Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Yr Athro Susan Jebb OBE, PhD, FRCP (Hon), FMedSci – Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Yma ceir amlinelliad o hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd a manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 January 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 January 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Professor Susan Jebb

Mae’r Athro Susan Jebb yn un o brif wyddonwyr y wlad, yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Meddygol ac yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Meddygon. Mae ei hymchwil ddiweddar wedi canolbwyntio ar drin gordewdra ac ymyriadau i annog deiet iach a chynaliadwy. 

Mae gan Susan ddiddordeb hirsefydlog mewn trosi tystiolaeth wyddonol yn bolisi, a hi oedd y Cynghorydd Gwyddoniaeth i adroddiad Foresight Swyddfa Gwyddoniaeth y Llywodraeth ar ordewdra yn 2007. Mae hi’n gynghorydd i’r Strategaeth Fwyd Genedlaethol. Yn y gorffennol mae wedi cadeirio grŵp cynghori arbenigol traws-lywodraethol ar ordewdra (2007–2011), rhwydwaith bwyd bargen cyfrifoldeb yr Adran Iechyd (2011–2015) a phwyllgorau cynghori iechyd y cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (2013-2018). Dyfarnwyd OBE iddi yn 2008 am ei gwasanaethau i iechyd y cyhoedd.

Mae Susan wedi’i chyflogi’n rhan-amser gan Brifysgol Rhydychen ochr yn ochr â’r rôl fel Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Buddiannau Personol

  • Dim

Swyddi ymgynghorol a/neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Cyflog: Prifysgol Rhydychen
  • Partner yn J&L Farms

Rolau heb dâl

  • Aelod o'r Grŵp Cynghori ar Sgyrsiau Bwyd y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad
  • Cadeirydd Fforwm y Cyrff Rheoleiddio Diogelwch ar gyfer 2025

Gwaith am ffi

  • Dim

Cyfranddaliadau 

  • Dim

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Aelod, Cymdeithas Astudiaethau Gordewdra

Buddiannau personol eraill

  • Dim

Buddiannau nad ydynt yn bersonol

  • Priod: Uwch Bartner J&L Farms

Cymrodoriaethau

  • Cymrawd, Academi'r Gwyddorau Meddygol
  • Cymrawd er Anrhydedd, Coleg Brenhinol y Meddygon

Cefnogaeth anuniongyrchol

  • Dim

Ymddiriedolaethau

  • Dim

Tir ac eiddo

  • Dim

Penodiadau cyhoeddus eraill

  • Aelod, Grŵp Cyfeirio Arbenigol Rhaglen Atal Diabetes Genedlaethol GIG Lloegr 
  • Aelod, Grŵp Cyfeirio Rhaglen Llwybr i Leddfu Diabetes Math 2 GIG Lloegr 
  • Aelod, Grŵp Cyfeirio Arbenigol Gordewdra GIG Lloegr 

Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

  • Dim

Areithiau diweddar gan y Cadeirydd

Sylwer bod yr areithiau hyn yn yr iaith wreiddiol, sef Saesneg.