Adolygiad o’r Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd
FSA 23-06-09 – Adroddiad gan Anthony Harbinson, Aelod Bwrdd yr ASB dros Ogledd Iwerddon a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon
1. Crynodeb
1.1 Gofynnir i’r Bwrdd:
- nodi’r cynnydd a’r trafodaethau a gynhaliwyd hyd yma ar adolygu Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd (FACs) yr ASB
- cytuno ar y camau nesaf a’r cynllun gweithredu arfaethedig
2. Cyflwyniad
2.1 Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) a Phwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon (NIFAC) wedi’u sefydlu o dan Adran 5 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 “at ddiben rhoi cyngor neu wybodaeth i’r Asiantaeth am faterion sy’n gysylltiedig â’i swyddogaethau,” gan gynnwys materion sy’n effeithio ar Gymru neu Ogledd Iwerddon, neu sy’n berthnasol iddynt.
2.2 Ceir mwy o wybodaeth gefndirol am y FACs yn Atodiad A.
2.3 Mae Cadeiryddion y FACs yn cynnal adolygiad anffurfiol i sicrhau eu bod:
- yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol
- yn y sefyllfa orau i ddarparu cyngor gwlad-benodol nawr bod y DU wedi ymadael â’r UE
2.4 Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg o’r adolygiad anffurfiol hwn, y trafodaethau sydd wedi’u cynnal hyd yn hyn, yn ogystal â saith argymhelliad ar gyfer y FACs.
3. Adolygiad 2023
3.1 Fel yr amlinellwyd yn Adroddiad Llywodraethu Blynyddol 2021-2022, y cytunwyd arno gan y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2022, cytunodd Cadeirydd yr ASB i archwilio sut y gallem wella’r ffordd y mae’r FACs yn gweithredu ac yn rhyngweithio â’r Bwrdd.
3.2 Gosododd y Cadeirydd dasg i grŵp bach i ystyried yn anffurfiol ffyrdd o wneud y mwyaf o werth ac effaith y FACs.
3.3 Mae’r grŵp hwn yn cynnwys fi fy hun fel Cadeirydd NIFAC, Peter Price fel Cadeirydd WFAC, Nathan Barnhouse ac Andy Cole fel Cyfarwyddwyr yr ASB yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, ac Anjali Juneja fel Cyfarwyddwr Materion y DU a Materion Rhyngwladol.
3.4 Mae Peter Price yn ymddiswyddo eleni fel Aelod y Bwrdd dros Gymru a Chadeirydd WFAC. Bydd ei olynydd yn dechrau’r swydd ym mis Medi 2023, gan gymryd ei le ar y grŵp hwn. Bydd hyn yn sicrhau y gellir ystyried ei safbwyntiau ar gamau gweithredu ac argymhellion fel Cadeirydd newydd WFAC.
3.5 Mae ysgrifenyddiaethau ar gyfer y ddau FAC wedi bod yn rhan o’r gwaith i ddarparu gwybodaeth gefndirol am y ffordd y mae’r FACs wedi esblygu dros y blynyddoedd, ac yn arbennig ers adolygiad 2018 o’r FACs a’r cynllun gweithredu cysylltiedig.
4. Trafodaethau hyd yn hyn
4.1 Mae’r argymhellion o adolygiad 2018, y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd ym mis Mehefin 2018, wedi’u rhoi ar waith yn gyson yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ac wedi’u mabwysiadu’n unol â hynny gan y ddwy Ysgrifenyddiaeth. Mae trosolwg o argymhellion 2018 a’r camau gweithredu i’w weld yn Atodiad B.
4.2 Mae’r FACs wedi bod yn gweithredu yn unol âg argymhellion adolygiad 2018. Fodd bynnag, ers yr adolygiad hwnnw, mae ein hamgylchedd gweithredu wedi newid. Mae bwyd a bwyd anifeiliaid yn feysydd polisi datganoledig, felly mae cyfrifoldeb y Gweinidogion yn y gweinyddiaethau hynny wedi cynyddu’n sylweddol ers ymadael â’r UE. Mae gan yr ASB (ynghyd â Safonau Bwyd yr Alban) fwy o gyfrifoldebau hefyd i sicrhau bod nwyddau’n symud yn ddi-drafferth ar draws y DU a chynnal llyfrau statud y gellir eu gweithredu ar draws gwledydd y DU. Mae technolegau a modelau busnesau newydd, ynghyd â newid mewn arferion defnyddwyr, yn golygu bod angen i’r ASB feddwl yn wahanol am sut rydym yn cyflawni ein cenhadaeth. O ganlyniad, mae wedi dod yn fwyfwy pwysig sicrhau bod safbwyntiau Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael sylw digonol.
