Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwneud cais am gymeradwyaeth gan yr ASB ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r Gwasanaeth Cymeradwyo.
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r Gwasanaeth Cymeradwyo.
Mae’r cais hwn yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo mewn hyd at 400% heb i’r testun gwympo oddi ar y sgrin
- llywio trwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio trwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (screen reader) (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gallwch chi weld rhestr lawn o unrhyw broblemau rydym yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd yn yr adran ‘Cynnwys nad yw’n hygyrch’ yn y datganiad hwn.
Adborth a manylion cyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain neu braille:
- anfonwch e-bost i: fsa.communications@food.gov.uk
- ffoniwch ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 10 diwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, gallwch chi gysylltu â ni drwy:
- anfon e-bost i: fsa.communications@food.gov.uk
- ffonio ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Darllenwch gyngor ar gysylltu â sefydliadau am wefannau anhygyrch (Saesneg yn unig)
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (Saesneg yn unig).
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (Saesneg yn unig), sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.2 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.
Teitlau tudalennau (A)
- Nid oedd gan dudalennau deitlau a oedd yn disgrifio pwnc neu bwrpas y dudalen.
- Cyfeirnod WCAG: 2.4.2 Teitlau Tudalennau(Lefel A)
Mae’r un teitl wedi cael ei ddefnyddio ar draws tudalennau lluosog sy’n golygu nad oes modd defnyddio’r teitl i wahaniaethu rhwng y tudalennau. Nid yw teitl y dudalen yn adlewyrchu cynnwys y dudalen, sy’n golygu efallai na fydd rhai defnyddwyr yn gallu canfod pwnc neu ddiben cynnwys y dudalen. Gall defnyddwyr darllenwyr sgrin ddibynnu ar deitl y dudalen ynghyd â phennawd y brif dudalen i adnabod y dudalen a deall cynnwys a phwrpas y dudalen.
Testun â Phwyslais (A)
Nid oedd gwybodaeth, strwythur a pherthnasoedd a fynegwyd trwy ymddangosiad y dudalen yn rhaglennol ganfyddadwy nac ar gael ar ffurf testun.
Cyfeirnod WCAG: 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A)
Defnyddiwyd arddull ffont trwm i bwysleisio testun. Fodd bynnag, nid yw’r gwahaniaeth gweledol hwn yn rhaglennol ganfyddadwy er mwyn iddo gael ei gyflwyno i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin.
Dosrannu (‘Parsing’) (A)
Roedd elfennau’n bresennol nad oedd ganddynt dagiau cychwyn a diwedd cyflawn, nad oeddent wedi’u nythu yn unol â’u manylebau, ac a oedd yn cynnwys priodoleddau dyblyg, neu a oedd â rhifau adnabod nad oeddent yn unigryw.
Cyfeirnod WCAG: 4.1.1 Dosrannu (Lefel A)
Mae rôl ‘ymddangosiad’ wedi’i ddefnyddio ar elfen <ul>. Bydd hyn yn diystyru ei rôl semantig fel elfen o restr heb ei rhoi mewn trefn. Mae hyn yn golygu nad yw’r elfennau ‘plant’ <li> yn gysylltiedig ag elfen ‘rhiant’ uniongyrchol <ul> (neu <ol>). Felly, efallai na fydd strwythur semantig y cynnwys hwn yn rhaglennol ganfyddadwy i dechnolegau cynorthwyol er mwyn iddo gael ei gyflwyno i ddefnyddwyr.
Nid oedd labeli’n disgrifio pwnc na diben y cynnwys yn ddigonol.
Cyfeirnod WCAG: 2.4.6 Penawdau a Labeli (Lefel AA)
Nid yw’r labeli botymau yn disgrifio pwrpas y gydran yn glir. Mae gan reolaethau lluosog yr un label, felly ni ellir canfod eu pwrpas unigol o’r label yn unig. Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin sy’n dod ar draws y ddolen allan o gyd-destun, er enghraifft, wrth hidlo’r dudalen yn ôl y math o elfen, newid dulliau llywio, a chwilio trwy gynnwys y tudalennau amgylchynol i nodi pwrpas y botymau.
Pwrpas y Ddolen (Dolen yn Unig) (AAA)
Nid oedd mecanwaith ar gael i ganiatáu i ddiben pob dolen gael ei nodi o destun y ddolen yn unig.
Cyfeirnod WCAG: 2.4.9 Pwrpas y Ddolen (Dolen yn Unig) (Lefel AAA)
Baich anghymesur
Ar hyn o bryd, nid ydym ni wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 25 Chwefror 2025. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 25 Chwefror 2025.
Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ar 25 Chwefror 2025. Cynhaliwyd prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) ar 25 Ebrill 2023. Byddwn yn diweddaru’r datganiad hwn cyn gynted ag y bydd y materion yn cael eu hunioni.