Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
CSHB: Arddangos eich sgôr

Arddangos eich sgôr hylendid bwyd ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae’r canllawiau hyn yn nodi sut i fanteisio ar eich sgôr hylendid bwyd drwy ei harddangos yn amlwg i’ch cwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 August 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 August 2024

Mae llawer o fusnesau bwyd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu cynhyrchion a chymryd archebion ar-lein.

Wrth gymhwyso’r egwyddorion arweiniol o sicrhau bod sgoriau’n ‘hawdd eu gweld a’u darllen cyn archebu bwyd’ (er enghraifft, mewn man amlwg sy’n hawdd ei weld gan gwsmer posib), dylech chi drin eich tudalennau busnes ar y cyfryngau cymdeithasol fel y prif fan gwerthu ar gyfer eich cwsmeriaid.

Yn yr un modd â safleoedd ffisegol, rydym yn argymell eich bod yn arddangos eich sgôr ar eich holl sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys lle y gellir gwneud archebion trwy wasanaeth negeseuon.

Mae yna lawer o wahanol opsiynau ar gyfer arddangos sgoriau ar-lein ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Isod, rydym yn rhannu argymhellion ar gyfer sut y gallwch arddangos eich sgôr ar draws gwahanol lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r lluniau ar y dudalen hon at ddibenion enghreifftiol yn unig.

Facebook – arddangos eich sgôr hylendid bwyd

Mae rhai busnesau’n cymryd archebion trwy neges uniongyrchol ar Facebook neu drwy Facebook Marketplace.

Wrth werthu bwyd ar Facebook, dylech sicrhau:

  • bod eich sgôr yn cael ei harddangos yn barhaol ac mewn modd sefydlog ar eich proffil ac y gall cwsmeriaid ei gweld pan fyddan nhw’n yn ymweld â’ch tudalen
  • bod y sgôr yn ddigon mawr fel y gellir ei darllen yn hawdd ac nad yw’n lleihau’n sylweddol pan fydd cwsmer yn defnyddio Facebook ar ddyfais symudol

Gellir cyflawni hyn trwy arddangos eich sgôr fel rhan o lun clawr eich proffil Facebook, fel neges Facebook wedi’i phinio, neu yn yr hysbyseb ei hun ar Facebook Marketplace.

Delwedd clawr Facebook

Gallwch arddangos eich sgôr yn amlwg trwy fewnosod y ddelwedd berthnasol o’r sgôr yn llun clawr eich proffil. Dylid ychwanegu hon at ochr dde’r llun clawr fel nad yw’n gwrthdaro â’ch llun proffil.

Gellir mewnosod y sgôr yn hawdd ar eich llun clawr trwy ddefnyddio offer golygu delweddau ar-lein rhad ac am ddim fel PIXLR neu Canva.

A facebook cover image with a 5-rating FHRS badge on top of pizza being sliced

Neges Facebook wedi’i phinio

Gallwch uwchlwytho eich sgôr fel neges unigol cyn belled â’i bod wedi’i phinio i’ch proffil fel ei bod yn ymddangos yn amlwg ar frig eich tudalen.

Bydd methu â phinio’r neges yn golygu y bydd negeseuon yn y dyfodol yn gwthio’r sgôr ymhellach i lawr ffrwd eich tudalen gan ei gwneud hi’n anodd i gwsmeriaid ddod o hyd iddi. Ni fyddai hyn yn bodloni egwyddorion arweiniol y CSHB mewn perthynas ag arddangos sgoriau.

Trwy ychwanegu neges wedi’i phinio, gallwch sicrhau bod gan eich sgôr le parhaol ar eich proffil a chynnwys unrhyw gyd-destun ychwanegol yn y testun cysylltiedig.

A facebook page with a pinned post featuring a 5-rating FHRS badge

Facebook Marketplace

Mae rhai busnesau bwyd a defnyddwyr unigol yn gwerthu bwyd yn uniongyrchol trwy Facebook Marketplace.

I arddangos sgôr ar Facebook Marketplace, dylech gynnwys delwedd o’ch sgôr yn yr holl hysbysebion a’r testun cysylltiedig.

