Lles gwartheg
Mae gan berchnogion a’r rhai sy’n gofalu am wartheg gyfrifoldeb cyfreithiol dros ddiogelu lles anifeiliaid bob amser
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod glendid gweledol a bacteriol yn gostwng wrth i amser a phellter y daith gynyddu.
Cynghorir y dylid addasu’r deiet, neu beidio â bwydo’r anifail am gyfnod byr cyn cludo, er mwyn lleihau achosion o faeddu.
Mae bwydo’r gwartheg ar ddeiet gwellt am 1-2 ddiwrnod cyn eu cludo wedi profi’n fuddiol. Pan gludir anifeiliaid i’r farchnad neu i’w lladd, dylid ystyried y pwyntiau canlynol:
- Defnyddiwch gludwyr sydd ag enw da iddynt
- Ystyriwch y deiet cyn cludo
- Dylai cerbydau fod yn lân, wedi’u diheintio a’u hawyru'n dda
- Dylech sicrhau digon o wellt gwely glân a ffres
- Dylai anifeiliaid fod yn sych wrth gael eu llwytho a’u cadw’n sych trwy'r daith, hyd nes y cânt eu lladd
- Dylid osgoi cymysgu anifeiliaid
Mae gan berchnogion a’r rhai sy’n gofalu am wartheg gyfrifoldeb cyfreithiol dros ddiogelu lles anifeiliaid bob amser. Mae Atodiad 5 yn disgrifio’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i les gwartheg.