Canllawiau ffermio dofednod
Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r rheolaethau a’r rheoliadau hylendid y mae’n rhaid i’r rheiny sy’n cynhyrchu dofednod (poultry) i’w bwyta yn y DU gadw atynt.
Mae’r canllawiau dofednod hyn yn nodi’r meini prawf sydd yn rhaid i chi eu bodloni os hoffech gael awdurdod i:
- ladd dofednod ar y fferm
- gyflenwi adar heb eu diberfeddu i safleoedd cymeradwy ar gyfer prosesu pellach
Diberfeddu yw cael gwared ar organau mewnol (perfeddol) adar wedi’u lladd.
Mae adar heb eu diberfeddu yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio dofednod (ac anifeiliaid hela bach) sydd yn cael eu gwerthu neu eu hongian heb gael gwared ar eu horganau perfeddol.
Er mwyn gwneud cais i ladd ar y fferm, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r canlynol:
- Rheoliad a Gymathwyd (CE) Rhif 853/2004, Atodiad III, Adran II, Pennod VI (lladd ar y fferm)
- y gofynion ar gyfer cynhyrchu a magu adar byw, fel y nodir yn Rhan A, Atodiad I i Reoliad a Gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 a phenodau priodol Atodiad II i’r Rheoliad hwnnw
Mae ffermwyr yn cael eu hystyried i fod yn Weithredwyr Busnesau Bwyd ac mae’n rhaid iddynt hefyd fod â mesurau Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) ar waith sydd yn addas i’w busnes.
Ffermwyr dofednod
Mae’n rhaid cael arolygiadau milfeddygol cyson ar y fferm lle mae’r cynhyrchu yn digwydd i wirio iechyd y dofednod.
Cyn lladd, mae’n rhaid i’r aderyn fod wedi derbyn arolygiad ante-mortem. Mae hyn i gadarnhau ei fod yn addas i ladd yr aderyn. Mae deddfwriaeth yr UE yn ei gwneud yn ofynnol i Filfeddyg Swyddogol gynnal archwiliad cyn-marw oni bai bod Milfeddyg Cymeradwy wedi gwneud hynny.
Eich cyfrifoldeb chi yw trefnu’r archwiliad hwn gyda Milfeddyg Swyddogol o fewn ein Grŵp Gweithrediadau neu Filfeddyg Cymeradwy.
Mae’n rhaid i’r daliad gael adeiladau sy’n addas ar gyfer lladd yn hylan a thrin yr adar ymhellach.
Mae angen i chi ystyried lles yr adar. Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyfyngu ar y boen a’r straen cymaint â phosib wrth drin a lladd.
Chi sydd yn gyfrifol am sicrhau bod y bwyd a gynhyrchir gan eich busnes yn ddiogel i’w fwyta.
Ar ôl lladd, mae’n rhaid gwaredu holl sgil gynhyrchion yr anifeiliaid cyn gynted â phosibl. Ni ddylai sgil gynhyrchion anifeiliaid fod yn gallu halogi cig i’w fwyta gan bobl.
Gogledd Iwerddon
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, mae angen i chi drefnu archwiliad gyda Gwasanaethau Milfeddygol yr Adran Amaethyddol, Amgylcheddol a Materion Gwledig (DAERA).
Hanes diwygio
Published: 13 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Chwefror 2024