4.3 Yn sgil hyn, a Strategaeth yr ASB, rydym wedi ystyried sut y byddai adnewyddu ffordd y FACs o weithredu yn cefnogi’r ASB orau.
4.4 Mae’r FACs yn gyrff sy’n cynghori, yn hytrach na chyrff sy’n gwneud penderfyniadau. Maent yn rhoi cyngor neu wybodaeth i’r ASB am faterion sy’n gysylltiedig â’i swyddogaethau, gan gynnwys materion sy’n effeithio’n benodol ar Gymru a Gogledd Iwerddon neu sy’n berthnasol iddynt. Gan ystyried pwrpas y FACs, rydym wedi nodi rhai meysydd lle gellir gwneud gwelliannau yn y tymor byr a meysydd y mae’n rhaid eu hystyried yn y tymor hirach.
4.5 Gellir gweithredu’r argymhellion tymor byr ar unwaith a chanolbwyntio’n bennaf ar weithrediad y FACs. Maent yn ceisio sicrhau bod y FACs yn canolbwyntio ar eu cylch gwaith allweddol, yn ogystal â chynnwys argymhellion sy’n ychwanegu gwerth, fel ceisio gwella proffil y FACs yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.
4.6 Yn y tymor hirach, mae ystyriaethau o ran aelodaeth, gan gynnwys telerau ac amodau aelodau. Fel y nodir isod, bydd yn rhaid i unrhyw newidiadau ehangach gael eu gwneud ar y cyd â’r Gweinidogion perthnasol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.
4.7 Dyma’r argymhellion a’r syniadau a nodwyd gennym:
4.8 Sicrhau cyfarfodydd effeithiol:
- Argymhelliad 1: Adolygu papurau’r Bwrdd – Aelodau’r FAC i nodi’r cwestiynau a’r mewnwelediadau penodol y dymunant i Gadeirydd y FAC eu codi yng nghyfarfod y Bwrdd, a chytuno ar y rhain ym mhob sesiwn. Byddai hyn yn sicrhau bod pob FAC yn canolbwyntio ar ddarparu cyngor a gwneud ystyriaethau o safbwynt penodol ei wlad, yn enwedig mewn perthynas â datblygu polisïau’r ASB a phenderfyniadau’r Bwrdd.
- Argymhelliad 2: Llais rhagweithiol – Mwy o fewnbwn gweithredol gan y FACs i’r Bwrdd. Ar hyn o bryd, darperir diweddariadau llafar gan Gadeiryddion y ddau FAC yng nghyfarfodydd y Bwrdd. Fodd bynnag, dylai’r diweddariadau ganolbwyntio’n fwy ar gyngor gwlad-benodol ar agweddau penodol o gyfarfodydd â thema. Dylid hefyd ddarparu crynodeb ysgrifenedig wedi’i dargedu o gyfarfodydd â thema i’r Bwrdd ar ôl pob cyfarfod gan bwysleisio canfyddiadau a mewnwelediadau. Byddai hyn yn adlewyrchu fformat y dogfennau gan Ysgrifenyddiaeth NIFAC yn dilyn cyfarfodydd â thema yn ystod y misoedd diwethaf. Bydd y ddau FAC yn eu defnyddio’r fformat hyn ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.
- Argymhelliad 3: Pwnc/safbwynt gwlad – Dylai’r FACs gael y dasg o ystyried pynciau o safbwynt eu gwlad benodol gyda mewnbwn rhanddeiliaid allweddol gan rwydweithiau aelodau’r FACs, er enghraifft dargyfeirio neu labelu. Byddai hyn hefyd yn annog ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid wrth lunio’r mewnbwn gan y FACs a rhoi cyngor dilynol i’r Bwrdd.
