Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer mynediad defnyddwyr gwadd yr Asiantaeth

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) o ran mynediad gwadd, pam fod angen y data arnom ni, beth rydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau chi.

Yr ASB fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth arnom ni?

Mae angen i ni gasglu eich gwybodaeth er mwyn rhoi mynediad defnyddiwr gwadd i chi at safle/safleoedd penodol yng nghwmwl Azure yr ASB.

Gwnawn hyn yn unol â pherfformio ein dyletswyddau cyhoeddus. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw am 2 flynedd wedi iddi ddod i law, yn unol â'n polisi cadw penodol ar gyfer safleoedd Office 365 Microsoft SharePoint a 'Teams'. 

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Yn ogystal, rydym ni'n defnyddio neu'n gweithio â chontractwyr a darparwyr gwasanaethau trydydd parti eraill, fel darparwyr gwasanaethau TG, a fydd yn prosesu eich data personol ar ein rhan. Y trydydd partïon hyn yw ein proseswyr data a dim ar ôl cael cyfarwyddyd gennym ni y gallant brosesu eich data personol neu gyda'n cytundeb ni at ddiben penodol i'n galluogi ni i gynnal, gwella a darparu ein gwasanaethau er mwyn cyflawni ein dyletswyddau cyhoeddus.

Beth yw eich hawliau chi?


Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater drwy anfon e-bost at y cyfeiriad isod. 

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).