Canlyniadau ymgynghoriadau bwydydd newydd
Mae’r dudalen hon yn nodi canlyniadau ymgynghoriadau bwydydd newydd, a elwir hefyd yn ymgynghoriadau Erthygl 4.
Mae’r broses ymgynghori ar fwydydd newydd (a elwir hefyd yn gais ymgynghori Erthygl 4) ar gael i fusnesau sy’n ansicr ynghylch statws bwyd newydd eu cynnyrch/cynhyrchion, ac y mae tystiolaeth helaeth iddynt gael eu bwyta yn y DU neu’r Undeb Ewropeaidd (UE) cyn mis Mai 1997.
Mae Rheoliad a Ddargedwir (UE) 2018/456 yn nodi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom i wneud penderfyniad ynglŷn â statws bwyd newydd y bwyd. Os taw casgliad y broses yw bod y bwyd yn newydd, bydd angen i fusnesau wneud cais am awdurdodiad o dan Reoliad a Ddargedwir (UE) 2015/2283 er mwyn marchnata’r cynnyrch yn gyfreithlon ym Mhrydain Fawr.
Gogledd Iwerddon
Noder: oni nodir datganiad i’r gwrthwyneb isod, bydd unrhyw benderfyniadau a wnaed ynghylch statws bwyd newydd bwyd gan yr UE cyn 1 Ionawr 2021 yn dal i fod yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Nid yw penderfyniadau’r UE a wnaed ar ôl y dyddiad hwn yn gymwys ym Mhrydain Fawr.
Sut i gyflwyno cais ymgyghori Erthygl 4
Gall busnesau sy’n ceisio marchnata eu cynnyrch ym Mhrydain Fawr gyflwyno cais ymgynghori Erthygl 4 a thystiolaeth ategol gan ddefnyddio’r gwasanaeth gwneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig. Yn yr adran ‘Math o gynnyrch’, dewiswch ‘Arall’ a nodi yng nghrynodeb y cynnyrch eich bod yn bwriadu cyflwyno cais ymgynghori Erthygl 4.
Isod ceir datganiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd/Safonau Bwyd yr Alban ar fwydydd sydd wedi cwblhau’r broses ymgynghori.
Y bwyd dan sylw/dyddiad hysbysu | Datganiad ar y bwyd dan sylw |
---|---|
Trwythau dyfrllyd nad ydynt yn ddewisol o ffrwythau mynach (wedi'u gwneud o ffrwythau ffres a sych y planhigyn Siraitia grosvenorii), 21 Mehefin 2024 | Ddim yn newydd – darllenwch y cyfiawnhad dros y penderfyniad hwn (PDF) |
Madarch seleniwm (Agaricus bisporus), 13 Mehefin 2022 | Ddim yn newydd – darllenwch y cyfiawnhad dros y penderfyniad hwn (PDF) |
Madarch fitamin B12 (Agaricus bisporus), 13 Mehefin 2022 |
Ddim yn newydd – darllenwch y cyfiawnhad dros y penderfyniad hwn (PDF) |
Am ragor o gymorth gyda cheisiadau am gynhyrchion wedi'u rheoleiddio, darllenwch ein canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig.
Hanes diwygio
Published: 14 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mehefin 2024