Mewnforio ac allforio gwin
Canllawiau ar y mesurau y mae'n rhaid i chi eu cymryd er mwyn mewnforio ac allforio gwin yn gyfreithlon i'r Derynas Unedig (DU) neu oddi yno.
Mae canllawiau’r llywodraeth ar allforio gwin a mewnforio a labelu gwin ar gael ar-lein. Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r rheolau ar gyfer mewnforwyr, allforwyr, cynhyrchwyr, manwerthwyr a dosbarthwyr gwin.
Gwnaeth y DU gael gwared ar ardystiad VI-1 ar gyfer yr holl fewnforion gwin ar 1 Ionawr 2022. Sylwer y bydd angen anfon y ddogfen VI-1 wreiddiol a chopi ar y cyd â profforma VI-1 y Du os ydych yn bwriadu ail-allforio o’r DU winoedd nad ydynt o’r UE.
Gellir cael hyd i’r canllawiau llawn ar ofynion allforio ac ardystio’r DU ar GOV.UK.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ychwanegol sy’n ymwneud â’r broses EU VI-1 at Defra drwy wine.exports@defra.gov.uk.
Hanes diwygio
Published: 10 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ionawr 2024