Katie Pettifer, Prif Weithredwr Dros Dro
Gwybodaeth am Brif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Ymunodd Katie â’r ASB ym mis Gorffennaf 2021 a daeth yn Brif Weithredwr dros dro ym mis Awst 2024. Fel Prif Weithredwr, hi sy’n gyfrifol am reolaeth ac arweinyddiaeth gyffredinol yr ASB, ac am gyflawni’r strategaeth a osodir gan Fwrdd yr ASB. Cenhadaeth yr ASB yw “bwyd y gallwch ymddiried ynddo”. O gofio hynny, mae’r ASB yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, ac mae’n helpu i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy. Mae Katie yn adrodd i Fwrdd yr ASB, a hi yw Swyddog Cyfrifyddu’r ASB, sy’n golygu ei bod yn atebol i Senedd y DU am wariant a pherfformiad yr ASB.
Yn ei rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Chydymffurfiaeth Rheoleiddiol, roedd Katie yn aelod o dîm rheoli gweithredol yr ASB ac roedd hi’n gyfrifol am dimau strategaeth, cyfreithiol, cyfathrebu, llywodraethu a chyflawni prosiectau cyffredinol yr ASB. Bu hefyd yn arwain gwaith cydymffurfiaeth rheoleiddiol yr ASB, gan weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod busnesau bwyd yn cydymffurfio â’r gyfraith mewn perthynas â diogelwch a safonau bwyd. Bu hefyd yn gyfrifol am ddatblygu dulliau newydd ar gyfer y dyfodol drwy Raglen ‘Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau’ yr ASB.
Cyn iddi ymuno â’r ASB, Katie oedd y Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus yn Ofcom, lle bu ganddi ran fawr wrth lunio gwaith Ofcom ar faterion fel gwella cwmpas ffonau symudol a band eang ar draws y DU, a gweithio gyda’r llywodraeth ar reoliadau newydd i ddiogelu pobl rhag cynnwys niweidiol ar-lein. Gwnaeth hi hefyd noddi strategaeth cynhwysiant ac amrywiaeth Ofcom. Cyn hynny, treuliodd ddau ddegawd yn adrannau Whitehall, gan ddarparu cyngor polisi i weinidogion ar ystod eang o faterion polisi cymdeithasol. Mae hi wedi gweithio fel rhan o’r Uwch-wasanaeth Sifil yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Swyddfa’r Cabinet a Swyddfa Gogledd Iwerddon.
Areithiau diweddar
Araith y Prif Weithredwr i Gynhadledd Bwyd Diogel Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) – Dydd Gwener, 22 Tachwedd 2024
Hanes diwygio
Published: 19 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Tachwedd 2024