Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Peter Price - Aelod y Bwrdd dros Gymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Penodol i Gymru

Yn amlinellu hanes proffesiynol ein Haelodau Bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 April 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 April 2023
Peter Price

Ar ôl 12 mlynedd yn gweithio yn y meysydd ymarfer cyfreithiol a darlledu, gwasanaethodd Peter yn Senedd Ewrop am 15 mlynedd, gan gynnwys fel Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Cyllidebol y Senedd a graffodd ar gyllideb gyfan yr Undeb Ewropeaidd a dal y Comisiwn i gyfrif. Daeth yn gyfarwydd â phob agwedd ar y PAC.

Yna aeth ymlaen i gyflawni nifer o rolau anweithredol, ymgynghori a barnwrol. Fel Cwnsler Strategaeth Ewropeaidd, cyfarwyddodd brosiectau ar gyfer y Comisiwn Cefn Gwlad a'r Comisiwn Cymunedau Gwledig, gan gwmpasu pynciau fel plismona gwledig a strategaeth ar gyfer creadigrwydd ac arloesedd gwledig. Mae ei brif gleientiaid, trwy gyswllt ag ymgynghoriaeth o'r Swistir, wedi bod yn gwmnïau byd-eang ym maes gwasanaethau ariannol, gweithgynhyrchu ac adeiladu.

Dechreuodd Peter weithio yn y maes datganoli yng Nghymru trwy ddrafftio Rheolau'r Cynulliad fel Comisiynydd Rheolau Sefydlog; yna fel Aelod o Gomisiwn Richard yn argymell pwerau deddfwriaethol sylfaenol a system etholiadol newydd; ac yn ddiweddarach daeth yn Gadeirydd Cymru Yfory, yn hyrwyddo datblygiad democrataidd yng Nghymru.

Yn ei yrfa gyfreithiol gynnar, cynhaliodd Peter erlyniadau hylendid bwyd ac achosion eraill o ddiogelu defnyddwyr. Ar ôl bod yn Aelod Seneddol Ewrop, dychwelodd at y gyfraith fel Barnwr Cyflogaeth rhan-amser am 12 mlynedd, gan eistedd mewn lleoliadau ledled Cymru.

Fel aelod anweithredol, mae gan Peter brofiad o gadeirio Byrddau a'u Pwyllgorau.  Bu'r rolau hyn mewn archwilio cyhoeddus, dwy ymddiriedolaeth y GIG, Prifysgol a chwmni yn ardystio safonau ansawdd. Yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, daeth yn Is-Gadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Adnoddau Dynol. Yn Swyddfa Archwilio Cymru, roedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Taliadau ac Adnoddau Dynol. Ef oedd Cadeirydd Bwrdd Llywodraethu Swyddfa Archwilio Jersey o 2016 tan fis Mawrth 2021.

Buddiannau Personol

  • Dim

Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Fel Cwnsler Strategaeth Ewropeaidd (hunangyflogedig), rwy'n cynghori ar faterion strategol sy'n gysylltiedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Rolau di-dâl

  • Dim

Gwaith am ffi

  • Dim

Cyfranddaliadau

  • Dim

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Aelod o Chatham House
  • Sefydliad Gwasanaethau Unedig Brenhinol (Royal United Services Institute neu RUSI)
  • Sefydliad Materion Cymreig
  • Cymrodorian
  • Cymru’r Gyfraith

Buddiannau personol eraill

  • Dim

Buddiannau nad ydynt yn rhai personol

  • Dim

Cymrodoriaethau

  • Dim

Cymorth anuniongyrchol

  • Dim

Ymddiriedolaethau

  • Dim

Tir ac eiddo

  • Dim

Penodiadau cyhoeddus eraill

  • Dim

Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

  • Dim