Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Katie Pettifer, Prif Weithredwr

Gwybodaeth am Brif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 January 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 January 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Katie Pettifer, Chief Executive of the Food Standards Agency

Ymunodd Katie â’r ASB ym mis Gorffennaf 2021 a daeth yn Brif Weithredwr dros dro ym mis Awst 2024. Cafodd ei phenodi’n Brif Weithredwr parhaol ym mis Ionawr 2025.

Fel Prif Weithredwr, hi sy’n gyfrifol am reolaeth ac arweinyddiaeth gyffredinol yr ASB, ac am gyflawni’r strategaeth a osodir gan Fwrdd yr ASB. Cenhadaeth yr ASB yw “bwyd y gallwch ymddiried ynddo”. O gofio hynny, mae’r ASB yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, ac mae’n helpu i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy. Mae Katie yn adrodd i Fwrdd yr ASB, a hi yw Swyddog Cyfrifyddu’r ASB, sy’n golygu ei bod yn atebol i Senedd y DU am wariant a pherfformiad yr ASB.

Yn ei rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Chydymffurfiaeth Rheoleiddiol, roedd Katie yn aelod o dîm rheoli gweithredol yr ASB ac roedd hi’n gyfrifol am dimau strategaeth, cyfreithiol, cyfathrebu, llywodraethu a chyflawni prosiectau cyffredinol yr ASB. Bu hefyd yn arwain gwaith cydymffurfiaeth rheoleiddiol yr ASB, gan weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod busnesau bwyd yn cydymffurfio â’r gyfraith mewn perthynas â diogelwch a safonau bwyd. Bu hefyd yn gyfrifol am ddatblygu dulliau newydd ar gyfer y dyfodol drwy Raglen ‘Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau’ yr ASB.

Cyn iddi ymuno â’r ASB, Katie oedd y Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus yn Ofcom, lle bu ganddi ran fawr wrth lunio gwaith Ofcom ar faterion fel gwella cwmpas ffonau symudol a band eang ar draws y DU, a gweithio gyda’r llywodraeth ar reoliadau newydd i ddiogelu pobl rhag cynnwys niweidiol ar-lein. Gwnaeth hi hefyd noddi strategaeth cynhwysiant ac amrywiaeth Ofcom. Cyn hynny, treuliodd ddau ddegawd yn adrannau Whitehall, gan ddarparu cyngor polisi i weinidogion ar ystod eang o faterion polisi cymdeithasol. Mae hi wedi gweithio fel rhan o’r Uwch-wasanaeth Sifil yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Swyddfa’r Cabinet a Swyddfa Gogledd Iwerddon.

Areithiau diweddar

Araith y Prif Weithredwr i Gynhadledd Bwyd Diogel Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) – Dydd Gwener, 22 Tachwedd 2024