynnu a ganiateir yn Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Lloegr) 2013 (Opens in a new window). Y ddeddfwriaeth ddomestig sy’n llywodraethu’r defnydd o doddyddion echdynnu yng Nghymru a’r Alban yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu (Cymru) 2013 (Opens in a new window) a Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Yr Alban) 2013. (Opens in a new window)
Ceir ambell eithriad, am nad oes angen cymeradwyo toddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd, fitaminau nac unrhyw ychwanegion maethol eraill cyn eu defnyddio.
Awdurdodiadau newydd
I wneud cais i awdurdodi toddydd echdynnu newydd ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwefan ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig (Opens in a new window). Gofynnir i chi uwchlwytho’r holl ddogfennau i gefnogi’ch cais, a fydd wedyn yn creu eich coflen (dossier). Nid oes rhaid talu ffi i wneud cais.
Er nad oes unrhyw ganllawiau penodol ar gyfer defnyddio toddyddion echdynnu, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddilyn y canllawiau ar gyfer ychwanegion bwyd fel y bo’n briodol.
Dylai eich cais esbonio’r angen technolegol am y toddydd echdynnu newydd, gan gynnwys y rheswm neu resymau dros osod uchafswm lefel weddilliol ar lefel benodol. Mae angen i chi hefyd ddangos na fyddai’r toddydd echdynnu newydd na’i ddefnydd yn peri pryder diogelwch.
Ceisio cymorth
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn neu’r broses awdurdodi, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk
Gwneud cais am awdurdodiad
Gallwch nawr ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i wneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig. (Opens in a new window)
Hanes diwygio
Published: 14 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025