Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau dŵr ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon

Canllawiau ar ddŵr mwynol naturiol, dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi'i botelu yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon mewn perthynas â'r rheolau ar gyfer cydnabod, ecsbloetio, potelu a labelu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 January 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 January 2018

Newidiadau o ran dŵr mwynol naturiol o 1 Ionawr 2021

Bydd newidiadau i'r ffordd y mae dŵr mwynol naturiol yn cael ei fasnachu o 1 Ionawr 2021.

Darllenwch y canllawiau ar newidiadau o ran dŵr mwynol naturiol o 1 Ionawr 2021

Gwybodaeth am y canllawiau

Ni ddylid derbyn y testun fel datganiad neu ddehongliad awdurdodol o'r gyfraith. Dim ond llysoedd all ddarparu hyn.

Eich cyfrifoldeb chi fel busnes unigol yw sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r gyfraith.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau penodol, gofynnwch i'ch awdurdod lleol.

Mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys amodau ar gyfer:

  • ecsbloetio ffynhonnau ar gyfer dŵr mwynol naturiol, dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi'i botelu
  • prosesu a photelu dyfroedd o'r fath
  • labelu, hysbysebu a gwerthu dyfroedd o'r fath
  • monitro'r ffynhonnell
  • samplu dyfroedd o'r fath
  • gorfodi'r Rheoliadau

England, Northern Ireland and Wales

Mae Defra yn gyfrifol am ddeddfwriaeth yn y maes hwn ar gyfer Lloegr

Yr Alban
Yn yr Alban, Safonau Bwyd yr Alban sy'n gyfrifol am ddeddfwriaeth yn y maes hwn.

Pwysig

Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn nogfennau canllaw'r Asiantaeth

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE, er mwyn adlewyrchu'r gyfraith sydd bellach mewn grym yn gywir, ym mhob dogfen ganllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddir ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020. Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd yn ymarferol i ni ddiweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE ar yr adeg yr ydym ni’n cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig.
 
Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau'r UE yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y DU. Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE i’w gweld ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hyn.

Canllawiau ar gyfer y diwydiant bwyd

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddŵr wedi'i botelu yn ein Canllawiau Arfer Da ar gyfer y Diwydiant Bwyd: Dŵr wedi'i botelu sydd ar wefan Swyddfa’r Llyfrfa (Saesneg yn unig).