Adroddiad gan Gyfarwyddwr Cymru
Adroddiad gan Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr Cymru
1. Crynodeb
1.1 Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg lefel uchel o waith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac ers yr adroddiad diwethaf i’r Bwrdd ym mis Medi 2022.
1.2 Yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y blaenoriaethau penodol yng Nghymru a chyfraniad tîm Cymru at flaenoriaethau corfforaethol yr ASB, mae’n cynnwys rhagolwg o flaenoriaethau’r ASB yng Nghymru ar gyfer y misoedd nesaf.
Gofynnir i’r Bwrdd:
- asesu effeithiolrwydd y gwaith a amlinellwyd i gyflawni blaenoriaethau’r ASB
- ystyried sut mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol yr ASB a’i dull o weithio ar draws y tair gwlad
- rhoi adborth ar y blaenoriaethau a nodwyd.
2. Cyflwyniad
2.1 Mae’r ASB yng Nghymru yn cyfrannu at gyfrifoldebau polisi’r ASB ar gyfer pob agwedd ar ddiogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, ac mae ganddi hefyd gylch gwaith ychwanegol mewn perthynas â safonau cyfansoddiad a labelu bwyd yng Nghymru.
2.2 Mae gan yr ASB gyfrifoldeb statudol i gynghori gweinidogion Cymru a gwneud argymhellion iddynt ar bolisi bwyd a bwyd anifeiliaid a newidiadau deddfwriaethol. Rydym yn cyflawni swyddogaethau y cytunwyd arnynt gyda gweinidogion Cymru yn ein llythyr ariannu blynyddol, a’r concordat rhwng yr ASB a Llywodraeth Cymru. Yn y cyd-destun hwn, mae’r ASB yng Nghymru wedi ymgorffori egwyddorion dau fframwaith cyffredin y DU y mae’n ddarostyngedig iddynt fel rhan o’i swyddogaethau llunio polisi, gan sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried yn briodol. Y ddau fframwaith hyn yw Fframwaith Cyffredin y DU ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Fframwaith Cyffredin y DU ar gyfer Cyfansoddiad, Safonau a Labelu Bwyd.
2.3 Oherwydd y cyd-destun hwn, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio ar sail pedair gwlad, yn ogystal â gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig, adrannau eraill Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid ledled Cymru.
2.4 Mae tîm Cymru yn cynnwys 62 o bobl sy’n gweithio ar draws y meysydd gwaith datganoledig, a hynny mewn ffordd sy’n sicrhau ein bod yn cyfrannu cymaint â phosib at waith yr ASB. Rydym yn gyfrifol am weithgareddau cyfathrebu a chymorth busnes yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ymgyrchoedd cyfathrebu, gweithgareddau rheoli busnes a’r swyddfa, yr holl ddarpariaeth iaith Gymraeg, a chymorth gweinyddol i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC). Rydym yn gyfrifol am y berthynas ag awdurdodau lleol, am ddarparu hyfforddiant, ymateb i faterion ac ymholiadau, cyhoeddi a diweddaru canllawiau, monitro cydymffurfiaeth, a chymryd camau dilynol ar faterion a nodwyd wrth archwilio. Mae gennym dimau bach sy’n gyfrifol am yr agweddau Cymreig ar bolisi, hylendid a safonau rheoleiddio, gan gynnwys cysylltu â gwasanaethau cyfreithiol a rheoli hynt deddfwriaeth neu reoliadau drwy Lywodraeth Cymru. Ni hefyd yw’r arweinydd polisi ar gyfer bwydydd newydd ac atchwanegiadau, a pholisi mewnforio ac allforio yng Nghymru. Mae gennym hefyd swyddogaeth diogelu defnyddwyr yng Nghymru, gan gynnwys rheoli digwyddiadau, archwilio awdurdodau lleol, a monitro gwariant ar reolaethau bwyd anifeiliaid (sef cyllid wedi’i neilltuo a ddarperir gan Lywodraeth Cymru).
2.5 Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o weithrediad yr ASB yng Nghymru. Cyhoeddwyd y bwriad i gynnal yr adolygiad hwn gyntaf ym mis Mehefin 2021. Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn y broses o gomisiynu’r adolygiad hwn, ac rydym yn parhau i weithio’n agos gyda hi. Edrychwn ymlaen at archwilio cyfleoedd i wella swyddogaethau cynghori’r ASB, ystyried lle gall ein rôl helpu i gyflawni amcanion gweinidogion Cymru neu lle y gellir ymwreiddio galluoedd gwyddoniaeth ac ymchwil yr ASB ymhellach yng ngwaith Llywodraeth Cymru, gan gofio hefyd y bydd angen nodi’r goblygiadau o ran adnoddau a chyllid.
