Broceriaid bwyd
Mae'r wybodaeth hon yn helpu broceriaid i ddeall eu rhwymedigaethau o dan gyfraith bwyd gan gynnwys yr angen i gofrestru fel busnes bwyd.
Beth mae brocer bwyd yn ei wneud
Mae brocer bwyd yn fusnes sy'n prynu bwyd, yn cymryd perchnogaeth o fwyd neu'n meddu ar berchnogaeth gyfreithiol am fwyd i'w ailwerthu i fusnesau eraill fel:
- gweithgynhyrchwyr
- manwerthwyr
- arlwywyr
- broceriaid eraill
Yn aml, y gwahaniaeth rhwng broceriaid bwyd a gweithredwyr busnesau bwyd eraill yw eu bod yn cymryd perchnogaeth gyfreithiol am y bwyd yn hytrach na meddiant corfforol.
Rydych chi'n cael eich dosbarthu fel gweithredwr busnes bwyd oherwydd eich bod chi'n cyflenwi bwyd i fusnesau eraill hyd yn oed os na fyddwch chi byth yn meddu ar fwyd yn gorfforol.
Cofrestru fel busnes bwyd
Os ydych chi'n gwerthu bwyd ar-lein, mae'n ofyniad cyfreithiol i gofrestru'ch busnes gyda'ch awdurdod lleol 28 diwrnod cyn eich bod chi'n bwriadu masnachu.
Os ydych chi'n masnachu yn barod ac heb gofrestru, mae gofyn i chi gofrestru cyn gynted â phosibl. Gallwch chi gofrestru'ch busnes yn rhad ac am ddim.
Cyngor ar arfer da
Defnyddiwch gyflenwyr sydd ag enw da yn unig. Ar gyfer cyflenwyr newydd, gallech chi ymweld â'u cyfleusterau i sicrhau eu bod yn lân a bod eu cynhyrchion yn cael eu cynhyrchu i safon uchel.
Ystyriwch weithredu system reoli sy’n cael ei chydnabod gan y diwydiant, fel:
- Safon Fyd-eang Consortiwm Manwerthu Prydain i Asiantau a Broceriaid
- ISO 9000
- Ardystio Broceriaid IFS
- Os caiff cynnyrch ei drin, Safon Fyd-eang Consortiwm Manwerthu Prydain ar gyfer Diogelwch Bwyd neu Safon Fyd-eang Consortiwm Manwerthu Prydain ar gyfer Storio a Dosbarthu
- Cymeradwyaeth Cyflenwr Diogel a Lleol i fusnesau bach (SALSA)
- Canllawiau'r Diwydiant Bwyd ar Arfer Hylendid Da: Dosbarthwyr Cyfanwerthu
- Canllawiau'r Diwydiant Bwyd ar Arfer Hylendid Da: Gwerthu a Dosbarthu
Ystyriwch ddod yn aelod o Gymdeithas Fasnach. Mae cymdeithasau masnach yn helpu eu haelodau drwy gynnig cyngor arbenigol, yn enwedig o natur dechnegol a chyfreithiol.
Darllenwch am egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP).
Gofynnwch i'ch awdurdod lleol am help ac ystyried y Cynllun Prif Awdurdod.
Hanes diwygio
Published: 27 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mai 2023