Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol
Mae gwaith y pwyllgorau a’r gweithgorau annibynnol sy’n ein cynghori ni yn helpu i sicrhau bod ein cyngor i ddefnyddwyr bob amser yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol orau a mwyaf diweddar.
Hwb y Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol
Mae Hwb Pwyllgorau Cynghori Gwyddoniaeth yn darparu mynediad i’n holl bwyllgorau yn ogystal â man storio ar gyfer dogfennau traws-bwyllgor.
Ein Pwyllgorau
Cyngor Gwyddoniaeth
Mae Cyngor Gwyddoniaeth yr ASB yn bwyllgor arbenigol annibynnol o’r ASB, sy’n cynnwys Cadeirydd a saith aelod. Mae’n darparu mewnwelediad, her a chyngor strategol lefel uchel, arbenigol i’n Prif Gynghorydd Gwyddonol, y Bwrdd a gweithrediaeth yr ASB ar ein defnydd o wyddoniaeth i gyflawni amcanion yr ASB.
Pwyllgor Cynghori ar Fwyd a Phrosesau Newydd
Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) yn gorff anstatudol o arbenigwyr gwyddonol annibynnol sy’n cynghori’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â bwydydd newydd (gan gynnwys bwydydd wedi’u haddasu’n enetig) a phrosesau newydd (gan gynnwys arbelydru bwyd).
Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd
Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd yn rhoi cyngor arbenigol i’r llywodraeth ar gwestiynau sy’n ymwneud â materion microbiolegol a bwyd.
Pwyllgor ar Wenwyndra
Mae’r Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd (COT) yn bwyllgor gwyddonol annibynnol sy’n rhoi cyngor i’r ASB, yr Adran Iechyd ac Adrannau ac Asiantaethau eraill y Llywodraeth ar faterion sy’n ymwneud â gwenwyndra cemegau.
Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Anifeiliaid
Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid (ACAF) yn cynghori ar ddiogelwch a defnyddio bwydydd anifeiliaid ac arferion bwydo, gyda phwyslais arbennig ar ddiogelu iechyd pobl, a thrwy gyfeirio at ddatblygiadau technegol newydd.
Pwyllgor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymdeithasol
Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymdeithasol yn darparu cyngor strategol arbenigol i’r ASB ar ei defnydd o’r gwyddorau cymdeithasol gan gynnwys dulliau, prosesau a systemau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg i holi data, i gyflawni amcanion yr ASB. Ei bwrpas yw helpu’r ASB i ddefnyddio’r gwyddorau a’r dulliau hyn o lunio a chyflawni ei hamcanion strategol a deall ei heffaith.
Pwyllgorau nad ydynt yn rhan o’r ASB
Pwyllgor ar Garsinogenedd (Carcinogenicity)
Mae’r Pwyllgor ar Garsinogenedd Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd yn asesu ac yn rhoi cyngor ar risg carsinogenig i bobl.
Pwyllgor ar Fwtagenedd
Mae’r Pwyllgor ar Fwtagenedd Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd (COM) yn asesu ac yn cynghori ar risgiau mwtagenig i bobl. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor ar Fwtagenedd ar GOV.UK.
Pwyllgor Cynhyrchion Milfeddygol
Sefydlwyd y Pwyllgor Cynhyrchion Milfeddygol (VPC) i gynghori ar ddiogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd meddyginiaethau milfeddygol, ac i ystyried adroddiadau am adweithiau niweidiol i feddyginiaethau milfeddygol o dan amheuaeth.
Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus
Mae Is-grŵp Asesu Peryglon TSE y Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus (ACDP) wedi’i sefydlu i ddarparu cyngor arbenigol annibynnol yn y maes hwn i’r ASB ac adrannau eraill, yn dilyn diddymu’r Pwyllgor Cynghori Enseffalopathi Sbyngffurf (SEAC) yn 2011.
Pwyllgor Arbenigol y DU ar Blaladdwyr
Mae Pwyllgor Arbenigol y DU ar Blaladdwyr (ECP) yn rhoi cyngor annibynnol, diduedd i’r llywodraeth ar bob mater gwyddonol sy’n ymwneud â phlaladdwyr. Mae’r aelodau’n darparu cyngor gwyddonol ar awdurdodi plaladdwyr a materion eraill sy’n ymwneud â phlaladdwyr.
Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth
Mae’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN) yn bwyllgor ymgynghorol ledled y DU yn lle’r Pwyllgor ar Agweddau Meddygol Polisi Bwyd a Maeth (COMA)
Pwyllgor Arbenigol Defra ar Weddillion Plaladdwyr mewn Bwyd
Disodlwyd y Pwyllgor Gweddillion Plaladdwyr (PRiF) gan Bwyllgor Arbenigol Defra ar Weddillion Plaladdwyr mewn Bwyd. Mae’n darparu cyngor gwyddonol annibynnol ar weddillion plaladdwyr ym mwyd y Deyrnas Unedig (DU).
Mae’r Pwyllgor yn cynghori Gweinidogion a’n Prif Weithredwyr a’r Gyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegion (CRD) ar gynllunio rhaglenni gwyliadwriaeth ar gyfer gweddillion plaladdwyr yng nghyflenwad bwyd y DU a gwerthuso’r canlyniadau, a gweithdrefnau ar gyfer samplu, prosesu samplau a dulliau dadansoddi newydd.
Pwyllgorau sydd wedi dod i ben
Yn dilyn adolygiad o bwyllgorau cynghori gwyddonol, disodlwyd Pwyllgor Cynghori Cyffredinol ar Wyddoniaeth (GACS) gan Gyngor Gwyddoniaeth newydd ar 1 Ebrill 2017 a’r Pwyllgor Ymchwil Gwyddoniaeth Gymdeithasol (SSRC) gan Bwyllgor Cynghori ar gyfer Wyddoniaeth Cymdeithasol (ACSS) ym mis Ebrill 2018. Mae gweithgor y Pwyllgor Cynghori Traws Wyddonol ar y fframwaith ar gyfer bwydydd sy’n peri risg, a sefydlwyd yn 2016, wedi cau.
Hanes diwygio
Published: 8 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Mehefin 2023