2.6 Ers y diweddariad diwethaf i’r Bwrdd, mae cyfarwyddiaethau’r ASB wedi’u hailstrwythuro ac mae’r ASB yng Nghymru wedi symud i’r Gyfarwyddiaeth Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA), o dan Anjali Juneja, Cyfarwyddwr UKIA. Mae Cymru a Gogledd Iwerddon yn dod o dan y gyfarwyddiaeth. Mae hyn wedi arwain at weithio mwy effeithlon ac effeithiol ar draws y gwledydd.
2.7 Mae’r papur hwn yn tynnu sylw at canlynol:
- cynnydd a wnaed ar flaenoriaethau’r ASB yng Nghymru y cytunwyd arnynt yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2022
- gwaith a wnaed i gyflawni blaenoriaethau corfforaethol yr ASB
- rhagolwg ar heriau a blaenoriaethau’r ASB yng Nghymru yn y dyfodol.
3. Cynnydd o ran blaenoriaethau’r ASB yng Nghymru
3.1 Bydd y Bwrdd yn ymwybodol bod y papur diwethaf ym mis Medi 2022 wedi tynnu sylw at bedwar maes gwaith blaenoriaeth: adfer y gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd; cyflawni’r swyddogaethau ychwanegol y mae’r ASB wedi ymgymryd â nhw ers ymadael â’r UE; teilwra ein dull gweithredu i gefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; ac ehangu ein gwaith ymgysylltu ledled Cymru. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cwblhau ac anfon 60 o gyflwyniadau, papurau briffio neu nodiadau pennawd at weinidogion Cymru. Rydym wedi sicrhau bod dull ‘Un ASB’ wedi’i fabwysiadu wrth lunio’r cyflwyniadau hyn, gyda chydweithio ar draws meysydd busnes. Ceir isod ddiweddariad ar gynnydd a chyflawniadau’r tîm yn erbyn y blaenoriaethau hyn, a hefyd mewn ymateb i flaenoriaethau a rhaglenni gwaith sydd ar y gorwel.
3.2 Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ysbryd Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol Cymru , sy’n gofyn am bartneriaethau sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch, y naill at y llall, ac sy’n cydnabod gwerth a chyfreithlondeb rôl pob corff. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn rhoi pwyslais ar ymgysylltu, ac mae gennym berthynas waith agos â’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wrth i ni eu cefnogi yn eu dyletswyddau (gan gynnwys mewn perthynas â’r gwaith o adfer ar ôl y pandemig). Rydym yn ymgysylltu’n genedlaethol â Chyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru, grwpiau Cyswllt Bwyd, Paneli Arbenigol a Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) i gyd-ddylunio, cyd-gynhyrchu ac ymgynghori fel y bo’n briodol i sicrhau bod polisïau’r ASB wedi’u llywio’n ddigonol gan y dirwedd gyflawni yng Nghymru.
3.3 Yn ogystal â’n cyfrifoldebau statudol, rydym yn defnyddio ein perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru i gymryd agwedd ragweithiol at ddarparu cymorth iddynt wrth iddynt gynnal rheolaethau swyddogol. Ochr yn ochr â darparu canllawiau a chyngor ac ymateb i ymholiadau penodol, rydym yn targedu ac yn ariannu hyfforddiant ychwanegol i swyddogion sy’n cynnal rheolaethau swyddogol ar gyfer hylendid bwyd, safonau bwyd a bwyd anifeiliaid. Ers mis Medi 2022, rydym wedi darparu hyfforddiant ar Gyfraith Bwyd Cyffredinol, Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP), Hyfforddiant Cysondeb ar gyfer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, Puro Pysgod Cregyn, Samplu Bwyd, Hyfforddiant Bwyd wedi’i Fewnforio ar gyfer Safleoedd Rheoli ar y Ffin, Trosolwg o Ddeddfwriaeth Bwyd Anifeiliaid, Prosesau Cofrestru a Chymeradwyo Bwyd Anifeiliaid, HACCP ar gyfer Bwyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid Meddyginiaethol ac Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid. Darparwyd cyfanswm o 701 o leoedd hyfforddi i swyddogion ledled Cymru.