- Argymhelliad 4: Presenoldeb sy’n wynebu’r cyhoedd a defnyddio rhwydweithiau – Gall presenoldeb a phroffil y FACs o ran y cyhoedd ac ymgysylltiad allanol amrywio weithiau. Dylai Ysgrifenyddiaethau a thimau Cyfathrebu weithio gyda’i gilydd i hyrwyddo cyfarfodydd agored, gan sicrhau cymaint o ymgysylltu â’r cyhoedd â phosib a hybu proffil y FACs yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Dylai aelodau’r FACs hefyd gynorthwyo gyda hwyluso ymweliadau trwy eu rhwydweithiau, gan ehangu cyrhaeddiad, dadansoddiad a mewnwelediad y FACs.
4.9 Defnydd effeithiol o amser aelodau’r FAC:
- Argymhelliad 5: Gwneud y mwyaf o arbenigedd y FAC –Gwneud y mwyaf o arbenigedd y FAC – Aelodau’r FAC i arwain sesiynau ar bynciau penodol a hwyluso trafodaeth. Byddai hyn yn sicrhau bod aelodau’r FAC yn darparu mewnwelediad o’u rhwydweithiau perthnasol, y gellir wedyn eu bwydo’n ôl i’r Bwrdd.
- Argymhelliad 6: Ymgysylltu â rhanddeiliaid – Ymgysylltu â rhanddeiliaid – Dylai fod disgwyl i aelodau’r FAC fynd i ddigwyddiadau nad ydynt yn ymwneud â’r ASB ond sy’n berthnasol i gylch gwaith yr ASB. Gallant wedyn roi adborth ac unrhyw bwyntiau dysgu i’w Pwyllgor. Gellir rhannu’r fath fewnwelediad a rhwydweithio hefyd gyda’r Bwrdd a’r Weithrediaeth.
4.10 Mae’r ystyriaethau tymor hirach yn fwy cymhleth i’w rhoi ar waith a bydd angen ystyried swyddogaethau’r FACs a’r gefnogaeth iddynt yn ofalus. Mae ganddynt fwy o botensial i effeithio ar delerau ac amodau aelodau ac aelodaeth Pwyllgorau. Bydd unrhyw newidiadau mewn perthynas â’r meysydd hyn yn gofyn am ymgysylltu â Gweinidogion yng Nghymru a Gogledd Iwerddon i fesur yn benodol eu gofynion o ran gweithredu’r FACs yn y dyfodol.
4.11 Argymhellodd adolygiad 2018 y dylid penodi aelodau FAC am 21 diwrnod y flwyddyn. Mae hyn ar waith ac mae’r holl aelodau FAC yn cael eu penodi ar y telerau ac amodau hyn ar hyn o bryd. Pan gynhaliwyd yr adolygiad, roedd aelodau’r Bwrdd yn cael eu penodi am 30 diwrnod y flwyddyn. Ers cynnal yr adolygiad, mae’r ymrwymiad amser ar gyfer aelodau’r Bwrdd wedi’i leihau i 20 diwrnod. Ar y sail hon, rydym am geisio deall barn Gweinidogion.
- Argymhelliad 7: Newidiadau tymor hirach – Trafod gofynion tymor hirach â Gweinidogion Cymru a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys ymrwymiadau amser (o gymharu ag aelodau Bwrdd yr ASB) ac, felly, delerau ac amodau.
4.12 Gan y byddai’r meysydd hyn yn gofyn am drafodaethau â Gweinidogion ac y gallent arwain at newidiadau i gyfansoddiad y FACs, rydym yn awgrymu bod y rhain yn cael eu hystyried yn fanylach unwaith y bydd yr opsiynau tymor byr wedi’u rhoi ar waith ac wedi cael cyfle i ymsefydlu.
5. Y camau nesaf
5.1 Gyda chytundeb y Bwrdd, ein camau nesaf fyddai ymgorffori’r argymhellion tymor byr a amlinellir uchod mewn cynllun gweithredu. Bydd y cynllun yn cael ei weithredu ar draws y ddau FAC a’i adolygu’n rheolaidd gan yr Ysgrifenyddiaethau.
