Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hyfforddiant alergedd ar gyfer busnesau bwyd

Hyfforddiant alergedd ar-lein ac adnoddau e-ddysgu ar gyfer busnesau bwyd.

Mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi ar reoli alergenau yn effeithiol. 

Dylai eich staff:

  • wybod y weithdrefn pan ofynnir iddynt ddarparu gwybodaeth am alergenau
  • gael eu hyfforddi ar sut i drin ceisiadau gwybodaeth am alergenau yn gywir
  • allu gwarantu fod prydau sy’n rhydd o alergenau yn cael eu gweini i’r cwsmeriaid cywir
  • wybod y risgiau o groeshalogi alergenau wrth drin a pharatoi bwyd, a sut i atal hyn.

Hyfforddiant alergedd bwyd

Rydym ni’n cynnig hyfforddiant alergedd rhad ac am ddim lle allwch chi a’ch staff ddysgu rhagor am reoli alergenau mewn cegin a sut y gallwch chi ddarparu ar gyfer gofynion gwybodaeth am alergenau.

Gallwch hefyd rannu ein rhestr wirio alergenau gyda staff i gael cyngor ar ofynion rheoli alergenau ac arfer gorau.  

Adnoddau gwybodaeth am alergenau

Mae gennym ni amrywiaeth o adnoddau ar gael i’ch helpu i dracio’r alergenau yn eich bwyd yn glir, ac i godi ymwybyddiaeth o sut i ddelio â cheisiadau am wybodaeth am alergenau gan gwsmeriaid. 

Efallai y byddai’n syniad rhoi taflenni nodi alergenau ar gyfer y ryseitiau ar eich bwydlen i staff sy’n ymwneud â pharatoi bwyd. Gallwch ddefnyddio’r templed pryd unigol ar gyfer unrhyw brydau ‘arbennig’ neu i gofnodi pan fydd cynhwysion yn newid mewn pryd rheolaidd.

Efallai eich bod yn dymuno arddangos poster alergedd ar y safle. Rydym ni’n darparu posteri yn Gymraeg, Saesneg, Bengaleg (বাংলা), Cantoneg (粵語), Pwnjabeg (ਪੰਜਾਬੀ) ac Wrdw (اردو).

Deunyddiau cynllunio bwydlen

England, Northern Ireland and Wales

Wales