3.4 Rydym hefyd yn defnyddio ein dealltwriaeth o’r cyd-destun gweithredol yng Nghymru i dargedu ein harian grant cyfyngedig yn y ffordd orau er mwyn ategu gwaith diogelu’r cyhoedd awdurdodau lleol. Er enghraifft, rydym wedi cefnogi rhaglenni samplu yn ogystal â chefnogi awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus i ymchwilio i ddigwyddiadau. Yn 2022/23, darparodd yr ASB yng Nghymru ychydig dros £75,000 o gyllid ar gyfer gweithgarwch samplu, gan gynnwys OPSON (gweithrediad INTERPOL ar y cyd ag Europol sy’n targedu bwyd a diodydd ffug ac is-safonol) a samplu gwyliadwriaeth manwerthu penodol i Gymru, ochr yn ochr â’n cyllid arferol ar gyfer cefnogi ac ategu gweithgarwch samplu awdurdodau lleol.
3.5 Mae gweinidogion Cymru yn dangos diddordeb mawr yn y gwaith o ddarparu trefn reoleiddio addas at y diben, a all ddiwallu anghenion deinamig defnyddwyr a busnesau bwyd. Rydym wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i lunio cytundeb cydweithredu a gyhoeddodd gan y Dirprwy Weinidog ym mis Ebrill 2023. Mae’r cytundeb yn nodi’r egwyddorion ar gyfer y ffordd y dylem weithio gyda’n gilydd i fodloni disgwyliadau’r Gweinidog ar gyfer adolygu a diwygio gwaith rheoleiddio busnesau bwyd yng Nghymru. Mae’n tynnu sylw at rolau a chyfrifoldebau y cyrff unigol, a’r amcanion a rennir, er mwyn ei gwneud yn haws i fusnesau ddarparu bwyd diogel y gellir ymddiried ynddo i ddefnyddwyr, er mwyn targedu adnoddau rheoleiddio yn fwy effeithlon yn ôl risg, ac i wella cydymffurfiaeth ar draws y system.
3.6 Ers i Gynllun Adfer Covid-19 ar gyfer Awdurdodau Lleol ddod i ben ym mis Mawrth 2023, rydym wedi ailddechrau monitro perfformiad awdurdodau lleol yng Nghymru yn erbyn gofynion y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (FLCoP). Rydym yn coladu ac yn rhannu adroddiadau cryno o’r data fel y gall awdurdodau lleol weld y cynnydd maen nhw wedi’i wneud o gymharu ag eraill ledled Cymru, ac rydym yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol unigol pan fyddant yn bryderus am eu gallu i lynu’n llawn at y FLCoP.
3.7 Mae cymeradwyo cynhyrchion rheoleiddiedig yn gyfrifoldeb datganoledig, sy’n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu caniatáu gan y gweinidog ym mhob gwlad, o dan ei swyddogaeth fel Awdurdod Priodol. Er mwyn i hyn weithio’n ymarferol, mae’r ASB yng Nghymru wedi’i hawdurdodi yn unol â threfniadau o dan adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymgymryd â swyddogaethau gweinyddol penodol ar ran gweinidogion Cymru. Mae timau Polisi a Chynhyrchion Rheoleiddiedig yr ASB yng Nghymru yn gwneud hyn drwy weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ar draws yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban drwy gydol y broses ar bob awdurdodiad – o ddatblygu polisi ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, i baratoi a llunio dogfennau. Rydym yn rhan greiddiol o’r broses gydweithredol sy’n sicrhau bod argymhellion yr ASB wedi’u gwreiddio mewn dull sy’n adlewyrchu’r cyd-destun ar gyfer pob llywodraeth unigol.
3.8 Tîm Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau bod y llwybrau deddfwriaethol a chymeradwyo sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru yn cael eu dilyn ar gyfer ceisiadau, fel y gellir dod â deddfwriaeth i rym yng Nghymru. Rydym wedi mynd â phob un o’r 50 o geisiadau Prydain Fawr yn eu blaen i gael eu hawdurdodi yng Nghymru ers i’r gwasanaeth fynd yn fyw ym mis Ionawr 2021, ac rydym yn bwrw ymlaen â 12 o geisiadau ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid ychwanegol. Dylai’r rhain gael eu hawdurdodi tua diwedd 2023. Ceir rhagor o fanylion am ystadegau penodol yn y papur diweddaru ar y Gwasanaeth Dadansoddi Risg a Chynhyrchion Rheoleiddiedig.
3.9 Mae hon yn system newydd, ac mae gwaith i’w gwella yn mynd rhagddo ar draws yr ASB. Er enghraifft, sylweddolwyd bod angen nodi a datrys meini tramgwydd yn y system yn gynnar yn y broses. Creodd tîm Cynhyrchion Rheoleiddiedig Cymru arolwg tracio ac amserlen a rennir ar gyfer yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sydd bellach yn caniatáu i’r broses gymeradwyo gyfan ar draws pob gweinyddiaeth gael ei mapio, ac mae pob tîm ar draws yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban yn gallu gwneud newidiadau gan ddefnyddio golygu amser real.
