Pecynnu bwyd dan wactod
Sut i becynnu eich cynhyrchion bwyd wedi'u hoeri dan wactod yn ddiogel fel busnes, gweithgynhyrchwr neu fanwerthwr.
Gall pecynnu dan wactod a phecynnu drwy addasu'r atmosffer gynyddu oes silff bwyd oer trwy gyfyngu ar dyfiant micro-organebau. Fodd bynnag, dan rai amgylchiadau, gall bacteriwm a elwir yn Clostridium botulinum nad yw'n proteolytig (C. botulinum) dyfu yn absenoldeb ocsigen. Mae'r bacteriwm hwn yn gallu tyfu a chynhyrchu tocsin niweidiol ar dymheredd o 3°C ac uwch.
Mae'n bwysig bod mesurau rheoli priodol ar waith ar gyfer bwyd wedi’i oeri sydd wedi’i becynnu dan wactod a’i becynnu drwy addasu'r atmosffer i leihau’r perygl bod yr organeb hon yn tyfu a chynhyrchu lefelau niweidiol o docsin.
Canllawiau pecynnu dan wactod
Mae'r canllawiau hyn yn eich helpu chi i becynnu cynhyrchion amrwd, wedi'u hoeri ac yn barod i'w bwyta, dan wactod a phecynnu drwy addasu'r atmosffer. Mae'n dangos i chi sut i ddatblygu a gweithredu dull seiliedig ar Ddadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) yn ymarferol ar gyfer y bwydydd hyn i reoli'r risg o C. botulinum nad yw'n proteolytig.
England, Northern Ireland and Wales
Y rheol 10 diwrnod ar gyfer oes silff
Os yw oes silff y cynnyrch yn fwy na 10 diwrnod, mae'r canllawiau yn egluro'r rheolau sy'n berthnasol a'r angen am ffactorau rheoli ychwanegol. Mae'n darparu 'Coeden Benderfynu' defnyddiol i'ch helpu chi i ddeall a yw'r risg o C. botulinum yn cael ei reoli.
Listeria a pheryglon eraill
Rhaid i chi ystyried peryglon eraill y gellir eu cysylltu â'r cynhyrchion yr ydych chi'n eu defnyddio. Mae Listeria monocytogenes, yn arbennig, yn gallu tyfu ar dymheredd sy'n is na 0°C.
Mae angen cynnwys mesurau rheoli ar gyfer peryglon eraill mewn gweithdrefnau sy'n seiliedig ar HACCP, yn ogystal â'u hystyried wrth bennu oes silff.
Hanes diwygio
Published: 6 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Mawrth 2023