Manteision cynhyrchu gwartheg glân
Mae glendid ar adeg lladd yn lleihau’r risg bosib i iechyd pobl, yn cyfrannu at gynhyrchu cig diogel, ac yn gwella oes silff y cig a hyder defnyddwyr.
Mae glendid ar adeg lladd yn lleihau’r risg bosib i iechyd pobl, yn cyfrannu at gynhyrchu cig diogel ac yn gwella oes silff y cig a hyder defnyddwyr.
Yng Nghymru a Lloegr, mae’r Gorchmynion Rheoli Clefydau yn gwahardd unrhyw un rhag anfon anifeiliaid i ladd-dy os nad ydynt i’w lladd o fewn 48 awr. Mae hyn yn golygu bod rhaid i anifeiliaid fod yn ddigon glân i’w lladd ar gyfer bwyd o fewn 48 awr, ac ni ellir eu dychwelyd os na chyflawnir hyn.
Yn ogystal, mae halogiad â thail yn achosi niwed anadferadwy i grwyn wedi’u trin ac yn 2004 amcangyfrifwyd fod y gost i ddiwydiant trin lledr Prydain yn £20 miliwn y flwyddyn. Mae llawer o danerdai yn cael eu gorfodi i fewnforio crwyn o dramor, gan dalu prisiau premiwm, a fyddai fel arall yn cael eu trosglwyddo’n ôl i gynhyrchwyr y DU. Mae tanerdai hefyd yn dewis cyflenwyr crwyn yn ôl rhanbarth.
Mae hyn yn golygu, os bydd dim ond ychydig o gynhyrchwyr lleol yn danfon gwartheg budr i’w lladd, bydd pob un o gynhyrchwyr y rhanbarth yn ei chael yn anodd gwerthu eu crwyn i danerdai. Bydd ffermwyr y DU yn cael budd uniongyrchol neu anuniongyrchol drwy gynhyrchu gwartheg glân. Mae canlyniadau danfon gwartheg budr yn cynnwys:
- Costau ychwanegol pan fo gwartheg budr yn cael eu cadw yn y llociau i’w glanhau yn y lladd-dy
- Cost llinell ladd arafach
- Gwerth gostyngol y carcas oherwydd tocio gormodol
- Gwerth gostyngol isgynhyrchion – hynny yw, lledr
- Colli'r carcas cyfan