3.10 Yn 2023, gwelwyd y gofyniad cyntaf i gais gael ei ddwyn drwy’r broses awdurdodi brys – sef Cobalt, sy’n ychwanegyn bwyd anifeiliaid. Heb weithredu, ni fyddai’r cyfansoddion hyn yn cael eu caniatáu, a byddai eu tynnu’n ôl yn cael effaith andwyol sylweddol ar iechyd a lles anifeiliaid. Bu tîm polisi Cymru yn gweithio gyda’r tîm Polisi canolog, Safonau Bwyd yr Alban, a thimau cyfreithiol i ddatblygu dull gweithredu priodol. Roedd hwn yn ddarn sylweddol o waith, ac roedd y tîm yng Nghymru yn gyfrifol am ymgysylltu’n uniongyrchol â rhanddeiliaid penodol yng Nghymru a chasglu eu barn. Roedd y rhanddeiliaid a dargedwyd yn cynnwys BAFSAM yng Nghymru ac NFU Cymru, a bu’r tîm yn gweithio gyda swyddogion a chyfreithwyr Llywodraeth Cymru i sicrhau bod deddfwriaeth gyfatebol yn dod i rym yng Nghymru. Sicrhaodd y gwaith hwn y gallai’r cyfansoddion cobalt aros ar y farchnad heb unrhyw darfu.
3.11 Yn ogystal â’r cytundeb ar gyflawni swyddogaethau ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig, mae cytundeb a.83 ar wahân wedi’i wneud gyda gweinidogion Cymru. Mae hyn yn awdurdodi’r ASB yng Nghymru i ymgymryd â swyddogaethau datganoledig gweinidogion Cymru mewn perthynas â rheolaethau uwch ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid mewn safleoedd rheoli ar y ffin. Mae’r tîm yng Nghymru, mewn partneriaeth â chydweithwyr yn yr ASB ehangach, Safonau Bwyd yr Alban a Llywodraeth Cymru, yn cynnal rhaglen dreigl o adolygiadau chwe mis o’r rheolaethau uwch hyn, ac yn rhoi cyngor i weinidogion Cymru i lywio eu penderfyniadau. Arweiniodd yr adolygiad cyntaf at gyngor ar rheolaethau uwch ar 31 o nwyddau o wledydd penodol. Daeth yr ymgynghoriad diweddaraf ar newidiadau i reolaethau uwch ar 39 o nwyddau o wledydd penodol i ben ar 28 Awst, ac mae’r ymatebion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.
3.12 Rydym yn rhoi cyngor ac yn cyfrannu at bolisi pan fydd gwahaniaethau mewn blaenoriaethau deddfwriaethol rhwng llywodraethau. Er enghraifft, er bod Deddf Technoleg Enetig (Bridio Manwl) 2023 yn gymwys yn Lloegr yn unig, mae’n effeithio ar bob un o wledydd y DU oherwydd fframweithiau cyffredin a chydnabyddiaeth gilyddol. Mae tîm Cymru wedi cyfrannu at ddatblygu polisi a fframweithiau rheoleiddio, gan ymgysylltu â thimau canolog, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid Cymru a gwneud argymhellion polisi yn seiliedig ar dystiolaeth, i lywio’r dull gweithredu. Mae hyn wedi cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, feysydd fel gorfodi ac olrheiniadwyedd a dargyfeiriad deddfwriaethol. Rydym ymgysylltu’n barhaus â gweinidogion Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru, gan ddarparu astudiaethau perthnasol, gwybodaeth, a diweddariadau i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf, ac er mwyn cefnogi trafodaethau’r Cadeirydd â gweinidogion Cymru. Rydym hefyd wedi darparu gwybodaeth a chyngor i helpu gweinidogion i ddeall bridio manwl a’u cefnogi wrth iddynt roi ystyriaeth barhaus i’r pwnc hwn. Mae hyn yn cynnwys hwyluso cyfarfodydd rhwng ein Prif Gynghorydd Gwyddonol, yr Athro Robin May, a swyddogion Llywodraeth Cymru.
3.13 Mae gennym gyfrifoldeb am feysydd polisi ychwanegol fel cynghori Gweinidogion Cymru ar labelu a safonau cyfansoddiadol. Mae’r maes hwn wedi’i arwain gan Defra yn Lloegr. Rydym yn gweithio ar draws llywodraethau i sicrhau bod safbwyntiau gweinidogion Cymru a rhanddeiliaid yng Nghymru yn cael eu cynrychioli. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar newidiadau deddfwriaethol arfaethedig ar gyfansoddiad bara a blawd ac rydym wrthi’n trafod a oes angen diwygio deddfwriaeth dŵr potel. Mae gwaith ymgysylltu cynnar hefyd wedi’i gynllunio gyda rhanddeiliaid allweddol ar gynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer newidiadau cyfansoddiadol a labelu i’r Cyfarwyddebau Brecwast (sy’n cwmpasu jam, mêl, llaeth wedi’i gadw a sudd ffrwythau).
