Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio grawnfwydydd (cereals)

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau ar drwyddedu, labelu, deunydd pecynnu a diogelwch cemegol wrth fewnforio grawnfwydydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 January 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 January 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Gwybodaeth gyffredinol

Rhaid i fewnforion grawnfwydydd a chynhyrchion grawnfwyd o drydydd gwledydd fodloni'r un safonau a gweithdrefnau hylendid bwyd, neu rhai cyfwerth, â bwyd a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr. Mae hyn yn berthnasol i rawnfwydydd fel:  

  • ceirch
  • haidd (barley)
  • bran
  • rhyg (rye)
  • gwenith
  • miled (millet)
  • corn
  • soia
  • blawd
  • reis

Mae'n rhaid i gynhyrchion a wneir o rawnfwydydd hefyd fodloni'r safonau hyn, fel:

  • pasta
  • nwdls
  • grawnfwydydd brecwast
  • bariau grawnfwyd

Fel arfer, nid oes angen tystysgrif iechyd arnoch i fewnforio'r cynhyrchion hyn.

Canllawiau ar gyfer y diwydiant bwyd

FI gael rhagor o wybodaeth am felino blawd, darllenwch ein Canllawiau Arferion Hylendid Da ar gyfer y Diwydiant Bwyd: Melino Blawd trwy wefan y Llyfrfa (Stationery Office).  

Trwyddedau mewnforio

Efallai na fydd angen trwydded iechyd nac hylendid arnoch chi i fewnforio bwyd, ond mae llawer o fwydydd o drydydd gwledydd yn gofyn am drwyddedau at ddibenion masnachu, ac efallai y byddant yn destun cwotâu.

Mae gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig ragor o wybodaeth am drwyddedau mewnforio ar ei gwefan.

Reis Basmati

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn darparu canllawiau ar ddefnyddio reis Basmati ar ei gwefan.

Lliwiau, cyflasynnau a melysyddion bwyd

Gall rhai cynhyrchion grawnfwyd gynnwys lliwiau, cyflasynnau (flavourings) neu felysyddion. Er ei bod yn bosib bod yr awdurdod bwyd wedi cymeradwyo'r rhain yn y wlad tarddiad, efallai na fydd rhai ohonynt wedi'u cymeradwyo ym Mhrydain Fawr.

I gael gwybodaeth am gyflasynnau, melysyddion, lliwiau a chyffeithyddion bwyd, cysylltwch â Thîm Ychwanegion Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) drwy ein ffurflen ar-lein

Labelu

Mae gwybodaeth gyffredinol am labelu bwyd ar wefan GOV.UK.

I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.

Hysbysebu honiadau maeth ac iechyd

I gael gwybodaeth am hysbysebu honiadau maeth ac iechyd ar fwyd, cysylltwch â chanolfan gwasanaeth cwsmeriaid yr Adran Iechyd trwy ei thudalen cysylltiadau.

Cynhyrchion organig

Mae gan DEFRA wybodaeth am fewnforio cynhyrchion organig (cynhyrchion amaethyddol byw neu heb eu prosesu, cynhyrchion amaethyddol wedi'u prosesu i'w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid, deunydd ysgogi llystyfiant a hadau i'w tyfu) o drydydd gwledydd.

Deunydd pecynnu

Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir ar gyfer pecynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan gyfraith y DU a ddargedwir (retained UK law). Mae'r ddeddfwriaeth yn arbennig o drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio gyda bwyd.

I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â'r Tîm Deunyddiau a ddaw i Gysylltiad â Bwyd drwy ein ffurflen ar-lein

Hylendid bwyd

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cyffredinol am hylendid bwyd, cysylltwch â'r Tîm Polisi Hylendid Bwyd dros e-bost.

Plaladdwyr

Mae Is-adran Rheoleiddio Cemegau yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn darparu canllawiau ar blaladdwyr ar ei gwefan.

Cyfyngiadau mewnforio

Mae yna rai cyfyngiadau/gofynion mewnforio eraill a all fod yn berthnasol wrth fewnforio cynhyrchion grawnfwyd, ac mae angen i fewnforwyr fod yn ymwybodol ohonynt. Maent fel a ganlyn.

