Adroddiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
FSA 23-03-10 - Mae’r adroddiad hwn gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn ymdrin â gweithgareddau’r Pwyllgor ar gyfer y cyfnod rhwng mis Medi 2021 a mis Chwefror 2023.
1. Crynodeb
1.1 Mae’r adroddiad hwn gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn ymdrin â gweithgareddau’r Pwyllgor ar gyfer y cyfnod rhwng mis Medi 2021 a mis Chwefror 2023.
1.2 Gofynnir i’r Bwrdd nodi’r adroddiad a rhoi sylwadau ar y cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
2. Cyflwyniad
2.1 Diffinnir rôl WFAC yn Neddf Safonau Bwyd 1999. Mae’n gweithredu fel corff cynghori i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ‘er mwyn cynnig cyngor a gwybodaeth i’r Asiantaeth am faterion sy’n ymwneud â’i swyddogaethau, yn benodol, materion sy’n effeithio ar Gymru neu sy’n ymwneud â Chymru’. Mae rhai o’r swyddogaethau hynny’n deillio o ddeddfwriaeth a pholisi datganoledig sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, safonau, cyfansoddiad bwyd a labelu.
2.2 Mae WFAC yn cael ei gadeirio gan aelod Bwrdd yr ASB dros Gymru. Mae aelodau’r Pwyllgor yn cynnig amrywiaeth eang o arbenigedd, profiad a gwybodaeth ymarferol i’r ASB. Mae’r holl aelodau’n cael eu recriwtio drwy gystadleuaeth Penodiadau Cyhoeddus agored ac yn cael eu penodi gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant presennol yng Nghymru.
2.3 Mae’r Pwyllgor yn gweithio’n agos â’r ASB yng Nghymru a thu hwnt ac mae’n cefnogi ei chanlyniadau strategol.
2.4 Mae’r papur hwn yn amlygu’r themâu y mae WFAC wedi’u hystyried a’u trafod yn ystod y 18 mis diwethaf, yn ogystal ag edrych ymlaen at waith y Pwyllgor dros y 12 mis nesaf.
3. Aelodau’r Pwyllgor
3.1 Mae gan y Pwyllgor 8 aelod, gydag un ohonynt hefyd yn aelod o Fwrdd yr ASB dros Gymru ac yn Cadeirio WFAC.
3.2 Mae gan aelodau WFAC ystod eang o arbenigedd, gan gynnwys cefndir yn y meysydd canlynol: ffermio ac amaethyddiaeth; y byd academaidd; y diwydiant; cyfraith, ymchwil, polisi; ac iechyd yr amgylchedd. Mae’r profiad eang hwn, yn ogystal â rhwydweithiau a mewnwelediadau cysylltiedig yr aelodau, wedi bod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer trafodaethau WFAC.
3.3 Ym mis Ebrill 2021, penodwyd pum aelod newydd i’r Pwyllgor ac, ym mis Hydref 2021, ailbenodwyd Dr Philip Hollington i’r pwyllgor am ail dymor.
3.4 Ym mis Rhagfyr 2021, cafodd Jessica Evans-Williams ei phenodi i’r pwyllgor, a hynny yn dilyn swydd wag gan fod Rebecca Lyne-Pirkis heb geisio ailbenodiad am ail dymor.
3.5 Mae un aelod o’r Pwyllgor, Alan Gardner, yn dod i ddiwedd ail dymor ei benodiad ar 31 Awst 2023. Mae Ysgrifenyddiaeth WFAC wrthi ar hyn o bryd yn llunio’r ymarfer Penodiadau Cyhoeddus er mwyn recriwtio aelod newydd o’r Pwyllgor.
3.6 Mae newid arall ar y gorwel am na fyddaf innau chwaith yn ceisio ailbenodiad fel Aelod o Fwrdd yr ASB a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru pan ddaw fy nghyfnod i ben ar 31 Awst. Mae’n chwith gen i roi’r gorau i’r swydd gan fy mod wedi mwynhau gweithio fel aelod o dîm effeithiol y Bwrdd. Rwy’n gwneud am resymau ymarferol, gan fod cwmpas eang y cyfrifoldebau wedi gohirio amcanion teuluol allweddol. Bydd y broses o benodi fy olynydd yn dechrau yn ddiweddarach y mis hwn, a byddwn yn annog cydweithwyr i rannu’r hysbyseb o fewn eu rhwydweithiau os yw’n briodol.
4. Cyfarfodydd y Pwyllgor
4.1 Drwy gydol y pandemig COVID-19, cynhaliwyd cyfarfodydd WFAC yn rhithwir. Ym mis Hydref 2021, ailddechreuodd cyfarfodydd â thema wyneb yn wyneb.
4.2 Mae pob un o’r gwahanol themâu wedi rhoi’r cyfle i’r Pwyllgor ystyried materion o safbwynt Cymru’n benodol, gan gynnig dealltwriaeth ddyfnach i ni ohonynt.