5.2 Mae’r cynllun gweithredu arfaethedig hwn wedi’i gynnwys isod:
Argymhelliad | Cam gweithredu | Perchennog | Amserlen |
---|---|---|---|
1. Adolygiad o bapur y Bwrdd | Ychwanegu eitem sefydlog at yr agenda ar gyfer cyfarfodydd paratoi’r Bwrdd er mwyn i WFAC/NIFAC gydgrynhoi safbwyntiau a chwestiynau sy’n benodol i’r gwledydd i’w rhannu gyda’r Bwrdd gan Gadeirydd perthnasol y FAC | Ysgrifenyddiaethau a Chadeiryddion y FAC | Gweithredu o gyfarfodydd paratoi nesaf y Bwrdd ym mis Medi 2023 |
2. Llais rhagweithiol | efnyddio templed symlach sy’n rhoi trosolwg i’r Bwrdd o drafodaethau’r FAC â thema gan gynnwys cyngor gan y FAC a safbwyntiau ar y thema a’r ffactorau penodol i’r Bwrdd eu hystyried | Ysgrifenyddiaethau’r FAC | Gweithredu o’r cyfarfodydd nesaf â thema ym mis Hydref 2023 |
3. Pwnc/safbwynt gwlad | Cadeirydd y Bwrdd a Chadeiryddion FAC i osod themâu ar gyfer y trafodaethau FAC nesaf. Lle bo modd, dylai Cymru a Gogledd Iwerddon gydlynu er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn ymwybodol o safbwyntiau a chyngor y ddwy wlad ar bwnc penodol | Cadeiryddion y Bwrdd a’r FACs | Mae hyn eisoes yn cael ei ystyried ar gyfer gweddill y cyfarfodydd yn 2023 er mwyn sicrhau bod cyfarfodydd â thema yn adlewyrchu blaenoriaethau strategol yr ASB (er enghraifft y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau) a bydd hyn yn cael ei gynllunio ar gyfer 2023/2024 |
4. Wynebu’r cyhoedd a defnyddio rhwydweithiau | Ysgrifenyddiaethau’r FACs a thimau cyfathrebu yng Nghymru a Gogledd Iwerddon i gytuno ar dempled cyfathrebu er mwyn cyhoeddi cyfarfodydd agored y FACs â thema a sicrhau cymaint o ymgysylltu â phosib. Aelodau’r FAC i ddarparu awgrymiadau ar gyfer ymweliadau a chysylltu ag Ysgrifenyddiaethau’r FAC i gynllunio a hwyluso’r rhain | Ysgrifenyddiaethau’r FAC, Timau Cyfathrebu Cymru a Gogledd Iwerddon ac aelodau’r FAC | Ar unwaith |
5. Gwneud y mwyaf o arbenigedd y FAC | Cyflwyno eitem sefydlog ar yr agenda mewn sesiynau FAC er mwyn i aelodau’r FAC ganolbwyntio ar bynciau o ddiddordeb neu arbenigedd | Ysgrifenyddiaethau ac aelodau’r FAC | Gweithredu o’r sesiynau yn 2024 |
6. Ymgysylltu â rhanddeiliaid | Ychwanegu eitem sefydlog at yr agenda ar gyfer cyfarfodydd chwarterol y Bwrdd ac Ysgrifenyddiaethau’r FAC er mwyn nodi a thrafod cyfleoedd ymgysylltu. Cynnwys eitem ar yr agenda yng nghyfarfodydd y FAC er mwyn i aelodau roi adborth ar ymgysylltu â rhanddeiliaid |
Ysgrifenyddiaethau a Chadeiryddion y FAC | Ar unwaith |
7. Newidiadau tymor hirach | Unwaith y bydd y camau gweithredu tymor byr wedi’u rhoi ar waith a’u hymgorffori, cysylltu â Gweinidogion Cymru a Gogledd Iwerddon i drafod newidiadau hirdymor posib | Cadeirydd yr ASB a Chadeiryddion y FAC | Bydd yn rhaid ystyried amseriad yr argymhelliad hwn oherwydd absenoldeb y Gweinidog yng Ngogledd Iwerddon |
6. Casgliad
6.1 Wrth weithio’n effeithiol, mae’r FACs yn ased gwerthfawr i’r Bwrdd trwy ddarparu cyngor gwlad-benodol, yn seiliedig ar wybodaeth o rwydweithiau a dealltwriaeth o’r dirwedd ym mhob gwlad.