3.14 Ni sy’n arwain ar atchwanegiadau bwyd yn yr ASB, ac yn 2022 cawsom 215 o atgyfeiriadau yn hyn o beth. Hyd yma, rydym wedi cael 178 o atgyfeiriadau yn 2023. Fel rheol, mae atgyfeiriadau’n cynnwys ceisiadau am gyngor ar gymhwysedd cyfraith atchwanegiadau a labelu, materion yn ymwneud â halogi, gormodedd o gynhwysion penodol, adweithiau niweidiol a chynhyrchion sy’n cynnwys cynhwysion anawdurdodedig. Mae ein rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddarparu cyngor cyffredinol mewn rhai achosion a chyngor rheoli risg mewn achosion eraill – er enghraifft, a oes angen i gynhyrchion gael eu tynnu’n ôl o’r farchnad. Mae hyn yn gofyn am gyswllt rheolaidd â llawer o dimau eraill yn yr ASB, gan gynnwys Halogion, Ychwanegion, Bwydydd Newydd, Digwyddiadau a Thocsicoleg, ac yn allanol gyda’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC), a’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) ymhlith llawer o dimau eraill.
3.15 Rydym wedi parhau i wella ein lefel o ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni blaenoriaethau’r ASB yn fwy effeithlon ar draws ein cylch gwaith. Rydym yn rhan o’r timau drafftio ar gyfer y cyfathrebiadau rheolaidd i Aelodau o’r Senedd a llythyrau at Aelodau Seneddol, sy’n sicrhau bod seneddwyr ym mhob gwlad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am feysydd allweddol o waith yr ASB, fel gorsensitifrwydd i fwyd, y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau, bridio manwl, y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau a rheoleiddio’r diwydiant cig. Rydym wedi diwygio’r ffordd rydym yn cynllunio gwaith ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar faterion sy’n bwysig yng Nghymru. Aethom i Sioe Frenhinol Cymru eleni, gan achub ar y cyfle i’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr ymgysylltu ag ystod ehangach o randdeiliaid allweddol, gyda rhaglen lawn o gyfarfodydd rhagarweiniol a thrafodaethau ar faterion polisi o bwys yng Nghymru.
3.16 Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn rhan bwysig o’n gwaith, ac rydym yn darparu cymorth uniongyrchol i hwyluso ei weithrediad. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, trefnwyd i amrywiaeth o arbenigwyr ddod i drafodaethau â thema hanner diwrnod yn canolbwyntio ar dirwedd fwyd Gogledd-ddwyrain Cymru, Gweithrediadau’r ASB, y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau, a gweithrediadau awdurdodau lleol. Mae’r cyfarfodydd hyn wedi cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ymgysylltu ag academyddion ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd ac Aberystwyth, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a’r diwydiant cig. Maent yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i WFAC am gylch gorchwyl yr ASB ac yn paratoi aelodau fel y gallant roi cyngor i’r Aelod Bwrdd dros Gymru cyn trafodaethau’r Bwrdd.
3.17 Yn ogystal â gweithio tuag at y blaenoriaethau corfforaethol a phenodol i Gymru a amlinellir yn yr adrannau uchod, mae’r tîm wedi cyflawni uchafbwyntiau pwysig eraill dros y flwyddyn ddiwethaf, yn arbennig symud swyddfa ym mis Awst. Mae tîm Cymru wedi symud i adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, a oedd yn benllanw prosiect 18 mis. Mae hyn yn creu effeithlonrwydd o ran gweithredu ac arbedion costau hirdymor mewn rhent a thaliadau gwasanaeth. Mae manteision eraill yn cynnwys bod yn agos at weinidogion, cydweithwyr iechyd y cyhoedd a chydweithwyr polisi eraill yn Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chynnig cyfleusterau gwell i staff a gofod swyddfa wedi’i deilwra at ein hanghenion, yn seiliedig ar sylwadau a safbwyntiau’r staff.