4.3 Rydym wedi manteisio’n llawn ar y cyfleoedd i glywed gan dimau ar draws yr ASB am eu meysydd gwaith, a chasglu amrywiaeth eang o safbwyntiau eraill gan y bobl y mae’r meysydd gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol.
4.4 Ers mis Medi 2021, mae’r Pwyllgor wedi ystyried y themâu a ganlyn:
4.1 Drwy gydol y pandemig COVID-19, cynhaliwyd cyfarfodydd WFAC yn rhithwir. Ym mis Hydref 2021, ailddechreuodd cyfarfodydd â thema wyneb yn wyneb.
4.2 Mae pob un o’r gwahanol themâu wedi rhoi’r cyfle i’r Pwyllgor ystyried materion o safbwynt Cymru’n benodol, gan gynnig dealltwriaeth ddyfnach i ni ohonynt.
4.3 Rydym wedi manteisio’n llawn ar y cyfleoedd i glywed gan dimau ar draws yr ASB am eu meysydd gwaith, a chasglu amrywiaeth eang o safbwyntiau eraill gan y bobl y mae’r meysydd gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol.
4.4 Ers mis Medi 2021, mae’r Pwyllgor wedi ystyried y themâu a ganlyn:
• Gorsensitifrwydd i Fwyd – Ym mis Hydref 2021, cafwyd cyfres o gyflwyniadau ar Orsensitifrwydd i Fwyd, gan gynnwys clywed am brofiadau personol gan rywun sydd ag alergedd a rhiant sy’n gofalu am blentyn ag alergeddau. Roedd cyflwyniadau eraill yn cynnig trosolwg o Raglen Gorsensitifrwydd i Fwyd yr ASB a’r Gyfraith Labelu Alergenau newydd (Cyfraith Natasha), yn osgytal â diweddariad gan awdurdodau lleol ar weithredu’r Gyfraith a chymorth sydd ar gael i fusnesau.
• Strategaeth yr ASB – Mewn sesiwn gyda’r Uned Strategaeth, bu WFAC yn ystyried datblygiad strategaeth newydd yr ASB, yn benodol o safbwynt Cymru. Croesawodd y pwyllgor y dull tair gwlad a’r ystyriaeth a roddwyd i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), ar ôl cael sicrwydd bod yr ASB yn gweithredu’n unol â’r Ddeddf ym mhob agwedd ar ei gwaith.
• Diffyg Diogeledd Bwyd (Food Insecurity) – Ym mis Ebrill 2022, canolbwyntiodd y Pwyllgor ar effeithiau problemau costau byw ar ddewisiadau bwyd defnyddwyr. Cawsom gyflwyniadau gan Brifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, FareShare Cymru, Ymddiriedolaeth Trussell, awdurdodau lleol a Phrifysgol Lerpwl. Clywsom hefyd gan sylfaenydd Can Cook, sy’n ddull gwahanol o fynd i’r afael â thlodi bwyd drwy ddysgu pobl sut i goginio prydau cartref (from scratch) a darparu’r cynhwysion ar gyfer prydau iach rhad. Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar ddiffyg diogeledd bwyd, gwastraff bwyd, a mentrau sy’n mynd i’r afael â thlodi bwyd.
• Bridio Manwl – O ystyried natur cyflym y Bil Bridio Manwl (Technoleg Enetig) a bod polisi wedi’i ddatganoli, ym mis Gorffennaf 2022 canolbwyntiodd WFAC ar Fridio Manwl, gyda mewnbwn gan yr Athro Robin May, tîm polisi’r ASB, Llywodraeth Cymru, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth a thîm Gwyddorau Cymdeithasol yr ASB. Roedd yn arbennig o ddefnyddiol cael safbwynt Llywodraeth Cymru, sydd wedi rhoi mwy o ddyfnder i drafodaethau diweddarach a thrafodaethau’r dyfodol ar bapurau perthnasol y Bwrdd.
• Y Dirwedd Fwyd: edrych tua’r dyfodol – Ym mis Hydref 2022, cynhaliwyd cyfarfod WFAC yn Wrecsam. Dyma’r cyfarfod cyntaf y tu allan i Gaerdydd ers 2019. Manteisiodd y Pwyllgor ar y cyfle hwn i gwrdd â rhanddeiliaid yn Ngogledd Cymru i drafod y thema flaengar hon. Cawsom gyflwyniadau gan awdurdod lleol Wrecsam ar Bartneriaethau Awdurdodau Cynradd, Rowan Foods ar heriau sy’n wynebu busnesau bwyd, Undeb Amaethwyr Cymru ar heriau sy’n wynebu’r sector amaethyddol, Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor ar eu hymchwil i ddeunyddiau pecynnu bwyd amgen a Chanolfan Ymchwil Uwch Cymru (AMRC) ar ddefnyddio technegau peirianneg awyrofod i wella’r broses o weithgynhyrchu a phecynnu bwyd, gan gynnwys cynyddu faint o ddeunydd pecynnu bwyd sy’n cael ei ailgylchu yng Nghymru. Mae’n werth nodi bod nifer o randdeiliaid wedi ymuno i wylio’r cyfarfod.
