Timothy Riley – Dirprwy Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Yn amlinellu hanes proffesiynol aelodau ein bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw ddiddordebau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Mae Timothy Riley yn ffermwr da byw yng Ngorllewin Swydd Efrog, ac mae’n frwd dros gynhyrchu cig eidion a chig oen amgylcheddol gynaliadwy ar dir porfa. Mae’n cadw buches Pedigree Beef Shorthorn ac ef yw Llywydd Cymdeithas Gwartheg Eidion Shorthorn y DU.
Mae’n Gyfarwyddwr Bwrdd profiadol yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Ef yw Cyfarwyddwr Anweithredol Better2Know Limited; Cadeirydd Gweithredol Wellstate HTA Limited (Ymgynghoriaeth Technoleg ac Economeg Iechyd); Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd ARAC i’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol ac mae’n aelod o Bwyllgor Geneteg Da Byw a Cheffylau’r DU.
Bu Timothy yn gwasanaethu fel Uwch Was Sifil yn y DHSC ac arweiniodd fentrau proffil uchel gan gynnwys sefydlu’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE), Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU ynghyd â nifer o fentrau polisi a gwasanaethau iechyd eraill mewn perthynas â safonau clinigol ac effeithiolrwydd cost. Dros y 12 mlynedd nesaf, roedd yn Brif Weithredwr i dair Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol y GIG ac yn Aelod o Fwrdd Seinio Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd y DU. Arweiniodd Gymdeithas Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol Manceinion a gwasanaethodd ar Fforwm Dyfodol y Prif Weinidog, ac roedd yn gyd-awdur adroddiad y Fforwm, “The NHS Role in Public Health”.
Mae gan Timothy PhD mewn Imiwnoleg Foleciwlaidd o Goleg y Brenin, Prifysgol Caergrawnt, a dechreuodd ei fywyd proffesiynol fel Gwyddonydd Academaidd gyda Chymrodoriaethau Ymchwil yng Nghaergrawnt ac yn Llundain.
Buddiannau personol
Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol:
- Ffermwr Da Byw Cig Eidion ac Oen ar fferm deuluol
- Cyfarwyddwr Cwmni
Gwaith di-dâl:
- Cadeirydd, Wellstate HTA Limited (Rhandal Cyfranddaliwr yn Unig)
- Llywydd a Chyfarwyddwr Anweithredol Cymdeithas Gwartheg Cig Eidion Shorthorn y DU
- Adolygydd Arweiniol Defra, Rhaglen Adolygu Cyrff Cyhoeddus, Swyddfa’r Cabinet
Gwaith â Thâl:
- Cyfarwyddwr Anweithredol Better2Know Limited
- Aelod, Pwyllgor Geneteg Da Byw a Cheffylau y DU (Defra)
Cyfranddaliadau:
- Wellstate HTA Limited
Clybiau a sefydliadau eraill:
- Aelod, Cymdeithas Gwartheg Shorthorn Cig Eidion
- Aelod, Cymdeithas Ddefaid Llŷn
- Aelod, Cymdeithas Amaethyddol Swydd Efrog
- Aelod, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC)
- Aelod, Clwb y Gwasanaeth Sifil
- Aelod Amhreswyl o Goleg y Brenin, Caergrawnt
Buddiannau personol eraill:
- Ffermwr/Perchennog Tir yn derbyn Cynllun Taliad Sylfaenol y PAC a Pheilot y Fenter Ffermio Cynaliadwy
Cymrodoriaethau:
- Cymrawd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr
Cymorth anuniongyrchol:
- Dim
Ymddiriedolaethau:
- Cymdeithas Gwartheg Eidion Shorthorn y DU
Tir ac eiddo:
- Fferm sy’n eiddo i’r teulu
Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol
- Dim
Hanes diwygio
Cyhoeddwyd: 19 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Mehefin 2024