3.18 Mae uchafbwyntiau eraill dros y 12 mis diwethaf yn cynnwys y canlynol:
- Ym mis Mawrth, enillodd yr ASB yng Nghymru wobr ‘Cyflogwr Chwarae Teg Aur+’, sef y wobr Aur+ gyntaf erioed a roddwyd i sefydliad gan brif elusen cydraddoldeb rhwng y rhywiau Cymru, Chwarae Teg. Mae Chwarae Teg yn meincnodi sefydliadau cyhoeddus a phreifat yn erbyn eraill yn eu diwydiant gan nodi ffactorau llwyddiant arwyddocaol a meysydd i’w gwella. Mae’r wobr hon yn seiliedig ar asesiad o arferion amrywiaeth a barn staff ar gynhwysiant mewn meysydd fel dysgu a datblygu a recriwtio a dethol.
- Eleni, cydnabu Comisiynydd y Gymraeg yr arferion effeithiol sydd wedi’u hymgorffori yn yr ASB mewn perthynas ag ymgyrchoedd cyfathrebu dwyieithog, a amlygwyd mewn astudiaeth achos arfer gorau. Roedd yr astudiaeth achos yn tynnu sylw at y broses gadarn sydd wedi’i datblygu yn yr ASB ar gyfer creu ymgyrchoedd marchnata dwyieithog effeithiol, gan sicrhau bod y cynnyrch terfynol o’r ansawdd gorau posib ac yn cyrraedd y gynulleidfa darged ehangaf bosib yn y ddwy iaith.
4. Cyflawni Blaenoriaethau Corfforaethol yng Nghymru
4.1 Ochr yn ochr â gwaith ar feysydd sy’n benodol i Gymru, rydym hefyd yn cyfrannu at flaenoriaethau a rhaglenni ehangach yr ASB ac yn gweithio gyda chydweithwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gyda’n gilydd, rydym yn cyflawni cylch gorchwyl craidd yr ASB ac yn sicrhau bod y goblygiadau Cymreig yn cael eu hystyried. Rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a gweinidogion i gyflawni’r blaenoriaethau hyn fel rhan o ddull pedair gwlad.
4.2 Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau – mae gennym dîm bach yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y tair gwlad, Safonau Bwyd yr Alban, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gefnogi’r broses o gyflwyno rheolaethau seiliedig ar risg ar fwyd a bwyd anifeiliaid sy’n dod i’r DU. Rydym yn cynghori gweinidogion Cymru ar ffrydiau gwaith â blaenoriaeth, gan gynnwys rhaghysbysu nwyddau Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) o Weriniaeth Iwerddon, symleiddio Tystysgrifau Iechyd Allforio, categoreiddio risg Mewnforion o’r UE a gweddill y byd a datblygu cynlluniau Masnachwyr Dibynadwy. Mae aelodau o’r tîm yng Nghymru yn eistedd ar sawl gweithgor llywodraeth y DU gan sicrhau bod y gwaith o ddatblygu’r model gweithredu targed yn cael ei lywio gan dirwedd cyflawni awdurdodau lleol ac maent wedi bod yn cynghori Gweinidogion Cymru ar oblygiadau’r model gweithredu targed mewn perthynas â Fframwaith Windsor. Mae ein Cadeirydd wedi cyfarfod yn rheolaidd gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru i roi cyngor ar gyflwyno’r model gweithredu targed.
4.3 Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) – rydym wedi gweithio’n agos gyda’r rhaglen REUL ar draws yr ASB i sicrhau bod yr effaith ar y llyfr statud fel y mae’n gymwys i Gymru wedi’i dadansoddi a’i hystyried yn llawn. Fe wnaethom ail-flaenoriaethu gweithgarwch yn ystod y flwyddyn i ryddhau adnoddau er mwyn i aelod o dîm Cymru weithio ar y rhaglen. Mae hyn wedi golygu, ers cyhoeddi’r Bil, ein bod wedi gallu ymgysylltu’n helaeth â swyddogion Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod y broses yn bodloni disgwyliadau gweinidogion Cymru ynghylch cyfraith benodol a ddargedwir, fel y mae’n gweithredu yng nghyd-destun Cymru, y setliadau datganoli a chanlyniadau cymalau sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf ar gymhwysedd Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi cynnwys rhoi sicrwydd i swyddogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru ynghylch ein rhaglen waith fesul cam, yn unol ag ymrwymiadau ehangach yn ymwneud â fframweithiau Cyffredin y DU. Yn dilyn newidiadau i’r Ddeddf ym mis Mai, rydym wedi bod yn cynghori Llywodraeth Cymru ar amserlen ddirymu’r Ddeddf (Cyfraith yr UE a ddargedwir i gael ei dirwyn i ben neu ei dirymu erbyn 31 Rhagfyr 2023 | Asiantaeth Safonau Bwyd), sy’n cynnwys dau ddarn o ddeddfwriaeth yr ASB sy’n gymwys i Gymru, yn ogystal â chynghori ar effeithiau dehongli.
