Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw

Arferion gorau – Gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw: Dull

Y dull ar gyfer darparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llawn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 March 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 March 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Dull

21.    Mae’r dull trosfwaol yn y canllawiau hyn wedi’i lunio i fodloni disgwyliad defnyddwyr y dylai gwybodaeth am alergenau:

  • fod ar gael yn hawdd yn ysgrifenedig 
  • a chael ei chadarnhau trwy sgwrs

22.     Mae’r adrannau canlynol yn nodi’r ffordd orau o gyflawni’r disgwyliad hwn ar gyfer yr 14 alergen rheoleiddiedig ynghyd ag arferion gorau ychwanegol ar gyfer sgyrsiau am alergenau eraill. Mae’r arferion gorau hyn wedi’u datblygu yn dilyn trafodaethau helaeth gyda defnyddwyr a busnesau. Gan gydnabod yr ystod eang o fusnesau y mae’r canllawiau hyn wedi’u cynllunio i’w cwmpasu, mae hefyd yn nodi amgylchiadau lle gallai fod angen gwyro oddi wrth y dull a nodir uchod, a sut i leihau effaith gwneud hynny.

23.     Mae’r dull a nodir yn y ddogfen hon yn cynrychioli newid mewn arferion gorau er mwyn bodloni’r disgwyliad y bydd gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau ar gael yn ogystal â sgwrs. Nid yw’r gofyniad deddfwriaethol lleiaf sy’n datgan bod rhaid darparu gwybodaeth mewn unrhyw fodd (gydag arwydd yn nodi pryd y caiff ei darparu ar lafar) wedi newid. 

Yr 14 alergen

24.     Mae 14 alergen y mae’n rhaid i fusnesau bwyd ddweud wrth ddefnyddwyr amdanynt os ydynt yn cael eu defnyddio fel cynhwysion neu gymhorthion prosesu mewn bwyd. Dyma’r 14 alergen (y cyfeirir atynt fel ‘alergenau’ drwy’r ddogfen hon): 

  • Grawnfwydydd sy’n cynnwys gwenith (fel gwenith yr Almaen (spelt) a gwenith Khorasan), rhyg, haidd, ceirch a mathau cyfunol ohonynt a’u cynhyrchion, ac eithrio:
    • suropau glwcos sy’n seiliedig ar wenith, gan gynnwys decstros  
    • maltodecstrinau sy’n seiliedig ar wenith  
    • suropau glwcos sy’n seiliedig ar haidd  
    • grawnfwydydd a ddefnyddir i wneud distylliadau (distillates) alcoholaidd, gan gynnwys alcohol ethyl o darddiad amaethyddol   
  • Cramenogion a chynhyrchion sy’n deillio ohonynt (er enghraifft corgimychiaid, cimychiaid, crancod a chimwch yr afon (crayfish))
  • Wyau a chynhyrchion wy
  • Pysgod a’u cynhyrchion, ac eithrio
    • gelatin pysgod a ddefnyddir fel cludwr ar gyfer paratoadau fitamin neu garotenoid
    • gelatin pysgod neu eisinglas a ddefnyddir fel sylwedd mireinio mewn cwrw a gwin 
  • Pysgnau a’u cynhyrchion
  • Ffa soia a’u cynhyrchion, ac eithrio
    • olew a braster ffa soia wedi’u puro’n llawn
    • tocofferolau cymysg naturiol (E306), tocofferolau D-alffa naturiol, asetad tocofferol D-alffa naturiol a sycsinad tocofferol D-alffa naturiol o ffynonellau ffa soia 
    • ffytosterolau ac esterau ffytosterol sy’n deillio o olewau llysiau o ffynonellau ffa soia  
    • ester stanol planhigion a gynhyrchir o sterolau olew llysiau o ffynonellau ffa soia 
  • Llaeth a chynhyrchion llaeth (gan gynnwys lactos), ac eithrio
    • maidd (whey) a ddefnyddir i wneud distylliadau alcoholaidd, gan gynnwys alcohol ethyl o darddiad amaethyddol
    • lactitol  
  • Cnau (yn bennaf cnau almon, cnau cyll (hazelnuts), cnau Ffrengig (walnuts), cnau cashiw, cnau pecan, cnau Brasil, cnau pistasio a chnau Macadamia (cnau Queensland)) a’u cynhyrchion, ac eithrio cnau a ddefnyddir i wneud distylliadau alcoholaidd (er enghraifft, gwirodydd fel fodca neu wisgi) gan gynnwys alcohol ethyl o darddiad amaethyddol 
  • Seleri a chynhyrchion seleri
  • Mwstard a chynhyrchion mwstard (footnote 1) 
  • Hadau sesame a’u cynhyrchion 
  • Sylffwr deuocsid a/neu sylffitau mewn crynodiadau o fwy na 10 mg/kg neu 10 mg/litr (o ran cyfanswm yr SO2 sydd i’w gyfrifo ar gyfer cynhyrchion fel y cânt eu cynnig yn barod i’w bwyta neu fel y cânt eu hail-gyfansoddi yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr)
  • Bysedd y blaidd a’u cynhyrchion
  • Molysgiaid a’u cynhyrchion (er enghraifft cregyn gleision, cregyn Berffro (clams), wystrys, cregyn bylchog (scallops), malwod a môr-lawes)

25.    Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am yr alergenau hyn yn ein canllawiau technegol ar labelu a gwybodaeth mewn perthynas ag alergenau.

Cylch gwybodaeth am alergenau

26.    Mae’n hynod bwysig bod defnyddwyr yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt am bresenoldeb alergenau mewn bwyd. Er mwyn i ddefnyddwyr allu cael pryd diogel, mae hefyd yn bwysig bod busnesau bwyd yn ymwybodol o ofynion alergenau defnyddwyr ac yn gweithredu ar y rhain yn briodol.

27.    Dangosir enghraifft o lif effeithiol o wybodaeth yma:

Llif enghreifftiol o wybodaeth