• Gweithrediadau’r ASB – Roedd y cyfarfod â thema diweddaraf a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2023 yn canolbwyntio ar weithrediadau hylendid cig yr ASB. Ar ôl casglu syniadau ar gyfer pynciau’r cyfarfodydd â thema yn y dyfodol, archwiliodd y Pwyllgor y gweithrediadau hynny yn fanwl. Y bore wedyn, fe wnaethom ymweld â ffatri brosesu cig Kepak ym Merthyr Tudful, gan weld gwartheg a defaid yn cyrraedd, a’r broses o becynnu’r cig. Gydag 850 o weithwyr, mae Kepak-St Merryn yn chwarae rhan fawr yn yr economi leol. Yn ystod yr ymweliad, cafwyd darlun clir iawn o waith arolygwyr cig.
4.5 Mae WFAC hefyd wedi parhau i gyfarfod yn rhithwir mewn cyfarfodydd busnes i ystyried papurau cyn pob cyfarfod Bwrdd. Mae hyn wedi galluogi aelodau i ystyried papurau cyhoeddedig y Bwrdd a darparu persbectif datganoledig, gan alluogi’r Cadeirydd i roi adborth o safbwyntiau a sylwadau WFAC yn ystod cyfarfodydd y Bwrdd.
5. Edrych tua’r Dyfodol
5.1 Mae’r Pwyllgor wrthi’n datblygu rhaglen waith ar gyfer 2023. Mae wedi nodi y gallai Aberystwyth fod yn ddewis da ar gyfer cyfarfod â thema yn y dyfodol. Mae Canolfan Bwyd y Dyfodol a sefydliadau ymchwil eraill yno yn cynnig cyfle i edrych i’r dyfodol trwy gyflwyniadau ac ymweliadau. Mae ymchwil berthnasol yn cynnwys a) bridio manwl; b) cig wedi’i feithrin (cultured); c) uned eplesu bacteriol fawr sy’n rhoi gwerth ar ffrydiau gwastraff bwyd ac amaethyddol i fwyd, bwyd anifeiliaid a/neu gemegau gwerth uchel; d) ‘uned hybu’ ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach a chanolig yn y sector bwyd o’r enw AberInnovation; e) storfa hadau gydag un o’r casgliadau ex-situ mwyaf yn y byd o laswellt fforio, meillion a germplasm ceirch; a dd) gwenyn (clefydau a chynhyrchu mêl).
5.2 Mae meysydd eraill y mae WFAC yn bwriadu eu hystyried yn fanwl dros y flwyddyn i ddod yn ymwneud yn agosach â materion cyfredol, gan gynnwys arolygiadau awdurdodau lleol, Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a Model Gweithredu Targed y Ffiniau.
5.3 Bydd agendâu cyfarfodydd WFAC yn parhau i ystyried y materion sy’n cael eu trafod gan y Bwrdd, gan roi sylw arbennig i unrhyw feysydd perthnasol a all effeithio ar Gymru.
5.4 Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried unrhyw flaenoriaethau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru a, lle bo’n briodol, yn ystyried y themâu sy’n berthnasol i’r ASB yng Nghymru.
5.5 Fel rhan o raglen waith y dyfodol, mae’r Pwyllgor hefyd yn bwriadu cynyddu ymgysylltiad rhanddeiliaid a, lle bo’n bosibl, chwilio am gyfleoedd i gwrdd â rhanddeiliaid ar draws cylch gorchwyl yr ASB yng Nghymru.
5.6 Bydd hyn yn cynnwys cynnal cyfarfodydd ac ymweliadau ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o WFAC. Mae’r Pwyllgor yn bwriadu cynnal cyfarfod y tu allan i swyddfeydd yr ASB o leiaf unwaith y flwyddyn.
5.7 Mae WFAC hefyd yn edrych ymlaen at ymgysylltu â’r Bwrdd yn ystod y flwyddyn i ddod.
5.8 Mae’r Pwyllgor yn ymwybodol o Adolygiad Effeithiolrwydd y Bwrdd ac ymatebion y Gweithgor cysylltiedig i’r argymhellion. Bydd WFAC yn gweithio ochr yn ochr â’r Cadeirydd a’r Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am Gymru a Gogledd Iwerddon i ddeall sut y gellir gwella a defnyddio gwerth y Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd ymhellach.
6. Casgliadau
6.1 Mae WFAC wedi ystyried amrywiaeth eang o themâu dros y 18 mis diwethaf, gan werthfawrogi mewnbwn cydweithwyr yn yr ASB a chydweithwyr allanol.
6.2 Gofynnir i’r Bwrdd nodi gweithgareddau WFAC a rhoi sylwadau ar y cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Hanes diwygio
Published: 8 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Mawrth 2023