4.4 Rydym wedi gweithio’n helaeth gyda Defra ar eu rhaglen REUL i sicrhau bod REUL hanfodol o fewn polisi safonau cyfansoddiad a labelu bwyd (FCSL) wedi’i ddadansoddi. Nid oes unrhyw REUL sy’n ymwneud â pholisi FCSL ar yr atodlen ddirymu sy’n berthnasol i Gymru.
4.5 Mae gennym dîm sefydledig sy’n gyfrifol am reoli digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n ymwneud â Chymru. Mae’r tîm yn arwain ar ymatebion aml-asiantaeth lle bo angen, ac yn cynrychioli buddiannau Cymru yn ystod brigiadau o achosion a digwyddiadau cenedlaethol. Ers adroddiad blaenorol Cymru i’r Bwrdd, mae’r tîm wedi gweithio ar 195 o ddigwyddiadau sy’n effeithio ar Gymru. Mae hyn yn cynnwys 121 o ddigwyddiadau a arweiniwyd gan Gymru. Mae’r gweddill yn ddigwyddiadau cenedlaethol sy’n cael effaith yng Nghymru. Mae’r tîm wedi bod yn ymwneud â nifer o ddigwyddiadau ac achosion cenedlaethol, gan gynnwys y rhai y manylir arnynt yn yr astudiaethau achos yn Adroddiad Blynyddol yr Uned Digwyddiadau a Gwytnwch, ac mae’r tîm yn parhau i chwarae rhan weithredol mewn digwyddiadau anarferol sy’n effeithio ar Gymru.
4.6 Mae’r tîm digwyddiadau yng Nghymru hefyd yn cefnogi gwaith ehangach y tîm Derbyn a Rheoli drwy fonitro signalau sy’n ymwneud â risgiau posib i gadwyn fwyd y DU (a nodir gan ddefnyddio systemau gwyliadwriaeth rhagfynegol). Mae’r tîm yng Nghymru yn cefnogi’r gwaith hwn yn wythnosol, ac wedi prosesu 406 o signalau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
4.7 Rydym yn gweithio’n agos gyda thimau digwyddiadau yn y pedair gwlad ac rydym yn rhan annatod o lawer o’r gwaith y manylir arno yn y papur Digwyddiadau a Gwytnwch. Rydym hefyd yn ymwneud yn agos â gwaith y rhaglen Adolygu Rheoli Risgiau ac Argyfyngau.
5. Edrych tua’r dyfodol
5.1 Bydd Cynhyrchion Rheoleiddiedig, diwygio REUL a’r Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau yn parhau i fod yn feysydd gwaith allweddol, a byddwn yn parhau i weithio ar draws llywodraethau i sicrhau bod safbwyntiau rhanddeiliaid a gweinidogion Cymru yn cael eu hystyried wrth ddatblygu polisïau. Yn ogystal â gweithio ar y materion a nodwyd eisoes, mae nifer o flaenoriaethau y bydd yr ASB yng Nghymru yn gweithio arnynt dros y chwe i ddeuddeg mis nesaf. Mae’r meysydd ffocws hyn yng Nghymru wedi’u hamlinellu isod fel y gall y Bwrdd eu hystyried a chytuno arnynt, neu wneud sylwadau arnynt fel y bo’n briodol.
5.2 Rheoleiddio sydd wedi’i dargedu, sy’n gymesur ac yn addas at y diben – mae hyn yn golygu symud ymlaen o’r cyfnod adfer ar ôl Covid yng Nghymru, gan edrych at y dyfodol o ran ein gwaith diwygio rheoleiddiol. Bydd hyn yn cynnwys:
- Sicrhau bod gwaith rheoleiddio wedi’i dargedu ac yn gymesur, yn unol â datganiad y Gweinidog. Mae hwn yn gam naturiol yn dilyn blaenoriaeth 2022 – o adfer y gwaith o gynnal rheolaethau ar fwyd, i sicrhau eu bod yn addas at y diben yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys y model gweithredu hylendid bwyd a’r model gweithredu safonau bwyd.
- Fel rhan o’r cais gan weinidogion Cymru (gweler paragraff 3.3), rydym wedi dechrau ystyried y gofynion ar gyfer system well bosib o gofrestru neu drwyddedu busnesau bwyd, a deall effeithiau hynny. Rydym yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn y cyfnod cynnar hwn, ac mae gwaith yn cael ei ystyried o fewn y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau. Y nod yw rhoi cyngor cychwynnol i weinidogion Cymru yn gynnar yn 2024.