6.2 Rydym wedi ceisio nodi nifer o argymhellion y gallwn eu gweithredu sy’n ceisio hybu effeithiolrwydd y Pwyllgorau. Bydd y rhain yn sicrhau bod y FACs yn cyrraedd eu llawn botensial i gynghori ar faterion gwlad-benodol, yn ogystal â sicrhau bod y Bwrdd yn cael gwybod am ddatblygiadau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.
6.3 Gofynnir i’r Bwrdd:
- nodi’r cynnydd a’r trafodaethau a gynhaliwyd hyd yma wrth adolygu Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd (FACs) yr ASB
- cytuno ar y camau nesaf a’r cynllun gweithredu arfaethedig
Atodiad A – Gwybodaeth gefndirol ychwanegol
Gofynion deddfwriaethol
- mae’r FACs ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon yn un o ofynion y Ddeddf Safonau Bwyd (1999):
- mae adran 5(1) yn ei gwneud yn ofynnol sefydlu pwyllgorau cynghori ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon “…for the purpose of giving advice or information to the Agency about matters connected with its functions (including in particular, matters affecting or otherwise relating to Wales and Northern Ireland)”.
- Yr awdurdod priodol sy’n penodi’r Cadeirydd ac aelodau’r FAC. Nid yw nifer yr aelodau wedi’i nodi yn y Ddeddf:
- Atodlen 2
- (2) Such a committee shall consist of—
- (a) a chairman appointed by the appropriate authority from among the members of the Agency;
- (b) such other persons as may be appointed by the appropriate authority, after consulting the Agency.
- (3) No more than one member appointed under sub-paragraph (2)(b) may be a member of the Agency.
- diffinnir Cylch Gorchwyl y FACs, er y gellir eu hategu gan yr ASB gyda chymeradwyaeth yr awdurdod priodol.
Atodlen 2
(4) The basic terms of reference of a committee to which this paragraph applies are to carry out the purpose mentioned in section 5(1); but the Agency may, with the approval of the appropriate authority, supplement the terms of reference of any such committee.
Aelodaeth
- er nad yw penodiadau i WFAC na NIFAC yn dod o dan gylch gorchwyl y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn y naill wlad na’r llall, gwneir penodiadau FAC gan ddilyn ysbryd y Cod ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.
- mae penodiadau i WFAC yn cael eu gwneud gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant a gwneir penodiadau i NIFAC gan y Gweinidog Iechyd.
- penodir aelodau fel arfer am gyfnod o 3 blynedd, gyda’r gallu i adnewyddu am dymor pellach ar argymhelliad y Cadeirydd ac yn dilyn cymeradwyaeth y Gweinidog.
- mae gan y ddau FAC saith aelod ynghyd â’r Cadeirydd sy’n aelod Bwrdd ar gyfer y wlad berthnasol. Y cworwm ar gyfer cyfarfodydd FAC yw pedwar aelod ynghyd â’r Cadeirydd.
- penodir aelodau FAC am 21 diwrnod y flwyddyn gyda thâl o £3,885.
- Mae bywgraffiadau llawn aelodau FAC ar gael yma: WFAC, NIFAC.
Cyfarfodydd FAC
- yn dilyn adolygiad 2018, mae’r FACs bellach yn cynnal dau fath gwahanol o gyfarfod: cyfarfodydd â thema a chyfarfodydd paratoi’r Bwrdd.
- cynhelir cyfarfodydd â thema tua phedair gwaith y flwyddyn ac maent yn canolbwyntio ar thema benodol. Defnyddir y cyfarfodydd hyn er mwyn i FACs ystyried y thema sy’n benodol i’w gwlad. Cynhelir y cyfarfodydd hyn mewn sesiwn agored a gall rhanddeiliaid/aelodau o’r cyhoedd gofrestru i ddod i’r cyfarfodydd.
