Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio cynhyrchion nad ydynt yn dod o anifeiliaid

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae’r dudalen hon yn egluro'r gofynion cyfreithiol y mae'n rhaid i fusnesau bwyd sy'n mewnforio cynhyrchion nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr gydymffurfio â nhw.

Mae’r ddeddfwriaeth ganlynol yn rhestru’r cynhyrchion nad ydynt yn dod o anifeiliaid sydd â lefelau rheoli uwch wrth eu mewnforio i Brydain Fawr, ac mae’n gosod y camau a’r prosesau ychwanegol y mae’n rhaid i fewnforwyr eu cymryd mewn mannau cyrraedd dynodedig wrth fewnforio’r cynhyrchion hyn.

Pan fo rheolaethau brys yn bodoli, fel arfer mae gofyn i’r Awdurdod Iechyd Porthladdoedd gynnal gwiriadau o ddogfennau a gwaith samplu at bwrpas dadansoddi neu archwilio.

Bwyd â chyfyngiadau cyfredol

Mae'r rheolaethau hyn yn bodoli i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac mae’n bosibl y byddant naill ai’n atal mewnforion neu’n nodi amodau mewnforio. Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond trwy fannau cyrraedd dynodedig y gellir mewnforio llwythi (consignments), mae'n rhaid gwirio dogfennau a gall fod angen samplu a dadansoddi neu archwilio cyn eu rhyddhau.

Pwysig

Gwiriwch y rheolaethau sy'n effeithio ar fewnforion o wledydd penodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn y tabl o fwydydd sydd â chyfyngiadau presennol (Awst 2020).

Mewnforio trwy borthladd addas

Gall y rhan fwyaf o fwyd nad yw’n dod o anifeiliaid gael ei fewnforio drwy unrhyw borthladd. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi wirio bod gan y porthladd y cyfleusterau angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael â’r cynnyrch sy’n cael ei fewnforio. Dylai mewnforwyr gysylltu â'r porthladd neu gysylltu â'r awdurdod lle mae’r porthladd wedi’i leoli.

Mae'r rhain yn gynhyrchion sy'n debygol o fod wedi’u halogi ag afflatocsinau (fel cnau), plaladdwyr, Salmonela neu radiocaesiwm.

Dylai mewnforwyr fod yn ymwybodol bod rhai cynhyrchion o wledydd penodol yn destun rheolaethau brys a dim ond trwy fannau rheoli ar y ffin dynodedig y gallant ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig (DU).

Dyma restr o bwyntiau mewnforio dynodedig y DU ar gyfer bwydydd risg uchel.

Deddfwriaeth ar gyfer mewnforio cynnyrch nad yw’n dod o anifeiliaid

Mae’n rhaid i fwyd sydd wedi’i fwriadu i’w fwyta gan bobl fodloni gofynion diogelwch bwyd cyffredinol cyfraith yr UE.

O dan Reoliad 178/2002, mae’n rhaid i fwyd beidio â bod yn anniogel.  Mae anniogel yn golygu:

  • gallu niweidio iechyd
  • anaddas i’w fwyta gan bobl
  • mae bwyd sy’n cynnwys cynhyrchion anifeiliaid yn cynnwys cig, dofednod (poultry), pysgod, wyau, cynhyrchion llaeth a mêl 
  • ymhlith y bwyd nad yw’n cynnwys anifeiliaid mae ffrwythau, llysiau, grawnfwydydd, cynhyrchion wedi’u pobi penodol, perlysiau, sbeisys, dŵr mwynol a suddion ffrwythau

Ac eithrio darpariaethau cyffredinol Rheoliad 178/2002, bydd y ddeddfwriaeth benodol sy’n berthnasol i fwyd wedi’i fewnforio yn dibynnu ar b’un a yw’r bwyd yn dod o anifeiliaid ai peidio. Mae Rheoliad 2019/1793 yn gosod rheolaethau swyddogol ar fewnforion penodol o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid.

Mae rheolaethau brys yn bodoli ar gyfer cynhyrchion bwyd penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid o wledydd penodol er mwyn lleihau risgiau hysbys i iechyd pobl neu anifeiliaid.

Mewnforio samplau masnach nad ydynt yn dod o anifeiliaid

Gellir mewnforio samplau masnach o fwyd at ddibenion profi ar y farchnad, ymchwil a datblygu, neu sicrhau ansawdd. Gall samplau o fwyd nad ydynt yn cynnwys unrhyw gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ddod i mewn i Brydain Fawr yn rhydd, oni bai eu bod yn destun cyfyngiadau. Lle mae'r cynnyrch at ddibenion ymchwil (fel profion labordy) neu ar gyfer cymeradwyaeth fasnachol, ac na chaiff ei fwyta, efallai na fydd yn cael ei ystyried yn destun rheolaethau.

Os yw'r samplau ar gyfer profi'r blas, mae'n rhaid iddynt fod yn fwytadwy ac yn rhydd rhag halogiad. Hyd yn oed os rhoddir y samplau i bobl yn rhad ac am ddim, mae'n debygol y byddant yn destun cyfraith bwyd gan fod 'diffiniad estynedig o werthu' yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 sy'n cynnwys bwyd sy'n cael ei roi i bobl am ddim. I gael rhagor o gyngor, cysylltwch â thîm diogelwch bwyd neu adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol.

Mae'n rhaid i fewnforwyr sicrhau bod eu nwyddau yn ddiogel ac yn gyfreithiol cyn eu prynu gan gynhyrchwyr a'u mewnforio i Brydain Fawr.

Mae Dadansoddwyr Cyhoeddus, sy'n wyddonwyr medrus, ar gael i brofi bod samplau bwyd yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd drwy gynnal dadansoddiad cemegol a/neu drwy drefnu archwiliad microbiolegol, er nad oes gofyniad cyfreithiol i fewnforwyr wneud hynny.

Rydym ni wedi cyhoeddi rhestr o Labordai Rheolaethau Bwyd Swyddogol yn y DU.

Yn ogystal, mae nifer o labordai eraill yn y DU a thramor a fyddai'n cynnal y gwaith y gallai fod angen ar fewnforwyr. Yna, gallai'r mewnforiwr drefnu i'r adroddiad dadansoddi ffurfio sail eu rheolaethau ansawdd ar gyfer eu cyflenwr.

Cludo

Mae bwyd a bwyd anifeiliaid Risg Uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid y tu allan i'r Confensiwn Tramwy Cyffredin. Mae gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ragor o wybodaeth am y cynhyrchion hyn sy'n croesi Aelod-wladwriaethau'r UE i Brydain Fawr.