Arferion gorau – Gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw: Crynodeb
Darparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr yn effeithiol
Crynodeb
Diben
Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi canllawiau arferion gorau ar gyfer busnesau bwyd sy’n darparu bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw, ar sut y gallant ddarparu gwybodaeth orfodol am alergenau i ddefnyddwyr. Bwriad y canllawiau yw cefnogi busnesau i gydymffurfio â rheoliadau yn y ffyrdd mwyaf effeithiol, a bodloni disgwyliadau defnyddwyr drwy fabwysiadu arferion da, a galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus am y bwyd y maent yn ei fwyta yn rhwyddach.
Statws cyfreithiol
Canllawiau arferion gorau (enghreifftiau defnyddiol o ddulliau y gallech eu defnyddio, ond nad yw’n ofynnol yn gyfreithiol i chi eu dilyn). Bydd dull sy’n gyson â’r canllawiau hyn yn eich helpu i gydymffurfio â’ch cyfrifoldebau perthnasol a rhagori arnynt.
Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn?
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer:
- manwerthwyr
- arlwywyr
- arlwywyr sefydliadol
- busnesau bwyd eraill sy’n darparu bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw, boed hynny’n wyneb yn wyneb neu ar-lein
I ba wledydd yn y DU mae’r canllawiau hyn yn berthnasol?
Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Dyddiad adolygu
Byddwn yn adolygu’r canllawiau hyn erbyn mis Medi 2026.
Geiriau allweddol
- Alergedd ac anoddefiad bwyd
- Bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw
- Clefyd seliag
- Hylendid a diogelwch bwyd
- Sector y tu allan i’r cartref (bwytai, caffis, ac ati)
Hanes diwygio
Cyhoeddwyd: 28 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mawrth 2025