Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Timothy Riley – Dirprwy Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Yn amlinellu hanes proffesiynol aelodau ein bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw ddiddordebau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 April 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 April 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Timothy Riley

Mae Timothy Riley yn ffermwr da byw yng Ngorllewin Swydd Efrog, ac mae’n frwd dros gynhyrchu cig eidion a chig oen amgylcheddol gynaliadwy ar dir porfa. Mae’n cadw buches Pedigree Beef Shorthorn ac ef yw Llywydd Cymdeithas Gwartheg Eidion Shorthorn y DU.

Mae’n Gyfarwyddwr Bwrdd profiadol yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Ef yw Cyfarwyddwr Anweithredol Better2Know Limited; Cadeirydd Gweithredol Wellstate HTA Limited (Ymgynghoriaeth Technoleg ac Economeg Iechyd); Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd ARAC i’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol ac mae’n aelod o Bwyllgor Geneteg Da Byw a Cheffylau’r DU.

Bu Timothy yn gwasanaethu fel Uwch Was Sifil yn y DHSC ac arweiniodd fentrau proffil uchel gan gynnwys sefydlu’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE), Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU ynghyd â nifer o fentrau polisi a gwasanaethau iechyd eraill mewn perthynas â safonau clinigol ac effeithiolrwydd cost. Dros y 12 mlynedd nesaf, roedd yn Brif Weithredwr i dair Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol y GIG ac yn Aelod o Fwrdd Seinio Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd y DU. Arweiniodd Gymdeithas Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol Manceinion a gwasanaethodd ar Fforwm Dyfodol y Prif Weinidog, ac roedd yn gyd-awdur adroddiad y Fforwm, “The NHS Role in Public Health”.

Mae gan Timothy PhD mewn Imiwnoleg Foleciwlaidd o Goleg y Brenin, Prifysgol Caergrawnt, a dechreuodd ei fywyd proffesiynol fel Gwyddonydd Academaidd gyda Chymrodoriaethau Ymchwil yng Nghaergrawnt ac yn Llundain.

Buddiannau personol

Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol:

  • Ffermwr Da Byw Cig Eidion ac Oen ar fferm deuluol
  • Cyfarwyddwr Cwmni

Gwaith di-dâl:

  • Cadeirydd, Wellstate HTA Limited (Rhandal Cyfranddaliwr yn Unig)
  • Llywydd a Chyfarwyddwr Anweithredol Cymdeithas Gwartheg Cig Eidion Shorthorn y DU
  • Adolygydd Arweiniol Defra, Rhaglen Adolygu Cyrff Cyhoeddus, Swyddfa’r Cabinet

Gwaith â Thâl:

  • Cyfarwyddwr Anweithredol Better2Know Limited
  • Aelod, Pwyllgor Geneteg Da Byw a Cheffylau y DU (Defra)

Cyfranddaliadau:

  • Wellstate HTA Limited

Clybiau a sefydliadau eraill:

  • Aelod, Cymdeithas Gwartheg Shorthorn Cig Eidion
  • Aelod, Cymdeithas Ddefaid Llŷn
  • Aelod, Cymdeithas Amaethyddol Swydd Efrog
  • Aelod, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC)
  • Aelod, Clwb y Gwasanaeth Sifil
  • Aelod Amhreswyl o Goleg y Brenin, Caergrawnt

Buddiannau personol eraill:

  • Ffermwr/Perchennog Tir yn derbyn Cynllun Taliad Sylfaenol y PAC a Pheilot y Fenter Ffermio Cynaliadwy

Cymrodoriaethau:

  • Cymrawd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr

Cymorth anuniongyrchol:

  • Dim

Ymddiriedolaethau:

  • Cymdeithas Gwartheg Eidion Shorthorn y DU 

Tir ac eiddo:

  • Fferm sy’n eiddo i’r teulu

Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

  • Dim