- Cynhelir cyfarfodydd paratoi’r Bwrdd tua wythnos cyn cyfarfodydd Bwrdd yr ASB. Defnyddir y cyfarfodydd hyn er mwyn i’r FACs ystyried papurau cyhoeddedig y Bwrdd o safbwynt sy’n benodol i’w gwlad. Mae awduron/cyflwynwyr y papurau yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn i helpu i gynghori aelodau ar unrhyw gwestiynau.
- Defnyddir cyfarfodydd paratoi’r Bwrdd er mwyn i’r FACs ffurfio safbwyntiau a chyngor o safbwynt sy’n benodol i’w gwlad. Yna, mae safbwyntiau’r FACs yn cael ei bwydo i’r Bwrdd yn ystod cyfarfod y Bwrdd drwy’r Cadeirydd perthnasol.
Atodiad B – Trosolwg cryno o argymhellion 2018
Mae’r holl argymhellion a chamau gweithredu o 2018 wedi’u cwblhau a’u hymgorffori yn arferion gwaith y FACs. Ceir manylion llawn yr argymhellion a’r camau gweithredu cysylltiedig ym Mhapur Bwrdd yr ASB 18-06-11. Mae’r tabl isod yn rhoi crynodeb o argymhellion 2018 fel y cytunwyd arnynt gan y Cadeirydd ar y pryd, a sut y cawsant eu gweithredu bryd hynny. Mae Ysgrifenyddiaethau’r FAC yn cydweithio’n agos i sicrhau bod arferion gwaith yn gyson ar draws y ddwy wlad.
Argymhelliad | Cam gweithredu |
---|---|
1: Dylai Cadeirydd Bwrdd yr ASB a Chadeiryddion y FACs nodi cwestiynau neu flaenoriaethau’r FACs i’w hystyried o fewn amserlen benodol |
Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd i arwain ar drefnu cyfarfodydd rhwng y Cadeirydd a Chadeiryddion y FAC |
2: Dylai’r FACs gynllunio eu gwaith yn seiliedig ar ragolwg o bapurau ac ymrwymiadau’r Bwrdd yn y dyfodol, er mwyn caniatáu digon o amser i roi cyngor |
Lle bo’n bosib, bydd y rhagolwg o gyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol yn cael ei hystyried wrth gynllunio cyfarfodydd â thema. Mae’r rhagolwg yn parhau i fod yn eitem sefydlog ar yr agenda yng nghyfarfodydd y Bwrdd ac Ysgrifenyddiaeth y FAC |
3: Er mwyn gallu rhyngweithio’n well â Bwrdd yr ASB a swyddogion gweithredol y gwledydd, dylid ail-ganolbwyntio ar waith y FACs a dylid ail-lunio fformat y cyfarfodydd | Mae cyfarfodydd wedi bod yn gweithredu yn y fformat newydd ers 2019, gyda phedwar cyfarfod â thema y flwyddyn yn ogystal â phedwar cyfarfod paratoi’r Bwrdd a gynhelir cyn pob cyfarfod Bwrdd. Mae Cadeiryddion yn cyfarfod â’u Pwyllgorau ar ddechrau bob blwyddyn i sganio’r gorwel a nodi themâu allweddol i’w harchwilio |
4: Nodi cyfleoedd ehangach i’r FAC ymgysylltu â Bwrdd yr ASB ar faterion datganoledig penodol | Cynhelir cyfarfodydd naill ai yng Nghymru neu yng Ngogledd Iwerddon bob blwyddyn. Lle bo modd, gwahoddir aelodau FAC i ymweliadau rhanddeiliaid gyda’r Bwrdd. Gwahoddir aelodau FAC hefyd i’r ciniawau i randdeiliaid |
5: Dylid cryfhau’r canllawiau presennol i swyddogion sy’n drafftio papurau’r Bwrdd i bwysleisio materion sy’n ymwneud â gwledydd penodol, gan amlygu meysydd lle mae polisi neu arferion yn wahanol ar draws y tair gwlad | Cyflawnodd Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd y cam hwn. Mae’r timau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn gweithio i sicrhau bod yr holl bapurau yn cael eu gweld gan gydweithwyr perthnasol yn y ddwy wlad. Mae hyn hefyd yn cael ei drafod yn rheolaidd yng nghyfarfodydd y FAC ac Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd |
