Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cynrychiolaeth trydydd gwledydd ar gyfer busnesau bwyd anifeiliaid

Y mesurau y mae'n rhaid eu cymryd gan fusnesau bwyd anifeiliaid i fasnachu bwyd anifeiliaid yn gyfreithiol rhwng Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon, yr Undeb Ewropeaidd a gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd o 1 Ionawr 2021.

Cyflwyniad

O dan y gyfraith a gymathwyd (assimilated law), rhaid i fusnesau bwyd anifeiliaid o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig (DU) sy'n allforio cynhyrchion bwyd anifeiliaid i Brydain Fawr gael cynrychiolydd wedi'i sefydlu ym Mhrydain Fawr.

Mae hyn yn cynnwys Aelod-wladwriaethau'r UE yn ogystal â gwledydd y tu allan i'r UE a elwir yn 'drydydd gwledydd'.

Mae'n ofynnol i fusnesau bwyd anifeiliaid Prydain Fawr sy'n allforio bwyd anifeiliaid i Aelod-wladwriaethau'r UE, neu'n symud bwyd anifeiliaid o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon gael cynrychiolydd wedi'i leoli yn Aelod-wladwriaeth yr UE neu yng Ngogledd Iwerddon.

Allforio neu symud bwyd anifeiliaid o Brydain Fawr i'r UE neu i Ogledd Iwerddon

Yn flaenorol, roedd y gofyniad bod gan sefydliad bwyd anifeiliaid mewn gwlad y tu allan i'r UE gynrychiolydd yn yr UE yn dibynnu ar y gweithgarwch penodol sy'n cael ei gyflawni. Fodd bynnag, ym mis Chwefror 2018, cyfathrebodd y Comisiwn Ewropeaidd (CE) ddehongliad diwygiedig o Erthygl 24 Rheoliad (CE) 183/2005 a oedd yn nodi bod angen cynrychiolaeth ar bob cynnyrch bwyd anifeiliaid a allforir i'r UE o wlad y tu allan i'r UE ac nid yn unig ar gyfer sefydliadau bwyd anifeiliaid penodol sy'n cyflawni gweithgarwch penodol. Felly, cynghorir bod busnesau Prydain Fawr sy'n allforio i'r UE neu sy’n symud bwyd anifeiliaid i Ogledd Iwerddon yn tybio bod angen cynrychiolaeth trydydd gwlad ar gyfer yr holl fwyd anifeiliaid. 

Mae gan rai aelod-wladwriaethau yr UE reolau cenedlaethol penodol ar ofynion cael cynrychiolydd ar gyfer mewnforio bwyd anifeiliaid i'r UE.  Gallech chi ofyn am eglurhad gan eich cynrychiolydd trydydd gwlad yr UE a allai fynd at yr awdurdod cymwys perthnasol yn yr Aelod-wladwriaeth i sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio ag unrhyw reolau cenedlaethol. 

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am awdurdodau cymwys mewn aelod-wladwriaethau trwy wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
 

Mewnforio neu symud bwyd anifeiliaid i Brydain Fawr o'r UE a gwledydd y tu allan i'r UE


Bydd mewnforion i Brydain Fawr yn parhau i ddilyn y dehongliad gwreiddiol sy'n cyfyngu'r gofyniad i gael cynrychiolydd i rai bwyd anifeiliaid risg uwch gan gynnwys:

  • gweithgynhyrchwyr rhai ychwanegion bwyd anifeiliaid penodol
  • gweithgynhyrchwyr rhai cynhyrchion newydd penodol sy'n ffynonellau protein
  • gweithgynhyrchwyr rhag-gymysgeddau sy'n cynnwys rhai ychwanegion penodol
  • gweithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid cyfansawdd sy'n cynnwys y cynhyrchion a nodir uchod

Mae ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd fel rheol angen cynrychiolydd Prydain Fawr yn cynnwys:

  • elfennau hybrin
  • fitaminau
  • cartenoidau a xanthophylls
  • micro-organebau ac ensymau
  • gwrthocsidyddion sydd â lefelau uchaf a ganiateir
  • ychwanegion eraill sydd â lefelau uchaf a ganiateir, sydd heb eu cynnwys yn y categorïau uchod
  • cocsidiostatau a histomonostatau


Mae rhestr lawn o ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd wedi’u hawdurdodi ar gael ar Gofrestr Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid.