Cynhyrchion ‘risg uwch’

Dim ond drwy borthladdoedd a meysydd awyr penodol sydd wedi’u hawdurdodi fel Mannau Rheoli ar y Ffin y gellir mewnforio rhai bwydydd a bwydydd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid a gaiff eu hystyried i beri ‘risg uwch’ i Brydain Fawr. Bydd y rhain yn destun rheolaethau swyddogol. Mae cynnyrch ‘risg uwch’ yn gynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid y mae’n hysbys ei fod yn peryglu iechyd y cyhoedd, neu fod hynny’n dod i’r amlwg.

Reis a chynhyrchion reis o Tsieina

Mae cyfraith yr UE a ddargedwir yn cynnwys mesurau brys sydd ar waith i lywodraethu'r broses o fewnforio cynhyrchion reis penodol sy'n dod o Tsieina, neu sy'n cael eu hanfon oddi yno, o ganlyniad i bresenoldeb organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) heb eu hawdurdodi.

O dan y mesurau hyn, dim ond trwy borthladdoedd neu feysydd awyr penodol sy'n Fannau Rheoli ar y Ffin y gellir mewnforio llwythi (consignments) o gynhyrchion reis o Tsieina i Brydain Fawr, lle byddant yn destun rheolaethau swyddogol.

Os oes angen cyngor arnoch am brofion labordy ar gyfer reis neu gynhyrchion reis o Tsieina, cysylltwch â'ch cymdeithas fasnach neu'r Awdurdod Iechyd Porthladd perthnasol yn y lle cyntaf.

Os oes angen gwybodaeth am ymholiadau reis sy'n gysylltiedig â GM, cysylltwch ag ymholiadau GM dros e-bost. 

Afflatocsinau

Mae deddfwriaeth y DU a ddargedwir yn cynnwys halogiad afflatocsinau mewn grawnfwydydd a chynhyrchion grawnfwyd, fel grawnfwydydd brecwast.

I gael cyngor ar y ddeddfwriaeth hon a gofynion profi afflatocsinau, cysylltwch â'r Tîm Mycotocsinau drwy ein ffurflen ar-lein.

Gall gweithredwyr busnesau bwyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen we ar Fycotocsinau.

Tocsinau ffiwsariwm

Mae deddfwriaeth y DU a ddargedwir yn cynnwys halogiad â thocsinau ffiwsariwm mewn grawnfwydydd a chynhyrchion grawnfwyd fel grawnfwydydd brecwast.

I gael cyngor ar y ddeddfwriaeth hon a gofynion profi am docsinau ffiwsariwm, cysylltwch â’r Tîm Halogion Cemegol drwy ein ffurflen ar-lein.

Cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid

Os ydych chi'n mewnforio unrhyw reis neu nwdls wedi'u coginio sy'n cynnwys:

  • wyau
  • pysgod
  • pysgod cregyn
  • cig
  • unrhyw fariau grawnfwyd sy'n cynnwys unrhyw gynhyrchion mêl neu laeth (gan gynnwys powdr llaeth wedi'i sychu)

Dylech wybod bod rheolau gwahanol, llymach yn berthnasol i fewnforio bwydydd sy'n cynnwys unrhyw gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid. Ymhlith gofynion eraill, bydd hyn yn gofyn am ardystio’r cynnyrch, bod y safle sy'n cynhyrchu'r cynnyrch wedi’i restru gan y DU a bod y cynnyrch yn destun gwiriadau milfeddygol yn y Man Rheoli ar y Ffin wrth ddod mewn i Brydain Fawr. 

Mae'r rheolau ar gyfer mewnforio cynhyrchion grawnfwyd penodol (fel grawnfwydydd brecwast, reis neu nwdls) sy'n cynnwys cig, llaeth, wyau, cynhyrchion dofednod, mêl neu helgig gwyllt yn cael eu gweithredu gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Gall ein Tîm Bwyd wedi'i Fewnforio ddarparu rhagor o wybodaeth am gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid mewn grawnfwydydd.