Gwneud cais am gymeradwyaeth gan awdurdodau lleol ar gyfer sefydliad bwyd
Sut i wneud cais am gymeradwyaeth gan awdurdodau lleol a’r broses gymeradwyo
Sefydliadau sydd angen cymeradwyaeth gan awdurdodau lleol
Mae angen cymeradwyaeth ar gyfer rhai sefydliadau bwyd sy’n trin cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, fel cig, pysgod, wyau, cynhyrchion llaeth, a chynhyrchion wedi’u prosesu sy’n dod o anifeiliaid, sy’n cyflenwi sefydliadau eraill.
Mae’n bosib y bydd angen cymeradwyaeth ar y sefydliadau hyn, naill ai gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) neu gan awdurdod lleol. Ceir enghreifftiau o sefydliadau o’r fath ar ein tudalen Sut i wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd.
Mae'r dudalen we hon yn ymdrin yn benodol â chymeradwyaeth gan awdurdodau lleol.
Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen cymeradwyaeth arnoch, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud cais am gymeradwyaeth, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.
Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o fusnesau bwyd nad oes angen cymeradwyaeth arnynt, fod wedi’u cofrestru gyda’u hawdurdod lleol.
Ceir manylion ynghylch pwy sydd angen cofrestru a sut i gofrestru ar ein tudalen Cofrestru busnes bwyd newydd.
Gwneud cais am gymeradwyaeth gan awdurdodau lleol
- Cymru: Cymeradwyo safle bwyd (Cymru)
- Lloegr: Cymeradwyo safle bwyd (Lloegr)
- Gogledd Iwerddon: Cymeradwyo safle bwyd (Gogledd Iwerddon)
Rhestr o sefydliadau bwyd cymeradwy
Hanes diwygio
Published: 4 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Mai 2024