Hysbysiad Preifatrwydd – Monitro’r ffordd y mae Awdurdodau Lleol yn Cynnal Rheolaethau Bwyd
Gwybodaeth am ein polisi preifatrwydd o ran Monitro’r ffordd y mae Awdurdodau Lleol yn Cynnal Rheolaethau Bwyd, pam mae angen data arnom, beth rydym yn ei wneud â'r data a'ch hawliau.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.
Pwrpas a sail gyfreithiol y prosesu
Mae'r wybodaeth bersonol sydd gennym yn cynnwys:
- enwau, teitlau swyddi a manylion cyswllt staff awdurdodau lleol
- nod adnabod sefydliadau bwyd (IDs).
Rydym yn cael yr wybodaeth hon gan awdurdodau lleol fel rhan o'u ffurflenni monitro cyfraith bwyd blynyddol a thrwy arolygon interim neu adborth.
Mae ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol wedi’i chwmpasu o dan Erthygl 6(1)(e) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y Deyrnas Unedig, gan ei bod yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer ein hawdurdod swyddogol. Yn benodol, mae’n helpu i gyflawni ein rhwymedigaethau i gadw bwyd yn ddiogel er budd iechyd y cyhoedd fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Safonau Bwyd 1999, Deddf Bwyd (yr Alban) 2015 a Rheoliad (EC) Rhif 2017/625 ar reolaethau swyddogol (rheoliad ar gyfer Gogledd Iwerddon a rheoliad a ddargedwir ar gyfer Cymru a Lloegr).
Dim ond at y dibenion hyn y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio oni bai bod yr ASB yn barnu bod angen prosesu pellach, a bod sail gyfreithlon i wneud hynny, er mwyn cyflawni ein swyddogaethau o dan y ddeddfwriaeth.
Sut a ble rydym yn storio eich data a gyda phwy y gallwn ei rannu
Mae’n bosib y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â chydweithwyr mewn adrannau eraill o’r Llywodraeth neu’r Undeb Ewropeaidd (UE) os bydd angen, wrth ymchwilio i ddigwyddiad bwyd.
Gallwn hefyd ddefnyddio’r wybodaeth ar reolaethau swyddogol a gesglir at ddibenion adrodd mewnol ac allanol, ond bydd gwybodaeth bersonol a brosesir at y dibenion hyn yn cael ei dileu, ei chyflwyno ar ffurf gyfanredol neu ei gwneud yn ddienw cyn ei chyhoeddi.
Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni ein swyddogaethau y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n hamserlenni cadw corfforaethol. Er enghraifft, bydd adborth a data o arolygon cynnydd yn cael eu cadw am 10 mlynedd, tra bydd gwybodaeth o’r ffurflenni blynyddol yn cael ei chadw am 12 mlynedd.
I gael rhagor o wybodaeth am Sut a ble rydym yn storio eich data a gyda phwy y gallwn ei rannu, gweler ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
I gael gwybodaeth am sut y gallem ddefnyddio a rhannu data fel rhan o’n swyddogaeth monitro risg, gweler yr adran Monitro a Gwerthuso Risgiau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Trosglwyddiadau rhyngwladol
I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)
I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Eich hawliau
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i adran Eich hawliau ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.
Hanes diwygio
Published: 22 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Awst 2022