5.3 Bydd y rhaglen o archwiliadau awdurdodau lleol, a fydd yn faes o ffocws allweddol dros y tair blynedd nesaf, yn ailddechrau ddiwedd mis Medi. Bydd y rhaglen archwilio ar gyfer 2023/24 yn canolbwyntio ar gynnal rheolaethau swyddogol ar hylendid a safonau bwyd a bydd yn asesu’r broses o gynllunio gwasanaethau a chynnal ymyriadau ers i’r Cynllun Adfer ddod i ben, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio perthnasol heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol.
5.4 Nid yw adolygiad Llywodraeth Cymru o’r ASB yng Nghymru wedi’i gomisiynu eto, ond yn y cyfamser, byddwn yn mireinio ein hachos busnes sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer trefniant ariannu mwy cynaliadwy o 2024-25, gan ei ddiweddaru i wneud yn siŵr ei fod yn parhau i fod yn gyson â blaenoriaethau ariannu’r ASB. Bydd hyn yn ein cefnogi i gyflawni blaenoriaethau corfforaethol yr ASB, cyflawni ein dyletswyddau statudol ar ran gweinidogion, a nodi cyfleoedd i’r ASB wneud mwy o gyfraniad yng Nghymru. Bydd yn cynnwys tynnu sylw at feysydd lle mae pwysau ar adnoddau yn creu risg o ran yr hyn y gallwn ei gyflawni, fel ein swyddogaeth ar ran gweinidogion Cymru ar asesu risg a chymeradwyo cynhyrchion rheoleiddiedig, lle mae baich y gwaith wedi bod yn drymach na’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol.
5.5 Bydd ymgysylltu yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Dros y 12 mis nesaf, bydd hyn yn cynnwys ymgyrch ar y cyd â Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag awdurdodau lleol, i ddathlu 10 mlynedd ers cyflwyno’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd gorfodol yng Nghymru. Bydd yr ymgyrch hon yn gyfle i ddathlu a thynnu sylw at lwyddiant y Cynllun yn cynyddu nifer y sefydliadau bwyd yng Nghymru sydd â’r sgôr uchaf, ac i bwysleisio ei rôl wrth wella hyder defnyddwyr. Bydd hefyd yn tynnu sylw at y cydweithio rhwng yr ASB, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, a rôl hollbwysig awdurdodau lleol wrth gyflawni’r fenter hon. Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n cynllunio’r ymgyrch hon, ac yn gobeithio ei nodi gyda derbyniad i randdeiliaid ym mis Tachwedd, a fydd yn cynnwys Aelodau o’r Senedd a rhanddeiliaid allweddol.
5.6 Yn dilyn yr adolygiad o Bwyllgorau Cynghori ar Fwyd yr ASB, a gyflwynwyd gan gadeiryddion y Pwyllgorau Cynghori yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin eleni, byddwn yn gweithio gydag aelod newydd y Bwrdd dros Gymru i roi’r argymhellion ar waith. Y nod yw cyfrannu at y gwaith o adnewyddu’r ffordd y mae’r Pwyllgorau Cynghori yn gweithredu, a sicrhau effeithlonrwydd. Bydd hyn yn cynnwys canolbwyntio trafodaethau adolygu papurau bwrdd mwy fyth ar feysydd blaenoriaeth uchaf, sicrhau bod safbwyntiau sy’n benodol i’r gwledydd unigol yn cael eu bwydo’n ôl yn fwy rhagweithiol i’r Bwrdd ar ôl cyfarfodydd â thema, codi proffil cyhoeddus a phresenoldeb y Pwyllgorau Cynghori, a manteisio i’r eithaf ar rwydweithiau aelodau’r Pwyllgorau, a’u heffaith.
6. Casgliadau
6.1 Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg lefel uchel o’r gwaith a wnaed gan yr ASB yng Nghymru yn dilyn y diweddariad diwethaf i’r Bwrdd ym mis Medi 2022, yn ogystal â rhagolwg ar flaenoriaethau ar gyfer y misoedd nesaf.
6.2 Er na all y papur fanylu ar yr holl waith sydd wedi’i wneud a’i gyflawni yn ystod y cyfnod hwn, mae’n rhoi cipolwg o’r gwaith a wneir gan y tîm i gadw defnyddwyr yn ddiogel.
At ei gilydd, gofynnir i’r Bwrdd:
- asesu effeithiolrwydd y gwaith a amlinellwyd i gyflawni blaenoriaethau’r ASB
- ystyried sut mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol yr ASB a’i dull o weithio ar draws y tair gwlad
- rhoi adborth ar y blaenoriaethau a nodwyd.
Hanes diwygio
Published: 6 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Medi 2023