6: Dylai data sy’n ymwneud â blaenoriaethau neu raglenni allweddol yr ASB fod ar gael fel mater o drefn neu dylai gael ei ddadansoddi i amlygu materion sy’n ymwneud â gwledydd penodol a bod ar gael i’r FACs a’r Bwrdd |
Rhennir diweddariadau perthnasol gyda’r Pwyllgorau. Er enghraifft: cyhoeddiadau newydd gan gynnwys copïau o ymgyngoriadau cyhoeddus |
7: Dylid parhau â gwaith y FAC o friffio’r Bwrdd ar safbwyntiau cenedlaethol yng nghyfarfodydd Caerdydd a Belfast | Ystyrir papur naill ai o Gymru neu Ogledd Iwerddon ym mhob cyfarfod Bwrdd – naill ai Adroddiad Cyfarwyddwr Cymru neu Ogledd Iwerddon neu Adroddiad gan Gadeirydd WFAC neu NIFAC |
8: Dylid parhau i gynhyrchu Adroddiad Blynyddol y FAC ar gyfer y Bwrdd, ond yn y dyfodol dylid ei lunio o amgylch y themâu a amlinellir yn Argymhelliad 3 |
Fel uchod |
9: Dylai Cadeiryddion y FAC, swyddogion gweithredol y gwledydd a Chadeirydd y Bwrdd adolygu galluoedd ac arbenigedd presennol aelodau’r FAC ac anghenion y dyfodol, a hynny er mwyn sicrhau’r cymysgedd gorau posib o sgiliau ar gyfer y Pwyllgorau priodol | Mae hyn yn cael ei ystyried a’i gwblhau cyn pob ymgyrch recriwtio i sicrhau bod y FACs yn cynrychioli amrywiaeth o arbenigedd. Yn dilyn penodiadau, ystyrir arbenigedd yr Aelodau i nodi’r rhwydweithiau sydd ar gael iddynt a allai fod o fudd i’r Pwyllgor |
10: Swyddogion yr ASB i ddarparu cymorth a, lle y bo’n briodol, fynediad at arbenigedd arbenigol i alluogi’r FACs i gyflawni eu rolau |
Mae arbenigwyr o bob rhan o’r ASB yn bresennol yng nghyfarfodydd paratoi’r Bwrdd a chyfarfodydd â thema. Gwahoddir arbenigwyr/rhanddeiliaid allanol hefyd i gyflwyno mewn cyfarfodydd â thema |
11: Dylai aelodau FAC gyfrannu gwybodaeth o’u rhwydweithiau i’r Bwrdd | Mae aelodau’n cyfrannu arbenigedd a gwybodaeth yn ystod cyfarfodydd â thema a chyfarfodydd paratoi’r Bwrdd. Yna, mae Cadeiryddion y FACs yn adlewyrchu hyn yn ystod cyfarfodydd y Bwrdd |
12: Cadeiryddion y FAC i ddatblygu cynllun blynyddol gyda’r swyddogion gweithredol cenedlaethol i wella ymgysylltiad â rhwydweithiau FAC ac ategu ymgysylltiad yr ASB â rhanddeiliaid yr ASB i gynyddu gwybodaeth am faterion perthnasol a gwella amlygrwydd | Mae Cadeiryddion yn cyfarfod â’u Pwyllgorau ar ddechrau pob blwyddyn i sganio’r gorwel a nodi themâu allweddol i’w harchwilio. Mae’r Uwch-dîm Rheoli perthnasol yn rhan o’r trafodaethau hyn. Mae’r ddau Bwyllgor hefyd yn cynnal cyfarfodydd y tu allan i swyddfeydd yr ASB i ymgysylltu â rhanddeiliaid a gwella amlygrwydd yr ASB/FACs. |
13: Dylai aelodau newydd o’r FACs gael contract i weithio 21 diwrnod y flwyddyn |
Wedi'i gwblhau |
Hanes diwygio
Published: 8 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Medi 2023