Mae rhai ffynonellau protein newydd yn cynnwys:

  • proteinau a geir o ficro-organebau sy'n perthyn i'r grŵp o facteria
  • burum (ac eithrio burum sy'n cael ei dyfu ar swbstradau sy'n deillio o anifeiliaid neu lysiau), algâu a 
  • ffyngau is
  • cydgynhyrchion o weithgynhyrchu asidau amino drwy eplesu
  • asidau amino a'u halenau
  • analogau hydrocsi o asidau amino


Symud bwyd anifeiliaid o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr

Ni fydd unrhyw ofynion newydd i symud bwyd anifeiliaid o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr. Ni fydd angen cynrychiolydd.

Allforio neu fewnforio bwyd anifeiliaid rhwng Gogledd Iwerddon a'r UE

Ni fydd unrhyw ofynion newydd i allforio neu fewnforio bwyd anifeiliaid rhwng Gogledd Iwerddon a'r UE. Ni fydd angen cynrychiolydd ar gyfer mewnforion nac allforion.

Siart crynodeb o’r cynrychiolwyr sy’n ofynnol

Mae'r tabl isod yn rhoi crynodeb o'r cynrychiolwyr sy'n ofynnol ar gyfer gwahanol lwybrau masnach.

England, Northern Ireland and Wales


Gofynion Cynrychiolwyr Prydain Fawr


Rhaid i gynrychiolydd Prydain Fawr:

  • fod yn weithredwr busnes bwyd anifeiliaid wedi'i leoli ym Mhrydain Fawr ac wedi'i gofrestru (neu wrthi'n cofrestru) gyda'i awdurdod lleol
  • cadw cofrestr o'r holl gynhyrchion perthnasol (y maent yn gweithredu fel cynrychiolydd Prydain Fawr ar eu cyfer) y mae'r sefydliad wedi'u rhoi mewn cylchrediad o fewn Prydain Fawr
  • gwneud datganiad bod y sefydliad allforio yn cydymffurfio â gofynion, sy'n gyfwerth o leiaf â'r rhai a nodir yn y gyfraith a gymathwyd, sy'n berthnasol i'r gweithgaredd. Mae'r gofynion hyn yn cynnwys rhai amodau sy'n ymwneud â hylendid a safonau ansawdd mewn perthynas ag:
  • offer
  • cyfleusterau
  • storio
  • staff
  • cadw cofnodion


Bydd y gofynion ar gyfer cynrychiolydd yng Ngogledd Iwerddon yr un fath â'r rhai a nodir uchod ar gyfer Cynrychiolydd Prydain Fawr ym Mhrydain Fawr; heblaw fydd angen cofrestru gyda DAERA yn hytrach na'r awdurdod lleol. Darperir ffurflen arall i wneud hyn, y dylid ei chyflwyno i'r un cyfeiriad e-bost.

Ar gyfer ychwanegion bwyd, bwyd anifeiliaid cyfansawdd a rhag-gymysgeddau nad ydynt yn cynnwys cocsidiostatau neu histomonostatau, dylech lenwi'r ffurflen datganiad perthnasol isod a'i hanfon at feeddelivery@food.gov.uk

Ar ôl cyflwyno datganiad, bydd yr ASB yn rhoi cydnabyddiaeth i'r datganwr yn cadarnhau bod y datganiad wedi'i dderbyn.

Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn y datganiad yn cael ei rhannu ag awdurdod lleol cynrychiolydd Prydain Fawr, a/neu'r awdurdod datganoledig priodol (Safonau Bwyd yr Alban/ASB Cymru/ASB Gogledd Iwerddon/DAERA).

Bydd eich enw a'ch manylion, ynghyd ag enwau'r busnesau rydych chi'n eu cynrychioli, yn cael eu cynnwys ar restr a gyhoeddir ar wefan yr ASB.

Prydain Fawr (Cymru, Lloegr, yr Alban)

Northern Ireland

Rhestrau o gynrychiolwyr Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

England, Northern Ireland, Scotland and Wales

Polisi Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd – Rhestr o Gynrychiolwyr Trydydd Gwledydd ar gyfer Bwyd Anifeiliaid