Gellir gwneud hyn trwy ychwanegu’r sgôr fel troshaen at y ddelwedd gyntaf yn yr hysbyseb, neu drwy gynnwys delwedd o’r sgôr lawn yn y carwsél.

Gellir ychwanegu delwedd o’r sgôr yn hawdd at ddelwedd yr hysbyseb gan ddefnyddio offer golygu delweddau ar-lein rhad ac am ddim fel PIXLR neu Canva

A facebook marketplace listing with a 5-rating FHRS badge on top of pizza

Instagram – arddangos eich sgôr hylendid bwyd

Ar Instagram, dylech arddangos eich sgôr ar eich proffil mewn modd amlwg a sefydlog.

Yn ogystal ag arddangos llun o’ch sgôr, gallwch gynnwys disgrifiad ysgrifenedig o’ch sgôr ym mlwch bywgraffiad eich cyfrif, ond ni ddylid trin y testun fel dewis amgen yn lle defnyddio llun o’ch sgôr.

Fel Facebook, gallwch hefyd binio neges i frig eich proffil Instagram.

Os na fyddwch chi’n pinio’r neges, bydd unrhyw negeseuon yn y dyfodol yn gwthio’ch sgôr ymhellach i lawr eich tudalen. Byddai hyn yn ei gwneud hi’n anodd i gwsmeriaid ddod o hyd i’ch sgôr, ac ni fyddai’n bodloni egwyddorion arweiniol y CSHB mewn perthynas ag arddangos sgoriau.

Trwy binio neges, gallwch sicrhau bod gan eich sgôr le parhaol ar eich proffil Instagram.

X/Twitter – arddangos eich sgôr hylendid bwyd

Wrth gymhwyso’r egwyddorion arweiniol at dudalen proffil X/Twitter eich busnes, dylech wneud y canlynol:

  • arddangos eich sgôr mewn modd parhaol a sefydlog ar eich proffil
  • sicrhau bod y sgôr yn ddigon mawr fel y gellir ei darllen yn hawdd ac nad yw’n lleihau’n sylweddol pan fydd cwsmer yn defnyddio X/Twitter ar ddyfais symudol

Gellir cyflawni hyn trwy arddangos eich sgôr fel rhan o ddelwedd pennyn eich proffil neu fel neges wedi’i phinio.

Delwedd pennyn X/Twitter

Gallwch arddangos eich sgôr yn amlwg trwy ei mewnosod yn eich delwedd pennyn. Dylid ychwanegu hon at ochr dde’r ddelwedd pennyn fel nad yw’n gwrthdaro â’ch llun proffil.

Gall dewis delweddau addas i fewnosod eich sgôr ynddynt wella eich gweithgarwch hyrwyddo a’i gwneud hi’n haws i gwsmeriaid pan fyddan nhw’n mynd ar eich tudalen.

Gellir ychwanegu delwedd o’r sgôr yn hawdd gan ddefnyddio offer golygu delweddau ar-lein rhad ac am ddim fel PIXLR neu Canva

A twitter profile with a header image of a 5-rating FHRS badge on top of pizza being sliced

Neges wedi’i phinio ar X/Twitter

Gallwch ychwanegu eich sgôr fel neges unigol, ond dylai hon gael ei phinio i’ch proffil fel ei bod yn ymddangos yn amlwg ar frig eich tudalen.

Bydd methu â phinio’r neges yn golygu y bydd negeseuon yn y dyfodol yn gwthio’r sgôr ymhellach i lawr eich ffrwd gan ei gwneud hi’n anodd i gwsmeriaid ddod o hyd iddi. Ni fyddai hyn yn bodloni egwyddorion arweiniol y CSHB mewn perthynas ag arddangos sgoriau.

Trwy ychwanegu neges wedi’i phinio, gallwch sicrhau bod gan eich sgôr le parhaol ar eich proffil a chynnwys unrhyw gyd-destun ychwanegol yn y testun cysylltiedig.

A pinned tweet with a 5-rating FHRS badge